Swyddi Cymraeg — Gwaith ieuenctid
6 swydd yn cyfateb
Trefnydd C.Ff.I Sir Gâr
Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr yn edrych am Drefnydd C.Ff.I Sir Gâr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr yn awyddus i gyflogi Trefnydd i ddarparu rhaglen eang o weithgareddau a datblygu gwaith y ffederasiwn mewn partneriaeth â swyddog gweinyddol, tîm o swyddogion y Sir a’r mudiad yng Nghymru.
Mae angen i’r person yma fod gyda’r gallu i ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc a meddu ar sgiliau rhyngbersonol, trefniadaeth a chyfathrebu arbennig. Hefyd mae’n rhaid meddu ar y gallu i weithio yn effeithiol fel rhan o dîm sy’n hyrwyddo gwahanol weithgareddau a phrosiectau o fewn y Sir a thu hwnt.
Mae Sir Gâr yn chwilio am unigolyn deinamig llawn egni i gynnal a datblygu mudiad llwyddiannus C.Ff.I yn Sir Gâr.
Disgrifiad:
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y swydd hon trwy ddychwelyd CV a llythyr cais yn cynnwys y canlynol:
· Manylion personol.
· Manylion addysgol a chymwysterau.
· Aelodaeth o gyrff proffesiynol.
· Swydd bresennol.
· Swyddi blaenorol.
· Profiadau perthnasol.
· Manylion am unrhyw drosedd i chi gael eich dyfarnu’n euog ohoni.
· Enw, cyfeiriad a rhif ffôn dau ganolwr. Dylai’r llythyr cais amlinellu:
· Eich rhesymau dros geisio am y swydd.
· Sut y credwch eich bod yn cyflawni’r meini prawf uchod drwy gynnig esiamplau.
· Unrhyw wybodaeth berthnasol arall y teimlwch y gallai fod o fantais i chi yn eich cais.
Cyflog
💰 £28,371 - £32,909
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prentis Arwain Gweithgareddau Lefel 2
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Brentis Arwain Gweithgareddau Lefel 2
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922, wedi cyflawni llawer wrth gynnig profiadau Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol a Gwirfoddoli i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru. Heddiw mae gan yr Urdd 55,000 o aelodau. Mae hyn wedi eu galluogi i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau a chymdeithas, ymestyn eu gorwelion a chynyddu eu hunan hyder.
Mae’r Urdd wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Ar drothwy ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau. Y Swydd
Nod y swydd fydd i weithio ar weithgareddau amrywiol Gwersyll yr Urdd Llangrannog, gan hyfforddi i arwain nifer o weithgareddau amrywiol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Rheolwyr Prentisiaethau: [email protected] / [email protected]
I ymgeisio, anfonwch Ffurflen Gais Prentisiaethau’r Urdd ar e-bost at: [email protected] Dyddiad Cau: 11 Tachwedd 2022
Cyflog
💰 £10,840 y flwyddyn / £5.96 yr awr
Lleoliad
📍 Llangrannog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ieuenctid Fflint a Wrecsam
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddog Ieuenctid Fflint a Wrecsam
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Darparu ac ymestyn, dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr, gynnig gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc yn seiliedig ac yn unol a thargedau yr Awdurdodau Lleol (Fflint a Wrecsam) a’r Urdd. Amdanom ni
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.
Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20.
Anfonwch ffurflen gais ar e-bost at [email protected]
Cyflog
💰 £22,295 - £24,952
Lleoliad
📍 Hyblyg, Sir y Fflint, Wrecsam, Dinbych
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ieuenctid Y Fro
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddog Ieuenctid Y Fro
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Darparu ac ymestyn, dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr, gynnig gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc yn seiliedig ac yn unol a thargedau yr Awdurdodau Lleol ( Bro Morgannwg) a’r Urdd.
Cyflog
💰 £22,295 - £24,952
Lleoliad
📍 Bro Morgannwg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Senedd Cymru yn edrych am Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y swydd hon wedi’i lleoli yn rhanbarth canolbarth a gorllewin Cymru. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ddarparu gweithgareddau ymgysylltu gyda phobl ifanc mewn ysgolion, colegau a sefydliadau...
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Senedd Cymru yn edrych am Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc (Bae Caerdydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn gweithio yn Nhŷ Hywel ym Mae Caerdydd fel arfer ond, yn unol â Rheoliadau a chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru, byddwch yn gweithio gartref i ddechrau. Cewch y cymorth a’r cyfarpar...
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.