Swyddi Cymraeg — Dylunio
6 swydd yn cyfateb
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn edrych am Ddylunydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am ddylunydd i ymuno â’n Tîm Brand o naw aelod, sy’n cynnwys arbenigwyr cynnwys a gweithwyr cyfathrebu proffesiynol. Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno cynnwys creadigol sy’n dod â’n hangerdd am gyllid, a chefnogi cymunedau, yn fyw.
Disgrifiad:
Amdanat ti
Rydym yn chwilio am ddylunydd i ymuno â’n Tîm Brand o naw aelod, sy’n cynnwys arbenigwyr cynnwys a gweithwyr cyfathrebu proffesiynol. Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno cynnwys creadigol sy’n dod â’n hangerdd am gyllid, a chefnogi cymunedau, yn fyw.
Bydd gennych brofiad dylunio mewnol neu asiantaeth, gwybodaeth ddigidol gref a meistrolaeth ar bob math o brint. Byddwch yn gyfarwydd â gweithio gyda chanllawiau brand ac yn gwybod sut i wneud y gorau o hygyrchedd mewn dylunio (WCAG2+).
Byddwch yn ategu ein dau ddylunydd gyda'ch set o sgiliau, fel y gallwch weithio gyda nhw, ond hefyd dod â'ch creadigrwydd eich hun. Bydd gennych brofiad o’r rhan fwyaf o’r rhaglenni hyn, a pharodrwydd i ddysgu’r rhai nad ydych yn gyfarwydd â nhw: Adobe Creative Cloud – Photoshop, InDesign, Premiere Pro neu Premiere Rush, After Effects, Audition, XD Mobile, Animate, rhaglenni AR.
Byddwch yn gweithio ar y cyd o fewn y tîm Brand, gydag adrannau eraill ar draws y Gronfa, yn ogystal ag asiantaethau dylunio allanol a gweithwyr llawrydd.
Math o gytundeb: Cytundeb tymor penodol 12 mis
Oriau: 37 awr yr wythnos – hapus i drafod patrymau gweithio hyblyg
**Dyddiad y cyfweliad: **Wythnos yn dechrau 20fed o Fawrth
Lleoliad: Gweithio hyblyg gan deithio i’r swyddfa leol, a disgwyliad i fynychu cyfarfod misol yn Llundain.
Mae ein swyddfeydd yn y DU yn cynnwys Belfast, Birmingham, Caerdydd, Caerwysg, Glasgow, Leeds, Llundain, Newcastle a'r Drenewydd.
Ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus sydd wedi'u lleoli yn Llundain, gofynnir i chi gwblhau cliriad fetio diogelwch cenedlaethol fel y gallwch gael mynediad i'n Swyddfa ar Stryd Marsham. Mae hyn yn golygu pasio gwiriad datgelu a gwahardd a Gwiriad Gwrthderfysgaeth.
**Os hoffech chi gael sgwrs cyn ymgeisio, anfonwch e-bost at [email protected]
Meini Prawf Hanfodol
- Profiad dylunio mewnol neu asiantaeth
- Dylunydd profiadol digidol a phrint
- Sgiliau rheoli rhanddeiliaid hyderus a sgiliau cyfathrebu gwych i sicrhau cysyniadau dylunio llwyddiannus
- Gallu cadw safonau uchel wrth weithio ar sawl prosiect mewn amgylchedd newidiol gyda therfynau amser tynn
Meini Prawf Dymunol
- Profiad o weithio gyda html a dylunio ar gyfer y we
- Gweithio gyda Dylunwyr UX, UI, timau dylunio gwasanaeth a TG
- Profiad o weithio gyda sefydliadau yn y gymuned neu amgylchedd dielw
- Profiad o Hygyrchedd mewn dylunio
Cyfle Cyfartal
Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob siâp a maint. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd lle mae ei angen.
Credwn hefyd y dylai ein pobl gynrychioli'r cymunedau, y sefydliadau a'r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym wedi ymrwymo i fod yn lle cynhwysol a gwych i weithio, ac rydym yn cydnabod bod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. O'r herwydd, rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl ag anableddau, cefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (B.A.M.E), LGBTQ+ ac o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol.
Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol os bydd angen drwy'r broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol.
Cyflog
💰 £33,000 – £36,961
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dylunydd Cynnwys Creadigol a Rheolwr Brand (dros dro)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Ddylunydd Cynnwys Creadigol a Rheolwr Brand (dros dro)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn dilyn twf o fewn y cwmni ac o fewn prosiect Cywain, rydym yn chwilio am Ddylunydd Graffeg i ymuno â ni. Dyma gyfle gwych i ymuno a chwmni blaengar a gweithio ar brosiect yn niwydiant byrlymus bwyd a diod Cymru sy’n hollbwysig i dŵf yr economi Gymreig. Bydd y swydd wedi ei rhannu ar gyfartaledd 90% ar brosiect Cywain, a 10% ar waith corfforaethol Menter a Busnes.
Disgrifiad:
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023. Darperir gwasanaethau i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a gwybodaeth y diwydiant ac atgyfnerthu integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Mae’r ddarpariaeth ar gael ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio drwy glystyru, ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae dull gweithredu cydlynol gyda phartneriaid datblygu eraill yn ganolog i ddatblygiad y cleientiaid. Mae tair elfen i’r prosiect:
● Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
● Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
● Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd **Nod y Rôl **
● Arwain ar ddatblygu briffiau dylunio a chefnogi’r Arweinydd Marchnata a Digwyddiadau a staff eraill y prosiect gyda datrysiadau a chysyniadau creadigol yn ôl yr angen ar gyfer ystod gwahanol o ofynion prosiect a chwmni, gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i gyhoeddiadau, adroddiadau, stondinau arddangos, cynnwys marchnata sy’n wynebu’r defnyddwyr a chynnwys cyfryngau cymdeithasol
● Arwain a rheoli gwaith dylunio a phrosiectau ei hun, gan weithio’n agos gyda’r rheolwr llinell i sicrhau fod prosiectau ar y trywydd iawn ac o fewn y gyllideb a’n alinio gyda gweithgareddau eraill y tîm marchnata
● Creu dogfennau ac ymateb i ofynion eraill Menter a Busnes yn ôl y galw Prif Ddyletswyddau
● Amrediad llawn o wasanaethau dylunio graffeg i Cywain, gan gynnwys creu cysyniadau, graffeg a chynlluniau ar gyfer yr arddangosfeydd a chyhoeddiadau trosglwyddo gwybodaeth
● Aelod canolog yn y tîm marchnata a digwyddiadau gan gymryd rôl ragweithiol wrth reoli ystod o brosiectau dylunio ac arwain ar gynhyrchu gofynion digidol a chynnwys creadigol y cwmni
● Creu a rheoli gwaith dylunio ar gyfer ei argraffu, y we a’r cyfryngau hyrwyddo electronig a sioeau byw, digwyddiadau ac arddangosfeydd
● Gweithio’n agos gyda’r Swyddog Marchnata ac aelodau eraill y tîm i ddatblygu syniadau creadigol, i ffurfio briffiau dylunio a chwblhau prosiectau dylunio o’r dechrau hyd y diwedd
● Helpu i hybu brand Cywain a Menter a Busnes drwy gyfathrebu’n fewnol ac yn allanol
● Defnyddio technegau creadigol ac arloesol i gyrraedd cynulleidfa eang i hyrwyddo’r gwaith
● Gwerthuso gofynion dylunio’r prosiect ac awgrymu’r fformat / opsiynau gorau sydd ar gael o fewn yr amser
● Rheoli’r berthynas gydag amrywiaeth eang o gyflenwyr, yn arbennig cwmniau argraffu, datblygwyr ac ati i sicrhau gwerth am arian ac ansawdd uchel cyson
● Gweithio i amserlen y prosiect, sydd yn aml yn ddyddiadau tynn, gan sicrhau ansawdd a safon uchel
● Sicrhau bod yr holl gyhoeddiadau ac arddangosfeydd sy’n wynebu’r cwsmer yn cwrdd â safonau brandio corfforaethol Llywodraeth Cymru
● Cyfrifoleb am ddatblygu a chynnal canllawiau brand Cywain, gan gynnwys cynorthwyo i sicrhau cysondeb brand ar draws oll brosiectau Cywain a gwaith dylunio allanol
● Cynorthwyo’r tîm ehangach i ddatblygu cynnwys creadigol a datrysiadau i broblemau a syniadau dylunio ac i weithio’n agos gyda’r Swyddog Marchnata i ddatblygu cynlluniau marchnata, copi a chyfres o ddeunyddiau ar gyfer gweithgareddau ac ymgyrchoedd
● Hwyluso’r broses greadigol ar gyfer y gwahanol ffrydiau gwaith o fewn prosiect Cywain, prosiectau corfforaethol Menter a Busnes a gwaith dylunio prosiect eraill, gan gymryd rôl ragweithiol wrth sicrhau effeithiolrwydd o fewn y cwmni ac i sicrhau cysondeb brand Menter a Busnes ar draws y prosiectau a gwahanol adrannau
● Sicrhau fod y prosesau caffael cywir yn cael eu dilyn a bod anfonebau yn cael eu derbyn a’u prosesu yn amserol ar gyfer gwaith dylunio a gofynion creadigol fel ffotograffeg a fideograffeg brand **Arall **
● Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth a iechyd a diogelwch
● Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill fel y bo’n ofynnol
● Cynrychioli Menter a Busnes fel y bo’n ofynnol Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
● Gradd mewn dylunio graffeg neu gymhwyster wedi’i seilio yn y gwaith neu brofiad cyfatebol
● Profiad o reoli a darparu atebion creadigol
● Agwedd ffres a phortffolio dylunio arloesol a chreadigol
● Dealltwriaeth dda neu brofiad o’r sector bwyd a diod
● Sgiliau trefnu gwych, gan gynnwys rheoli amser, ar gyfer yr holl ohebiaeth copi caled ac electronig
● Profiad o reoli ffeiliau gan gynnwys defnyddio meintiau a fformatau amrywiol
● Sgiliau cyflwyno a chyfathrebu (llafar ac ysgrifenedig) gwych i unigolion a grwpiau o amrywiol feintiau
● Profiad a gwybodaeth am holl Gyfres Greadigol Adobe - yn benodol Illustrator Photoshop ac InDesign
● Sgiliau rhyngbersonol gwych
● Gallu gweithio ar ei b/phen ei hun yn ogystal ag o fewn tîm
● Gallu bod yn rhagweithiol ac i yrru pethau ymlaen yn effeithiol
● Agwedd hyblyg a’r gallu i weithio i amserlenni tynn
● Gallu cadw data’n gyfatebol â deddfau diogelu data perthnasol
● Gallu gweithio i ddyddiadau tynn
● Gallu ysgogi ei hun i weithio, gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni ei amcanion a’i waith ei hun
● Rhagweithiol a brwdfrydig am waith yr Adran Fwyd a’r cwmni
● Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)
● Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod. Manteisiol
● Profiad o reoli perthynas â chwmnïau argraffu a chyflenwyr eraill
● Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (llafar ac ysgrifenedig)
● Gwybodaeth am raglen Cywain
● Car i’w ddefnyddio a pharodrwydd i deithio
● Profiad o ddylunio graffeg symud Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Alex James ar 07539 173 732. Cyfweliadau
Cynhelir y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon ar ddydd Llun, 9 Ionawr 2023, yn rhithiol. Os yw’r dyddiad yma yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10yb, dydd Mawrth, 3 Ionawr 2023.
Cyflog
💰 £27,433 - £30,205
Lleoliad
📍 Hybrid, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dylunydd Graffeg
Mae Tinopolis yn edrych am Ddylunydd Graffeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chreadigol i ymuno â thîm cynhyrchu Tinopolis. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r adran graffeg i weithio ar lu o raglenni gan gynn- wys dwy sioe gylchgrawn dyddiol byw, rhaglenni trafod, rhaglenni dogfen a chwaraeon.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio yn amgylchedd byw darlledu teledu â chreu cynnwys creadi- gol gwreiddiol ac amrywiol. Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn amryddawn a meddu ar y gallu i weithio'n unigol neu greu ar y cyd ag eraill ar amrywiaeth o brosiectau. Mae’r gallu i ddefnyddio meddalwedd Adobe yn hanfodol a byddai bod yn gyfarwydd â meddalwedd 3D yn fuddiol. Darperir hyfforddiant ar gyfer darlledu byw gan ddefnyddio'r Grass Valley, XPression a Maestro.
Byddai'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol oherwydd natur y cynyrchiadau a'r amgylchedd gwaith.
Rydym yn gwmni sydd am adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfle cyfartal. Rydym bob amser yn croesawu ceisiadau gan unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE
Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad
Cytundeb: I ddechrau cyfnod o 12 mis gyda phrawf o 6 mis 27 Tachwedd 2022
Dyddiad Cau: 27 Tachwedd 2022
**Manylion pellach **
Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos dros 5 diwrnod. Ond oherwydd natur y swydd ac oriau rhaglenni disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 27 Tachwedd 2022 at [email protected] neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE. Fe dderbynnir ceisiadau fideo.
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Llanelli
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Golwg Cyf. yn edrych am Ddylunydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle i fod yn greadigol a chreu marc.
Mae cwmni Golwg eisiau Dylunydd i fod yn gyfrifol am ddylunio cynnyrch cwmni Golwg - print a digidol.
Y Gwaith
- Dylunio cylchgronau Golwg, WCW a'i ffrindiau a lingo newydd
- Datblygu ochr ddylunio deunydd digidol y cwmni
- Dylunio deunyddiau marchnata
- Cyfle i weithio ar amrywiaeth o waith masnachol i gwsmeriaid allanol
- Ar adegau prysur cydweithio/ gosod gwaith i ddylunwyr ffri-lans allanol
Y person
- Creadigol
- Brwd
- Trefnus
- Llygad da
**Y Sgiliau **
- Dealltwriaeth o hanfodion dylunio print
- Diddordeb byw yn y cyfryngau newydd
- Gallu i ddefnyddio rhaglenni fel InDesign, Photoshop, Illustrator, Adobe Acrobat
Dyddiad dechrau swydd: Medi/Hydref
Dyddiad Cau: Dydd Llun, 12 Medi
Manylion pellach/Ymgeisio: Owain Schiavone/Prif Weithredwr – [email protected] / 01570 423 529 Golwg Cyf, Blwch Post 4, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion SA48 7LX
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 I'w drafod
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dylunydd Graffig
Mae Archwilio Cymru yn edrych am Ddylunydd Graffig
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Ddylunydd creadigol iawn i ymuno â'n tîm gwobredig.
Mae arnom angen rhywun sy'n wych am adrodd straeon data ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd drwy ddylunio effaith uchel. Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau, gan gynnwys fideos wedi'u hanimeiddio; ffeithluniau a dylunio digidol, i ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd drwy ein gwahanol sianeli.
Ydych chi'n angerddol, yn drefnus ac yn fedrus mewn meddalwedd dylunio?
Ydy hyn yn swnio fel chi?
Hoffem glywed gennych...
Cyflog
💰 £27,024 - £32,739
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Maes: Dylunio
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn edrych am Arweinydd Maes: Dylunio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad: Arweinydd Maes: Dylunio Hoffech chi wneud gwahaniaeth i’r maes cyhoeddi yng Nghymru? Allwch chi helpu i gynnal a gwella safonau? Allwch chi fentora a datblygu sgiliau at y dyfodol? Beth am ymuno â thîm y Cyngor Llyfrau? Rydym yn awyddus i benodi rhywun sydd â’r profiad a’r weledigaeth i arwain gwaith strategol y Cyngor yn y maes dylunio. Bydd gennych sgiliau dylunio o’r radd flaenaf a/neu brofiad cynhyrchu mewn cyd-destun cyhoeddi, yn ogystal â dealltwriaeth trylwyr o anghenion dylunio llyfrau a chylchgronau. Hyd at 37 awr yr wythnos £39,493 y flwyddyn Os yw’r rôl hon yn swnio’n addas ar eich cyfer chi, mae rhagor o fanylion ar www.llyfrau.cymru neu drwy e-bostio [email protected] Dyddiad cau: 11 Medi 2023
Gwybodaeth Ychwanegol: Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Cyflog
💰 £39,493 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.