Swyddi Cymraeg — Cynllunio iaith
22 swydd yn cyfateb
Cynghorydd y Gymraeg
Mae Ofcom Cymru yn edrych am Gynghorydd y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae tîm Ofcom yng Nghymru yn chwilio am Gynghorydd y Gymraeg i arwain ei gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg ac i sicrhau cydymffurfiaeth â’i Safonau Cymraeg. Yn unigolyn medrus sy’n siarad Cymraeg, bydd yr unigolyn hwn yn hyrwyddo gwaith Ofcom drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws y sefydliad.
Bydd eich rôl yn cynnwys sicrhau bod Ofcom yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg drwy godi ymwybyddiaeth ohonynt i dimau ar draws y sefydliad; goruchwylio’r gwaith o gyfieithu dogfennau Ofcom yn Gymraeg yn unol â’i phrosesau cymeradwy a’i hamserlenni cyhoeddi tynn; a chynnal a datblygu’r berthynas â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.
Mae’r iaith Gymraeg yn bwysig i Ofcom, ac mae’r tîm yn falch o’i hymroddiad a’r ffordd y maent yn integreiddio’r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
Mae Ofcom yn trin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yn gyfartal yn ei gwaith yng Nghymru ac yn credu bod ei dull gweithredu yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at allu siaradwyr Cymraeg i ymgysylltu â materion cyfathrebu yn eu dewis iaith.
Mae hon yn rôl lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol. Mae Ofcom yn croesawu ceisiadau yn yr iaith Gymraeg a chynhelir y cyfweliad ar gyfer y swydd hon yn Gymraeg.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Ofcom yn gyflogwr blaengar a chynhwysol ac mae’n cydnabod gwerth amrywiaeth i “sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb”. Mae’r sefydliad yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â’r cymwysterau priodol beth bynnag fo’u cefndir, yn enwedig ymgeiswyr sy’n fenywod, yn anabl ac yn Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig gan nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n deg yn ei gweithlu ar hyn o bryd. Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae Ofcom yn gwarantu y bydd yn cyfweld unrhyw ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r meini prawf dethol hanfodol. Mae gan Ofcom fodel gweithio ystwyth, sy’n ei galluogi i gael dull niwtral o ran lleoliad wrth lenwi swyddi gwag. Mae hefyd yn cefnogi dulliau gweithio'n hyblyg, lle bo’n bosibl. Mae cydweithwyr yn rhydd i symud o gwmpas ei swyddfeydd, gan alluogi iddynt weithio ochr yn ochr â thimau a grwpiau eraill, a chydweithio â nhw. Mae'r mentrau hyn yn helpu cydweithwyr Ofcom i weithio’n hyblyg mewn ffordd sy’n eu cefnogi.
I drafod yn anffurfiol, cysylltwch â thîm Goodson Thomas ar 029 2167 4422 / [email protected].
Bydd pob cais yn cael ei gydnabod.
Cyflog
💰 £55,000
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd y Gymraeg
Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Gydlynydd y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Eich gwaith...
Byddwch yn gyfrifol am gydlynu a gweithredu Polisi Iaith Gymraeg yr Amgueddfa yn unol â’r gofynion a osodir arnom gan Safonau’r Gymraeg, gan fynd tu hwnt i gydymffurfiaeth ble bynnag y bo modd. Byddwch hefyd yn rheoli gwaith cyfieithu (Cymraeg–Saesneg, a Saesneg–Cymraeg) yr Amgueddfa, yn cyfieithu ac yn cynghori ar gyfieithu i ieithoedd eraill yn ôl y galw.
Mae croeso i chi gyflwyno'ch cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 17 Mawrth erbyn 5pm
Dyddiad Cyfweliad: 29 Mawrth
Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal.
Croesewir ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £29,116 - £35,627
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hybrid, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi'r Gymraeg
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn edrych am Swyddog Cefnogi'r Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r sefydliad i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a bydd yn cefnogi Uned yr Iaith Gymraeg i gryfhau’r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd.
Disgrifiad:
Bydd Swyddog Cefnogi’r Gymraeg yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r sefydliad i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a bydd yn cefnogi Uned yr Iaith Gymraeg i gryfhau’r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd.
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo Uned y Gymraeg i sicrhau tegwch o ran y defnydd o’r Gymraeg a’r Saesneg led led y Bwrdd Iechyd, gan hyrwyddo gofal iechyd dwyieithog, cefnogi’r tîm Cyfathrebu gyda gwefan y Bwrdd Iechyd a’r Fewnrwyd Staff.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio ar eu liwt eu hunain o fewn y swydd, a chymryd cyfrifoldeb dros ddelio ac ymateb i gwynion a dderbynnir gan y tîm, cydlynu a gweinyddu ceisiadau am gyfieithiadau ac uwchgyfeirio unrhyw broblemau i Pennaeth Uned y Gymraeg yn ôl y gofyn.
Bydd deiliad y swydd yn aelod allweddol o Uned y Gymraeg a bydd disgwyl iddynt weithio’n hyblyg, gan gyflenwi a chefnogi, yn ôl y galw, yn y meysydd gwaith y byddai Swyddog y Gymraeg fel arfer yn gyfrifol amdanynt.
Cyflog
💰 £23949 - £26282
Lleoliad
📍 Cwmbrân
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gosod Safonau a Chydymffurfiaeth
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Gosod Safonau a Chydymffurfiaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gennym gyfle cyffroes i berson brwdfrydig sy’n dymuno gweithio gyda’r Comisiynydd i wella perfformiad cyrff wrth iddynt ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg. Bydd y swydd yn cynnwys cyfrifoldeb penodol am oruchwylio cydymffurfiaeth cyrff cyhoeddus adnabyddus fel Llywodraeth Cymru, S4C, BBC, ICO, Ofcom, Amgueddfa Cymru, Canolfan Celfyddydau Cymru a mwy.
Disgrifiad:
Dyletswyddau penodol
CYFLWYNO A GOSOD SAFONAU A CHYTUNO DYLETSWYDDAU IAITH
Bod yn gyfrifol am wneud gwaith ymchwil er mwyn cadw gorolwg dros y graddau y mae ac y dylai personau fod yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg ac er mwyn dysgu a meithrin dealltwriaeth am sectorau.
Bod yn gyfrifol am gynnal ymchwiliadau safonau er mwyn gwneud safonau’n benodol gymwys i bersonau. Cadw at brosesau’r Mesur a chanllawiau mewnol wrth weithredu holl gamau yn unol â rhaglen ac amserlen osodedig a chasglu tystiolaeth dibynadwy ar gyfer adroddiadau safonau. Bod yn gyfrifol am baratoi adroddiadau safonau ar grŵp penodol o bersonau / personau a phwnc penodedig i sylw’r Uwch Swyddog.
Bod yn gyfrifol am osod hysbysiadau cydymffurfio ar bersonau. Ymgynghori gyda portffolio penodol o bersonau ynghylch cynnwys hysbysiadau cydymffurfio cyn eu gosod. Poblogi cofrestr hysbysiadau cydymffurfio’r Comisiynydd yn brydlon a chywir. Bod yn gyfrifol am ystyried a phrosesu heriau gan sefydliadau ynghylch anghymesuredd neu afresymoldeb y dyletswyddau a osodwyd arnynt.
Lle nad yw safonau’n gymwys, bod yn gyfrifol am baratoi neu ddiwygio cynlluniau iaith Gymraeg o dan ofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
**CODAU YMARFER **
Bod yn gyfrifol am ymchwilio a drafftio codau ymarfer Comisiynydd y Gymraeg yn unol â rhaglen baratoi osodedig. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori’n eang ar eu cynnwys. Bod yn gyfrifol am ddarparu codau ymarfer i sefydliadau darostyngedig i safonau yn unol â rhaglen ddyroddi hysbysiadau cydymffurfio’r Comisiynydd lle bo codau ymarfer ar gael.
**CYDYMFFURFIO GYDA DYLETWYDDAU AC YMRWYMIADAU **
Gyda phortffolio penodol o sefydliadau, bod yn gyfrifol am weithredu rhaglen waith i reoleiddio cydymffurfiaeth â dyletswyddau iaith, gan gynnwys:
- dadansoddi gwybodaeth o amrediad o ffynonellau am gydymffurfiaeth sefydliadau â’u dyletswyddau iaith
- cadw cofnodion cyfredol a gwybodaeth am berfformiad sefydliad a gallu cynhyrchu gwybodaeth yn amserol ac i safon uchel
- ffurfio barn ar y graddau mae sefydliadau’n cydymffurfio â’u dyletswyddau iaith gan ymyrryd yn ôl yr angen, ac yn unol â chanllawiau a pholisïau’r Comisiynydd
- ymateb i ymholiadau a cheisiadau am gyngor gan sefydliadau a phersonau eraill
- monitro gweithrediad cynlluniau gweithredu a roddir mewn lle yn dilyn ymchwiliadau gorfodi
- arwain perthynas reoleiddio briodol gyda sefydliadau unigol
Ymgymryd â gwaith rheoleiddio llorweddol a all gynnwys:
- Casglu a dadansoddi tystiolaeth annibynnol gan ddefnyddwyr am eu profiadau iaith ac adnabod rhwystrau wrth iddynt ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus
- Cynnal arolygon siopwr cudd
- Cynnal astudiaethau thematig ar effeithiolrwydd trefniadau ac arferion sefydliadau mewn meysydd penodol
- Monitro safonau atodol a chasglu gwybodaeth yn codi o gofnodion a gedwir gan sefydliadau
- Cyfrannu at waith hybu a hwyluso gan gynnwys chwilio am enghreifftiau o arferion llwyddiannus
- Cyfrannu at y gwaith o addysgu sefydliadau am ofynion safonau drwy amryw gyfryngau e.e. cynorthwyo neu gynnal seminarau neu weithdai ar ganfyddiadau gwaith rheoleiddio; cyhoeddi adroddiadau ar ganfyddiadau arolygon ac astudiaethau’r Comisiynydd.
DYLETSWYDDAU CYFFREDINOL
- Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill yn ôl y galw.
Cyflog
💰 £32,460 - £39,690
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu a Hyrwyddo’r Gymraeg
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Datblygu a Hyrwyddo’r Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Bangor yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a rhagweithiol i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gryfhau a datblygu ei safle fel y sefydliad addysg uwch arweiniol ym meysydd cynllunio iaith, gweinyddiaeth ddwyieithog a darpariaeth academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am hyrwyddo’r Gymraeg a chyfleoedd i’w defnyddio ar draws y Brifysgol a chynorthwyo i sicrhau bod gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol a’i cholegau academaidd yn gweithredu Polisi iaith y Brifysgol a gwireddu amcanion Strategaeth y Gymraeg. Bydd hefyd yn gweithio’n agos gyda myfyrwyr i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd medrau dwyieithog ym maes cyflogaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar radd berthnasol ynghyd â dealltwriaeth dda o egwyddorion cynllunio iaith a’r modd y mae Safonau’r Gymraeg yn cael eu gweithredu o fewn sefydliadau. Bydd ganddo/i ddealltwriaeth gadarn hefyd o faterion yn ymwneud â’r Gymraeg mewn addysg uwch ac yng nghyd-destun cyflogadwyedd.
Mae’r swydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr (Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg y Brifysgol).
Trwy ein fframwaith Gweithio'n Ddeinamig, bydd opsiwn hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y DU) i gefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith, a fydd yn cael ei drafod ymhellach gydag ymgeiswyr mewn cyfweliad.
Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu hystyried i gyflawni’r rôl hon ar sail rhan-amser neu rannu swydd hyd at oriau llawn amser.
Disgwylir i’r sawl a benodir ddechrau ar y gwaith ym mis Mawrth neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hanfodol.
Mae hon yn swydd barhaol.
Gallwch wneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Dr Lowri Hughes, Pennaeth Polisi a Datblygu (01248 388697; [email protected]).
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun, 30 Ionawr 2023.
Sefydliad dwyieithog sy’n gweithredu Polisi Iaith cynhwysfawr ac sydd wedi ymrwymo i Gyfle Cyfartal.
Cyflog
💰 £35,333 - £42,155
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Iaith Gymraeg
Mae Prifysgol De Cymru yn edrych am Swyddog Iaith Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol De Cymru yn recriwtio ar hyn o bryd ar gyfer Swyddog Iaith Gymraeg i ymuno ag Uned y Gymraeg yn Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol ym mis Ionawr 2023. Fel un o'r darparwyr addysg uwch mwyaf yng Nghymru, mae'r Brifysgol yn lleoliad delfrydol i unigolion ddatblygu eu gyrfaoedd, meithrin eu talent a gwneud gwahaniaeth. Wedi'i lleoli ym Mhontypridd, ond gyda gweithio o bell yn bosibl hefyd, prif bwrpas y rôl yw monitro a sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â'i Hysbysiad Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda chydweithwyr yn ein cyfadrannau a'n hadrannau i roi arweiniad ar sut i weithredu Safonau’r Gymraeg a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau. Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, hunan-gymhellol, gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy'n rhoi sylw i fanylion. Mae'r gallu i ddatblygu perthynas waith rhagorol gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol a chyda'n rhanddeiliaid allanol hefyd yn hollbwysig. Mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Byddai dealltwriaeth dda o Safonau’r Gymraeg yn fuddiol, ond nid yw'n angenrheidiol gan y bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.
Am wybodaeth ynglŷn â Hysbysiad Cydymffurfio Safonau’r Gymraeg y Brifysgol a gwybodaeth ychwanegol ewch i: https://uso.southwales.ac.uk/swyddfa-ysgrifennydd-y-brifysgol/uned-gymraeg/
Mae hon yn rôl ran-amser (0.5CALI) ar sail cyfnod penodol tan 31/10/2023. Byddwn hefyd yn ystyried ceisiadau am secondiad. Mae'r Brifysgol yn gweithredu model gweithio hybrid ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar y campws am ran o'r wythnos.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Sara Maynard, Pennaeth y Gymraeg Dros Dro [email protected].
Os ydych chi'n ymgeisydd llwyddiannus a’r swydd hon fydd eich swydd gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol (neu fe’ch cyflogir gan PSS Ltd ar hyn o bryd), cewch eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy'n darparu gwasanaethau i'r Brifysgol a'r Colegau. Os ydych chi'n ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, byddwch chi'n parhau i gael eich cyflogi gan Brifysgol De Cymru.
Dyddiad cau'r cais 18/12/2022
Cyflog
💰 £18,737 - £21,707 pro rata
Lleoliad
📍 Pontypridd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog y Gymraeg
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn edrych am Swyddog y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn egnïol a brwdfrydig i ymuno gydag Uned y Gymraeg o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Bydd Swyddog y Gymraeg yn rhan o'r tîm sydd yn sicrhau ein bod ni fel Bwrdd Iechyd yn darparu'r gofal gorau i'r boblogaeth i ni'n gwasanaethu.
Bydd Swyddog y Gymraeg yn gyfrifol, ffel rhan o dîm ehangach Uned y Gymraeg i sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau, a chymorth i alluogi ein staff i gydymffurfio gyda safonau'r Gymraeg a thargedau gan Lywodraeth Cymru.
Disgrifiad:
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn sefydliad GIG sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy'n angerddol am ofalu. Mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu gweithle eithriadol lle gallwch deimlo yn ymddiriedol a gwerthfawr. Beth bynnag fo'ch arbenigedd neu'ch cam yn eich gyrfa, mae gennym gyfleoedd i bawb ddechrau, tyfu ac adeiladu eich gyrfa. Mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu gofal acíwt, sylfaenol a chymunedol integredig sy'n gwasanaethu poblogaeth o 650,000 ac yn cyflogi dros 16,000 o staff.
Rydym yn cynnig pecyn manteision gwych a chyfleoedd hyfforddi a datblygu helaeth gyda hyfforddiant gorfodol â thâl, rhaglenni mewnol rhagorol, cyfleoedd i gwblhau cymwysterau cydnabyddedig a llwybrau gyrfa broffesiynol gan gynnwys ystod o raglenni datblygu rheolwyr. Rydym yn cynnig gweithio hyblyg ac yn hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, yn darparu cymorth iechyd galwedigaethol a chynllun uchelgeisiol ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Lles i'ch cefnogi yn y gwaith.
Mae ein strategaeth Dyfodol Clinigol yn parhau i wella a hyrwyddo gofal yn nes at adref yn ogystal â gofal ysbyty o ansawdd uchel pan fo angen. Mae hyn yn cynnwys Ysbyty Athrofaol y Faenor, datblygiad mwyaf newydd i'r strategaeth Dyfodol Clinigol, sy'n darparu gofal arbenigol a critigol a agorwyd ym mis Tachwedd 2020. Ymunwch â ni ar ein taith i arloesi ffyrdd newydd o weithio a darparu gwasanaeth gofal iechyd o'r radd flaenaf sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Cyflog
💰 £27,055 - £32,934
Lleoliad
📍 Cwmbrân
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Datblygu’r Gymraeg
Mae Undeb Rygbi Cymru yn edrych am Reolwr Datblygu’r Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Grŵp URC am glywed gennych os oes gyda chi’r angerdd, yr egni a’r weledigaeth i helpu llunio ac arwain ar ddatblygu a gweithredu strategaeth iaith a diwylliant newydd.
Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr brwdfrydig ar draws y busnes i hyrwyddo gwerth a manteision cynyddu defnydd y Gymraeg a hyrwyddo diwylliant Cymreig i rygbi Cymru.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw 30 Medi 2022.
Bydd cyfweliadau yn dechrau yr wythnos o 17 Hydref 2022
Cyflog
💰 £30,000 – £35,000
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Polisi Caerdydd Ddwyieithog
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Polisi Caerdydd Ddwyieithog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae ein Tîm Caerdydd Ddwyieithog yn awyddus i gyflogi Swyddog Polisi rhan-amser yn Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd CAERDYDD CF10 4UW.
Mae Caerdydd Ddwyieithog yn arwain y gwaith o ddatblygu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog lle gall pawb yn y brifddinas fanteisio ar wasanaethau a chymorth yn Gymraeg neu’n Saesneg Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd wedi dyblu dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae Caerdydd yn ddinas gynyddol ddwyieithog. Fel awdurdod lleol, rydym yn gweithio gyda chwmnïau yn y sector preifat a’r trydydd sector fel rhan o’r strategaeth ‘Caerdydd Ddwyieithog’ ehangach i geisio hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg yng Nghaerdydd. Nod y dull newydd a blaengar hwn o weithio yw chwalu’r muriau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, hyrwyddo dwyieithrwydd fel rhywbeth hollol naturiol a sicrhau bod gweledigaeth y Cyngor o greu ‘Caerdydd ddwyieithog’ yn cael ei gwireddu.
Am Y Swydd
Dyma rôl rhan-amser ac fe’i gynigir am hyd at 18.5 awr yr wythnos.
Yn y rôl Swyddog Polisi hon byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth a byddwch yn dysgu sut i:
Gefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i gyflawni Cynllun Gweithredu Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog amlasiantaethol ledled y ddinas 2022-27.
Cynnig cyngor ar faterion sy'n ymwneud â Safonau'r Gymraeg statudol (Mesur y Gymraeg [Cymru] 2011), Polisïau'r Gymraeg ac agenda Caerdydd Ddwyieithog.
Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i weithredu Safonau'r Gymraeg ar draws y Cyngor a chodi ymwybyddiaeth o'r Safonau hyn er mwyn sicrhau bod yr holl staff a chyfarwyddiaethau yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau dan ddeddfwriaeth y Gymraeg.
Paratoi cyngor a chefnogaeth i'r holl staff, rheolwyr, aelodau etholedig a thrydydd partïon ar sut mae polisïau iaith y cyngor yn berthnasol i'w meysydd cyfrifoldeb. Rhoi cyngor a chymorth i unrhyw aelod arall o staff, y cyhoedd a sefydliadau allanol ar bob mater sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu a chydlynu polisïau a strategaethau i hwyluso a hyrwyddo’r Gymraeg/ Safonau’r Gymraeg er mwyn codi ymwybyddiaeth gorfforaethol o rwymedigaethau statudol y Cyngor a sicrhau bod staff yn cydymffurfio â’r safonau a bod gwasanaethau dwyieithog yn cael eu gwella.
Delio ag unrhyw faterion eraill a allai godi yn ymwneud â'r Gymraeg, gan gynnwys ymchwiliadau Comisiynydd y Gymraeg, yn ôl y gofyn.
Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog gyda gweinyddiaeth y Grŵp Caerdydd Ddwyieithog o Aelodau Trawsbleidiol ac unrhyw gyfarfodydd perthnasol eraill yn ôl yr angen.
Cynrychioli'r Cyngor mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol perthnasol (e.e. Fforwm Partneriaid Caerdydd Ddwyieithog, Fforwm Cymraeg mewn Addysg ac ati).
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo Pennaeth Caerdydd Ddwyieithog a Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog ac yn rhoi cymorth ac arweiniad i Reolwyr a Staff Cyngor Caerdydd i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd y rôl hon yn cyfrannu at bob agwedd ar ddyletswyddau statudol y Cyngor gan gynnwys cefnogi'r gwaith o weithredu Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog i sicrhau ein bod yn cyflawni ein gweledigaeth i greu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog.
Mae'r gallu i weithio dan bwysau a chwblhau tasgau o fewn yr amserlenni y cytunir arnynt yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, yn ogystal â'r gallu i weithio a chyfathrebu i lefel uchel yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Rydym yn symud i fodel gweithio hybrid a fydd yn cynnwys gweithio mewn swyddfa a gartref ar-lein a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu'r sgiliau i gefnogi hyn. Pan fydd angen gweithio gartref, byddwch yn cael yr offer angenrheidiol, ond bydd angen i chi drefnu eich cysylltiad eich hun â’r rhyngrwyd.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch ag Ifan Brychan, Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog yn:
Mae’r swydd yn rhan-amser i weithio hyd at 18.5 awr yr wythnos.
Mae’r cyflog a gyflwynir yn berthnasol i 37 awr yr wythnos serch hynny ac – gan ei fod yn swydd rhan-amser – bydd yn cael ei gynnig pro rata.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg hyd at Lefel 5 – Hyfedredd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer mawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o arwyddnodau – gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.
I gefnogi eich cais neu gyfweliad posibl yn y dyfodol efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gael gwybod ychydig mwy am rôl ehangach y Cyngor drwy ein dilyn ar Twitter, Facebook, Instagram, tanysgrifio i'n sianel YouTube, neu drwy ymweld â'n gwefan www.caerdydd.gov.uk
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Os oes angen help arnoch gyda'ch cais, cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau i Mewn i Waith www.imewniwaithcaerdydd.co.uk neu ar 029 20871071
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373 pro rata
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Strategaeth Cymraeg
Mae S4C yn edrych am Arweinydd Strategaeth Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn cyflwyno a gweithredu strategaeth uchelgeisiol i ddiffinio rôl S4C yn y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn cynghori ac yn cydweithio gyda'r adran Gynnwys a Chyhoeddi byddwch yn sicrhau bod S4C yn darparu cynnwys deniadol a phwrpasol i siaradwyr Cymraeg newydd ar amrywiol lwyfannau.
Mewn cydweithrediad gyda'r Cydlynydd Gwasanaethau Mynediad, byddwch yn sicrhau darpariaeth is-deitlau eang a phwrpasol ac unrhyw ddatblygiadau eraill addas i hwyluso'r ymwneud â'r cynnwys.
Byddwch yn gyswllt gweithgar gyda chymunedau sy'n dysgu Cymraeg ar draws Cymru er mwyn cyflwyno S4C fel adnodd a chartref i'r rhai sydd am ddysgu neu ddatblygu eu defnydd o'r iaith ac yn gweithio yn agos gyda'r adrannau cynnwys, cyhoeddi, cyfathrebu a phartneriaethau.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan Yr Egin, Caerfyrddin. Mae S4C yn gweithredu polisi Hybrid
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod Prawf: 6 mis
Oriau Gwaith: 35 ¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Iau 1 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Iaith Cynorthwyol
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Swyddog Iaith Cynorthwyol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Cynorthwyo’r Uwch Ymgynghorydd iaith a Chraffu, a’r Ymgynghorydd Iaith i:
- cyfrannu at ddatblygu diwylliant Gymraeg y Cyngor drwy ysbrydoli eraill a’u hannog i gydnabod a gwerthfawrogi’r fraint o gael gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
- datblygu a sicrhau trefniadau’r Cyngor i gwrdd â gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gan adrodd i Gomisiynydd y Gymraeg.
- cefnogi ymchwiliadau’r Pwyllgor Iaith.
- cefnogi datblygu sgiliau cynllunio ieithyddol ac ymwybyddiaeth iaith i staff a Chynghorwyr.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer.
Prif Ddyletswyddau
Safonau’r Gymraeg
• Cynorthwyo i sicrhau cymdymffurfiaeth gyda Safonau’r Gymraeg ar draws y Cyngor er mwyn cyd-fynd â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a darparu cyngor i eraill
• Cefnogi gwaith adrannau i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a’u cynghori ar gydymffurfiaeth a’r Safonau
• Cynorthwyo gydag ymchwilio ac ymateb i gwynion iaith
• Sicrhau trefniadau monitro cynhwysfawr, gan gydlynu data angenrheidiol ar gyfer adrodd ar ddangosyddion a llunio Adroddiad Blynyddol y Cyngor i Gomisiynydd y Gymraeg
• Annog y cyhoedd i ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â monitro’r defnydd a’r galw
• Datblygu dealltwriaeth y gweithlu o gynllunio ieithyddol ac ymwybyddiaeth iaith ar draws y Cyngor
• Cyfrannu at ddatblygu diwylliant Gymraeg y Cyngor drwy ysbrydoli eraill a’u hannog i gydnabod a gwerthfawrogi’r fraint o gael gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg
Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd
• Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu, adolygu, monitro a chyhoeddi Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd (strategaeth iaith y Cyngor)
• Cydweithio gyda phenaethiaid adrannau a gwasanaethau i ddatblygu cynlluniau, ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a threfniadau gwaith sydd yn hybu’r Gymraeg yn unol â’r gofyn statudol ar y Cyngor
Asesiadau effaith iaith
• Sicrhau mewnbwn priodol i warchod buddiannau’r iaith Gymraeg mewn asesiadau effaith cydraddoldeb o gynlluniau, polisiau a gweithgareddau’r Cyngor
• Cyflwyno sylwadau ar ddatganiadau ac asesiadau iaith a gyflwynir gyda cheisiadau cynllunio ar ran yr Uned Iaith a monitro unrhyw effaith
• Cynnig a darparu cyngor ieithyddol ar gyfer ymgeiswyr sy’n dymuno derbyn cyngor cyn cyflwyno ceisiadau cynllunio. Polisi iaith y Cyngor
• Cynorthwyo i adolygu a datblygu’r Polisi Iaith i sicrhau ei fod yn gyfredol ac addas
• Cyfathrebu, monitro a hyrwyddo’r Polisi Iaith gan sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r Polisi gan swyddogion Gwynedd
• Cynorthwyo i lunio canllawiau a pholisiau atodol eraill sy’n gysylltiedig gyda’r Polisi Iaith er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth adrannau a gwasanaethau gyda gofynion y Polisi Iaith a’r Safonau
Prosiectau yng Nghynllun y Cyngor
• Cynorthwyo’r Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu a’r Ymgynghorydd Iaith gyda phrosiectau blaenoriaeth sydd wedi eu cynnwys yng Nghynllun y Cyngor sy’n hyrwyddo’r Gymraeg a datblygu’r diwylliant yng Ngwynedd
Pwyllgor Iaith
• Cyfrannu tuag at sicrhau mewnbwn priodol i adolygiadau o bolisïau a strategaethau lleol a chenedlaethol, gan gyfrannu at ymatebion gan y Cyngor i’r adolygiadau hynny
• Cefnogi’r ymchwiliadau a gomisiynir gan y Pwyllgor Iaith, gan lunio rhaglen waith, casglu data, cynllunio a chynnal cyfweliadau, drafftio adroddiad a llunio argymhellion
• Ymchwilio i gwynion iaith a chanfod datrysiadau iddynt gan adrodd arnynt i’r Pwyllgor Iaith a Chomisiynydd y Gymraeg
• Cynorthwyo’r Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu i lunio rhaglen waith y Pwyllgor a llunio adroddiadau
Cyffredinol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
• Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Bydd disgwyl gweithio oriau hyblyg ac oriau anghymdeithasol yn achlysurol
Cyflog
💰 £22,571 - £24,920
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynghorydd Polisi - Y Gymraeg
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn edrych am Gynghorydd Polisi - Y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n angerddol ynglŷn â’r Gymraeg? Hoffech chi roi gwell gwybodaeth i bobl Cymru am y materion economaidd a chymdeithasol sy'n effeithio arnyn nhw? Hoffech chi wella llais y rhai sy’n siarad Cymraeg er mwyn llywio polisi'r Llywodraeth yn well? Os felly, mae'r rôl hon yn cynnig cyfle cyffrous i gefnogi swyddogaeth Gymraeg gryfach yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol; cydlynu gweithgareddau Cymraeg, a chynorthwyo cymuned o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.
Swydd ddisgrifiad
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn gorff annibynnol hyd braich oddi wrth y Llywodraeth, a’i amcan yw hybu a diogelu'r gwaith o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau er lles y cyhoedd. Mae'r Awdurdod yn goruchwylio gwaith y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS), a'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (SRY). Mae'r Awdurdod yn adrodd yn uniongyrchol i Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban, Senedd Cymru, a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Mae'r rôl hon o fewn yr Ysgrifenyddiaeth Polisi Ganolog, sydd wrth wraidd system ystadegol y Deyrnas Unedig ac sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Ystadegydd Gwladol. Rydym yn ymgymryd ag ystod eang o waith gan gynnwys cefnogaeth ar y lefel uchaf i Fwrdd yr Awdurdod, Cadeirydd yr Awdurdod a'r Ystadegydd Gwladol; a goruchwylio’r adrannau materion cyfreithiol a rhyngwladol, datblygu rhyngwladol, a’r adrannau polisi a seneddol. Mae'r amgylchedd yn gyflym ac yn heriol; serch hynny, yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig amgylchedd tîm croesawgar a chefnogol lle bydd croeso bob amser i'ch syniadau am sut y gallem wneud pethau'n well, a lle mae digon o gyfleoedd ichi ddysgu a datblygu eich sgiliau chi’ch hun. Mae gennyn ni fodel gweithio Hybrid ar waith. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran ble a phryd rydym yn gweithio. Bydd y rôl hon wedi'i lleoli yn ein prif swyddfa yng Nghasnewydd.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldebau Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am y canlynol:
• Cefnogi adolygiad o Gynllun Iaith Gymraeg yr SYG, a helpu i'w roi ar waith, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a chynwysoldeb.
• Monitro gallu staff yr Awdurdod, yr SYG a’r SRY yn y Gymraeg.
• Cynorthwyo rhwydwaith ffurfiol a chymuned ehangach o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn yr SYG, gan gynnal digwyddiadau hyrwyddo cysylltiedig.
• Helpu i redeg rhwydwaith traws-sefydliad o dimau’r SYG sy'n ymgymryd â gweithgareddau Cymraeg, gan gynnwys arbenigwyr allanol.
• Monitro cyfieithiadau Cymraeg, prawf-ddarllen gwaith allanol i sicrhau safonau uchel.
Manyleb Person
1. Yn meddu ar brofiad o ddatblygu, gweithredu neu werthuso polisi.
2. Yn gallu ymgysylltu â nifer fawr o randdeiliaid ar draws y sefydliad a chynnal rhwydwaith o gydberthnasau gwaith.
3. Yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol gyda'r gallu i fonitro ac adrodd ar gynnydd, a sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cwblhau'n brydlon ac i safon uchel.
4. Yn meddu ar y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac yn effeithlon.
5. Yn gallu darllen ac ysgrifennu Cymraeg i safon dda (er enghraifft, Lefel Uwch y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, lefel B2 y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd, neu lefel 3 Cymdeithas y Profwyr Iaith yn Ewrop) ac yn gallu sicrhau ansawdd cyfieithiadau allanol a darparu cyfieithiadau byr fel rhan o'r cyfrifoldebau swydd uchod.
Ymddygiadau
Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:
Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd
Cydweithio
Cyfathrebu a Dylanwadu
Sgiliau technegol
Byddwn yn eich asesu yn erbyn y sgiliau technegol hyn yn ystod y broses ddethol.
Cyflog
💰 £23,880
Lleoliad
📍 Casnewydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Gynghorydd Polisi - Y Gymraeg
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn edrych am Uwch Gynghorydd Polisi - Y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n angerddol ynglŷn â’r Gymraeg? Hoffech chi roi gwell gwybodaeth i bobl Cymru am y materion economaidd a chymdeithasol sy'n effeithio arnyn nhw? Hoffech chi wella llais y rhai sy’n siarad Cymraeg er mwyn llywio polisi'r Llywodraeth yn well? Os felly, mae'r rôl hon yn cynnig cyfle newydd a chyffrous i sefydlu swyddogaeth Gymraeg gryfach yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol; cydlynu a hybu gweithgareddau Cymraeg, ac adeiladu cymuned o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.
Beth fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ei wneud?
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn gorff annibynnol hyd braich oddi wrth y Llywodraeth, a’i amcan yw hybu a diogelu'r gwaith o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau er lles y cyhoedd. Mae'r Awdurdod yn goruchwylio gwaith y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS), a'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (SRY). Mae'r Awdurdod yn adrodd yn uniongyrchol i Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban, Senedd Cymru, a Chynulliad Gogledd Iwerddon.
Mae'r rôl hon o fewn yr Ysgrifenyddiaeth Polisi Ganolog, sydd wrth wraidd system ystadegol y Deyrnas Unedig ac sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Ystadegydd Gwladol. Rydym yn ymgymryd ag ystod eang o waith gan gynnwys cefnogaeth ar y lefel uchaf i Fwrdd yr Awdurdod, Cadeirydd yr Awdurdod a'r Ystadegydd Gwladol; a goruchwylio’r adrannau materion cyfreithiol a rhyngwladol, datblygu rhyngwladol, a’r adrannau polisi a seneddol. Mae'r amgylchedd yn gyflym ac yn heriol; serch hynny, yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig amgylchedd tîm croesawgar a chefnogol lle bydd croeso bob amser i'ch syniadau am sut y gallem wneud pethau'n well, a lle mae digon o gyfleoedd ichi ddysgu a datblygu eich sgiliau chi’ch hun.
Mae gennyn ni fodel gweithio Hybrid ar waith. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran ble a phryd rydym yn gweithio. Bydd y rôl hon wedi'i lleoli yn ein prif swyddfa yng Nghasnewydd.
Cyfrifoldebau
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am y canlynol:
· Sbarduno trawsnewid yn y Gymraeg ar draws y swyddfa, gan ddylanwadu'n effeithiol ar y rhanddeiliaid a defnyddio ystod eang o ddulliau.
· Adolygu Cynllun Iaith Gymraeg presennol yr SYG gyda'r nod o foderneiddio a darparu ffocws clir o fewn yr SYG, gan gydlynu'r broses weithredu ar draws y busnes.
· Cynnal archwiliad o allu staff yr Awdurdod, yr SYG a’r SRY yn y Gymraeg i ddeall y sefyllfa bresennol a datblygu dull o ddiwallu anghenion y dyfodol.
· Datblygu ac arwain rhwydwaith ffurfiol a chymuned ehangach o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn yr SYG, gan gynnal digwyddiadau hyrwyddo cysylltiedig, gan gefnogi twf y Gymraeg.
· Sefydlu a rhedeg rhwydwaith traws-sefydliad o dimau’r SYG sy'n ymgymryd â gweithgareddau Cymraeg, gan gynnwys arbenigwyr allanol gyda'r nod o rannu a hybu’r arferion gorau yn yr SYG.
· Darparu a rheoli pob agwedd ar gyfieithiadau Cymraeg, gan gynnwys caffael gwasanaeth yn effeithiol er mwyn sicrhau bod y gwaith yn uchel ei safon ac yn brydlon.
· Sefydlu a rheoli tîm bach i gyflawni'r uchod.
Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â gweddill yr is-adran, gan ddefnyddio'r arbenigedd sydd ar gael mewn strategaeth, llywodraethu, y gyfraith a busnes y Senedd i ategu’ch arbenigedd chi’ch hun.
Manyleb Person
1. Yn meddu ar hanes llwyddiannus o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisi; a dealltwriaeth gadarn o'r prosesau sy'n arwain at gyflawni canlyniadau llwyddiannus yn y naill gyd-destun neu'r llall.
2. Yn gallu ymgysylltu'n llwyddiannus â nifer fawr o randdeiliaid, gan gynnwys cydweithwyr uwch, a meithrin cydberthnasau gwaith yn effeithiol ar draws y sefydliad.
3. Yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol gyda'r gallu i gydlynu ffrydiau gwaith, monitro ac adrodd ar gynnydd, a datrys materion i sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cwblhau'n brydlon ac i safon uchel.
4. Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ac yn effeithlon er mwyn sicrhau'r ddealltwriaeth a'r effaith fwyaf posibl.
5. Yn gallu darllen ac ysgrifennu Cymraeg i safon dda (er enghraifft, Lefel Uwch y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, lefel B2 y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd, neu lefel 3 Cymdeithas y Profwyr Iaith yn Ewrop) ac yn gallu sicrhau ansawdd cyfieithiadau allanol a darparu cyfieithiadau byr fel rhan o'r cyfrifoldebau swydd uchod.
Cyflog
💰 £36,838
Lleoliad
📍 Hyblyg, O gartref, Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Polisi Caerdydd Ddwyieithog
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Polisi Caerdydd Ddwyieithog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae ein Tîm Caerdydd Ddwyieithog yn awyddus i gyflogi Swyddog Polisi yn Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd Caerdydd CF10 4UW.
Mae Caerdydd Ddwyieithog yn arwain y gwaith o ddatblygu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog lle gall pawb yn y brifddinas fanteisio ar wasanaethau a chymorth yn Gymraeg neu’n Saesneg Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd wedi dyblu dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae Caerdydd yn ddinas gynyddol ddwyieithog. Fel awdurdod lleol, rydym yn gweithio gyda chwmnïau yn y sector preifat a’r trydydd sector fel rhan o’r strategaeth ‘Caerdydd Ddwyieithog’ ehangach i geisio hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg yng Nghaerdydd.Nod y dull newydd a blaengar hwn o weithio yw chwalu’r muriau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, hyrwyddo dwyieithrwydd fel rhywbeth hollol naturiol a sicrhau bod gweledigaeth y Cyngor o greu ‘Caerdydd ddwyieithog’ yn cael ei gwireddu.
Am Y Swydd
Yn y rôl Swyddog Polisi hon byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth a byddwch yn dysgu sut i:
- Gefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i gyflawni Cynllun Gweithredu Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog amlasiantaethol ledled y ddinas 2022-27.
- Cynnig cyngor ar faterion sy'n ymwneud â Safonau'r Gymraeg statudol (Mesur y Gymraeg [Cymru] 2011), Polisïau'r Gymraeg ac agenda Caerdydd Ddwyieithog.
- Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i weithredu Safonau'r Gymraeg ar draws y Cyngor a chodi ymwybyddiaeth o'r Safonau hyn er mwyn sicrhau bod yr holl staff a chyfarwyddiaethau yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau dan ddeddfwriaeth y Gymraeg.
- Paratoi cyngor a chefnogaeth i'r holl staff, rheolwyr, aelodau etholedig a thrydydd partïon ar sut mae polisïau iaith y cyngor yn berthnasol i'w meysydd cyfrifoldeb. Rhoi cyngor a chymorth i unrhyw aelod arall o staff, y cyhoedd a sefydliadau allanol ar bob mater sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu a chydlynu polisïau a strategaethau i hwyluso a hyrwyddo’r Gymraeg/ Safonau’r Gymraeg er mwyn codi ymwybyddiaeth gorfforaethol o rwymedigaethau statudol y Cyngor a sicrhau bod staff yn cydymffurfio â’r safonau a bod gwasanaethau dwyieithog yn cael eu gwella.
- Delio ag unrhyw faterion eraill a allai godi yn ymwneud â'r Gymraeg, gan gynnwys ymchwiliadau Comisiynydd y Gymraeg, yn ôl y gofyn.
- Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog gyda gweinyddiaeth y Grŵp Caerdydd Ddwyieithog o Aelodau Trawsbleidiol ac unrhyw gyfarfodydd perthnasol eraill yn ôl yr angen.
- Cynrychioli'r Cyngor mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol perthnasol (e.e. Fforwm Partneriaid Caerdydd Ddwyieithog, Fforwm Cymraeg mewn Addysg ac ati)
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Datblygu Gweithlu Dwyieithog
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn edrych am Reolwr Datblygu Gweithlu Dwyieithog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gennym gyfle cyffrous i unigolyn brwdfrydig arwain a chyflwyno Safonau’r iaith Gymraeg o fewn y Coleg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hybu a chefnogi sgiliau Cymraeg staff er mwyn gwreiddio dwyieithrwydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cyflwyno cyfleoedd dwyieithog i raglenni a Dysgwyr Seiliedig ar Waith.
Bydd gennych Radd ac, yn ddelfrydol, Cymhwyster Addysgu cydnabyddedig. Bydd gennych hefyd brofiad o ddatblygu/hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg/dwyieithog ar draws corff sector cyhoeddus. Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol, brwdfrydedd dros agenda’r Gymraeg a byddwch yn gyfarwydd â materion sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (ar yr amod eich bod wedi cwblhau 6 mis o wasanaeth).
Cyflog
💰 £45,441
Lleoliad
📍 Abertawe
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Polisi Caerdydd Ddwyieithog (Cymraeg Hanfodol)
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Polisi Caerdydd Ddwyieithog (Cymraeg Hanfodol)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae ein Tîm Caerdydd Ddwyieithog yn awyddus i gyflogi Swyddog Polisiyn Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd Caerdydd CF10 4UW.
Mae Caerdydd Ddwyieithog yn arwain y gwaith o ddatblygu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog lle gall pawb yn y brifddinas fanteisio ar wasanaethau a chymorth yn Gymraeg neu’n Saesneg Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd wedi dyblu dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae Caerdydd yn ddinas gynyddol ddwyieithog. Fel awdurdod lleol, rydym yn gweithio gyda chwmnïau yn y sector preifat a’r trydydd sector fel rhan o’r strategaeth ‘Caerdydd Ddwyieithog’ ehangach i geisio hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg yng Nghaerdydd.Nod y dull newydd a blaengar hwn o weithio yw chwalu’r muriau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, hyrwyddo dwyieithrwydd fel rhywbeth hollol naturiol a sicrhau bod gweledigaeth y Cyngor o greu ‘Caerdydd ddwyieithog’ yn cael ei gwireddu.
Am Y Swydd
Yn y rôl Swyddog Polisi hon byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth a byddwch yn dysgu sut i:
- Gefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i gyflawni Cynllun Gweithredu Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog amlasiantaethol ledled y ddinas 2022-27.
- Cynnig cyngor ar faterion sy'n ymwneud â Safonau'r Gymraeg statudol (Mesur y Gymraeg [Cymru] 2011), Polisïau'r Gymraeg ac agenda Caerdydd Ddwyieithog.
- Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i weithredu Safonau'r Gymraeg ar draws y Cyngor a chodi ymwybyddiaeth o'r Safonau hyn er mwyn sicrhau bod yr holl staff a chyfarwyddiaethau yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau dan ddeddfwriaeth y Gymraeg.
- Paratoi cyngor a chefnogaeth i'r holl staff, rheolwyr, aelodau etholedig a thrydydd partïon ar sut mae polisïau iaith y cyngor yn berthnasol i'w meysydd cyfrifoldeb. Rhoi cyngor a chymorth i unrhyw aelod arall o staff, y cyhoedd a sefydliadau allanol ar bob mater sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu a chydlynu polisïau a strategaethau i hwyluso a hyrwyddo’r Gymraeg/ Safonau’r Gymraeg er mwyn codi ymwybyddiaeth gorfforaethol o rwymedigaethau statudol y Cyngor a sicrhau bod staff yn cydymffurfio â’r safonau a bod gwasanaethau dwyieithog yn cael eu gwella.
- Delio ag unrhyw faterion eraill a allai godi yn ymwneud â'r Gymraeg, gan gynnwys ymchwiliadau Comisiynydd y Gymraeg, yn ôl y gofyn.
- Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog gyda gweinyddiaeth y Grŵp Caerdydd Ddwyieithog o Aelodau Trawsbleidiol ac unrhyw gyfarfodydd perthnasol eraill yn ôl yr angen.
- Cynrychioli'r Cyngor mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol perthnasol (e.e. Fforwm Partneriaid Caerdydd Ddwyieithog, Fforwm Cymraeg mewn Addysg ac ati)
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo Pennaeth Caerdydd Ddwyieithog a Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog ac yn rhoi cymorth ac arweiniad i Reolwyr a Staff Cyngor Caerdydd i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd y rôl hon yn cyfrannu at bob agwedd ar ddyletswyddau statudol y Cyngor gan gynnwys cefnogi'r gwaith o weithredu Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog i sicrhau ein bod yn cyflawni ein gweledigaeth i greu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog.
Mae'r gallu i weithio dan bwysau a chwblhau tasgau o fewn yr amserlenni y cytunir arnynt yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, yn ogystal â'r gallu i weithio a chyfathrebu i lefel uchel yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Rydym yn symud i fodel gweithio hybrid a fydd yn cynnwys gweithio mewn swyddfa a gartref ar-lein a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu'r sgiliau i gefnogi hyn. Pan fydd angen gweithio gartref, byddwch yn cael yr offer angenrheidiol, ond bydd angen i chi drefnu eich cysylltiad eich hun â’r rhyngrwyd.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Comisiynydd y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn edrych am Gomisiynydd y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n meddu ar y sgiliau a’r profiad perthnasol i fod yn Gomisiynydd y Gymraeg. Mae swyddogaethau’r Comisiynydd yn cynnwysmonitro cydymffurfiaeth â safonau’r Gymraeg, cynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg, ac ymchwilio i honiadau o ymyrraeth â rhyddid unigolion sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd yng Nghymru.
Mae’r penodiad hwn yn un llawn amser ac mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 17 Mehefin 2022.
Cyflog
💰 £95,000
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn edrych am Swyddog Datblygu Gwendraeth Uchaf
Ar gau. Mae’r swydd hon ar gau. Nid oes dyddiad cau wedi ei gofnodi.
Yn dilyn dathliadau penblwydd Menter Cwm Gwendraeth Elli yn 30 oed rydym am ehangu’r tîm wrth edrych ar gynlluniau iaith y dyfodol. Mae’r Fenter yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac egniol er mwyn d
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn edrych am Swyddog Datblygu Gwendraeth Uchaf
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn dilyn dathliadau penblwydd Menter Cwm Gwendraeth Elli yn 30 oed rydym am ehangu’r tîm wrth edrych ar gynlluniau iaith y dyfodol. Mae’r Fenter yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac egniol er mwyn datblygu’r iaith ar lefel gymunedol yn ardal Gwendraeth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn edrych am Swyddog Datblygu Tref Llanelli
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn dilyn dathliadau penblwydd Menter Cwm Gwendraeth Elli yn 30 oed rydym am ehangu’r tîm wrth edrych ar gynlluniau iaith y dyfodol. Mae’r Fenter yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac egniol er mwyn datblygu’r iaith ar lefel gymunedol yn ardal Llanelli a’
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Prifysgol De Cymru yn edrych am Swyddog Iaith Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol De Cymru yn recriwtio ar hyn o bryd ar gyfer Swyddog Iaith Gymraeg i ymuno ag Uned y Gymraeg yn Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol. Fel un o'r darparwyr addysg uwch mwyaf yng Nghymru...
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter Iaith Bro Morgannwg yn edrych am Swyddog Datblygu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Hoffech chi wneud gwahaniaeth i’r Gymraeg ym Mro Morgannwg? Mae Menter Bro Morgannwg yn chwilio am Swyddog Datblygu i barhau gyda’r gwaith gwych o ddatblygu’r Gymraeg yn yr ardal...
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.