Swyddi Cymraeg — Gwasanaethau proffesiynol
8 swydd yn cyfateb
Cyfreithiwr Cyfraith Cyflogaeth
Mae Darwin Gray yn edrych am Gyfreithiwr Cyfraith Cyflogaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle gwych i gyfreithiwr ymuno â thîm cyfraith cyflogaeth Darwin Gray; tîm a enillodd gwobr Tîm Cyfraith Cyflogaeth y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfreithiol Cymru 2022. Cyfle i gefnogi'r criw profiadol o gyfreithwyr cyflogaeth sydd eisioes yn rhan o'r tîm.
Lleoliad: Dewis o Swyddfa Caerdydd (9 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9HA) NEU Swyddfa Bangor (Unit F12, InTec, Ffordd y Parc, Parc Menai, Bangor, LL57 4FG) gyda pheth gweithio o adref os y dymunir.
Oriau: 37.5 awr yr wythnos. Dydd Llun – Gwener, 9.00yb – 5.30yh gyda 1 awr i ginio, ond yn gorffen am 4yh ar ddydd Gwener.
Cyflog: £i’w gadarnhau yn ddibynnol ar brofiad.
Buddion: 25 diwrnod o wyliau y flwyddyn, yn ogystal â’r gwyliau banc statudol / Yswiriant meddygol preifat / 3% cyfraniad pensiwn / Yswiriant marwolaeth mewn gwasanaeth.
Pwrpas y Rôl: I weithio gyda thîm cyfraith cyflogaeth Darwin Gray ac i ddarparu cefnogaeth effeithiol i’r tîm pan ddaw i gynghori cleientiaid ar faterion cyfraith cyflogaeth.
Tasgiau allweddol: I ddarparu cefnogaeth i’r tîm cyfraith cyflogaeth ar y materion canlynol:
· Achosion Tribiwnlys Cyflogaeth;
· Materion disgyblu a chwyno;
· Anffafriaeth;
· Diswyddiadau, diswyddo gorfodol ac ailstrwythuro;
· Cytundebau cyflogaeth a llawlyfrau staff;
· Cytundebau hunan-gyflogedig;
· Cytundebau setliad;
· Trosglwyddiadau TUPE;
· Helpu gyda hyfforddi cleientiaid;
· Materion cyflogaeth ynghlwm â phrynu a gwerthu busnesau;
· Chwythu’r chiban; a
· Archwiliadau yn y gweithle.
Gallu technegol:
Hanfodol_: _
· O gwmpas 2 flynedd o gyflogaeth ôl-gymhwyso mewn cyfraith cyflogaeth
· Gallu technegol ardderchog
· Gallu i ddefnyddio MS Word ac Outlook
Dymunol_: _
· Profiad o ddefnyddio basdata rheoli achosion Manyleb:
· Gallu cyfathrebu cryf. Cymraeg yn ddymunol
· Yn gweithio'n gyson i lefel uchel o gywirdeb a manylder
· Gallu gweithio'n annibynnol ond hefyd fel rhan o dîm ar brosiectau mwy
· Gallu defnyddio menter ei hun
· Yn drefnus ac yn medru gweithio o dan bwysau
· Yn cwblhau tasgau
· Yn hyblyg ac yn barod i helpu aelodau eraill o’r tîm fel sydd angen Cysylltwch â Owen John ([email protected] / 02920 829 118) i gyflwyno cais neu am fwy o wybodaeth.
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Caerdydd, Bangor, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch ymchwilydd – Practis Cymru
Mae Odgers Berndtson yn edrych am Uwch ymchwilydd – Practis Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Uwch ymchwilydd – Practis Cymru
Rôl hybrid – yng Nghaerdydd am ran o’r wythnos
Cyflog cystadleuol a phecyn buddion a bonws yn ôl disgresiwn Rydym yn chwilio am Ymchwilydd i ymuno â’n Practis llwyddiannus yng Nghymru i weithio ar aseiniadau chwilio am uwch swyddogion ar draws y sectorau Preifat, Cyhoeddus ac Nid er Elw.
Odgers Berndtson yw prif gwmni chwilio am uwch swyddogion y DU, gyda’r tîm mwyaf o Ymchwilwyr arbenigol yn y DU ar draws ein rhwydwaith o 8 swyddfa ranbarthol.
Ni yw’r unig gwmni rhyngwladol o’r radd flaenaf sy’n gweithredu yng Nghymru sy’n ymwneud â chwilio am uwch swyddogion ac rydym yn ffodus i gyflawni aseiniadau â’r proffil uchaf. Dyma gyfle unigryw i wneud cyfraniad gwych at ddyfodol Cymru trwy benodi gweithwyr proffesiynol dawnus. Mae ein penodiadau’n cynnwys rhai o’r prif rolau ar gyfer Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Adeiladu’r Principality, Cyfoeth Naturiol Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Dŵr Cymru, Admiral Financial Services a Chanolfan Mileniwm Cymru.
**Y rôl **
Rôl Ymchwilydd yw nodi, cysylltu ac ymhél â phenodiadau newydd posibl i’n cleientiaid. I wneud hyn yn effeithiol, rydym yn deall anghenion y cleient-sefydliad cyn nodi unigolion mewn cwmnïau perthnasol a chysylltu â nhw, gan asesu eu diddordeb yn y rôl a’u haddasrwydd ar ei chyfer. Mae’n rôl feichus sy’n mynnu dyfalbarhad, atebolrwydd personol a chreadigrwydd. Mae’n cynnig profiad o weithio gyda phrif gwmni chwilio am uwch swyddogion y DU a, hefyd, dod i gysylltiad ag amrywiaeth enfawr o sefydliadau, sectorau a swyddogaethau, a dysgu ohonynt.
Dyma’r gofynion hanfodol:
Gweithio’n dda o dan bwysig a chyflwyno ymchwil o ansawdd uchel
Sgiliau cyfathrebu eithriadol
Bod yn drefnus a gallu talu sylw rhagorol i fanylder
Bod yn ddygn, yn greadigol a dangos atebolrwydd personol
Bod yn wirioneddol angerddol tuag at faterion cyfoes yn gysylltiedig â busnes
Mae’r gallu i siarad Cymraeg ar unrhyw lefel yn fantais
Cais
Os byddai gwneud cais o ddiddordeb i chi, e-bostiwch eich CV a llythyr eglurhaol, yn esbonio pam y byddech chi’n addas ar gyfer y rôl, at Jemma Terry, Partner Rheoli, Practis Cymru, trwy [email protected] neu ffoniwch 029 2078 3050.
Cyflog
💰 Cyflog cystadleuol
Lleoliad
📍 Hybrid, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymchwilydd – Practis Cymru
Mae Odgers Berndtson yn edrych am Ymchwilydd – Practis Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Ymchwilydd i ymuno â’n Practis Cymru llwyddiannus, gan weithio ar aseiniadau chwilio gweithredol ar draws y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r sector nid-er-elw.
Odgers Berndtson yw cwmni chwilio gweithredol blaenaf y Deyrnas Unedig (DU), gyda’r tîm mwyaf o ymchwilwyr arbenigol yn y DU ar draws ein rhwydwaith o 8 swyddfa ranbarthol. Ni yw’r unig gwmni chwilio gweithredol rhyngwladol o’r radd flaenaf sy’n gweithredu yng Nghymru ac rydym yn ffodus i gyflawni aseiniadau â’r proffil uchaf. Mae hwn yn gyfle go unigryw i wneud cyfraniad gwych i ddyfodol Cymru wrth benodi gweithwyr proffesiynol dawnus. Mae ein penodiadau yn cynnwys rhai o’r rolau uchaf yn Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Adeiladu’r Principality, Cyfoeth Naturiol Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Dŵr Cymru, Gwasanaethau Ariannol Admiral a Chanolfan Mileniwm Cymru.
**Y rôl **
Rôl Ymchwilydd yw adnabod, cysylltu ac ymgysylltu â gweithwyr newydd posibl ar gyfer ein cleientiaid. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, rydym yn ennill dealltwriaeth o anghenion y sefydliad cleient cyn nodi unigolion mewn cwmnïau perthnasol a mynd atynt, gan asesu eu diddordeb a’u haddasrwydd ar gyfer y rôl. Mae’n rôl heriol sy’n gofyn am ddyfalbarhad, atebolrwydd personol a chreadigrwydd. Mae’n cynnig profiad o weithio o fewn cwmni chwilio gweithredol blaenaf y DU, ond mae hefyd yn golygu bod mewn cysylltiad ag amrywiaeth enfawr o sefydliadau, sectorau a swyddogaethau, a dysgu oddi wrthynt. Mae’r gofynion hanfodol fel a ganlyn:
- Gweithio’n dda dan bwysau a chyflawni gwaith ymchwil o ansawdd uchel
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Ymagwedd drefnus a rhoi sylw rhagorol i fanylion
- Bod yn gadarn ac yn greadigol ac arddangos atebolrwydd personol
- Angerdd gwirioneddol dros faterion cyfoes sy’n ymwneud â busnes
**Cais **
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn esbonio pam y byddech yn addas ar gyfer y rôl, drwy e-bost at Jemma Terry, Partner Rheoli, Practis Cymru, drwy [email protected], neu ffoniwch 02920 783 050.
Cyflog
💰 Cyflog cystadleuol
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfrifydd Cymwysedig neu Rannol-Gymwysedig & Cyfrifydd Dan Hyfforddiant
Mae Llŷr James Cyf yn edrych am Gyfrifydd Cymwysedig neu Rannol-Gymwysedig & Chyfrifydd Dan Hyfforddiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am bobol i ymuno gyda’n tîm brwdfrydig yng Nghaerfyrddin. Mae gennym amryw o gleientiaid dros Gymru gyfan ac ym mhellach ac rydym yn cynnig gwasanaeth llawn trwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydym yn cynnig hyfforddiant llawn ar bob agwedd o gyfrifeg yn arwain at gymwysterau proffesiynol. Telir holl gostau’r hyfforddiant a ffioedd arholiadau.
Dyletswyddau:
Cyfrifydd Cymwysedig neu Rannol- Gymwysedig
· Paratoi cyfrifon ar gyfer amryw o fusnesau
· Cwrdd gyda’n cleientiaid i drafod y cyfrifon a’u cynlluniau
· Paratoi ffurflenni treth i unigolion, partneriaethau a chwmnïau
· Bod yn rhan o dîm archwilio
· Gweithio gyda’n cleientiaid i’w paratoi nhw ar gyfer Troi Treth Yn Ddigidol Cyfrifydd Dan Hyfforddiant
· Helpu i baratoi cyfrifon ar gyfer amryw o fusnesau
· Delio gydag ymholiadau oddi wrth ein cleientiaid
· Helpu paratoi ffurflenni treth i unigolion, partneriaethau a chwmnïau
· Bod yn rhan o dîm archwilio
· Paratoi Ffurflenni TAW
· Gweithio gyda’n cleientiaid i’w paratoi nhw ar gyfer Troi Treth Yn Ddigidol Gofynion
· Yn hapus i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg
· Profiad o ddefnyddio Word ac Excel
· Profiad gyda QuickBooks, Xero neu Sage yn fantais ond ddim yn ofynnol
· Yn hapus yn gweithio mewn tîm ac ar ben eich hunan
· Sgiliau cyfathrebu da
· Prydlondeb
· Oriau’r swyddfa yw 9-5 o Ddydd Llun i dydd Gwener. Mae’r cyflog yn ddibynnol ar brofiad a sgiliau.
Cyflog
💰 Yn dibynnu ar profiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymchwilydd cymdeithasol (x 2 swydd)
Mae Cwmni Ymchwil Arad yn edrych am Ymchwilydd cymdeithasol (x 2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cwmni ymchwil wedi ei leoli yng Nghaerdydd yw Arad. Mae Arad yn darparu gwasanaethau ymchwil, gwerthuso ac ymgynghori o’r safon uchaf ar ran cleientiaid yng Nghymru a gweddill y DU. Ymhlith ein cleientiaid presennol mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach ac uwch. Mae gan ein tîm arbenigeddau ym meysydd addysg a sgiliau; datblygiad economaidd; diwylliant a threftadaeth; polisi plant a phobl ifanc; cyflogaeth a chynhwysiant cymdeithasol.
Y swydd
Mae ein hymchwilwyr yn cyfrannu at gyflawni prosiectau ymchwil a gwerthuso ansoddol a meintiol. Mae hyn yn cynnwys dylunio offer ymchwil data, cynnal cyfweliadau ansoddol â grwpiau ffocws; cefnogi'r gwaith o gynllunio a gweithredu arolygon; drafftio cynigion ymchwil, ysgrifennu adroddiadau a chysylltu'n broffesiynol â chleientiaid allanol.
Rydym yn bwriadu penodi ar lefel ymchwilydd, gyda dilyniant i lefel uwch ymchwilydd. Mae uwch ymchwilwyr yn rheoli astudiaethau ymchwil gyda goruchwyliaeth, cysylltu â chleientiaid, adolygu cyfleoedd tendro; arwain ar ysgrifennu tendrau; cydlynu gwaith maes; drafftio adroddiadau ymchwil ac ymgymryd â chyflwyniadau.
Sgiliau a Phrofiad
**Angenrheidiol **
Bydd gan yr ymgeisydd:
· brofiad o gwblhau gwaith maes (e.e. cyfweliadau, grwpiau ffocws) dadansoddi ac adrodd;
· y gallu i ddadansoddi a chrynhoi gwybodaeth gymhleth;
· y gallu i fod yn flaengar a gweithio’n annibynnol;
· gymhwyster lefel gradd;
· sgiliau cyfathrebu gwych ar lafar ac yn ysgrifenedig, a’r gallu i weithio yn uniongyrchol gyda chleientiaid;
· sgiliau TGCh da a phrofiad o ddefnyddio pecynnau Office.
Manteisiol
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd:
· sgiliau llafar ac ysgrifenedig ardderchog yn y Gymraeg;
· brofiad fel ymchwilydd neu swyddog polisi;
· gymhwyster ôl-radd neu brofiad mewn gwyddorau cymdeithasol / economeg / dulliau ymchwil;
· brofiad o ysgrifennu adroddiadau;
· ddealltwriaeth o’r cyd-destun polisi yng Nghymru;
· brofiad o ddefnyddio meddalwedd dadansoddi ystadegol neu ansoddol. **SUT I WNEUD CAIS **
I wneud cais, anfonwch CV a llythyr cyflwyno at Sioned Lewis at [email protected]. Cysylltwch ar yr e-bost hwnnw hefyd os ydych am drefnu sgwrs anffurfiol am y swyddi hyn.
Cyflog
💰 £23,625 - £27,825
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Technegydd Cyfrifon
Mae Cyfrifwyr Aeron Accountants yn edrych am Dechnegydd Cyfrifon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae'r rôl yn cynnwys gwaith paratoi Cyfrifon Blynyddol, ffurflenni TAW a dyletswyddau cadw cyfrifon cyffredinol cleientiaid ynghyd a chynorthwyo cleientiaid gydag unrhyw ymholiadau sydd ganddynt.
Profiad neu wybodaeth gyfrifeg flaenorol yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Cyflog
💰 £21,500 - £27,000
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ysgrifennydd Cyfreithiol
Mae Arnold Davies Vincent Evans yn edrych am Ysgrifennydd Cyfreithiol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfreithwyr Arnold Davies Vincent Evans, Llanbedr Pont Steffan
Nid yw profiad cyfreithiol yn angenrheidiol.
Mae sgiliau ysgrifenedig a chyfathrebu da, a sylw i fanylder yn hanfodol.
Bydd y gallu i deipio wrth wrando yn fantais ond ddim yn angenrheidiol, a’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddelfrydol. Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at sylw Mrs E Davies erbyn dydd Mercher, 1af o Fehefin 2022.
Am sgwrs anffurfiol ffoniwch 01570 422 233
Cyflog
💰 £19,000 - £20,000
Lleoliad
📍 Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Agri Advisor yn edrych am Gynorthwyydd Gweinyddol neu Ysgrifennydd Cyfreithiol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti eisiau gweithio i gwmni cyfreithiol deinamig, sydd wedi’i chydnabod am ymagwedd sy’n torri tir newydd? Mae Agri Advisor yn gwmni cyfreithiol arbenigol sy’n cynghori ffermwyr, tir berchnogion a phobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Rydym yn ehangu i Ogledd Cymru ac yn edrych i recriwtio yn ein swyddfa newydd yn y Bala.
Cynorthwyydd Gweinyddol neu Ysgrifennydd Cyfreithiol
Bydd dyletswyddau yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
Croesawu pob ymwelydd i’r swyddfa, Cynhyrchu llythyron a dogfennau cyfreithiol, Delio gydag ymholiadau cleientiaid drwy e-bost, ffacs a llythyr, Ateb galwadau ffôn, Rheoli dyddiaduron ac apwyntiadau, Copïo, sganio a ffacsio, Paratoi ffeiliau llys, Ffeilio a gwaith gweinyddol cyffredinol gan gynnwys post mewn ac allan o’r swyddfa, agor, rheoli a chau ffeiliau cleientiaid, Delio gyda thaliadau wrth gleientiaid, a Theipio nodiadau ac arddywediadau digidol. Nodweddion allweddol:
Chwaraewr Tîm, Sgiliau cyfathrebu gwych, Profiadol yn defnyddio Microsoft Office, Sgiliau allweddell hyfedr, Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith ac amldasgio, Cyfrinachgar, Proffesiynol, Huawdl gyda sillafu a gramadeg da, Buasai medru siarad Cymraeg yn fanteisiol. Bydd y swydd hon wedi’i leoli yn ein swyddfa yn y Bala (LL23 7AD) ac yn 37.5 awr yr wythnos.
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag Awel Mai Hughes ar 01938 536409.
Cyflog NMW gydag ystyriaeth yn cael ei roi i brofiad.
Ymgeisiwch os gwelwch yn dda mewn ysgrifen drwy ddarparu CV a llythyr eglurhaol i [email protected].
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 13eg o Fai 2022
Lleoliad
📍 Y Bala
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.