Swyddi Cymraeg — Trefnu digwyddiadau
16 swydd yn cyfateb
Trefnydd Celfyddydol Eisteddfod yr Urdd
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Drefnydd Celfyddydol Eisteddfod yr Urdd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Mae Adran yr Eisteddfod a’r Celfyddydau yn cynnal un o’r gwyliau teithiol mwyaf ar gyfer plant a phobl ifanc yn Ewrop, yn ogystal â chynnal nifer o brosiectau cymryd rhan i ieuenctid Cymru dros y flwyddyn. Ein prif nod yw cynnig Llwyfan i Bawb, drwy ddarparu profiadau a chyfleoedd celfyddydol o ansawdd uchel drwy’r Gymraeg i blant a phobl ifanc o bob cefndir yng Nghymru a thu hwnt.
Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol fydd yn gallu datblygu elfennau celfyddydol a chystadleuol Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, gan gynnwys datblygiadau’r ŵyl, y cystadlaethau, a’r arlwy ar y maes.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Llio Elain Maddocks: [email protected]
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected]
Dyddiad Cau – 17:00 Dydd Mawrth, 1af o Fawrth 2023
Dyddiad Cyfweld – Dydd Mawrth, 14eg o Fawrth 2023
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £37,519 - £42,404
Lleoliad
📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Gynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau) i ymuno â’n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL –
Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio’n effeithiol heb oruchwyliaeth barhaus a chyfrannu tuag at amgylchedd gyfeillgar a chreadigol y Ganolfan. Bydd yn cydweithio’n agos ac yn effeithiol gyda’r Cydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau er mwyn cefnogi gweithgareddau amrywiol yn y ganolfan ac ar-lein gan sicrhau trefniadaeth llyfn ac effeithiol. Elfen bwysig arall o’r rôl yw cefnogi rhaglen greadigol Yr Egin gan gynorthwyo’r Swyddog Cyfathrebu i hyrwyddo digwyddiadau byw, cynadleddau, sinema a gweithdai, ynghyd â sicrhau defnydd effeithiol o feddalwedd swyddfa docynnau a phlatfformau digidol a chyfryngau cymdeithasol.
Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'.
- AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau), bydd arnoch angen y canlynol:
- Addysg gyffredinol dda
- Tystiolaeth o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel
- Profiad o weinyddu trefniadau cyfarfodydd, cynadleddau neu ddigwyddiadau
- Profiad blaenorol o ddarparu cefnogaeth weinyddol o safon
- Hyddysg mewn TG ac yn meddu ar wybodaeth am becynnau Microsoft Office, a phlatfformau'r cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein
- Y gallu i gydlynu gweithgareddau’n effeithiol
- Medrusrwydd gyda phlatfformau arlein
- Yn barod i weithio’n hyblyg, gan gynnwys teithio rhwng campysau a lleoliadau pan fo angen
- Cydnabod yr angen am gyfrinachedd priodol a gallu gweithredu ar hynny
- Dangos parch tuag at ystod amrywiol o bobl
- Siaradwr/aig Cymraeg gyda’r gallu i sgwrsio’n hyderus yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gyda’r gallu i ysgrifennu am faterion annhechnegol*
Byddai’n fuddiol hefyd pe bai gennych y canlynol:
- Profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad digwyddiadau byw, theatr neu sinema
- Diddordeb brwd yn y diwydiannau creadigol.
- BUDDION -
- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith
Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl y Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau), gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Dyddiad cau: 8 Chwefror 2023, 11:59pm
Cyflog
💰 £21,197 - £23,144
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Technegol
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Technegol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Technegol i ymuno â'r tîm.
Cyfle i arwain ar drafodaethau cytundebol, paratoi’r cynlluniau a’r polisïau ar gyfer adeiladu a dymchwel y Maes, ynghyd â chynllunio’r Maes a’i adnoddau, iechyd a diogelwch, y cynllun trafnidiaeth, rheoli contractwyr ar y Maes, cynaliadwyedd a llawer mwy.
DISGRIFIAD SWYDD
Prif Ddyletswyddau
- Arwain, cynghori a chynrychioli’r Eisteddfod yn weithredol mewn trafodaethau, gan gynnwys trafodaethau cytundebol, gyda rhanddeiliaid a phartneriaid perthnasol allanol gan sicrhau fod yr holl brosesau cyfreithiol a chydymffurfiaeth perthnasol yn cael eu dilyn. Hyn yn cynnwys asiantaethau allanol megis y BBC a chwmnïau darlledu eraill.
- Arwain trafodaethau a chynghori rhanddeiliaid perthnasol er mwyn paratoi dogfennau cynllunio a pholisïau e.e. cynlluniau trafnidiaeth, polisi llygredd, cynlluniau argyfwng ayyb.
- Paratoi a chyflwyno ceisiadau am y trwyddedau angenrheidiol.
Cynhyrchu, rheoli, a diwygio’r Cynlluniau Rheoli Digwyddiadau (CRhA) fel bo’r angen.
- Paratoi dogfennau cydymffurfiaeth gan rannu gwybodaeth perthnasol gyda chyd-weithwyr.
- Paratoi, a rheoli’r broses o sicrhau cytundebau ffafriol gyda’r holl gwmnïau sy’n darparu adnoddau technegol i’r Eisteddfod.
- Paratoi ac arwain ar adolygu cynlluniau holl feysydd yr ŵyl gan sicrhau gwasanaethau addas priodol.
- Rheoli iechyd a diogelwch yr ŵyl gan gynnwys cydymffurfiaeth gyda rheolau CDM.
- Rheoli cynllun trafnidiaeth yr ŵyl.
- Paratoi, adolygu a rheoli amserlen paratoi a dymchwel y Maes.
- Sicrhau bod yr holl drefniadau technegol yn gweithredu’n llyfn ac yn effeithiol yn ystod yr ŵyl.
- Paratoi cynllun ac arolygu’r drefn stiwardio.
- Rheoli contractwyr ar y maes fel bo’n berthnasol e.e. timau diogelwch, glanhau, ayyb.
- Rheoli prosiectau cynllunio a gweithredu holl feysydd yr ŵyl gan gynnwys materion cytundebol, staffio, hyfforddi, rhanddeiliaid, cwsmeriaid a chyllidebau.
- Arwain ar Gynlluniau Cynaliadwyedd y corff.
- Goruchwylio Amserlenni Cynhyrchu Digwyddiadau.
- Rheoli a datblygu staff y storfa.
- Cydgordio a goruchwylio’r cyfundrefnau amrywiol ar Faes yr Eisteddfod e.e. hygyrchedd, rheoli cerbydau.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £41,800 - £44,365. Penodir ar waelod y raddfa.
Dyddiad cau: 8 Chwefror 2023
Cyfweliadau: 16 / 17 Chwefror (lleoliad i’w gadarnhau).
Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Mae croeso i chi gysylltu â [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £41,800 - £44,365
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Digwyddiadau Chwaraeon Cenedlaethol
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddog Digwyddiadau Chwaraeon Cenedlaethol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ac yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ymysg bwrlwm ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Am fwy o fanylion cysylltwch â Tom Birkhead, Rheolwr Digwyddiadau Chwaraeon yr Urdd [email protected]
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau – 13 Ionawr 2023, 12:00yp
Dyddiad Cyfweld – i’w gadarnhau Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £25,211 - £28,223
Lleoliad
📍 Gogledd Cymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Gweithrediadau
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn edrych am Bennaeth Gweithrediadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wedi’i sefydlu bron 120 o flynyddoedd yn ôl, ond gydag agwedd sy’n gadarn o gyfoes, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn llenwi lle unigryw yn nhirwedd wledig a diwylliannol Cymru. Fel elusen gofrestredig, ein nod craidd yw hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy, garddwriaeth, coedwigaeth, cadwraeth a’r amgylchedd yng Nghymru. Rydym yn cyflawni’r amcanion hyn trwy gynnal tri digwyddiad mawr bob blwyddyn, ochr yn ochr â nifer o wobrau, bwrsarïau ac ysgoloriaethau.
Yn ychwanegol at ein digwyddiadau ein hun, rydym yn croesawu nifer o ddigwyddiadau trydydd parti ar ein maes sioe 150 erw, sy’n cynhyrchu incwm allweddol i fod yn sail i’n gwaith elusennol.
Gan edrych ymlaen bydd angen i’r Gymdeithas, fel pob sefydliad, ddatblygu i barhau’n berthnasol. Mae gennym nifer o brosiectau cyffrous yn yr arfaeth ac ymgyrch i gofleidio newid a thyfu llwyddiant ein digwyddiadau.
Felly, mae Pennaeth Gweithrediadau yn aelod allweddol o Uwch Dîm Arwain y Gymdeithas, gan adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr, a gweithio’n agos â Chyfarwyddwyr Digwyddiadau Anrhydeddus y Gymdeithas, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Cadeiryddion a Phwyllgorau.
Cyfrifoldebau Allweddol
Bydd gan Bennaeth Gweithrediadau gyfrifoldeb am gynllunio, cydlynu, a chyflawni holl agweddau gweithredol ein digwyddiadau mewnol, yn cynnwys:
· paratoi Cynlluniau Rheoli Digwyddiadau,
· caffael a rheoli contractau gwasanaethau allweddol a hurio yn cynnwys diogeledd, rheoli traffig, parcio, giatiau a mynedfeydd, pebyll, glanhau, rheoli gwastraff, cyfathrebu a system sain ayb.
· arolygu’r holl gystadlaethau da byw a goruchwylio’r Adran Dda Byw,
· arolygu a goruchwylio’r Adran Stondinau Masnach,
· diogelwch digwyddiadau a chyswllt â’n Cynghorydd Iechyd a Diogelwch,
· trwyddedu a chydymffurfiaeth,
· cynllunio at argyfyngau,
· rheolaeth llinell staff a gweithio’n agos â gwirfoddolwyr, aelodau, pwyllgorau a grwpiau rhanddeiliaid allweddol.
Tîm bychan ydym a bydd yna orchwylion sy’n disgyn y tu allan i’r cyfrifoldebau allweddol uchod. Felly, bydd angen ichi fod yn hyblyg ac yn barod i addasu yn ôl y gofynion.
Pennaeth Gweithrediadau yw’r swyddog arweiniol sy’n gyfrifol am ddarparu’r Ffair Aeaf hefyd.
Mae hon yn swydd gyffrous ac rydym yn chwilio am rywun i ymuno â’r tîm am y tymor hir a’r bwriad yw y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn tyfu ac yn datblygu gyda ni ac y bydd yn rhan ganolog o’r Gymdeithas a’i dyfodol.
Ynglŷn â Chi
Mae’r priodoleddau canlynol yn rhinweddau pwysig ar gyfer y swydd. Sylweddolir efallai na fydd un ymgeisydd yn meddu arnynt i gyd. Serch hynny, defnyddiwch eich cais i ddangos sut y gall eich profiad, eich sgiliau a’ch gwybodaeth gwrdd â gofynion cyflawni’r swydd hon.
Profiad
· Hanes o lwyddiant blaenorol yn rheoli digwyddiadau.
· Profiad o weithrediadau y gellir ei ddangos.
· Rheoli contractau a chyflenwyr.
· Gwybodaeth am iechyd a diogelwch a rheoli risg.
· Cynhyrchu, rheoli a gwerthuso cyllidebau.
· Rheoli staff a gweithio fel tîm.
Sgiliau a gwybodaeth
· Llythrennedd TG rhagorol
· Yn dra threfnus.
· Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
· Sgiliau rheoli amser rhagorol, gallu i flaenoriaethu, gweithio dan bwysau ac amldasgio.
· Sgiliau cyflwyno rhagorol yn Saesneg (hanfodol) a Chymraeg (dymunol) – ar lafar ac yn ysgrifenedig.*
· Menter a chreadigrwydd.
· Sylw astud i fanylion.
· Ymarweddiad cyfeillgar, agos-atoch a hyderus.
I drafod y swydd yn anffurfiol, anogir ymgeiswyr i gysylltu â’r Prif Weithredwr, Aled Rhys Jones ([email protected]).
I wneud cais am y swydd hon, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at Caron W Evans, Pennaeth Gweinyddiaeth ([email protected]).
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 canol dydd ar 3 Ionawr 2023.
Byddir yn cynnal cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 16 Ionawr 2023.
Gweler manylion y pecyn buddion a’r telerau cyflogaeth cyffredinol yn y ddogfen ategol.
* Ystyrir sgiliau yn y Gymraeg yn gaffaeliad i’r sefydliad. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau yn y Gymraeg yn y gweithle.
Cyflog
💰 Tua £40,000
Lleoliad
📍 Llanfair-ym-Muallt, Hyblyg, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Gynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau) i ymuno â’n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos.
Disgrifiad:
Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)
Campws Caerfyrddin (gyda theithio i gampysau eraill yn ôl yr angen)
£21,197 i £23,144 y flwyddyn
- AMDANOM NI -
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau) i ymuno â’n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL –
Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio’n effeithiol heb oruchwyliaeth barhaus a chyfrannu tuag at amgylchedd gyfeillgar a chreadigol y Ganolfan. Bydd yn cydweithio’n agos ac yn effeithiol gyda’r Cydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau er mwyn cefnogi gweithgareddau amrywiol yn y ganolfan ac ar-lein gan sicrhau trefniadaeth llyfn ac effeithiol. Elfen bwysig arall o’r rôl yw cefnogi rhaglen greadigol Yr Egin gan gynorthwyo’r Swyddog Cyfathrebu i hyrwyddo digwyddiadau byw, cynadleddau, sinema a gweithdai, ynghyd â sicrhau defnydd effeithiol o feddalwedd swyddfa docynnau a phlatfformau digidol a chyfryngau cymdeithasol.
Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'.
- AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau), bydd arnoch angen y canlynol:
- Addysg gyffredinol dda
- Tystiolaeth o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel
- Profiad o weinyddu trefniadau cyfarfodydd, cynadleddau neu ddigwyddiadau
- Profiad blaenorol o ddarparu cefnogaeth weinyddol o safon
- Hyddysg mewn TG ac yn meddu ar wybodaeth am becynnau Microsoft Office, a phlatfformau'r cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein
- Y gallu i gydlynu gweithgareddau’n effeithiol
- Medrusrwydd gyda phlatfformau arlein
- Yn barod i weithio’n hyblyg, gan gynnwys teithio rhwng campysau a lleoliadau pan fo angen
- Cydnabod yr angen am gyfrinachedd priodol a gallu gweithredu ar hynny
- Dangos parch tuag at ystod amrywiol o bobl
- Siaradwr/aig Cymraeg gyda’r gallu i sgwrsio’n hyderus yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gyda’r gallu i ysgrifennu am faterion annhechnegol *
Byddai’n fuddiol hefyd pe bai gennych y canlynol:
- Profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad digwyddiadau byw, theatr neu sinema
- Diddordeb brwd yn y diwydiannau creadigol
- BUDDION -
- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith
Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl y Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau), gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Dyddiad cau: 30 Tachwedd 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £21,197 - £23,144
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Gydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.
Rydym ni nawr yn edrych am Gydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau i ymuno â ni ar sail llawn amser, parhaol, yn gweithio am 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL -
Byddwch yn darparu cymorth i'r Rheolwr Cyffredinol i gyflawni rhaglen eang o ddigwyddiadau corfforaethol a phrosiectau creadigol. Byddwch yn gyfforddus mewn sgyrsiau creadigol a thechnegol a meddu ar brofiad o gytundebu, prisio ac anfonebu am waith. Byddwch yn ymgymryd â gwaith trefnu rhaglen Yr Egin, er enghraifft digwyddiadau byw, cynadleddau, sgyrsiau, dangos ffilmiau a gweithdai yn ogystal ag arwain ar y ddarpariaeth i gleientiaid allanol sy’n dymuno llogi gofod ac adnoddau.
Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.
- AMDANOCH CHI -
Bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn rheoli prosiectau, digwyddiadau byw neu’r diwydiannau creadigol.
- Sgiliau Rheoli Prosiect gwych, gyda phrofiad o oruchwylio’r broses o gydlynu digwyddiadau byw:
- Sgiliau trefnu rhagorol a'r gallu i weithio’n annibynnol, fel aelod o dîm ac o dan bwysau.
- Gallu blaenoriaethu gwaith, gan wneud penderfyniadau cadarn ac amserol gan ddefnyddio eich ysgogiad eich hun.
- Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, gyda’r gallu i gefnogi ac annog eraill.
- Profiad cyllidebu a datblygu incwm gan weithio i dargedau penodedig.
- Profiad o gyflwyno adroddiadau a chasglu adborth.
- Gwybodaeth a phrofiad o’r defnydd o dechnoleg angenrheidiol ar gyfer digwyddiadau a phrosiectau.
- Hyddysg mewn TG ac yn meddu ar wybodaeth am becynnau Microsoft Office, a phlatfformau ar-lein.
- Ymrwymiad amlwg i gydweithio fel rhan o dîm.
- Ymrwymiad amlwg i gydraddoldeb ac amrywiaeth wrth weithio.
- Parodrwydd i weithio’n hyblyg er mwyn cyflawni gofynion y rôl.
- Cydnabod yr angen am gyfrinachedd priodol.
- Siaradwr/aig Cymraeg rhugl a hyderus, gyda’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ac yn gywir trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:
- Gradd uwch
- Cymhwysterau corff proffesiynol
- Profiad o raglennu artistig – naill ai rhaglennu gŵyl, neu leoliad celfyddydau, neu raglennu ardal ddigidol, ac wedi cael profiad felly o fodelau cynhyrchu gwahanol
- BUDDION –
- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 28 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol
Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach
- Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith
Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Cydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau , ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.
Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.
Dyddiad Cau: 20 Hydref 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £27,929 - £31,411
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Gweithgareddau Cymraeg - Campws Pont-y-cymer
Mae Coleg Gwent yn edrych am Gydlynydd Gweithgareddau Cymraeg - Campws Pont-y-cymer
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am aelod brwdfrydig i ymuno â'r tîm Dwyieithrwydd sy'n teimlo’n angerddol dros yr iaith Gymraeg.
Rhan o'ch rôl fydd cynllunio ac arwain ar weithgareddau allgyrsiol Cymraeg a dwyieithog ar gyfer ein dysgwyr Addysg Bellach ar draws pob campws.
Bydd disgwyl i chi fynychu diwrnodau agored y Coleg, cyfarfodydd allanol a chynadleddau.
Gwahoddir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg rhugl.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Noder y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manylach a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC).
Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol â'n polisi Cyfleoedd Cydraddoldeb. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddi ar gael.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Cyflog
💰 £23,337 - £25,311
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Datblygu Prawf Fasnachu
Mae Menter a Busnes yn edrych am Reolwr Datblygu Prawf Fasnachu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle gwych i weithio ar brosiect o fewn y diwydiant bwyd a diod ffyniannus yng Nghymru sy’n hanfodol i dwf yr economi yng Nghymru. O ganlyniad i gynnydd mewn galw am gefnogaeth y prosiect, mae Cywain yn chwilio am unigolyn i weithio ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig i gynnig cyfleoedd prawf fasnachu amrywiol a chyffrous i fusnesau.
Cefndir Prosiect Cywain Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n rhoi cymorth wedi’i dargedu i fusnesau bach a chanolig a micro yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y prosiect tan fis Mehefin 2023 Mae cefnogaeth yn cael ei ddarparu i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant, yn ogystal â chryfhau eu hintegreiddiad yn y gadwyn gyflenwi. Darperir gwasanaethau ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio gyda busnesau sy’n ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad er mwyn tyfu a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac, yn ganolog i ddatblygiad y cleient, mae gennym agwedd gydlynol tuag at weithio gyda phartneriaid darparu eraill. Mae tri prif ffrwd i’r prosiect:
- Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
- Cefnogaeth Diagnostig
- Clystyru a Chydweithio rhwng busnesau i hybu twf busnes ac effeithlonrwydd **Prif Gyfrifoldebau ** Darpariaeth Gwasanaethau
· Arwain ar elfen prawf fasnachu Cywain ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig sy’n cynnwys sioeau masnach a phrynu o wahanol faint
· Adnabod a chydlynu presenoldeb mewn amrediad eang o ddigwyddiadau addas a fydd yn cynorthwyo busnesau i gael mynediad at farchnadoedd newydd
· Rhoi llwyfan i fusnesau i brawf fasnachu mewn digwyddiadau masnach a chyhoeddus fel ffordd o dderbyn adborth ar gynnyrch/ brand a meithrin hyder wrth werthu cynnyrch
· Cynllunio a gweithredu pob digwyddiad fel prif drefnydd, gan gynnwys anghenion rheoleiddio a threfniant i sicrhau diogelwch bwyd, ac arwain ar gyfathrebu cydlynol gydag aelodau perthnasol o’r tîm
· Gweithio gyda’r tîm i ddarparu cyfres o ddigwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr (Rhithiol, hybrid a go iawn)
· Trefnu a chynnal storfeydd digwyddiadau Menter a Busnes · Cydweithio’n rhagweithiol gyda’r Rheolwyr Datblygu a Rheolwyr Clwstwr perthnasol i sicrhau bod digwyddiadau’n cael eu hyrwyddo a’u hanelu at y gynulleidfa darged mewn modd effeithiol ac amserol
· Rheoli cyllideb benodol ar gyfer trefnu a mynychu digwyddiadau prawf fasnachu a darparu adborth ar ôl y digwyddiadau i’r Rheolwr Prosiect a’r tîm ehangach
· Adolygu a datblygu y meini prawf a’r canllawiau i fusnesau sydd am brawf fasnachu, gan sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion cytundebol y prosiect ac yn bodloni gofynion archwilio perthnasol
· Adnabod, ymchwilio a chael mynediad at ddata deallusrwydd y farchnad benodol sy'n berthnasol ac yn addas ar gyfer anghenion y buddiolwyr targed mewn modd rhagweithiol
· Creu cysylltiadau da gydag unigolion, busnesau a chyrff eraill sy’n ymwneud ag arloesedd, datblygu cynnyrch newydd, datblygu marchnadoedd newydd a dosbarthu er mwyn hwyluso twf busnesau
· Darparu gwasanaeth integredig trwy weithio’n agos gyda Rheolwyr Datblygu Rhanbarthol a’r Rheolwr Prosiect yn ogystal â phartneriaid prosiect, gan gydweithio a mynychu digwyddiadau ar y cyd lle’n bosib
· Trefnu a darparu gweithdai pwrpasol ar themâu penodol i feithrin hyder a sgiliau busnesau sydd am fanteisio ar gyfleoedd prawf fasnachu **Monitro a Gwerthuso **
· Cadw cofnodion manwl o bob gweithgaredd a gwaith papur er mwyn sicrhau monitro a chyflawni targedau prosiect i gydymffurfio gyda systemau adrodd a monitro'r prosiect a Llywodraeth Cymru
· Cynhyrchu adroddiad terfynol ar ddiwedd pecynnau gwaith, a fydd yn adrodd ar gryfderau a gwendidau’r gweithgaredd/cymorth a ddarparwyd
· Monitro, adolygu a chynhyrchu adroddiadau ar dargedau, deilliannau, gwariant a pherfformiad pob digwyddiad prawf fasnachu i’r Rheolwr Prosiect yn unol â gofynion cytundeb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys creu, cynnal a chadw systemau rheolaeth effeithiol er mwyn bodloni gofynion archwilio perthnasol
· Cydymffurfio gyda gofynion ariannol a gwariant y prosiect gan lynu at ganllawiau pwrcasu’r rhaglen **Arall **
· Cyrraedd safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill, a chynnig mewnbwn i aseiniadau bwyd cysylltiedig a gwblheir gan Menter a Busnes yn ôl y galw
· Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
● Addysg hyd lefel gradd, neu gymwysterau cyfwerth, neu brofiad perthnasol ym maes datblygiad bwyd, marchnata, trefnu digwyddiadau neu bwnc perthnasol
● Dealltwriaeth drylwyr o’r sector bwyd-amaeth yng Nghymru, gyda’r gallu i adnabod cyfleoedd i ddatblygu marchnadoedd newydd
● Dealltwriaeth dda a/neu brofiad dangosadwy o weithio gyda chynhyrchwyr bwyd cynradd a’r sector preifat
● Sgiliau trefnu, rheoli a chydlynu rhagorol, gyda phrofiad dangosadwy o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau
● Profiad dangosadwy o reoli cleientiaid ac ymgysylltu gyda chleientiaid / busnesau naill ai wyneb i wyneb, dros e-bost neu dros y ffôn
● Sgiliau rhyngbersonol o safon uchel a phrofiad o ddatblygu rhwydweithiau gwych ar wahanol lefelau (e.e. cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol) o fuddiolwyr posibl i bobl broffesiynol mewn sefydliadau partneriaeth
● Gallu cymell ei hun, a derbyn cyfrifoldeb dros osod ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer cyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd gan roi ystyriaeth i anghenion y cwsmer
● Gallu bod yn rhagweithiol a gyda'r brwdfrydedd i yrru pethau ymlaen yn effeithiol, boed hynny’n annibynnol neu fel rhan o dîm ● Ymwybyddiaeth o safonau diogelwch bwyd a gofynion rheoleiddio’r diwydiant
● Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
● Sgiliau technoleg gwybodaeth o safon uchel gan gynnwys pecynnau Microsoft, cronfeydd data a’r we
● Trwydded yrru lawn a defnydd o gar (bydd teithio ledled Cymru a thu hwnt yn rhan annatod o’r swydd)
● Ar gael i weithio gyda’r nos a thros y penwythnos yn achlysurol Dymunol
● Ymwybyddiaeth eang o ddatblygiad polisi bwyd-amaeth, yn ogystal â strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru
● Gallu gwneud penderfyniadau anodd ac amserol er budd y busnes a/neu’r gwasanaeth, gan gynnwys codi pryderon addas yn ymwneud â darpariaeth y gwasanaeth, cyllidebau ac isgontractwyr mewn modd proffesiynol a gwrthrychol Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Rolant Tomos ar 07964 354 660 Cyfweliadau
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd yma ar ddydd Mercher, 27 Gorffennaf 2022. Os nad yw'r dyddiad yma yn gyfleus, plis nodwch ar y ffurflen gais. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 yb, dydd Iau 21ain o Orffennaf 2022 **Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth **
Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £34,198 - £36,335
Lleoliad
📍 Meifod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Digwyddiadau
Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Swyddog Digwyddiadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Eich gwaith…
Gan weithio yn Amgueddfa Lechi Cymru ac o adref, byddwch yn gweithio gyda’r Tîm Digwyddiadau a phartneriaid cymunedol i ddatblygu a chynnal rhaglen weladwy, berthnasol ac arloesol o ddigwyddiadau cyhoeddus, yn fyw ac ar-lein. Eich rheolwr llinell fydd y Rheolwr Digwyddiadau a byddwch yn gweithio ar draws Amgueddfa Cymru.
Swyddog Digwyddiadau
Amgueddfa Lechi Cymru a gweithio o adref
17.5 awr yr wythnos
Contract 12 mis.
Gradd D £12,185.67 – £15,289.72 y flwyddyn
Bydd yr ymgeisydd yn cael ei benodi ar isafswm y raddfa gyflog hon fel arfer.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 17 Gorffennaf 2022 5:00pm
Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £12,185.67 - £15,289.72
Lleoliad
📍 O gartref, Llanberis
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Trefnydd Technegol Eisteddfod yr Urdd
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Drefnydd Technegol Eisteddfod yr Urdd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn threfnus a brwdfrydig i ymuno gyda’r tîm fel Trefnydd Technegol.
Amdanom ni
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.
Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20. Y Swydd
Eisteddfod yr Urdd yw prif ŵyl gelfyddydol Ieuenctid Ewrop a rydym yn chwilio am unigolyn threfnus a brwdfrydig i ymuno gyda’r tîm fel Trefnydd Technegol. Mae’r rôl gyffrous hon yn delio gyda cytundebau, cyllidebau a gweithrediadau’r Ŵyl, rheoli staff, gwirfoddolwyr, a phartneriaid allweddol yr Eisteddfodau yn flynyddol.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a Chelfyddydau ar 07778 968153 neu [email protected].
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau: 12pm ar y 6ed o Orffennaf
Cyfweliadau: Wythnos yr 11eg i’r 15fed o Orffennaf Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £37,519 - £42,404
Lleoliad
📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Profiad Ymwelwyr
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Swyddog Profiad Ymwelwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn creadigol a brwdfrydig, sydd wrth ei fodd yn rhyngweithio ag eraill, ymuno â'n tîm cyfeillgar yng Nghastell a Gardd Penrhyn. Os ydych ch'n frwd dros natur a chyflwyno profiadau cofiadwy a rhagorol i'n hymwelwyr, dyma'r swydd i chi.
Rydym yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a threfnus i reoli rhaglen o ddigwyddiadau tymhorol i ymwelwyr, o'r dechrau i'r diwedd. Mae'r rôl hon yn gofyn am gysylltiadau gwaith da o fewn tîm a dyhead, arloesedd a'r gallu i gynllunio gwaith a goruchwylio staff a gwirfoddolwyr.
Mae patrymau shifftiau’n cynnwys gwaith ar benwythnosau/gwyliau banc o bryd i'w gilydd, ac yn gofyn ichi ymgymryd ag ychydig o ddyletswyddau rheoli. Mae'r cyfle hwn dros 12 mis yn berffaith ar gyfer unrhyw un sydd eisiau datblygu ei brofiad o fewn y byd Treftadaeth a Thwristiaeth.
Mae gweithio'n ddwyieithog yn bwysig i ni. Rhowch wybod i ni eich gallu o ran eich gallu gyda’r iaith Gymraeg drwy gwblhau'r matrics fel rhan o'ch cais. Mae hyn er mwyn nodi unrhyw anghenion hyfforddi a bydd yn cael ei ystyried fel sgil ychwanegol.
Caiff cyfweliadau eu cynnal ar 14 Gorffennaf, neu'n gynharach, ac rydym yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosibl, oherwydd efallai y byddwn yn cau'r hysbysiad swydd wag yn gynnar. Dyddiad dechrau posibl 27 Gorffennaf.
Sut beth yw gweithio yma?
Fel aelod o dîm darpariaeth gwych Penrhyn, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'r Rheolwr Profiad a Gweithrediadau Ymwelwyr a'r Swyddog Marchnata a Chyfathrebu. Byddwch hefyd yn gweithio â staff a gwirfoddolwyr ein tîm croesawu, yn rhannu straeon, gan ymgysylltu ymwelwyr â'n gwaith cymunedol a chynaliadwyedd.
Mae Castell Penrhyn yn dŷ Fictoraidd wedi'i guddio fel castell neo-Sioraidd anferth, gyda rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau sy'n dod â'r eiddo unigryw hwn yn fyw o fewn waliau'r castell, ac yn yr awyr agored ar ein tir 60 erw hyfryd. Mae ei hanes wedi'i seilio ar gaethwasiaeth, llechi, ysblander a streiciau, ac rydym yn falch o barhau i rannu'r straeon hyn gyda'n cymunedau lleol.
Eich Gwaith
Fel Swyddog Profiad Ymwelwyr, byddwch yn gyfrifol am reoli ein rhaglen o ddigwyddiadau, fel y gwanwyn, Pasg, yr haf, yr hydref, a gaeaf, o'r dechrau i'r diwedd. Bydd cynllunio, cyflwyno dehongliad effeithiol, creu rhaglenni ymgysylltiol a'u gwerthuso, yn hanfodol. Wrth weithio ochr yn ochr â'r tîm, byddwch yn rheoli staff a gwirfoddolwyr i ddatblygu dehongliad ymgysylltiol ac ystyrlon, a all ein helpu i feithrin cefnogaeth am ein gwaith. Bydd deall sut a pham rydym yn ymgysylltu â’n cefnogwyr hefyd yn allweddol i'r rôl hon.
Byddwch yn cyflwyno'r eiddo at safonau uchel, er mwyn sicrhau bod ein cyfathrebu’n glir ac yn gyson ar gyfer ein hymwelwyr. Fel hyrwyddwr cyfathrebiadau da, gwasanaeth a phrofiad ymwelwyr rhagorol, byddwch yn ymuno â thîm brwdfrydig ac yn ymgymryd â’r ddyletswydd o reoli’r rota, yn helpu i gynnal y gweithrediad ymwelwyr.
Am bwy ydym ni’n chwilio?
Mae hon yn rôl sylweddol mewn eiddo prysur, ac rydym yn awyddus i benodi unigolyn sy’n medru ymgymryd â her. Er mwyn cyflawni'r swydd hon yn llwyddiannus, byddwch angen:
- Agwedd hyblyg sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, gyda safonau gwasanaeth cwsmer uchel
- Sgiliau pobl rhagorol a’r gallu i weithio’n dda mewn tîm
- Sgiliau iaith Gymraeg lefel un, Sylfaenol, gyda pharodrwydd i ddatblygu (gweler matrics)
- Profiad o weithio i sawl terfyn amser a rheoli eich llwyth gwaith eich hun
- Sgiliau trefnu a chynllunio rhagorol
- Llygad craff am fanylder a dawn greadigol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Sgiliau TG cryf
Y Peyn
Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.
Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:
- Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd
- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
- Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)
- Cylin pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
Cyflog
💰 £21,684
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Digwyddiadau
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Digwyddiadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes Rheoli Digwyddiadau, i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt ac ar yr un pryd ennill cymhwyster Gradd Meistr mewn Rheolaeth Digwyddiadau.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig sydd â’r ymroddiad i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a thechnegol cryf yn y maes Rheoli Digwyddiadau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael profiad mewn nifer o feysydd arbenigol Rheoli Digwyddiadau, gyda golwg ar ddatblygu i fod yn arweinydd ac arbenigwr y dyfodol yn y disgyblaeth pwysig hwn.
Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory
Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus. Mae cyfle cyffrous wedi codi i arbenigwr yn y maes rheolaeth digwyddiadau i ymuno â'r gwasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau.
Fel rhan o'r swydd byddwch -
Yn ennill profiad o weithio’n draws-adrannol a thraws-asiantaeth fel prif bwynt cyswllt digwyddiadau Gwynedd gan lywio trefnwyr digwyddiadau trwy brosesau swyddogol y Cyngor, ein cymunedau a’n partneriaid.
Yn datblygu cysylltiadau agos a chydweithio gyda busnesau, cymunedau, trefnwyr digwyddiadau a mudiadau o'r sector wirfoddol a chyhoeddus er datblygu'r cyfleoedd adfywio a datblygu economi'r sir yn deillio o gynnal digwyddiadau.
Marchnata hyrwyddo a gwerthu Gwynedd trwy'r digwyddiadau creadigol gan sicrhau delwedd ifanc, egnïol a chyffrous i'r ardal fyddai'n cydweddu ag amcanion y Cyngor.
Yn cael y cyfle i gwblhau cymhwyster MA Gradd Meistr mewn Rheolaeth Digwyddiadau.
Mae datblygu a chefnogi Digwyddiadau yn flaenoriaeth strategol gan y Cyngor. Mae’n faes sydd gyda proffil uchel ac sydd yn dod a buddion economaidd sylweddol i Wynedd.
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae yn edrych am Reolwr Digwyddiadau
Ar gau. Mae’r swydd hon ar gau. Nid oes dyddiad cau wedi ei gofnodi.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Poeni bod dy Gymraeg 'ddim yn ddigon da' ar gyfer y swydd? Os wyt ti'n deall y frawddeg yma, byddi di'n iawn!
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae yn edrych am Gydlynydd Cynadleddau
Ar gau. Mae’r swydd hon ar gau. Nid oes dyddiad cau wedi ei gofnodi.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynllunio, trefnu a hyrwyddo amrywiaeth o gynadleddau a digwyddiadau.
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyrsiau
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Rheolwr Cyrsiau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad: Teitl y Swydd: Rheolwr Cyrsiau Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos) Graddfa: Gweithredol 6 - £34,866 - £40,685 y flwyddyn Lleoliad: Gwersyll Llangrannog Amdanom ni Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol. Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau. Y Swydd Croesawir dros 23,000 o blant a phobol ifanc i Wersyll yr Urdd Llangrannog yn flynyddol. Bydd y swydd yn gyfrifol am drefnu rhaglen ac amserlenni wythnosol a phenwythnos grwpiau sydd yn ymweld ar Gwersyll, gan sicrhau lefel uchel o ofal cwsmer. Am fwy o fanylion cysylltwch â Lowri Jones (Cyfarwyddwr Gwersyll) ar 01239 652140 neu [email protected] Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau – 8 Medi 2023 Dyddiad Cyfweld – 21 Medi 2023 Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Gwybodaeth Ychwanegol: Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Ffurflen Gais
Ffurflen Cyfle Cyfartal
Swydd Ddisgrifiad
Cyflog
💰 £34,866 - £40,685 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.