Swyddi Cymraeg — Cynnwys digidol
11 swydd yn cyfateb
Gweinyddwr Gwefannau
Mae Delwedd Ltd yn edrych am Weinyddwr Gwefannau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Delwedd yn gwmni dylunio gwefannau wedi ei leoli yng Nghaernarfon. Sefydlwyd y cwmni yn 1998 ac erbyn hyn mae gennym bortffolio o dros 400 gwefan byw ar draws sawl sector.
Rydym yn chwilio am Weinyddwr Gwefannau i ymuno a’n tîm.
Prif bwrpas y rôl yma fydd / Tasgau allweddol:
• Diweddariad dyddiol i wefannau cwsmeriaid – e.e. diweddaru cynnwys gwefan
• Gwasanaeth cwsmer – Ffôn ac e-bost
• Dyletswyddau Gweinyddol Cyffredinol
Gall y rôl yma hefyd gynnwys:
• Ffotograffiaeth ar gyfer gwefannau - gan gynnwys ymweld â chwsmeriaid
Yn ofynnol:
• Profiad & Sgiliau TG
• Yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg
• Yn gyfforddus yn gweithio i gyfyngiadau amser
Yn ddymunol:
• Profiad Gwasanaeth Cwsmer
• Profiad o weithio mewn swyddfa brysur
• Profiad / Diddordeb mewn Ffotograffiaeth
• Trwydded yrru llawn
Nodwch os gwelwch yn dda: Darperir hyfforddiant
Oriau: Llawn Amser / Rhan Amser (oriau yn drafodadwy)
Cyflog: £20,000 - £22,000. Yn ddibynnol ar Sgiliau a Phrofiad.
Contract: 1 blwyddyn (cyfnod mamolaeth)
**Lleoliad: **Mae ein swyddfa yn y Galeri, Caernarfon, Gwynedd.
Dyddiad Cau: 31/03/23
Cyflog
💰 £20,000 - £22,000
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Adnoddau Dysgu Digidol
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Swyddog Adnoddau Dysgu Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas cyffredinol y rôl:
Cynllunio, arwain a chyflawni gwaith ar gyfer cyhoeddi adnoddau dysgu digdol ar Hwb a llwyfannau eraill. Gweithredu fel prif bwynt cyswllt rhwng y Llyfrgell a Hwb ar faterion ymarferol. Cydweithio gyda swyddogion dysgu cyrff treftadaeth cenedlaethol eraill ar adnoddau dysgu digidol, yn benodol Amgueddfa Cymru, CADW a’r Comisiwn Brenhinol. Cyfrannu at waith arall y Gwasanaeth Addysg yn ddigidol, yn y Llyfrgell ac yn allanol.
ADRAN 2: YR ADRAN
Y Gyfarwyddiaeth Casgliadau ac Ymgysylltu sy’n bennaf gyfrifol am gasglu, diogelu a rhoi mynediad i’r casgliadau sydd yng ngofal y Llyfrgell yn unol â’i swyddogaethau craidd. Yn y cyd-destun hwn mae mynediad yn golygu amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys gwasanaethau a gweithgareddau ar y safle, ar-lein ac mewn cymunedau ledled Cymru. Mae gwaith y Gyfarwyddiaeth yn rhan greiddiol o wireddu gweledigaeth y Llyfrgell i fod yn sefydliad sy’n:
“...gwneud gwahaniaeth er gwell i bawb yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol ac i fod yn lyfrgell genedlaethol, agored, blaengar ac arloesol.”
Trwy ei gwaith mae angen i’r Gyfarwyddiaeth alluogi’r Llyfrgell i gyflawni ei hamcanion strategol a llesiant sef:
1. Meithrin a gofalu am gof y genedl
2. Gosod sylfaen economi gwybodaeth
3. Bod yn ganolog i fywyd y genedl
4. Grymuso Ymchwil a Dysg
Mae casgliadau’r Llyfrgell yn cynnwys llyfrau, papurau newydd, mapiau, archifau a llawysgrifau, ynghyd â lluniau, ffotograffau, deunydd clywedol, gwefannau a chynnwys digidol o bob math. Ynghyd â’r casgliadau, mae sgiliau ac arbenigedd staff y Gyfarwyddiaeth hon yn gwbl angenrheidiol er mwyn sicrhau fod y Llyfrgell yn gallu datgloi potensial y casgliadau hyn i gyfoethogi a gwella bywydau pobl Cymru a thu hwnt.
Cyflog
💰 £25,895 - £29,890
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Golygydd Cynnwys Digidol
Mae S4C yn edrych am Olygydd Cynnwys Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Olygydd Cynnwys Digidol i ymuno a’r Adran Cyhoeddi. Gyda phlatfformau digidol yn rhan ganolog o fywyd nifer fawr iawn o bobl, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth ddigidol S4C.
Mae’r ffordd yr ydym yn ymwneud â chynnwys yn newid ac mae S4C wrthi’n ymateb i’r newid hwnnw gyda ffocws ar ddatblygu cynnwys digidol, gwreiddiol yn ogystal â chynnwys sydd yn cyd-fynd â rhaglenni a chyfresi S4C.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi wrth lunio a gweithredu strategaeth S4C ar blatfformau digidol. Byddwch yn gyfrifol am ddadansoddi, cwestiynu ac addasu strategaethau cynnwys digidol, a llif gwaith digidol (organig a phartneriaethau), yn fewnol yn S4C ac yn allanol ar draws yr holl gwmnïau cynhyrchu annibynnol yr ydym yn comisiynu cynnwys ganddynt.
Byddwch yn arwain tîm digidol ac yn rhoi trefn ar amserlen waith ac allbwn creadigol y tîm. Byddwch hefyd yn cadw golwg ar draws holl gyfrifon digidol cyfresi S4C, yn cynghori ac yn rhoi arweiniad i’r sector er mwyn sicrhau safon ac arloesedd yn y maes.
Gan weithio’n agos gyda’r tîm digidol, yn ogystal ag aelodau allweddol eraill o fewn S4C (y Prif Swyddog Cynnwys, y timau comisiynu, y wasg, newyddion a marchnata) a’r cwmnïau cynhyrchu, byddwch yn arwain, datblygu a sefydlu llais S4C ar y platfformau digidol - yn perchnogi’r cyfrifon trwy fod yn chwareus, creu sŵn, a neidio ar “trends” ehangach (o fewn Cymru, Prydain ac yn fyd-eang).
Yn ogystal â gweithio ar leoliad, bydd elfen o olygu cynnwys, dewis clipiau o raglenni S4C, rhedeg calendr cyfryngau cymdeithasol S4C, goruchwylio a hwyluso ffrydio cynnwys byw i Facebook Live a YouTube yn ôl yr angen, a gofalu am ein cyfrifon o ddydd i ddydd ar draws bob platfform.
Bydd eich cyfraniad yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-blatfform.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg i safon uchel gyda staff ag eraill ar bob lefel, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol i’r rôl yma.
Manylion eraill
Lleoliad: Canolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin/S4C Caerdydd/S4C Caernarfon. Mae S4C yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 16.45 ar ddydd Gwener 27 Ionawr 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Cyfathrebu Digidol
Mae Barcud Cyf yn edrych am Gynorthwy-ydd Cyfathrebu Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Tîm Cyfathrebu i ddarparu ystod eang o gyfathrebiadau digidol integredig fel y gall Barcud hysbysu, ysbrydoli, cynnwys a dylanwadu ar ei denantiaid a chynulleidfaoedd allweddol. Bydd y rôl yn cefnogi’r tîm i gynllunio a chynhyrchu cynnwys ar draws sianeli digidol sy’n eiddo i Barcud a pharhau i godi ei broffil trwy gyfryngau ysbrydoledig, dyfeisgar a chreadigol.
Disgrifiad:
• Datblygu, gweithredu a gwerthuso cyfathrebiadau digidol sy'n galluogi Barcud i ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd allweddol am ein gwasanaethau.
• Darganfod a chreu cynnwys cyfoethog o safon ar gyfer sianeli digidol Barcud e.e. gwefan, cyfryngau cymdeithasol, e-farchnata, blog, mewnrwyd ac ati.
• Ymgysylltu â chynulleidfaoedd a datblygu perthnasoedd â nhw ar-lein, gan sbarduno trafodaeth am faterion yn ymwneud â'r sector Tai ac ymgysylltu â thenantiaid, rhanddeiliaid a chymorth a chydweithwyr.
• Monitro cyfathrebiadau digidol Barcud yn unol â pholisïau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt. Cynhyrchu dadansoddeg fisol i asesu effeithiolrwydd cynnwys a weithredwyd.
• Darparu cefnogaeth olygyddol a marchnata digidol i adrannau eraill Barcud.
• Nodi tueddiadau a mewnwelediadau, gwerthuso technolegau sy'n dod i'r amlwg, a gwneud y gorau o berfformiad presenoldeb digidol Barcud.
• Diweddaru a lanlwytho cynnwys i'n gwefan Wordpress.
Cyflog
💰 £19,020 - £20,994
Lleoliad
📍 Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cynnwys y We
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Cynnwys y We
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn-amser, barhaol uchod. Caiff deiliad y swydd ddewis gweithio ar gampws Bangor neu Wrecsam, neu weithio o bell gan weithio ar y campws yn achlysurol.
Rydym yn chwilio am rywun brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'r Tîm y We a Digidol fel Swyddog Cynnwys y We.
Byddwch yn gyfrifol am olygu, ysgrifennu a chyhoeddi cynnwys mewn modd clir, perthnasol a hygyrch tra'n datblygu profiad defnyddiwr deniadol i gynulleidfaoedd targed y brifysgol.
Byddwch yn rhan annatod o’r gwaith o gyflwyno cynnwys deniadol, cynyddu dealltwriaeth am ein gweledigaeth strategol a gwella profiad y defnyddiwr ar ein gwefan allanol a'n mewnrwyd.
Byddwch yn cefnogi projectau cynnwys amrywiol i wella sut mae cynnwys ar gael i’n staff ym maes ymchwil, addysg a’r gwasanaethau proffesiynol, yn ogystal â’n myfyrwyr, rhanddeiliaid allweddol a chymunedau allanol ehangach.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda pherchnogion cynnwys i greu a chynnal a chadw tudalennau gwe ac adrannau ar y wefan yn unol ag amcanion brand a chyfathrebu'r brifysgol.
Fel rhan o Dîm y We a Digidol, byddwch yn helpu i sicrhau safonau’r we a safonau digidol wrth weithredu fframwaith llywodraethu’r brifysgol.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar brofiad mewn swydd debyg a hanes cadarn o greu cynnwys i wefannau. Bydd y swydd yn allweddol o ran cynorthwyo'r brifysgol i fod yn fwy gweladwy ar beiriannau chwilio yng Nghymru a thu hwnt, gan wneud y wefan yn berthnasol i gynulleidfaoedd yng Nghymru, Lloegr, y Deyrnas Unedig yn ehangach yn ogystal â chynulleidfaoedd rhyngwladol.
Dylai’r ymgeiswyr feddu ar addysg hyd at safon gradd (neu gymhwyster cyfwerth) neu brofiad tebyg helaeth a pherthnasol gan gynnwys profiad o weithio mewn swydd yn datblygu cynnwys lle cawsant effaith gadarnhaol a sylweddol ar ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r brand.
Rhaid bod yn gyfathrebwr hyderus ac yn ysgrifennwr medrus, gyda sgiliau iaith, gramadeg a sgiliau golygu da. Bydd disgwyl i chi ysgrifennu copi clir, cywir a gafaelgar a gallu creu cynnwys amlgyfrwng. Bydd gennych hefyd ddealltwriaeth o brif gynulleidfaoedd targed y wefan.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbyniwn geisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 26 Awst 2022.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £34,304 - £40,927
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Gwefan a Chynnwys Digidol
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Gydlynydd Gwefan a Chynnwys Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig, creadigol a brwdfrydig i weithio fel Cydlynydd y Wefan a Chynnwys Digidol yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor).
Bydd deiliad y swydd yn ymuno â'r sefydliad ar adeg gyffrous iawn o ymgysylltu digidol ac ar-lein a byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod gwefan Undeb y Myfyrwyr a’i llwyfannau ar y cyfryngau digidol a chymdeithasol yn berthnasol, yn ymatebol ac yn afaelgar. Byddant yn arwain ar ddatblygu gwefan Undeb Bangor a chysylltiadau a chynnwys digidol. Bydd deiliad y swydd wedi cael addysg i safon Lefel A (neu gymhwyster cyfwerth) a bydd yn gyfrifol am gynghori ynglŷn â datblygu cyfathrebiadau digidol Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod pob aelod yn ymwybodol o'r gwasanaethau a'r cyfleoedd a gynigir gan yr Undeb a bydd yn arwain ar y gwaith o ddatblygu gwefan a system aelodaeth ar-lein yr Undeb ynghyd â phob llwyfan digidol.
Bydd gan ymgeiswyr delfrydol brofiad blaenorol o gydlynu ymgyrchoedd digidol effeithiol a sicrhau cymaint o amlygiad â phosibl ar draws ystod o lwyfannau digidol, a phrofiad o reoli cynnwys gwefan. Mae hon yn rôl mewn adran brysur a deinamig ac felly mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol ynghyd â'r gallu i fod yn hyblyg a medru addasu.
Bydd gan ymgeiswyr delfrydol brofiad o weithio mewn sefydliad amrywiol a bydd yn gallu ffynnu mewn amgylchedd prysur.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau mor fuan ag sydd yn rhesymol bosib.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y DU) i gefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gydag ymgeiswyr mewn cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd hon ar sail ran amser neu rannu swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12 Mehefin 2022.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £23,487 - £26,341
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Rydym ni’n cynnig addysgu arloesol, y cyfarpar diweddaraf a chefnogaeth ragorol ar draws ystod eang o leoliadau dysgu a chyrsiau.
Ymhellach, cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.
Rydym ni nawr yn edrych am Lyfrgellydd Gwasanaethau Cwsmeriaid i ymuno â champws Caerfyrddin ar sail lawn amser, barhaol yn gweithio 22 awr yr wythnos.
- Y RÔL –
Rôl y Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol fydd datblygu ar y seiliau cadarn a osodwyd eisoes trwy ddefnydd medrus o ddulliau digidol gan gyfathrebu’n effeithiol a chreu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau digidol sy’n cynnwys nifer o llwyfannau ar-lein (gwefan, cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyron).
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddarganfod ffyrdd amrywiol a dychmygus o gyfathrebu a hyrwyddo cynnig eang y Ganolfan, sy’n cynnwys:
y rhaglen artistig a phrosiectau creadigol
y gymuned greadigol â digwyddiadau rhyngweithio i’r sector sgrîn
cyrsiau hyfforddiant a chyfleon addysgiadol
adnoddau'r ganolfan sy’n cynnwys gofodau cynhyrchu a chydweithio
Disgwylir i’r swyddog gyfrannu at, ysgrifennu a/neu olygu copi ar gyfer adroddiadau, cyhoeddiadau, y wefan, datganiadau ac erthyglau, a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gan gynnig syniadau o ran deunydd addas i gynulleidfaoedd amrywiol.
** - AMDANOCH CHI - **
I gael eich ystyried fel Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau digidol i gyflawni ymgyrchoedd yn effeithiol
Sgiliau cynllunio a threfnu gan ymdopi â sawl math o waith ar yr un pryd
Gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfatebol
Y gallu i adnabod y gynulleidfa darged, ei hanghenion a’i disgwyliadau;
Profiad o gynhyrchu a chreu cynnwys addas ar ffurf lluniau a fideos.
Y gallu i gydweithio ac ymgynghori gyda chydweithwyr a phartneriaid
Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig
**- BUDDION – **
- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 28 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gwyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol
Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach
- Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio fel y cynllun seiclo i’r gwaith
Cyflog
💰 £27,116 - £30,497
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynhyrchydd Digidol
Mae S4C yn edrych am Gynhyrchydd Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Newyddion S4C yn wasanaeth newyddion digidol sydd yn dod a’r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg o amrywiol ffynonellau. Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa ehangach na’r rhai sy’n gwylio gwasanaeth Newyddion S4C ar deledu, a hynny ar ffurf fideo a thestun, drwy aml blatfformau.
Gyda diddordeb brwd mewn newyddion Cymreig a’r cyfryngau digidol bydd gennych syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu gwasanaeth digidol a denu dilyniant.
Bydd gennych brofiad o weithio ym maes cyhoeddi digidol gyda dealltwriaeth o ofynion cyhoeddi ar aml blatfform. Byddwch gennych y gallu i fod yn greadigol gyda’r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy’n dal y llygad ac yn creu sŵn.
Byddwch yn hyderus yn gweithio gyda fideo, lluniau llonydd, graffeg thestun, ac yn deall beth sy’n gwneud stori ddigidol dda. Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.
Manylion eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg. Os hoffech mwy o wybodaeth ar hyn plîs cysylltwch ag [email protected].
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: Bydd eich oriau gwaith arferol yn ôl patrwm sifft weithredol, sef cyfanswm o 35¾ awr yr wythnos. Eich rôl yw cynnal gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos. O ganlyniad bydd eich patrwm sifft ar draws 7 diwrnod, ac yn unol â gofynion y gwasanaeth
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 yn y prynhawn ar ddydd Mawrth 24 Mai 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
**Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth **
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol. Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Dehongli Digidol
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Swyddog Dehongli Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth ac mae’n ceisio penodi staff brwdfrydig i weithio o fewn gwasanaethau’r Llyfrgell. Gwahoddir ceisiadau am y swydd ganlynol:
SWYDDOG DEHONGLI DIGIDOL
Band 3: £24,899 – £28,740
Swydd tymor penodol am 2 flynedd. 37 awr yr wythnos
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 2.00 o’r gloch 23 Mai 2022
Dyddiad cyfweliadau: i’w cadarnhau
Cefnogi gwaith isadran Mynediad a Chynnwys Digidol i ehangu presenoldeb a chyrhaeddiad ar-lein y Llyfrgell ar ein gwefannau a llwyfannau trydydd parti drwy rannu a chyflwyno cynnwys digidol wedi’i guradu mewn ffyrdd creadigol. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gydweithio gydag isadrannau eraill i ddehongli ac ail-bwrpasu casgliadau, cynnwys deongliadol ac arddangosfeydd er mwyn eu rhannu ar-lein, yn unol ag amcanion strategol y Llyfrgell.
Mae’r pecyn cyflogaeth yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyflog terfynol, polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd, oriau gweithio hyblyg a phrisiau gostyngol yn y bwyty. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Am becyn gwybodaeth a manylion am sut i wneud cais cysylltwch ag Uned Adnoddau Dynol y Llyfrgell ar 01970 632530/1; neu drwy defnyddio'r blwch e-bost uchod.
Cyflog
💰 £24,899 – £28,740
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu Cynnwys Digidol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn edrych am Swyddog Cyfathrebu Cynnwys Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gofynion y Gymraeg:
Mae'r gallu i gyfathrebu a darllen Cymraeg er mwyn adolygu cynnwys ar y wefan yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd:
[Rachael Gill / Pennaeth Adain – Cyfathrebu a Marchnata / 01492 515592 / [email protected] ]
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen gais ni i gael eu hystyried. Ni dderbynnir CVs ar eu pen eu hunain. Os nad ydych wedi cael gwahoddiad i gyfweliad o fewn tair wythnos o'r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym ni’n chwilio am unigolyn gydag awch am greu cynnwys digidol hygyrch ac sy’n meddu ar ddealltwriaeth dda o sianeli cyfathrebu digidol.
Mae bod yn drefnus a roi sylw i fanylion yn hanfodol gan y byddwch yn gweithio gyda thimau ar draws y Cyngor yn cydlynu ac yn darparu cynnwys ac yn gwneud yn siŵr bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu ei ddefnyddio ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae’n rhaid i chi fod yn hyderus ac yn gallu trafod gydag arweinwyr gwasanaethau fel bod gan holl wasanaethau'r Cyngor bresenoldeb cyfoes ar y we sydd ar frand, yn gyson, yn hawdd ei lywio, yn hawdd ei ddeall ac yn hygyrch.
Byddwch hefyd yn helpu’r Tîm Cyfathrebu a Marchnata i drefnu, cyflwyno a gwerthuso ymgyrchoedd marchnata aml-sianel am wasanaethau'r Cyngor, gan ganolbwyntio'n benodol ar sianeli cyfathrebu digidol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Cyflog
💰 £22,571 - £25,927
Lleoliad
📍 Conwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rôl y Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol fydd datblygu ar y seiliau cadarn a osodwyd eisoes trwy ddefnydd medrus o ddulliau digidol gan gyfathrebu’n effeithiol a chreu cynnwys ar gyfer y cyfryngau
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.