Swyddi Cymraeg — Peirianneg
1 swydd yn cyfateb
Peirianwyr Gwresogi
Mae Adra yn edrych am Beirianwyr Gwresogi
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Peirianydd Gwresogi Nwy / LPG - £29,298 ac hefyd Peirianydd Gwresogi Nwy/LPG/Olew/Ynni Adnewyddadwy/Tanwydd Solet £31,308
Ni yw Adra. Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru. Nid ydym yn sefydliad sy'n aros yn ei unfan. Dros y blynyddoedd i ddod byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi y tu allan i'r sir, gyda'r uchelgais i fod yn darparu cannoedd fwy o gartrefi o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Er ein bod yn uchelgeisiol iawn, rydym yr un mor benderfynol o amddiffyn a datblygu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Telerau ac Amodau
Peirianydd Gwresogi Nwy / LPG - £29,298
Peirianydd Gwresogi Nwy/LPG/Olew/Ynni Adnewyddadwy/Tanwydd Solet £31,308
40 awr yr wythnos, 08:00-16:30 dydd Llun i ddydd Gwener
25 diwrnod o wyliau y flwyddyn
Cytundeb Parhaol
Lleoli yng Ngogledd Cymru
Tal salwch galwedigaethol yn dilyn y 6 mis cyntaf
Rydym yn annog ceisiadau gan ferched, tenantiaid a grwpiau lleiafrifol sydd at hyn o bryd yn cael eu tan-gynrychioli yn ein gwelthlu.
Mae’r gallu cyffredinol i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys dweud enwau lleoedd / enwau Cymraeg, rhoi a derbyn manylion, rhoi cyfarchiad dwyieithog yn hanfodol ar gyfer y swyddi yma.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan, www.adra.co.uk
Dyddiad Cau: Hanner Dydd 16/06/2022
Cyflog
💰 £29,298 - £31,308
Lleoliad
📍 Gogledd Cymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.