Swyddi Cymraeg — Lletygarwch
1 swydd yn cyfateb
Dirprwy Rheolwr Cyffredinol
Mae Harbourmaster yn edrych am Ddirprwy Rheolwr Cyffredinol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae yr Harbourmaster am gyflogi Dirprwy Rheolwr Cyffredinol. Mae hwn yn gyfle gwych i’r person iawn fedru datblygu o fewn y byd lletygarwch. Wedi ei leoli yn Aberaeron, mae yr Harbourmaster yn ran o’r ‘Flat Rock Group’ sy’n cynnwys Gwesty’r Cliff & Spa, Gwesty’r Gwbert, Gwesty’r Angel, Y Grosvenor a ‘Gwbert Holidays’ yn ardal Aberteifi.
Mae’r Harbourmaster yn westy eiconic sydd yn cynnig llety, bwyty a bar, Ers cael ei ail-ddatblygu yn 2022 mae’r Harbourmaster wedi ennill clod yn genedlaethol a thu hwnt am y lletygarwch, bwyd, gwin a gwasanaeth a gynigir yno. Mae’r Harbourmaster, a oedd yn wreiddiol yn gartref a swyddfa i’r Harbwrfeistr wedi ei addasu mewn steil modern sydd yn gweddu yn berffaith i’r adeilad a lleoiad unigryw.
Mae swydd y Dirprwy Rheolwr Cyffredinol yn un hanfodol, yn cynnig cymorth i’r Rheolwr Cyffredinol fedru cyflawni gwasnaeth cyson o’r safon uchaf, effeithiolrwydd gweithredol a rhagoriaeth gweithdrefnol ym mhob agwedd o’r busnes tra’n ymlunu i reoliadau y cwmni a’r rhai statudol. Mae’r swydd yn un gweithredol ac hefyd yn cynnwys cynorthwyo gyda’r gwaith o reoli pob agwedd o’r busnes o ddydd i ddydd a hefyd cydlynnu y tim rheoli fesul y strwythur staffio. Hefyd, cynnig arweinyddiaeth a cynorthwyo gyda datblygiad strategol ym mhob adran.
Mae hon yn swydd llawn amser a pharhaol yn gweithio pum diwrnod allan o saith gan gynnwys nosewithiau a penwythnosau. Mae nifer o oriau yr wythnos rhwng 40-50 ar gyfartaledd. Mae’r cyflog yn ddibynnol ar brofiad, ond yn cychwyn o £35,000 y flwyddyn. Os oes angen, fe gynigir llety yn lleol am bris gostyngedig.
Anfonwch nodyn gyda CV i [email protected] gan nodi am ba swydd rydych yn ymgeisio.
Cyflog
💰 £35,000
Lleoliad
📍 Aberaeron
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.