Swyddi Cymraeg — Addysg
185 swydd yn cyfateb
Cyfieithydd gydag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd
Mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Gyfieithydd gydag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad o gyfieithu gefnogi’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog a chyflawni amcanion Safonau’r Gymraeg. Disgwylir i’r cyfieithydd ddarparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg. Bydd y cydbwysedd rhwng gwaith cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd yn amrywio o wythnos i wythnos yn ddibynnol ar y galw. Yn fras, disgwylir y bydd y cyfieithydd yn treulio tuag 20% o’r oriau gwaith yn cyfieithu ar y pryd.
Disgrifiad:
**Y rôl **
Mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn dymuno penodi cyfieithydd sydd ag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd i ddarparu gwasanaeth cyfieithu testun i’r Brifysgol, ynghyd â chyfieithu ar y pryd yng nghyfarfodydd prif bwyllgorau’r Brifysgol a chyfarfodydd amrywiol eraill. Dyma gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad o gyfieithu gefnogi’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog a chyflawni amcanion Safonau’r Gymraeg. Disgwylir i’r cyfieithydd ddarparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg. Bydd y cydbwysedd rhwng gwaith cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd yn amrywio o wythnos i wythnos yn ddibynnol ar y galw. Yn fras, disgwylir y bydd y cyfieithydd yn treulio tuag 20% o’r oriau gwaith yn cyfieithu ar y pryd.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Dylan Hughes ar [email protected]
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau eraill.
- Darparu gwasanaeth cyfieithu testun sy’n broffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg i adrannau a chyfadrannau academaidd a gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol.
- Darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd sy’n broffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg i adrannau a chyfadrannau academaidd, gwasanaethau proffesiynol a phrif bwyllgorau’r Brifysgol. Bydd gofyn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol gan gynnwys cyfarfodydd a chyfweliadau a drefnir gan Adnoddau Dynol, cyfarfodydd un i un rhwng staff a myfyrwyr, seminarau a darlithoedd cyhoeddus.
- Ymgyfarwyddo â systemau ac offer cyfieithu ar y pryd.
- Bod yn barod i weithio’n hyblyg yn ôl yr angen (e.e. mewn lleoliadau eraill ac eithrio campws Prifysgol Aberystwyth)
- Defnyddio system Cof Cyfieithu a system Llif Gwaith yr Uned Gyfieithu yn effeithiol.
- Cydweithio â thîm o gyfieithwyr i sicrhau bod y gwaith cyfieithu testun yn cael ei flaenoriaethu’n effeithiol a bod y gwasanaeth yn un prydlon.
- Cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd sensitif eu natur a deall pwysigrwydd cyfrinachedd mewn sefyllfaoedd o’r fath.
- Cyfieithu dogfennau sensitif a chyfrinachol eu cynnwys a deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymdrin â’r dogfennau hyn.
- Sicrhau ansawdd y gwasanaeth a gynigir a defnyddio terminoleg gywir a chyson yn unol ag arfer y Brifysgol.
- Ymgynghori â chwsmeriaid am eu hanghenion cyfieithu ar y pryd, e.e. nifer o bobl a fydd yn bresennol, faint o offer fydd eu hangen, natur ac amseru’r digwyddiad.
- Ymgynghori â chwsmeriaid am gynnwys dogfennau a anfonir i’w cyfieithu ac am ddyddiadau dychwelyd gwaith.
- Cydweithio’n effeithiol â chydweithwyr yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg ac â staff a myfyrwyr ar draws holl adrannau’r Brifysgol gan ddarparu cyngor a chefnogaeth ieithyddol briodol o ansawdd uchel.
- Ymrwymo i ofynion Safonau’r Gymraeg.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â deall sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau rhesymol sy’n gymesur â gradd y rôl.
Cyflog
💰 £36,386 - £42,155 pro rata
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Cynrychiolaeth
Mae Undeb Myfyrwyr, Prifysgol Bangor yn edrych am Gydlynydd Cynrychiolaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn amser barhaol uchod yn gweithio yn Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor).
Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol a brwdfrydig i weithio yn adran Datblygu Aelodaeth Undeb Bangor fel Cydlynydd Cynrychiolaeth. Byddwch yn gweithio'n agos gyda Swyddogion Sabothol etholedig Undeb y Myfyrwyr ac yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a darparu gweithgarwch democratiaeth a chynrychiolaeth yn yr Undeb, gan gynnwys Cynrychiolwyr Cwrs, y Cyngor Myfyrwyr, etholiadau a pholisi a gweithgarwch cynrychioliadol UMCB.
Byddwch wedi cael addysg i safon Lefel A (neu gymhwyster cyfwerth) a byddwch yn gweithio fel rhan o'r Tîm Llais Myfyrwyr ac yn gyfrifol am gydlynu a chefnogi'r gweithgarwch democratiaeth a chynrychiolaeth yn unol ag amcanion strategol yr Undeb.
Mae hon yn rôl mewn adran brysur a deinamig ac felly mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol ynghyd â'r gallu i fod yn hyblyg a medru addasu. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio mewn maes cynrychioliadol a democrataidd a chyda dealltwriaeth dda o faterion sy'n bwysig i fyfyrwyr. Byddai profiad o weithio mewn sefydliad amrywiol a gallu i ffynnu mewn sefyllfa waith gyflym ei naws dan arweiniad myfyrwyr yn fantais.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau mor fuan ag sydd yn rhesymol bosib.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, neu dangos ymrwymiad i ddysgu hyd at safon benodedig, yn hanfodol i'r swydd hon.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hynny ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan-amser neu rannu’r swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk.
Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 20 Mawrth 2023.
Dyddiad y cyfweliad: 29 Mawrth 2023.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £24,285 - £27,131
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Personol a Gweinyddwr Cyffredinol
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Gynorthwyydd Personol a Gweinyddwr Cyffredinol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn-amser, barhaol uchod yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys darparu cefnogaeth cynorthwyydd personol i Ddeon y Coleg yn ogystal â chefnogaeth weinyddol gyffredinol ar gyfer gweithgareddau ledled y coleg.
Dylai ymgeiswyr feddu ar addysg hyd at 2 AS neu 1 Lefel A neu NVQ Lefel III (neu gyffelyb) a phrofiad o weithio mewn swydd weinyddol, ym maes addysg yn ddelfrydol. Mae sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da yn hanfodol.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hynny ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan-amser neu rannu’r swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
**Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: **20 Mawrth 2023.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £24,285 - £27,131
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn edrych am Swyddog Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae tîm Marchnata effeithlon ac effeithiol yn hanfodol i lwyddiant parhaus Grŵp Llandrillo Menai.
Mae gan y Swyddog Cyfathrebu rôl allweddol i'w chwarae yn y tîm drwy sicrhau bod y Grŵp yn cael sylw eang/cadarnhaol yn y wasg a’r cyfryngau, tra hefyd yn cefnogi'r adran gyda chynhyrchu cyhoeddiadau a hysbysebion a chynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd deiliad y swydd yn defnyddio ystod o sgiliau a gwybodaeth i'w alluogi i gyfrannu'n effeithiol i ddarparu gwasanaeth marchnata a chyfathrebu o'r radd flaenaf, yn fewnol ac yn allanol. Yn benodol, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ysgrifennu datganiadau o ansawdd uchel i'r wasg ar gyfer ffynonellau newyddion lleol a rhanbarthol, y wefan ac ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd deiliad y swydd naill ai wedi'i lleoli ar gampws y Grŵp ym Mangor neu Llandrillo-yn-Rhos, a bydd disgwyl ymweld â'r campysau eraill yn ôl yr angen.
Yn ogystal, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyfathrebu'n effeithiol â chwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid, y tu mewn a'r tu allan i'r coleg, gyda chyflenwyr a gyda rhanddeiliaid eraill. Bydd hefyd yn cynorthwyo aelodau eraill y Gyfarwyddiaeth Farchnata a Chyfathrebu ac yn ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill ar gais Rheolwr y Tîm Marchnata a Chyfathrebu.
Cyflog
💰 £ 25,569 - £27,747
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyswllt Busnes
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Reolwr Cyswllt Busnes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma wahodd ceisiadau am y swydd lawn-amser, barhaol uchod yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes. Bydd y Rheolwr Cyswllt Busnes yn helpu creu a chynnal cysylltiadau â busnesau a sefydliadau rhanddeiliaid y trydydd sector a’r sector cyhoeddus i sicrhau bod darpariaeth cyrsiau hyblyg yn diwallu eu hanghenion a’u gofynion, gan gyfrannu at dwf economaidd ac ymgysylltu â’r gymuned.
Bydd yr ymgeiswyr yn meddu ar addysg hyd at lefel gradd, a bydd ganddynt brofiad o weithio a chysylltu â busnesau i gyflawni canlyniadau project llwyddiannus yn ogystal â phrofiad o hyrwyddo a marchnata projectau. Mae gallu profedig i feithrin perthnasoedd, rhwydweithiau a phartneriaethau cydweithredol yn hanfodol.
Mae disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hynny ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Caiff ceisiadau hefyd eu hystyried i gyflawni’r swydd yn rhan-amser neu rannu’r swydd. Derbyniwn geisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Cewch wneud ymholiadau anffurfiol i Reolwr y Coleg, Sian Peris Owen ([email protected])
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 19 Mawrth 2023. Ymrwymiad i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £35,333 - £42,155
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd (gydag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd)
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Gyfieithydd (gydag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad o gyfieithu gefnogi’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog a chyflawni amcanion Safonau’r Gymraeg. Disgwylir i’r cyfieithydd ddarparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg.
**Y rôl **
Mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn dymuno penodi cyfieithydd sydd ag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd i ddarparu gwasanaeth cyfieithu testun i’r Brifysgol, ynghyd â chyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd o brif bwyllgorau’r Brifysgol a chyfarfodydd amrywiol eraill. Dyma gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad o gyfieithu gefnogi’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog a chyflawni amcanion Safonau’r Gymraeg. Disgwylir i’r cyfieithydd ddarparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg. Bydd y cydbwysedd rhwng gwaith cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd yn amrywio o wythnos i wythnos yn ddibynnol ar y galw. Yn fras disgwylir y bydd y cyfieithydd yn treulio tua 20% o’r oriau gwaith yn cyfieithu ar y pryd.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Dylan Hughes ar [email protected]
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.
- Darparu gwasanaeth cyfieithu testun sy’n broffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg, ac o’r Saesneg i’r Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg i adrannau a chyfadrannau academaidd a gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol.
- Darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd sy’n broffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg i adrannau a chyfadrannau academaidd, gwasanaethau proffesiynol a phrif bwyllgorau’r Brifysgol. Bydd gofyn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol gan gynnwys cyfarfodydd a chyfweliadau a drefnir gan Adnoddau Dynol, cyfarfodydd un i un rhwng staff a myfyrwyr, seminarau a darlithoedd cyhoeddus.
- Ymgyfarwyddo â systemau ac offer cyfieithu ar y pryd.
- Bod yn barod i weithio’n hyblyg yn ôl yr angen (e.e. mewn lleoliadau eraill ac eithrio campws Prifysgol Aberystwyth).
- Defnyddio system Cof Cyfieithu a system Llif Gwaith yr Uned Gyfieithu yn effeithiol.
- Cydweithio â thîm o gyfieithwyr i sicrhau bod y gwaith cyfieithu testun yn cael ei flaenoriaethu’n effeithiol a bod y gwasanaeth yn un prydlon.
- Cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd o natur sensitif a deall pwysigrwydd cyfrinachedd mewn sefyllfaoedd o’r fath.
- Cyfieithu dogfennau sensitif a chyfrinachol eu cynnwys a deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymdrin â’r dogfennau hyn.
- Sicrhau ansawdd y gwasanaeth a gynigir a defnyddio terminoleg gywir a chyson yn unol ag arfer y Brifysgol.
- Ymgynghori â chwsmeriaid am eu hanghenion cyfieithu ar y pryd, e.e. nifer o bobl a fydd yn bresennol, faint o offer fydd ei angen, natur ac amseru’r digwyddiad.
- Ymgynghori â chwsmeriaid am gynnwys dogfennau a anfonir i’w cyfieithu ac am ddyddiadau dychwelyd gwaith.
- Cydweithio’n effeithiol â chydweithwyr yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg ac â staff a myfyrwyr ar draws holl adrannau’r Brifysgol gan ddarparu cyngor a chefnogaeth ieithyddol briodol o ansawdd uchel.
- Ymrwymo i ofynion Safonau’r Gymraeg.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses ‘Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
- Unrhyw ddyletswydd resymol a gofynnir sy'n gymesur â gradd y rôl.
Cyflog
💰 £36,386 - £42,155
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata: Llysgenhadon
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Marchnata: Llysgenhadon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg yn dymuno penodi unigolyn trefnus, gweithgar ac arloesol i weithredu fel aelod o’r tîm marchnata sydd yn gweithredu strategaeth farchnata’r Coleg gan ganolbwyntio ar arwain a datblygu cynlluniau llysgenhadon dysgwyr a myfyrwyr y Coleg Cymraeg.
Mae’r cynlluniau llysgenhadon yn allweddol i waith marchnata’r Coleg ac mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn rhagweithiol i gymryd perchnogaeth tra’n cyd weithio gydag eraill i ddatblygu’r cynlluniau hyn. Byddwch hefyd yn gweithredu fel aelod o’r tîm marchnata er mwyn cyflawni’r gwaith marchnata a hyrwyddo gwahanol elfennau o strategaeth farchnata’r Coleg gan gynnwys cynnal ymweliadau ysgolion a cholegau addysg bellach yn gyson yn ardal y Gogledd a’r Canolbarth.
Cyflog
💰 £27,929 - £34,308
Lleoliad
📍 Caernarfon, Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Hwylusydd y Gymraeg - Addysg Bellach a Phrentisiaethau
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn edrych am Hwylusydd y Gymraeg - Addysg Bellach a Phrentisiaethau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae'r Grŵp yn awyddus i benodi Hwylusydd Cymraeg - Addysg Bellach a Phrentisiaethau dros dro hyd at Gorffennaf 2023 yn y lle cyntaf (gyda phosibilrwydd am estyniad).
Disgrifiad:
Fel aelod o dîm dwyieithrwydd Grŵp Llandrillo Menai, bydd deiliad y swydd yn ymrwymo i genhadaeth y Grŵp sef ysbrydoli llwyddiant drwy gynnig addysg a hyfforddiant rhagorol ac i werthoedd y Grŵp sef:
- Tegwch
- Ansawdd
- Arloesedd
- Proffesiynoldeb
Pwrpas y Swydd:
Bydd deilydd y swydd yn chwarae rhan allweddol mewn cynyddu’r nifer o ddysgwyr sy’n astudio iechyd a gofal a/neu gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Fel Hwylusydd y Gymraeg - Addysg Bellach a Phrentisiaethau, byddwch yn gweithio gyda staff y colegau a’r tîm dysgu yn y gweithle wrth ddarparu cymorth i diwtoriaid a chefnogi dysgwyr unigol i'w galluogi i gwblhau rhywfaint o'u hastudiaethau yn Gymraeg.
Cyfrifoldebau Cyffredinol yn y Grŵp
- Cyfrannu'n effeithiol at y gwaith o gynnig profiadau dysgu a hyfforddi o ansawdd uchel i bob dysgwr, gan ddarparu gwasanaethau mewn modd priodol ac ymatebol sy'n cyrraedd y safon uchaf bosibl o ran gofalu am gwsmeriaid.
- Bod yn ymwybodol o holl bolisïau, gweithdrefnau, arferion gwaith a rheoliadau'r coleg, a gweithio'n unol â hwy fel y bo'n berthnasol. Yn benodol, cydymffurfio â Chynllun Cydraddoldeb, Polisi Diogelu, Rheoliadau Ariannol, Polisi Iechyd a Diogelwch a Chod Ymddygiad Grŵp Llandrillo Menai.
- Ymgymryd â dyletswyddau rhesymol eraill ar adegau prysur yn ystod y broses dderbyn.
- Ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad staff priodol i'ch cynorthwyo i gyflawni'ch dyletswyddau a darparu gwasanaethau'n effeithiol. Dyletswyddau Penodol:
- Cynorthwyo Grŵp Llandrillo Menai i sicrhau ansawdd uchel mewn darpariaeth dwyieithog ar draws y cwricwlwm.
- Cydweithio â’r tîm Datblygu Dwyieithrwydd, Rheolwyr Maes Rhaglen a thiwtoriaid i adnabod dysgwyr Cymraeg eu hiaith a fyddai'n elwa o hyfforddiant/cymorth ychwanegol i gwblhau elfennau o'u hastudiaethau yn Gymraeg.
- Gweithio gyda’r tîm Datblygu Dwyieithrwydd, Rheolwyr Maes Rhaglen a thiwtoriaid a i gynllunio cymorth un i un a sesiynau grwpiau bach a fydd yn helpu dysgwyr i gwblhau elfennau o’u cyrsiau yn Gymraeg.
- Cynllunio a chyflwyno sesiynau adolygu ar gyfer grwpiau bach o ddysgwyr i'w helpu i baratoi ar gyfer asesiadau cyfrwng Cymraeg a sefyll arholiadau yn hyderus.
- Cydgysylltu â dysgwyr sy’n siarad Cymraeg a darparu sesiynau mentora / cymorth i’w helpu i ailgysylltu a deall pam mae’r Gymraeg yn bwysig ar gyfer dilyniant, addysg uwch a chyflogaeth.
- Cadw cofnodion cywir o bresenoldeb mewn sesiynau mentora / cymorth.
- Monitro a gwerthuso cynnydd dysgwyr drwy gofnodi cyflawniadau yn erbyn amcanion dysgu a bennwyd ymlaen llaw.
- Cefnogi dysgwyr i weithio’n annibynnol trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Cyfeirio dysgwyr at, ac annog nhw i ddefnyddio, adnoddau sy’n eu galluogi i wella neu datblygu eu sgiliau Cymraeg, a’u helpu i gyflawni gwaith yn y Gymraeg.
- Cefnogi tiwtoriaid i ymgorffori'r Gymraeg yn eu harfer.
- Mynychu cyfarfodydd cyson gyda phartneriaid a chyfarfodydd tîm.
- Hyrwyddo gwaith Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chydweithio â’r swyddogion cangen a llysgenhadon.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy’n gydnaws â’r swydd ar gais Pennaeth Sgiliaith.
Cyflog
💰 £ 25,569 - £27,747
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Gweinyddol Ymholiadau
Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych am Gynorthwy-ydd Gweinyddol Ymholiadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn cefnogi'r Brifysgol i recriwtio myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o safon uchel o'r DU yn Gymraeg a Saesneg yn ôl y gofyn.
Prif ffocws eich rôl fydd rhoi gwasanaeth rheoli ymholiadau canolog o'r radd flaenaf i ddarpar fyfyrwyr a'u cynghorwyr – rhieni/gwarcheidwaid ac athrawon. Byddwch yn ymateb i ymholiadau ebost a ffôn allanol drwy roi gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol o safon uchel sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid. Byddwch yn rhoi atebion cynhwysfawr ac amserol.
Byddwch yn datblygu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth gref o’r portffolio o gyrsiau a gwasanaethau a chyfleusterau cysylltiedig sydd yn y Brifysgol. Byddwch yn datblygu gwybodaeth sylfaenol a chadarn am brosesau ymgeisio’r brifysgol. Ar ben hyn, byddwch yn datblygu "ystorfa" o wybodaeth, atebion parod a Chwestiynau Cyffredin i'ch cynorthwyo chi a'ch cydweithwyr i ymateb yn brydlon i ymholwyr. Byddwch yn defnyddio system Rheoli Cysylltiadau â Chwsmeriaid (CRM) y Brifysgol i reoli a phrosesu ymholiadau allanol.
Byddwch yn gweithio o dan gyfarwyddyd y Swyddog Tîm Ymholiadau a byddwch yn rhan o dîm Recriwtio Myfyrwyr y DU ond byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y timau recriwtio myfyrwyr a marchnata ehangach yn ogystal â chydweithwyr yng ngholegau ac ysgolion academaidd y Brifysgol.
Bydd y rôl yn gofyn ichi fod yn hyblyg o ran yr oriau gwaith a bydd hyn yn cynnwys rhywfaint o waith y tu allan i’r oriau arferol yn ogystal â gweithio ar y penwythnos weithiau.
Mae'r swydd hon yn llawn amser ac yn ben a gored (35 awr yr wythnos).
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 16 Chwefror 2023.
Dyddiad cau: Dydd Iau, 16 Mawrth 2023.
Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Cyflog
💰 £21,197 - £23,144
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Darlithydd - Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
Mae Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd yn edrych am Ddarlithydd - Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle wedi codi i ymuno â’r Ganolfan Addysg Feddygol fel Athro – Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg, i ehangu ei chyfadran academaidd ddwyieithog Cymraeg/Saesneg. Bydd yr ymgeisydd yn gweithio’n agos gyda thîm, staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid allanol y rhaglen i gyflwyno addysg sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chefnogi’r myfyrwyr drwy eu taith addysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu yn rhan o’r rhaglen MBBCh israddedig, gan gynnwys datblygu, cyflwyno a gwerthuso modiwlau/rhaglenni cyfrwng Cymraeg/dwyieithog.
Bydd deiliad y swydd yn rhan o gymuned ehangach o staff academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd a ledled Cymru sy’n gweithio tuag at gyflawni nod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef rhoi statws llawn i’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu ac ymchwil yn sector y prifysgolion. Mae angen y rôl yn benodol i hwyluso grwpiau Dysgu Seiliedig ar Achosion felly bydd angen iddynt allu ymrwymo i oriau addysgu penodol ar ddyddiau Llun/Gwener yn ystod semester yr Hydref a dyddiau Mawrth/Gwener yn ystod semester y Gwanwyn (mis Medi tan fis Mehefin).
Bydd hefyd yn goruchwylio a chefnogi myfyrwyr israddedig, ac yn ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol academaidd yn y rhaglen yn ôl y gofyn; gan geisio rhagoriaeth mewn addysgu ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.
Dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster ôl-raddedig ar lefel 7 (neu gyfwerth) mewn pwnc sy’n gysylltiedig â’r biofeddygol neu ofal iechyd neu brofiad perthnasol, y gallu diamheuol i addysgu ar lefel israddedig/ôl-raddedig drwy gymhwyster addysgu, sgiliau cyfathrebu (Cymraeg/Saesneg) rhagorol a’r gallu i gyflwyno syniadau cymhleth a chysyniadol yn eglur ac amrywiaeth o gyfryngau.
Mae’r gallu i gynnig cefnogaeth fugeiliol briodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol, a bod yn diwtor personol iddynt yn y Gymraeg a’r Saesneg yn allweddol i’r rôl.
Mae rhuglder yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Os oes gennych ymholiadau anffurfiol ynglŷn â’r rôl hon, cysylltwch a Dr Awen Iorwerth, Darlithydd Clinigol (Arweinydd Academaidd y Gymraeg) drwy ebostio [email protected]
Oriau amrywiol sydd i’r swydd hon (rhagwelir y bydd yn cynnwys 168 o oriau’r flwyddyn, a byddwn yn cytuno ar y patrwm gwaith maes o law), yn benagroed ac mae ar unwaith. Cyflog: £35,333 - £42,155 y flwyddyn, pro rata (Gradd 6), ond rhagwelir mai £35,333 y flwyddyn, pro-rata fydd uchafswm y cyflog cychwynnol.
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 14 Mawrth 2023. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio’n hyblyg.
Cyflog
💰 £35,333 - £42,155 pro rata
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Darlithydd mewn Newyddiaduraeth a Chynhyrchu Ffeithiol
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Ddarlithydd mewn Newyddiaduraeth a Chynhyrchu Ffeithiol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd ran amser (60% CALl barhaol uchod yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau. Ysgol amlddisgyblaethol yw hon sydd wedi ymrwymo i feithrin gweithwyr proffesiynol creadigol ac uchelgeisiol a meddylwyr beirniadol. Mae’n gartref i staff a myfyrwyr sy’n awyddus i lunio diwylliant cyfoes a’r byd cyhoeddus yn ehangach.
Cyfoethogir yr Ysgol gan ei hethos ddwyieithog gadarnhaol a'i phartneriaethau gyda'r cyfryngau a sefydliadau celfyddydol.
Byddwch wedi'ch addysgu hyd at lefel gradd ôl-radd mewn maes pwnc perthnasol (ac yn ddelfrydol yn meddu ar PhD, neu bron â bod yn barod i’w gyflwyno). Bydd gennych arbenigedd mewn ymarfer newyddiadurol cyfredol, a pheth profiad o addysgu mewn addysg uwch. Mae profiad o gynhyrchu ffeithiol ehangach yn ddymunol.Rydym hefyd yn gofyn i chi ymrwymo i'n gwerthoedd a'n huchelgais i ddarparu addysg ragorol i'n myfyrwyr a fydd o gymorth iddynt wrth gyflawni gyrfaoedd gwerth chweil fel graddedigion.
Mae sut y caiff cynnwys newyddiadurol o safon ei gynhyrchu yn parhau i esblygu'n gyflym. Dyma ddiwydiant lle mae angen sgiliau proffesiynol ac ymarferol newydd yn gyson a bydd y swydd hon yn arbenigo mewn gweithio yn y dirwedd aml-gyfrwng honno. Bydd gofyn i chi gyflwyno’r modiwlau newyddiaduraeth ymarferol presennol ar draws y cwricwlwm israddedig. Bydd cyfleoedd i esblygu’r cwricwlwm newyddiaduraeth a chynhyrchu ar gyfrer y cyfryngau yn ehangach fel rhan o dîm cyfeillgar, colegol o staff sy’n gweithio ar draws meysydd ffilm, y cyfryngau a newyddiaduraeth.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar 1 Medi, 2023.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon. Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn annog ceisiadau gan ystod mor amrywiol â phosibl o ymgeiswyr.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 10 Mawrth 2023
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £35,333 - £42,155 pro rata
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Swyddog Clercyddol
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Uwch Swyddog Clercyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg Gwyddorau Dynol yn awyddus i benodi Uwch Swyddog Clercyddol parhaol, llawn amser i ymuno â Thîm Gweinyddol y Coleg. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol yn benodol am yr Ysgol Gwyddorau Addysgol.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys darparu cefnogaeth weinyddol effeithlon i Bennaeth yr Ysgol a'r Uwch Dîm Gweithredol a threfnu a rhoi prosesau a gweithdrefnau gweinyddol ar waith o fewn yr Ysgol o ddydd i ddydd.
Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg i safon Lefel A neu NVQ Lefel 3 (neu gymhwyster cyfwerth) mewn maes pwnc perthnasol, neu feddu ar brofiad gweinyddol perthnasol. Dylai fod gan yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd brofiad o weithio mewn swyddfa / swydd weinyddol a gallu defnyddio rhaglenni Microsoft Office. Dylai ymgeiswyr fedru dangos sgiliau trefnu ardderchog a’r gallu i drin baich gwaith amrywiol a thrwm.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 27 Chwefror, 2023.
Cewch wneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â: Gwawr Griffiths, Gweinyddwr y Coleg, e-bost: [email protected].
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £24,285 - £27,131
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyswllt Dysgu Seiliedig ar Ymarfer
Mae Prifysgol De Cymru yn edrych am Swyddog Cyswllt Dysgu Seiliedig ar Ymarfer
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae'r Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg yn dymuno penodi swyddog cyswllt dysgu seiliedig ar ymarfer gyda phrofiad Nyrsio / Bydwreigiaeth i ymuno â thîm staff sydd eisoes yn bodoli o yn cyflwyno rhaglenni nyrsio, bydwreigiaeth a pherthynol i iechyd. Ffocws y swyddi yw cefnogi'r goruchwylwyr/aseswyr ymarfer sy'n darparu cydrannau ymarfer y rhaglenni cyn-gofrestru. Cyflwynir hyn mewn ystod o amgylcheddau ymarfer a gwahoddir ymgeiswyr sydd â phrofiad o amgylcheddau gofal y GIG a chyrff/sefydliadau eraill, ac sydd ag ystod o arbenigeddau. Bydd deiliaid y swyddi’n rhoi arweiniad a chefnogaeth ymarferol i fyfyrwyr a staff lleoliad, yn cydgysylltu â'r Brifysgol, ac yn cynorthwyo Penaethiaid Pwnc a'r Pennaeth Dysgu ar Leoliad i gynnal ansawdd y lleoliadau presennol, ac ehangu'r ystod o leoliadau ymarfer a ddefnyddir. Byddant yn dod yn fedrus wrth weinyddu'r ddogfen asesu arferion electronig, yn cyfrannu at brosesau archwilio ac ansawdd/llywodraethu, a bydd yn ofynnol iddynt weithio ar draws sefydliadau darparwyr gofal iechyd yng Nghymru.
Rhaid i ddeiliaid y swydd:
· fod â phrofiad nyrsio ôl-gofrestru a/neu brofiad Bydwreigiaeth ac o hwyluso dysgu ac asesu myfyrwyr mewn ystod o leoliadau gofal iechyd
· meddu ar Gofrestriad Gweithredol gyda'r CNB
· bod yn barod i deithio a gweithio'n hyblyg ledled Cymru.
Bydd gan ddeiliad y swydd ganolfan ar Safle Glyn-taf ond bydd gofyn gweithio o safleoedd darparwyr gofal iechyd ledled Cymru.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Fiona Hook-MacKenzie [email protected]
Os ydych yn ymgeisydd llwyddiannus ac mai hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol (neu os ydych yn gyflogedig gan PSS Ltd ar hyn o bryd), byddwch yn cael eich cyflogi gan Wasanaethau Proffesiynol a Chymorth Cyf, is-gwmni sy'n eiddo'n gyfan gwbl i Brifysgol De Cymru ac sy'n darparu gwasanaethau i'r Brifysgol a Cholegau. Os ydych yn ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Brifysgol De Cymru.
I gael gweld mwy am fanteision gweithio yn PDC: http://tiny.cc/PSSatUSW
Cyflog
💰 £37,474
Lleoliad
📍 Pontypridd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwahodd ceisiadau gan unigolion am le ar ein Bwrdd Cyfarwyddwyr.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn sydd yn awyddus i ddefnyddio’i sgiliau a phrofiadau i ymuno â thîm sy’n arwain corff cynllunio cenedlaethol uchelgeisiol sydd â’r Gymraeg wrth wraidd ei bwrpas a’i weledigaeth.
Mae’r Coleg Cymraeg yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Ry’n ni’n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg.
Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog sy’n agored i bawb ac i ddatblygu gweithluoedd dwyieithog.
Fel Cyfarwyddwr, byddwch yn cymryd rhan mewn penderfyniadau allweddol ar strategaeth a pholisi’r Coleg. Byddwch yn cyfrannu at sgiliau, arbenigedd a gwybodaeth gyfunol y Cyfarwyddwyr er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn cyflawni ei gyfrifoldebau ac yn cynnal safonau uchaf llywodraethu corfforaethol.
Rydym yn chwilio yn benodol am unigolyn sydd â phrofiad o arwain yn strategol, sydd â phrofiad o gynlluniau i hyfforddi a datblygu’r gweithlu addysg, a/neu brofiad ymarferol a diweddar o’r sector ysgolion uwchradd.
Mae’r Coleg hefyd yn awyddus i sicrhau bod gennym Fwrdd sydd yn adlewyrchu poblogaeth Cymru gyfan. Byddwn yn croesawu yn enwedig geisiadau gan bobl ddu ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Bydd y penodiad am gyfnod o bedair blynedd. Disgwylir ymrwymiad o tua diwrnod y mis ar gyfartaledd.
Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored, a gwneir y penodiad ar sail teilyngdod.
Dyddiad Cau: 24 Mawrth 2023
Ceir manylion llawn a ffurflen gais ar wefan y Coleg, www.colegcymraeg.ac.uk/cyfarwyddwrnewydd, neu drwy gysylltu gyda Dr Dylan Phillips ([email protected]).
Cyflog
💰 Di-dâl
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Y Gegin (Barista)
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Gynorthwy-ydd Y Gegin (Barista)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn seiliedig ar gampws Caerfyrddin ond dylid gallu gweithio gartref a bod yn barod i wneud hynny, ac mewn lleoliadau eraill, yn ôl yr angen.
Cyflog Byw yn Wirfoddol
Achlysurol
- AMDANOM NI -
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn meithrin yr wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Rydym yn cynnig dulliau addysgu arloesol, y cyfarpar diweddaraf, a chymorth rhagorol ar draws ystod eang o leoliadau dysgu a chyrsiau.
At hynny, rydym yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn wythfed yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym 'nawr yn chwilio am Gynorthwywyr Y Gegin i ymuno â'n campws yng Nhaerfyrddin.
**Nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol wneud cais**
- Y RÔL –
Bydd gofyn i chi baratoi coffi arbenigol, diodydd poeth a gweini prydiau bwyd i safon uchel gan ddarparu gwasanaeth cwsmer effeithiol a fydd yn ategu at ddatblygiad Yr Egin fel cyrchfan yng Nghaerfyrddin. Mae gan Y Gegin syflaen eang o gwsmeriaid megis y gymuned greadigol sy’n gweithio yn y ganolfan, cynulleidfa digwyddiadau a chynadleddwyr, myfyrwyr a staff y Brifysgol yn ogystal â’r gymuned leol, teuluoedd ac ymwelwyr ac felly mae angen i chi fedru cyfathrebu’n gwrtais a chynnig profiad fydd yn annog y cwsmer i ddychwelyd dro ar ôl tro.
Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol 'Manyleb y Person'.
- AMDANOCH CHI -
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer rôl Cynorthwy-ydd Y Gegin, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Lefel gyffredinol dda o addysg gan gynnwys sgiliau ysgrifennu a rhifiadol da.
- Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
- Profiad blaenorol o ryngweithio â chwsmeriaid mewn amgylchedd gwasanaeth sy'n wynebu'r blaen.
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da.
- Y gallu i ddangos sgiliau trefnu effeithiol.
- Dangos y gallu i ddeall a dilyn cyfarwyddiadau.
- Y gallu i weithio'n effeithiol fel unigolyn gan gynnwys bod heb oruchwyliaeth, fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth ag eraill.
- Gallu a pharodrwydd i weithio'n hyblyg o ran dyletswyddau, patrymau shifftiau, lleoliadau campws ac er mwyn ymateb i anghenion busnes ar fyr rybudd.
- Y gallu i gynnal trafodaeth a ysgrifennu yn y Gymraeg am faterion annhechnegol*
*Mae croeso i chi gyfeirio at unrhyw gymhwyster sy’n profi eich gallu ieithyddol yn y Gymraeg e.e. y Dystysgrif Sgiliau Iaith, neu lefelau dysgwyr Cymraeg.
Byddai hefyd o fantais i'ch cais os ydych yn meddu ar y canlynol:
- Tystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaenol.
- Profiad blaenorol o weithio mewn cegin / amgylchedd bwyta prysur.
- Profiad o goginio sylfaenol.
- Profiad blaenorol o weithio fel gweithredwr til.
- Profiad o gynnal safonau.
- Hyfforddiant Barista.
- BUDDIANNAU -
- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gwyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddiannau gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddiannau i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Cyflog
💰 Cyflog Byw yn Wirfoddol
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymgynghorydd
Mae Partneriaeth yn edrych am Ymgynghorydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
DIBEN Y SWYDD
Meithrin cydweithredu effeithiol ag ysgolion ac Awdurdodau Lleol trwy ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel, i sicrhau bod yr holl staff, ym mhob ysgol yn y bartneriaeth, yn cael cefnogaeth dda mewn meysydd megis Cwricwlwm i Gymru, datblygu a darparu cymwysterau newydd, addysgeg a hunanwerthuso. Bydd y rôl yn hyblyg er mwyn ymateb i anghenion gwahanol pob Awdurdod Lleol, ac wrth wneud hynny i ddeall gofynion ysgolion ledled y Bartneriaeth o ran cymorth. Bydd cynghorwyr yn gweithio'n agos gyda chyd-weithwyr yn yr Awdurdodau Lleol ar ystod eang o fentrau a fydd yn newid wrth i flaenoriaethau newydd godi. Cyfrannu at y broses o lunio a datblygu polisi a chynlluniau strategol; paratoi adroddiadau yn ôl y gofyn; cynrychioli a/neu gynorthwyo'r Uwch-gynghorwyr Strategol ac ymateb i anghenion newidiol, a hynny er mwyn gweithredu'r blaenoriaethau yn y Cynllun Busnes.
Ar gael yn barhaol neu ar secondiad
Bydd opsiynau llawn-amser a rhan-amser/gweithio hyblyg yn cael eu hystyried (hyd at 1 FTE)
Cyflog – Soulbury 13-15 ynghyd â 3 phwynt SPA (neu'n cyfateb i'r telerau ac amodau cyflogaeth yn achos secondiad)
Dylai'r rheiny sy'n dymuno cael eu hystyried ar gyfer secondiad gael cymeradwyaeth eu Corff Llywodraethu cyn gwneud cais.
Dyddiad Dechrau – cyn gynted â phosibl
Cafodd Partneriaeth ei ffurfio ym mis Ebrill 2022 yn dilyn darfodiad ERW. Mae'r consortiwm newydd yn wasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol cwbl integredig, ac mae wedi'i gomisiynu gan dri awdurdod lleol – Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro a Dinas a Sir Abertawe. Ei nod yw darparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel i bob arweinydd, athro ac aelod o staff cymorth i wella'r deilliannau ar gyfer yr holl ddysgwyr. Bydd Partneriaeth hefyd yn gweithio gyda chonsortia, partneriaethau ac Awdurdodau Lleol eraill ledled Cymru, sefydliadau ymchwil, a Llywodraeth Cymru i arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno polisi ledled y tri ALl.
Rydym am benodi athro/athrawes tra effeithiol i swydd Ymgynghorydd, gyda ffocws penodol ar Gymraeg Ail Iaith (Uwchradd). Gan weithio mewn tîm o 12 o ymgynghorwyr eraill, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddatblygu cydweithredu effeithiol gydag ysgolion ac ALlau er mwyn sicrhau bod yr holl staff addysgu a dysgu yn cael cefnogaeth dda mewn meysydd megis Cwricwlwm i Gymru, datblygu a darparu cymwysterau newydd, addysgeg a hunanwerthuso.
Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar hanes profedig o addysgu rhagorol i gefnogi a gwella ymarfer ystafell ddosbarth. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus sicrhau cysondeb o ran mynediad at gyfleoedd a dysgu proffesiynol o ansawdd uchel i bawb, yn ogystal â sicrhau cysondeb o ran cymorth i ysgolion trwy bartneriaethau effeithiol ag Awdurdodau Lleol ac ysgolion.
Darperir manylion llawn am y rôl yn y swydd-ddisgrifiad sydd ynghlwm. Os hoffech drafod y cyfle ymhellach, cysylltwch â Gwennan Schiavone, Uwch Ymgynghorydd Strategol drwy e-bost: [email protected]
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Chwefror 2023.
Cynhelir y cyfweliadau yn yr wythnos yn dechrau ar 27 Chwefror 2023
Cyflog
💰 Soulbury 13 – 15 plus 3 SPA
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan y rhai sy'n dymuno gweithio o bell. Noder y bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu Digwyddiadau Prifysgol Aberystwyth ar y campws (Diwrnodau Agored, Digwyddiadau Ymgeiswyr, Teithiau Campws, Canolfan Alwadau Clirio) ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn, bydd hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu cyfarfodydd staff ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Arweinir y Tîm Ymgyrchoedd Marchnata gan Bennaeth Tîm Ymgyrchoedd Marchnata. Bydd y Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata yn adrodd yn uniongyrchol i'r Rheolwr Ymgyrchoedd Marchnata ac yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata sy'n cyflawni strategaeth farchnata a recriwtio myfyrwyr y Brifysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar draws y cyfryngau digidol a thraddodiadol ac yn cefnogi'r Tîm Ymgyrchoedd Marchnata i gyflawni ymgyrchoedd i recriwtio myfyrwyr Israddedig ac Ôl-raddedig ym mhob marchnad (DU a Rhyngwladol).
Bydd gofyn i Ddeilydd y Swydd weithio 14 awr dros 2 ddiwrnod.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â/ag Lucy Stevenson [email protected].
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.
- Gweithio gyda'r Pennaeth Ymgyrchoedd Marchnata a'r Rheolwr Ymgyrchoedd Marchnata i ddatblygu cynlluniau marchnata ar gyfer ymgyrchoedd recriwtio allweddol, i farchnata cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig yn y DU ac yn Rhyngwladol.
- Arwain ar weithredu ymgyrchoedd a phrosiectau yn erbyn cyllideb benodol a dangosyddion perfformiad allweddol a ddarperir gan y Pennaeth Ymgyrchoedd Marchnata. Adrodd ar gynnydd yr ymgyrch i'r Rheolwr Marchnata yn rheolaidd.
- Olrhain, monitro a dadansoddi cynnydd ac effeithiolrwydd yr ymgyrch - cynhyrchu adroddiadau dadansoddi gan ddangos gwybodaeth cyllidebu a dangosyddion perfformiad allweddol a chreu argymhellion i'r Rheolwr Marchnata a’r Pennaeth Ymgyrchoedd Marchnata ar ddiwedd ymgyrch.
- Arwain gyda syniadau arloesol i ddatblygu ymgyrchoedd creadigol a chystadleuol sy'n integreiddio cyfryngau digidol a thraddodiadol, sy'n sefyll allan yn y farchnad Addysg Uwch.
- Datblygu ac arwain ar weithgareddau meithrin a throsi ar gyfer darpar fyfyrwyr ac ymgeiswyr.
- Datblygu perthynas gref gyda staff o adrannau academaidd ac adrannau gwasanaeth yn y Brifysgol.
- Datblygu a rheoli perthynas â chwmnïau trydydd parti (fel UCAS, The Student Room, Find a Masters) a datblygu cynnwys i farchnata Prifysgol Aberystwyth yn effeithiol.
- Datblygu perthynas gref ag asiantaethau hysbysebu yn y DU ac yn rhyngwladol i gyfrannu at ddatblygu ymgyrchoedd hysbysebu y gellir eu tracio yn erbyn cyllideb benodol a dangosyddion perfformiad allweddol.
Datblygu ac arwain ar weithgareddau ymgysylltu ar-lein i ddarpar fyfyrwyr ac ymgeiswyr i fodloni dangosyddion perfformiad allweddol.
- Ysgrifennu cynnwys deniadol ar gyfer deunyddiau marchnata i fachu sylw’r gynulleidfa.
- Ymchwilio am syniadau ac ysgrifennu a golygu cynnwys ar draws sianeli cyfathrebu marchnata (gwefan, e-byst, sianeli cyfryngau cymdeithasol, llwyfannau ar-lein) i hyrwyddo’r Brifysgol i’n cynulleidfaoedd targed.
- Dilyn canllawiau brand y Brifysgol pryd yn creu deunyddiau marchnata.
- Sicrhau bod cyflenwyr yn cael eu briffio'n llawn ar sut i weithredu Brand gweledol y Brifysgol.
- Cynrychioli'r Brifysgol mewn digwyddiadau allanol a mewnol gan gynnwys Diwrnodau Agored, ffeiriau UCAS ac arddangosfeydd eraill (nid dyma’r rhestr gyflawn).
- Bydd gofyn i ddeiliad y swydd i weithio'n hyblyg ac ar benwythnosau a gyda'r nos o dro i dro.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses ‘Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
- Unrhyw ddyletswydd resymol a gofynnir sy'n gymesur â gradd y rôl.
Cyflog
💰 £29,619 - £35,333 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Hwylusydd y Gymraeg (x 2 swydd) - Campws Pont-y-cymer
Mae Coleg Gwent yn edrych am Hwylusydd y Gymraeg (x 2 swydd) - Campws Pont-y-cymer
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am aelodau brwdfrydig i ymuno â'r tîm Dwyieithrwydd sy'n teimlo’n angerddol dros yr iaith Gymraeg.
Byddwch yn darparu cefnogaeth unigol a grŵp bach i ddysgwyr sy'n siarad Cymraeg er mwyn eu galluogi i gwblhau rhai o'u hastudiaethau yn Gymraeg, ar gyrsiau, chwaraeon a gofal anifeliaid.
Bydd disgwyl i chi fynychu diwrnodau agored y Coleg, cyfarfodydd allanol a chynadleddau.
Byddwch hefyd yn datblygu adnoddau dwyieithog; gan gynnwys termau technegol dwyieithog ar gyfer ein dysgwyr astudiaethau galwedigaethol.
Gwahoddir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg rhugl.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Noder y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manylach a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC).
Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol â'n polisi Cyfleoedd Cydraddoldeb. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddi ar gael.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Cyflog
💰 £24,504 - £26,577
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Hyfforddiant Ymyrraeth gan Wyliedyddion
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Hyfforddiant Ymyrraeth gan Wyliedyddion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn amser dros dro uchod, am gyfnod o 3 mis, yn gweithio yn y Gwasanaethau Myfyrwyr - Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys cyflwyno hyfforddiant ymyrraeth gan wyliedyddion i fyfyrwyr gan wneud hynny wyneb yn wyneb.
Bydd deiliad y swydd wedi cael addysg hyd at 1 Lefel A neu 2 lefel UG neu NVQ Lefel 4 (mewn maes pwnc perthnasol neu gyfwerth) a bydd yn cydlynu rhaglen i gyflwyno sesiynau hyfforddi’r brifysgol ar ymyrraeth gan wyliedyddion, a fydd yn para 1.5 awr, i holl fyfyrwyr presennol y flwyddyn gyntaf, yn Semester 2, blwyddyn academaidd 2022/23. Os bydd amser yn caniatáu, bydd deiliad y swydd hefyd yn trefnu cyfleoedd i fyfyrwyr o flynyddoedd eraill, ac i aelodau staff, ddilyn yr hyfforddiant.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Mae gallu siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 14 Chwefror, 2023.
Cewch wneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â: Helen Munro, Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr, e-bost: [email protected], ffôn: (01248) 388021.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £27,929 - £34,308
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Gweinyddol - Cyfleusterau
Mae Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd yn edrych am Gynorthwy-ydd Gweinyddol - Cyfleusterau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dewch i ymuno â thîm gwasanaethau proffesiynol gwych yn ysgol fusnes gynta’r byd ynghylch gwerth cyhoeddus!
Mae cyfle cyffrous wedi codi i weithio yn Ysgol Busnes Caerdydd. Rydym yn chwilio am rywun i ymuno â'n tîm cyfleusterau proffesiynol, colegol, amrywiol a chroesawgar i ddarparu cymorth gweinyddol i gefnogi'r amrywiaeth eang o wasanaethau'r tîm, gan roi pwyslais penodol ar weithgareddau amgylcheddol ac ymgysylltu â’r gymuned.
Mae'r tîm hwn yn darparu gwasanaethau blaen tŷ a derbynfa, archebu ystafelloedd, reprograffeg, postio a phorthora yn ogystal â bod yn gyfrifol am gynorthwyo gyda rheoli a gwella mannau dysgu ac addysgu, swyddfeydd a mannau cymunedol yr Ysgol. Mae'r tîm hefyd yn gyfrifol am fframweithiau a systemau Diogelwch, Iechyd, yr Amgylchedd a Lles yr Ysgol ac yn bwysig mae'n rhan annatod o agenda cynaladwyedd yr Ysgol, gan arwain ar ehangu a chefnogi ein mentrau a'n datblygiadau amgylcheddol.
Bydd yr oriau gwaith yn seiliedig ar batrwm shifft wythnosol o ddydd Llun i ddydd Gwener a drefnir ymlaen llaw, er mwyn cynnig gwasanaeth derbynfa rhwng 8.00am a 6.00pm, ond bydd angen hyblygrwydd er mwyn cyflenwi ar gyfer gwyliau blynyddol, absenoldebau, a digwyddiadau ad hoc/cynadleddau. Bydd hyn weithiau'n golygu y bydd angen gweithio oriau ychwanegol neu anarferol, a allai gynnwys penwythnosau, er mwyn bodloni gofynion y gwasanaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn creadigol, hyblyg, brwdfrydig a chyfrifol. Bydd yn meddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a gyflwynir yn Gymraeg a Saesneg, neu'n barod i gwblhau hyfforddiant iaith Gymraeg.
Mae llawer o bobl o’r farn bod Ysgol Busnes Caerdydd yn un o ysgolion busnes a rheoli gorau’r deyrnas ac, yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd yn chweched yn eu plith am safon ei hymchwil. Rydyn ni’n addysgu dros 3,500 o fyfyrwyr bob blwyddyn, gan gynnwys dros 1,500 o fyfyrwyr rhyngwladol. Mae gan Ysgol Busnes Caerdydd gyfadran ryngwladol ac ynddi ysgolheigion o’r radd flaenaf. Mae enw da’r ysgol wedi’i helpu i’w denu o sawl rhan o’r deyrnas a’r tu hwnt. Ysgol Busnes Caerdydd yw’r sefydliad cyntaf o’i fath yn y byd sy’n hybu gwerth cyhoeddus, gan ymrwymo i hwyluso gwerth cymdeithasol ac economaidd fel ei gilydd trwy gynnal ymchwil arloesol aml ei meysydd i anawsterau mwyaf cymunedau, cwmnïau a sefydliadau.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon, a hysbysebir ar sail benagored.
Cyflog: £21,197 - £23,144 y flwyddyn (Gradd 3).
Dyddiad Cau: Dydd Sul, 19 Chwefror 2023
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Disgrifiad Swydd
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
O fewn y Tîm Cyfleusterau, bydd y Cynorthwyydd Gweinyddol yn:
• Darparu cymorth gweinyddol ansawdd uchel i'r Ysgol Busnes, gan ymgymryd ag ystod o dasgau gwasanaeth arferol a'u cwblhau i fodloni gofynion gweithredol a gwasanaeth a boddhad cwsmeriaid, ac arwain ar reoli meysydd cyfrifoldeb penodol yn yr Ysgol.
• Rhoi cefnogaeth ac arweiniad ar yr ystod lawn o wasanaethau a ddarperir gan y Tîm.
• Sicrhau bod y Tîm yn cael cefnogaeth a bod dyletswyddau Allweddol, Penodol a Chyffredinol y rôl yn cael eu cyflawni'n broffesiynol.
Dyletswyddau Allweddol
• Delio ag ystod eang o ymholiadau wyneb yn wyneb, ebost a ffôn oddi wrth gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan gynnwys staff, myfyrwyr ac ymwelwyr allanol, mewn modd amserol, cyfeillgar a phroffesiynol, gan nodi eu gofynion ac addasu ymatebion safonol yn unol â hynny, a mynd ati’n effeithlon ac yn effeithiol i nodi neu gyfeirio ystyriaethau at reolwyr neu dimau eraill yn yr Ysgol neu Brifysgol.
• Cydweithio ag eraill o fewn a thu allan i'r Tîm, yr Ysgol a'r Brifysgol ehangach, gan gynnwys arweinwyr academaidd perthnasol yn yr Ysgol, er mwyn gwneud argymhellion ar gyfer datblygu prosesau a gweithdrefnau sefydledig a gweithgareddau a mentrau cynaladwyedd.
• Sefydlu perthnasoedd gwaith gyda chysylltiadau allweddol, yn fewnol ac yn allanol, i helpu i wella lefelau gwasanaeth ac ymchwilio i dechnolegau newydd ac ymarfer a phrosesau nodedig o'r tu allan i'r Ysgol.
• Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r tîm a'r Ysgol Busnes.
• Casglu a dadansoddi data er mwyn diweddaru systemau gweinyddol â gwybodaeth gywir, ac adnabod tueddiadau a phatrymau sylfaenol mewn unrhyw ddata a gyflwynir a gweithredu unrhyw ymatebion safonol, gan gyfeirio unrhyw faterion ansafonol ymlaen fel bo'r gofyn.
• Cyfrannu at lwyddiant y tîm, arwain eraill drwy esiampl a helpu i oruchwylio a rheoli’r Tîm.
Dyletswyddau Penodol
• Bydd Cynorthwywyr Gweinyddol unigol yn y Tîm yn ymgymryd â phob un o'r Dyletswyddau Penodol isod, a’u cefnogi, ond gofynnir iddynt arwain, yn weithredol ac yn ddatblygiadol, ar ran y Tîm ar un ohonynt, neu ar nifer ohonynt.
• Darparu gwasanaeth derbynfa cyfeillgar hynod broffesiynol, wedi'i gyflwyno'n dda, gan weithredu fel pwynt cyswllt cychwynnol ar gyfer ystod eang o gwsmeriaid mewnol ac allanol a darparu gofal cwsmer o'r safonau uchaf wrth gyfarfod, cyfarch a chyfarwyddo cwsmeriaid ac ymwelwyr.
• Hwyluso system mynediad diogelwch y wefan, agor a chau’r adeiladau ar sail patrwm shifft, gan gysylltu'n uniongyrchol â Diogelwch i sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg yn llyfn.
• Hysbysu am ddiffygion cynnal a chadw a'u cofnodi, a chofnodi tasgau neu waith angenrheidiol gydag Ystadau'r Brifysgol, a, gan ddefnyddio Porth Cyfleusterau Cymorth yr Ysgol, monitro ac olrhain hynt y gwaith a darparu adborth rhagweithiol i randdeiliaid mewnol, gan gyfeirio unrhyw bryderon o ran cynnydd at reolwyr yr Ysgol.
• Cynnal deunydd ysgrifennu, reprograffeg, cyfleusterau a chyflenwadau traul AV staff yr Ysgol, archebu stoc, cysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau bod y stoc mwyaf priodol ar gael, gan gynnwys bodloni ystyriaethau cynaladwyedd, a monitro gwariant yn erbyn y gyllideb.
• Cyflawni dyletswyddau porthora ysgafn, oddi mewn a rhwng adeiladau'r Brifysgol.
Parhaodd y Disgrifiad Swydd mewn Gwybodaeth Ychwanegol
Manyleb Unigolyn
Meini Prawf Hanfodol
1. NVQ 2/TGAU A-C neu gymwysterau neu brofiad gwaith cyfatebol.
2. Profiad helaeth o weithio mewn gweithle gweinyddol neu swyddfa.
3. Gallu diamheuol i ddefnyddio pecynnau TG swyddfa cyffredin (e.e. MS Office).
4. Gallu diamheuol i sefydlu systemau a gweithdrefnau gweinyddol safonol.
5. Gallu a brofwyd i gyfathrebu'n effeithiol ac yn broffesiynol gydag amrywiaeth eang o bobl, mewn dulliau ysgrifenedig a llafar ac yn Gymraeg a Saesneg, neu fodlonrwydd i ddysgu.
6. Gallu a brofwyd i weithio fel aelod effeithiol o’r tîm, a rhoi cyngor ac arweiniad i aelodau eraill y tîm yn ôl yr angen.
7. Ymrwymiad cryf, â thystiolaeth, i wasanaeth cwsmeriaid.
8. Gallu amlwg i ymdopi â cheisiadau estynedig am wybodaeth neu wasanaeth, a datrys problemau cwsmeriaid lle bo'n briodol.
9. Tystiolaeth o allu i gynllunio, blaenoriaethu a threfnu eich gwaith eich hun o fewn amserlenni y cytunir arnynt.
10. Gallu pendant i gymryd y cam cyntaf wrth ddatrys problemau ac ymateb i ymholiadau, gan gydymffurfio â gweithdrefnau ac arferion safonol.
Meini Prawf Dymunol
1. Profiad o ddarparu gwasanaethau cyfleusterau, a thechnolegau a systemau cyfleusterau cysylltiedig, mewn amgylchedd swyddfa a/neu addysgol.
2. Profiad o weithredu systemau a fframweithiau SHEW. Gwybodaeth Ychwanegol
Disgrifiad Swydd – parhad
Dyletswyddau Penodol
• Cefnogi pwyllgorau a chyfarfodydd perthnasol, gan gynnwys paratoi agendâu a phapurau, cymryd cofnodion a monitro a dwysáu gweithredoedd y cytunwyd arnynt ar ran y Cadeirydd.
• Bod ar gael ar gyfer digwyddiadau y tu allan i oriau gwaith, gyda'r nos ac ar benwythnosau, drwy drefniant y cytunir arno ymlaen llaw.
• Cynorthwyo gyda chyfleusterau, materion diogelwch, cynnal gweithdrefnau agor a chau adeiladau yn amserol, gwirio a monitro ystafelloedd seminar, mannau cyfarfod a chyffredin yn ôl amserlenni y cytunwyd arnynt, gan hysbysu am ddiffygion neu eu datrys, a gosod ystafelloedd yn ôl manylebau a geir ymlaen llaw.
• Gweithredu system Diogelwch, Iechyd, yr Amgylchedd a Lles (SHEW) yr Ysgol, gan gynnwys gwerthusiadau DSE staff, gan weithredu neu ddwysáu camau lliniaru gofynnol, gweinyddu ac adolygu asesiadau risg, cysylltu ag arweinwyr gweithgaredd academaidd a gwasanaethau proffesiynol i gyflawni'r rhain, a dangos dull gweithio rhagweithiol i gefnogi agenda cynaladwyedd yr Ysgol.
• Cefnogi gwasanaeth archebu ystafelloedd yr Ysgol, yn geisiadau ad-hoc a hefyd y cysylltiadau agos â gweithgareddau amserlennu.
• Gweithredu gwasanaethau post yr Ysgol, gan gynnwys rheoli cyllidebau ac ail-daliadau cysylltiedig, cysylltu â chyflenwyr technoleg a gwasanaethau allanol a darparu cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid ar y gwasanaethau mwyaf priodol i'w hanghenion.
• Gweinyddu a chynnal rhwydwaith arwyddion digidol yr Ysgol, gan sicrhau bod y cynnwys yn gyfredol ac yn berthnasol ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth briodol, gan ddarparu cyngor ac arweiniad i ddefnyddwyr gwasanaeth.
• Gweithredu gwasanaethau reprograffeg yr Ysgol, gan gynnwys rheoli cyllidebau ac ail-daliadau cysylltiedig, cysylltu â chyflenwyr technoleg a gwasanaethau allanol a darparu cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid ar y gwasanaethau mwyaf priodol i'w hanghenion.
Dyletswyddau Cyffredinol
• Dylech chi allu dangos eich bod yn cyd-fynd ag egwyddorion yr ysgol, sydd wedi’u pennu yn unol â’i strategaeth dros werth cyhoeddus.
• Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffyrdd addas a fydd yn gwella eich gwaith yn y swydd.
• Cyfrannu at weithgareddau ehangach Gwasanaethau Proffesiynol yr Ysgol.
• Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau .
• Cadw at bolisïau’r Brifysgol ynghylch diogelu gwybodaeth (gan gynnwys rhwymedigaethau GDPR y Brifysgol), Diogelwch, Iechyd, yr Amgylchedd a Llesiant (SHEW), a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI).
• Cyflawni o bryd i’w gilydd ddyletswyddau eraill sydd heb eu crybwyll uchod ond yn cyd-fynd â'r rôl.
Cyflog
💰 £21,197 - £23,144
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Swyddog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan weithredol wrth ymgymryd â gweithgareddau gweinyddol rheolaidd o fewn tîm gweinyddol y Gofrestrfa Academaidd yng Nghyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yng Nghyfadran Busnes a’r Gwyddorau Ffisegol neu yng Nghyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd ac wrth ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'r holl randdeiliaid, gan gynnwys ymgeiswyr, myfyrwyr a staff. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at addasu a gwella gweithdrefnau, prosesau, systemau a safonau’r gwasanaeth yn rheolaidd.
I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â Sarah Whitehead ar [email protected]
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.
1. Goruchwylio gwaith pobl eraill o ddydd i ddydd ar lefel weithredol, yn unol â’r dyletswyddau a bennir gan y rheolwr llinell, a/neu gydlynu prosiectau bach a allai gynnwys goruchwylio gwaith tîm y prosiect, monitro canlyniadau a rhoi adborth
2. Cydlynu trefniadau ar gyfer pwyllgorau (a all gynnwys Byrddau Arholi) a/neu weithgorau/cyfarfodydd, a chymryd cofnodion
3. Cyfrannu at grwpiau a rhwydweithiau perthnasol, yn fewnol ac yn allanol, i feithrin perthynas waith effeithiol yn ogystal â throsglwyddo neu dderbyn gwybodaeth neu ddata
4. Cynnal gohebiaeth â staff, myfyrwyr/ymgeiswyr ac eraill i drosglwyddo gwybodaeth yn ogystal â diweddaru deunyddiau ysgrifenedig yn rheolaidd, er enghraifft, llawlyfrau adrannol
5. Ymgymryd â thasgau gweinyddol i gyflawni amcanion a chwblhau gwaith erbyn amser penodol, blaenoriaethu gwaith yn annibynnol a'i ail-flaenoriaethu mewn ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl
6. Darparu cymorth ar gyfer amrywiol ddigwyddiadau a gweithgareddau a allai gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, cofrestru a sefydlu myfyrwyr, Diwrnodau Agored a Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr, arholiadau, gwrandawiadau panel a lleoliadau myfyrwyr; bydd hyn yn golygu cydweithio'n agos ag ystod o adrannau academaidd ac adrannau gwasanaeth proffesiynol ar draws y Brifysgol ac, yn achlysurol, unigolion/sefydliadau allanol yn ôl yr angen
7. Cyflwyno eraill i wybodaeth a gweithdrefnau safonol, er enghraifft, trwy esbonio sut mae'r broses dderbyn yn gweithio i ymgeiswyr neu sut mae rheoliad yn berthnasol i fyfyriwr
8. Cyfrannu'n weithredol at brosiectau bach yn ymwneud â'r maes gwaith perthnasol
9. Gwneud gwaith datrys problemau yn rheolaidd er mwyn datrys materion yn effeithiol
10. Cynnal ymchwil a dadansoddi data neu wybodaeth reolaidd gan ddefnyddio gweithdrefnau sefydledig, er enghraifft, dadansoddi a rhoi sylwebaeth ar ganlyniadau arolygon mewnol
11. Gweithio i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i gwsmeriaid yn ogystal â gwella ac addasu’r safonau gwasanaeth, lle bo'n briodol
12. Datblygu a chynnal gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd priodol yn barhaus er mwyn cyflawni gofynion y swydd, yn rhannol trwy ymgymryd â hyfforddiant a datblygu proffesiynol perthnasol
13. Dirprwyo ar ran y rheolwr llinell fel y bo’n briodol
14. Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n addas i'r swydd.
15. Ymrwymo i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â deall sut mae'n gweithredu o fewn i gyfrifoldebau'r swydd
16. Ymrwymo i'ch datblygiad eich hun a datblygiad eich staff trwy ddefnydd effeithiol o Gynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol
17. Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill o fewn i raddfa'r swydd
Cyflog
💰 £24,285 - £27,131 pro rata
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Academi Sgrîn
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Reolwr Academi Sgrîn
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd dros dro llawn amser uchod yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Phrifysgol Bangor i’n helpu i adeiladu darpariaeth unigryw, ddwyieithog gydag Academi Sgrîn Gogledd Cymru – menter gydweithredol iawn sydd â’r nod o hybu cyfleoedd rhanbarthol i bobl ifanc gael mynediad at gyfleoedd yn y gweithle yn stiwdios cynhyrchu ffilm a theledu yng Cymru. Mae’r fenter hon yn torri tir newydd. Mae’n gofyn am ddull pragmatig ac ar sail gwerth o weithio gyda diwydiant, Addysg Uwch, Addysg Bellach ac ysgolion yng Ngogledd Cymru.
Mae Academi Sgrîn Gogledd Cymru yn rhan o rwydwaith newydd sbon o Academïau Sgrîn sydd wedi’u lleoli mewn prifysgolion a stiwdios ledled Cymru. Bydd academi gogledd Cymru yn canolbwyntio'n arbennig ar hybu sgiliau a chyfleoedd mewn cynhyrchu dwyieithog yn y stiwdio.
Bydd deiliad y swydd wedi cael addysg i lefel gradd, neu brofiad proffesiynol cyfatebol, a bydd yn datblygu ac yn helpu i gyflwyno cynllun busnes cydweithredol a darparu rheolaeth effeithiol o ddydd i ddydd ar gyfer Academi Sgrîn Gogledd Cymru Prifysgol Bangor yn Stiwdios Aria, Llangefni (www.ariafilmstudios.com). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am hyrwyddo Academi Sgrîn fel adnodd a rennir, gan ddarparu cefnogaeth barhaus i gyrsiau Ffilm, y Cyfryngau a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor a chyrsiau partneriaid addysgol eraill gan gynnwys Colegau Addysg Bellach a Chynghrair Sgrîn Cymru wrth iddynt geisio cael mynediad at y cyfleusterau newydd hyn ac ymgysylltu â nhw.
Dylai fod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth dda o gynhyrchu ffilm a theledu a phrofiad o reoli projectau a chyllidebau. Mae sgiliau gweinyddol a sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosibl.
Gwnaed y swydd hon yn bosibl gan gefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â’r gofyniad am wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Bydd y swydd hon ar gampws Bangor, a disgwylir y treulir amser yn rheolaidd yn Stiwdios Aria. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 17 Chwefror 2023.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £35,333 - £42,155
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Tiwtor Cymraeg i Oedolion
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Diwtor Cymraeg i Oedolion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Uned yr Iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn arwain ar ddatblygiad a thwf darpariaeth a gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd ar draws y Brifysgol.
I gefnogi amcanion y Brifysgol o gynyddu darpariaeth a gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, mae Uned yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno ystod o raglenni dysgu a datblygu sgiliau Cymraeg (o ddechreuwyr i hyfedredd) i staff a myfyrwyr.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyflwyno rhaglenni Cymraeg i Oedolion i fyfyrwyr a staff Met Caerdydd ar draws campysau Met Caerdydd ac ar-lein.
Cyflog
💰 £26,396 - £31,411
Lleoliad
📍 Campws Llandaf
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Derbyn (x 3 Swydd)
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Swyddog Derbyn (x 3 Swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn awyddus i benodi tri Swyddog Derbyn Myfyrwyr brwdfrydig i fod yn rhan o'n Tîm Derbyn Myfyrwyr canolog sy’n rheoli ymholiadau ynglŷn â chyrsiau a cheisiadau o Brydain ac yn rhyngwladol ar gyfer Prifysgol Aberystwyth.
Mae rôl Swyddog Derbyn Myfyrwyr yn hynod bwysig o ystyried mai chi yw’r pwynt cyswllt cyntaf yn aml iawn ar gyfer darpar fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Rydym yn chwilio felly am ymgeiswyr sydd ag agwedd gadarnhaol, frwdfrydig, sy'n gyfeillgar, ymroddedig, hyblyg ac sydd ag agwedd broffesiynol at eu gwaith. Rhaid i chi ddangos a darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, gweithio'n dda fel rhan o dîm a gallu gweithio mewn amgylchedd prysur.
Bydd gofyn gweithio ar benwythnosau ac oriau ychwanegol yn achlysurol er mwyn cefnogi'r gwaith o dderbyn myfyrwyr. Byddwch yn rhan o dîm cefnogol sydd â ffocws pendant ac sydd â rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod y Brifysgol yn cyrraedd ei thargedau denu myfyrwyr ac yn dilyn gweithdrefnau a phrosesau cofnodedig ar yr un pryd.
Bydd disgwyl i chi weithio'n agos gyda chydweithwyr yn yr adran Marchnata a Denu Myfyrwyr ac adrannau eraill, gan gyfrannu at ystod o weithgareddau sy'n cefnogi denu a derbyn myfyrwyr israddedig, uwchraddedig, cartref a rhyngwladol.
I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â: Kylie Evans, Pennaeth Gweithrediadau Derbyn Myfyrwyr [email protected]
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.
Darparu profiad cwsmer o'r radd flaenaf i'r rhai sy'n gwneud ymholiadau ac yn gwneud ceisiadau i'r Brifysgol. Bydd disgwyl i chi ddarparu cyngor a gwybodaeth yn hyderus am y cyrsiau a gynigir yn Aberystwyth yn ogystal â rhoi cymorth i'r rhai sy'n gwneud ymholiadau â’r broses o ymgeisio a phrosesau cysylltiedig. Byddwch yn cynorthwyo ymgeiswyr (a'u cynghorwyr) gyda'u hymholiadau, gan sicrhau bod eu ceisiadau'n gyflawn, mynd ar ôl unrhyw ddogfennau sydd ar goll a phrosesu ceisiadau yn unol â'r meini prawf mynediad y cytunwyd arnynt.
• Ymateb yn rhagweithiol i ymholiadau ynghylch astudio o ystod o ffynonellau a chefnogi'r gwaith o drosi’r rhai sy’n gwneud ymholiadau yn ymgeiswyr, ymgeiswyr yn dderbyniadau a derbyniadau yn fyfyrwyr cofrestredig.
• Derbyn, adolygu a phrosesu ceisiadau yn erbyn y meini prawf dethol perthnasol ar lefel israddedig ac uwchraddedig gan ddarpar fyfyrwyr o Brydain a thu hwnt.
• Asesu addasrwydd ymgeiswyr i astudio yn Aberystwyth a gwneud penderfyniadau ar geisiadau ar ôl ymgynghori â Thiwtoriaid Derbyn a/neu gydweithwyr eraill yn ôl yr angen.
• Cefnogi prosesau a gwiriadau statudol i bennu addasrwydd a/neu gymhwysedd ymgeisydd i gofrestru yn y Brifysgol. Gall hyn gynnwys gofynion iaith Saesneg, gwiriadau ariannol, neu ofynion perthnasol eraill.
• Sicrhau bod yr holl benderfyniadau a wneir, a’r data a gesglir yn cydymffurfio â rheoliadau GDPR, y Swyddfa Gartref/Fisâu a Mewnfudo'r DU a’r Brifysgol.
• Cydgysylltu â chydweithwyr mewn adrannau eraill sy'n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i ymgeiswyr cartref a rhyngwladol a'u cynghorwyr. Gall hyn gynnwys, ymhlith eraill, Adran Cydymffurfiaeth UKVI a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol, Gwasanaethau’r Campws, y Gofrestrfa Academaidd, Cyllid a chydweithwyr eraill o fewn yr Adran.
• Gydag arweiniad, datblygu a chynnal cysylltiad adeiladol gyda rhanddeiliaid allanol allweddol a all gynnwys, ymhlith eraill, partneriaid sefydliadol (cartref/rhyngwladol) ac asiantaethau allanol eraill.
• Ymgysylltu â mentrau hyfforddi a datblygu i sicrhau bod gwybodaeth a lefelau arbenigedd yn cael eu cynnal.
• Rhoi arweiniad a chefnogaeth i staff y Brifysgol ar faterion derbyn yn unol â chyfarwyddyd y Pennaeth Derbyn Myfyrwyr.
• Rhoi lefel gyson uchel o wasanaeth bob amser i gwsmeriaid mewnol ac allanol a darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i gefnogi ymgeiswyr a'u cynrychiolwyr trwy'r broses ymgeisio.
• Gwirio a diweddaru gwybodaeth/gofynion mynediad cyrsiau ar wefan y Brifysgol a gwefannau perthnasol eraill e.e. UCAS.
• Cadw at y safonau ansawdd data a sefydlwyd o fewn y Tîm a chyfrannu at welliant parhaus y gwasanaeth derbyn myfyrwyr a ddarperir ar ran y Brifysgol.
• Gwneud argymhellion ynghylch sut y gellir gwella prosesau er mwyn cefnogi profiad yr ymgeisydd, a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu systemau ac arferion gwaith newydd er mwyn gwella gwasanaeth derbyn myfyrwyr y Brifysgol.
• Sicrhau bod canllawiau perthnasol ar gyfer prosesau busnes yn cael eu hadolygu a'u cynnal.
• Cyfrannu at weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â denu myfyrwyr a chofrestru, gan gynnwys cefnogi gweithgareddau Cadarnhau a Chlirio, a chynorthwyo ymwelwyr ar Ddyddiau Agored a Dyddiau i Ymgeiswyr y Brifysgol.
• Cydymffurfio bob amser gyda’r holl bolisïau a gweithdrefnau iechyd, diogelwch a lles a bod yn gyfrifol am hyrwyddo a diogelu lles a diogelwch pobl eraill.
• Defnyddio Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Brifysgol ym maes cyfrifoldeb y swydd ac yn eich ymddygiad cyffredinol.
• Ymgymryd â dyletswyddau eraill, sy'n cyd-fynd â gradd y swydd, yn unol â chyfarwyddyd rhesymol eich rheolwr llinell.
• Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
• Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
• Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses ‘Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
• Unrhyw ddyletswydd resymol a gofynnir sy'n gymesur â gradd y rôl.
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Hanfodol
1. Addysg hyd at Safon Uwch (neu safon gyfatebol) neu brofiad proffesiynol perthnasol.
2. Profiad o weithio mewn amgylchedd y cydnabyddir ei fod yn darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
3. Profiad o ddelio gyda chwsmeriaid yn broffesiynol ac yn brydlon.
4. Profiad o ddangos synnwyr cyffredin a'r gallu i ddilyn polisïau a gweithdrefnau a'u defnyddio'n gywir, yn effeithiol ac amserol.
5. Gwybodaeth amlwg o becynnau TG safonol a'r gallu i addasu i ddefnyddio ystod o systemau.
6. Gwybodaeth a dealltwriaeth o sector addysg uwch y Deyrnas Unedig.
7. Gallu wedi’i brofi i weithio'n effeithiol ac yn rhagweithiol fel rhan o dîm ac er mwyn cefnogi gwaith cydweithwyr.
8. Sgiliau rhyngbersonol, trefnu a chyfathrebu rhagorol.
9. Gallu blaenoriaethu llwyth gwaith a pherfformio'n effeithiol ac effeithlon dan bwysau.
10. Gallu rheoli gofynion cystadleuol, gan roi sylw agos i fanylion a chywirdeb.
11. Agwedd broffesiynol at ragweld a datrys problemau, gan weithio o fewn polisïau a gweithdrefnau safonol.
12. Gallu adnabod lle gellid cyflawni tasgau yn fwy effeithlon neu effeithiol.
13. Gallu addasu'n dda i newid ac i welliannau a wneir i wasanaethau.
14. Gallu cyfrannu at effeithlonrwydd y tîm trwy rannu gwybodaeth a chefnogi eraill mewn modd adeiladol.
15. Gallu defnyddio TG i gyflawni ystod o dasgau gweinyddol gan gynnwys profiad o ddefnyddio cronfeydd data.
16. Parodrwydd i weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau yn achlysurol er mwyn cefnogi gweithgareddau y tu allan i oriau gwaith arferol.
17. Lefel Cymraeg Llafar (siarad) ac Ysgrifenedig B2.*
• Sylwch fod yna 3 Swydd Derbyn felly byddai'n ddymunol pe bai un neu ddau o'r rhai a benodir yn siaradwyr Cymraeg (i B2) ond nid yw hyn yn faen prawf hanfodol ar gyfer pob penodiad.
Dymunol
1. Gradd anrhydedd neu gymhwyster proffesiynol perthnasol.
2. Profiad o weithio mewn prifysgol neu goleg gyda ffocws ar wasanaeth cwsmeriaid.
3. Profiad o waith marchnata, denu myfyrwyr, a gweithgaredd derbyn myfyrwyr i brifysgol neu goleg.
4. Profiad o ddefnyddio systemau CRM i reoli cyswllt â chwsmeriaid.
5. Profiad o ddefnyddio systemau CMS a diweddaru gwefannau.
6. Profiad o ymdrin â chwsmeriaid ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.
7. Dealltwriaeth o wybodaeth am y broses a'r weithdrefn derbyn myfyrwyr addysg uwch ar gyfer myfyrwyr ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.
8. Lefel Cymraeg Llafar (siarad) ac Ysgrifenedig C1.*
*Gellir dod o hyd i fwy o fanylion am Lefelau’r Iaith Gymraeg yma:https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/welsh-standards/
I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio llawn amser, rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.
Buddion
• Polisi gweithio hyblyg
• 36.5 – awr yr wythnos ar gyfer swyddi llawn amser
• Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a diwrnodau caeedig Prifysgol
• Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
• Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
• Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
• Cyfle i ddysgu ac i wella eich Cymraeg am ddim
• Bwrsari adleoli staff
• Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhiant a Mabwysiadu
• Gostyngiad staff ar gyfer cyfleusterau campfa, lletygarwch a manwerthu ar y campws
**Darllenwch ymlaen **
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned ac yn arbennig, y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i ymgeiswyr DU, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr ag anableddau, ac ymgeiswyr benywaidd.
Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.
Fisa Cyflogaeth:
O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).
Cyflog
💰 £24,285 - £27,131
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!