Swyddi Cymraeg — Derbynfa
2 swydd yn cyfateb
Derbynnydd
Mae Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) yn edrych am Dderbynnydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn awyddus i benodi un neu ddau unigolyn brwdfrydig a dibynadwy sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf i weithio fel derbynnydd ym mhrif swyddfa’r Ganolfan yn Galeri, Caernarfon yn ystod gyda’r nosau a boreau Sadwrn (tymor ysgol yn unig).
Croesawir ceisiadau gan unigolion sydd a diddordeb mewn gweithio 1, 2 neu 3 shift Cais trwy lythyr a CV gan enwi dau ganolwr. Cyfeiriwch eich cais at Gwydion Davies ([email protected]) CGWM, Galeri Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SQ.
Dyddiad Cau: 5pm dydd Llun y 10fed o Hydref
Disgrifiad:
Swydd ddisgrifiad Derbynnydd CGWM
Swydd ran amser, yn gweithio yn ystod y tymor ysgol,tua 39 wythnos y flwyddyn, yn atebol i’r Cyfarwyddwr.
Oriau arferol (gall amrywio): shifftiau 4.5 - 5 awr fydd yn cychwyn a gorffen rhwng 3.30 a 9.30pm ar nosweithiau’r wythnos a 9am – 2pm ar ddyddiau Sadwrn.
Cyflog: £9.50 yr awr
Lleoliad: CGWM, Galeri Caernarfon.
I gychwyn cyn gynted a phosibl.
Dyletswyddau
Croesawu’r tiwtoriaid / myfyrwyr / rhieni i’r gangen a delio efo ymholiadau.
Paratoi’r ystafelloedd ymarfer ar gyfer y gwersi a sicrhau eu bod yn cael eu gadael yn daclus a threfnus wrth adael y lleoliad. Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf i ddisgyblion, rhieni a thiwtoriaid tra ar shifft gan weithio yn annibynnol yn swyddfa’r Ganolfan.
Delio gydag ymholiadau / negeseuon sy’n codi.
Trosglwyddo negeseuon yn effeithiol i Weinyddydd a Chyfarwyddwr y Ganolfan.
Trefnu amserlenni tiwtoriaid a gweithgareddau grwp CGWM. Cydweithio gyda derbynwyr eraill i sicrhau rhediad esmwyth gweithgareddau.
Delio gyda thaliadau a pharatoi biliau am wersi gan ddefnyddio systemau gweinyddol y Ganolfan.
Goruchwylio gweithdai a dosbarthiadau fel bo’r angen
Paratoi ffurflenni cofrestru a phosteri ar gyfer gweithgareddau. Cadw cofrestrau gwersi.
Gweithredu o fewn gofynion holl bolisiau a Chôd Ymddygiad CGWM.
· Bydd disgwyl i’r unigolyn llwyddiannus gyflawni cyrsiau hyfforddiant perthnasol ar-lein (yn ystod oriau gwaith) - Diogelu plant ac oedolion, Diogelwch Tân, ‘manual handling’, GDPR a mynychu cwrs undydd Cymorth Cyntaf brys a bod yn barod i ddarparu Cymorth Cyntaf petai angen.
Parodrwydd i gynorthwyo’r gydag unrhyw ddyletswyddau gweinyddol eraill yn ộl y galw mewn trafodaeth gyda’r Gweinyddydd a’r Cyfarwyddwr. Manyldeb personol
Hanfodol
· Sgiliau rhyngbersonol ardderchog.
· Y gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
· Sgiliau llythrenedd, rhifyddeg a Thechnoleg Gwybodaeth cryf (yn cynnwys defnydd o Excel, Word a’r cyfryngau cymdeithasol).
· Y gallu i weithio’n hyblyg, annibynnol ac fel rhan o dim.
Dymunol
profiad blaenorol o weithio gyda’r cyhoedd yn ddymunol. Gan fod y swydd yn ymwneud â gweithio gyda phlant ac oedolion sy’n agored i niwed gwneir cais am ddatgeliad manwl gan y DBS (Disclosure and Barring Service) ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus ac mae’r cynnig swydd yn ddibynnol ar wiriad boddhaol. Rydym yn gweithredu polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae copi ar gael ar ein gwefan sy’n amlinellu ein hymrwymiad i brosesau recriwtio teg :
Polisïau | Canolfan Gerdd William Mathias (cgwm.org.uk)
Mae ceisiadau gan unigolion diwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a'u croesawu'n gynnes.
Os oes gennych anabledd, nodwch yn eich llythyr os oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau penodol arnoch ar gyfer cyfweliad.
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau ffurflen cydraddoldeb, trwy ddilyn y linc isod. I bwrpas monitro cydraddoldeb yn unig y defnyddir y wybodaeth ar y ffurflen.
Gwarchod Data
· Byddwn yn trin y data personol a rennir gyda ni gan ymgeiswyr am swydd gyda pharch. Bydd yn ofynnol i ni brosesu data personol ymgeiswyr am swyddi er mwyn ein galluogi i ddilyn y broses recriwtio. Byddwn yn storio’r data personol a ddarperir gan ymgeiswyr am gyfnod o o leiaf 6 mis, neu, os ydy’r gyfraith yn mynnu, am gyn hired ag sydd angen. Ceir rhagor o fanylion am ein ymdriniaeth o ddata personol yn ein polisi preifatrwydd ar ein gwefan. www.cgwm.org.uk/polisiau
· Nid yw’r rhybudd preifatrwydd hwn yn ffurfio unrhyw gynnig cyflogaeth na chytundeb rhyngom. Os byddwn yn cynnig swydd i chi, byddwn yn rhoi gwybodaeth bellach am ymodd yr ydym yn ymdrin â data personol cyflogai.
Cyflog
💰 £9.50 yr awr
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweinyddwr y Dderbynfa
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn edrych am Weinyddwr y Dderbynfa
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn gyfrifol am ddelio ag ymholiadau gan staff, myfyrwyr, busnesau a’r cyhoedd, wyneb yn wyneb a thros y ffôn. Byddwch hefyd yn ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol yn ôl y gofyn.
Bydd gennych brofiad o weithio mewn derbynfa/amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid a byddwch yn meddu ar NVQ Lefel 2 perthnasol (neu’r cyfwerth) yn ogystal â chymhwyster TGAU mewn Mathemateg a Saesneg (Graddau A-C).
Mae sgiliau gwrando a siarad Cymraeg Lefel 3 yn hanfodol ar gyfer y rôl hon a bydd gofyn i chi weithio’n hyblyg lle bo angen.
Gellir cyflwyno ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc a disgwylir i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach.
Gwneir penodiadau fel arfer i waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar gwblhau 6 mis o wasanaeth).
Cyflog
💰 £9.90 - £10.97 yr awr
Lleoliad
📍 Abertawe
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.