Swyddi Cymraeg — Datblygu meddalwedd
4 swydd yn cyfateb
Is-ddatblygwr Meddalwedd / Is-ddatblygwr y We
Mae Delwedd Ltd yn edrych am Is-ddatblygwr Meddalwedd / Is-ddatblygwr y We
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Delwedd yn Gwmni Dylunio Gwefannau o Gaernarfon. Sefydlwyd y Cwmni yn 1998, ac mae gennym ni bellach bortffolio o dros 400 o wefannau byw ar draws amrywiaeth o sectorau.
Rydym ni’n dîm bach, ac yn chwilio am rywun i ymuno â ni i helpu gydag agweddau mwy technegol ar ein gwaith.
Bydd eich tasgau yn cynnwys / gallant gynnwys:
• Gosod a Diweddaru System Rheoli Cynnwys (CMS)
• Profi Meddalwedd
• Cymorth Technegol
• Ysgrifennu Dogfennau Technegol
Byddwn ni’n darparu hyfforddiant, ond byddai gwybodaeth am y canlynol yn ddefnyddiol:
• PHP
• MySQL
• Gosod a Rheoli E-Bost
Gofynnol:
• Rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg
• Cyfforddus yn gweithio i derfynau amser
• Gallu i weithio’n dda mewn tîm yn ogystal ag yn annibynnol
Oriau: Llawn Amser / Rhan Amser (gellir negodi’r oriau)
Cyflog: £20,000 - £24,000. Gan ddibynnu ar Sgiliau a Phrofiad.
Contract: 1 blwyddyn (cyfnod mamolaeth)
Lleoliad: Mae ein swyddfa yn y Galeri yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru.
**Dyddiad Cau: **31/03/23
Cyflog
💰 £20,000 - £24,000
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Datblygwr Gwe
Mae S4C yn edrych am Ddatblygwr Gwe
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas S4C yw gwasanaethu'r gynulleidfa gyda chynnwys sy'n diddanu, cyffroi ac sy'n adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae gennym ddyletswydd i greu llwyfan ac ecosystem i ysgogi'r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy'n apelio at bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol.
Rydym yn chwilio am Ddatblygwr Gwe profiadol sy'n gallu addasu i dechnolegau newydd a'u dysgu. Pwrpas y rôl yw i ddatblygu darpariaethau digidol S4C, gwella profiad y defnyddiwr, a chyflwyno nodweddion newydd ynghyd â datblygu llwyfannau a gwasanaethau newydd. Bydd y Datblygwr Gwe yn gyfrifol am wneud gwaith datblygu fel rhan o strategaeth ddigidol S4C.
Byddwch yn gyfrifol am waith datblygu a chynnal a chadw, gan gynnwys rhaglenni gwe, rhaglenni symudol, llwyfannau a gwefannau. Mae'r rôl hon yn rhan o'n Hadran Ddigidol a Marchnata ac mae'n rhan o'r tîm Datblygu. Byddwch yn adrodd i'r Uwch Ddatblygwr.
Manylion Eraill
Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi hybrid ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg. Cysylltwch â [email protected] os hoffech ragor o wybodaeth am hyn.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Llun 11 Gorffennaf 2022 at [email protected] neu'r adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prentis Gradd Peirianneg Meddalwedd x 2
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Brentis Gradd Peirianneg Meddalwedd x 2
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd!
Mewn maes sydd yn datblygu'n gyflym, mae’r angen i ddatblygu arbenigwyr maes TG yn hanfodol i sicrhau ein bod ni yn ymateb i anghenion pobl Gwynedd mewn dulliau arloesol.
Mae’r brentisiaeth Gradd Digidol (Peirianneg Meddalwedd) yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gallu sydd eu hangen ar brentisiaid i fod yn weithwyr peirianneg meddalwedd proffesiynol cymwys.
Mae’r brentisiaeth yn rhoi sylfaen dda i unigolyn ddysgu am y maes. Yn ogystal â hyn, mae’r rhaglen yn darparu’r arfau sy’n galluogi i'n prentisiaid fod ar y blaen mewn maes sydd yn newid yn gyflym iawn.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â diddordeb yn y maes Peirianneg Meddalwedd (Technoleg Gwybodaeth) sy’n barod i ddysgu a datblygu eu sgiliau wrth weithio. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno a’r tîm datblygu ac yn gweithio ochr yn ochr a’r datblygwyr eraill 4 diwrnod yr wythnos, tra’n gweithio tuag at ennill gradd BSc mewn Peirianneg Meddalwedd.
Cyflwynir y Brentisiaeth Gradd Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol gan Brifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai. Bydd myfyrwyr fel arfer yn ymgymryd ag astudiaeth academaidd am un diwrnod ac un noson yr wythnos am dair blynedd. Am y ddwy flynedd gyntaf, mae ein rhaglenni prentisiaeth gradd ddigidol yn cael eu cynnal gyda cholegau Grŵp Llandrillo. Bydd blwyddyn olaf y brentisiaeth addysgu ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r brentisiaeth yma yn integreiddio dysgu academaidd a chael profiadau gwerthfawr wrth weithio yn y maes. O ganlyniad, mi fydd prentisiaid yn ennill profiadau ymarferol a datblygu dealltwriaeth uwch am ddylunio, adeiladu a gwerthuso meddalwedd.
Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth – gall arwain at nifer o lwybrau cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!
NODER - Mae graddfa cyflog Cyngor Gwynedd yn seiliedig ar y cyfraddau’r cyflog Byw Cenedlaethol a’r isafswm cyflog cenedlaethol. Golygai hyn bod y cyflog yn ddibynnol ar oed.
Cyflog
💰 £9,279 - £18,328
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae S4C yn edrych am Ddatblygwr Gwe
Ar gau. Mae’r swydd hon ar gau. Nid oes dyddiad cau wedi ei gofnodi.
Rydym yn chwilio am Ddatblygwr Gwe profiadol sy'n gallu addasu i dechnolegau newydd a'u dysgu. Pwrpas y rôl yw i ddatblygu darpariaethau digidol S4C, gwella profiad y defnyddiwr, a chyflwyno...
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.