Swyddi Cymraeg — PRINCE2
1 swydd yn cyfateb
Rheolwr Adnoddau – Buddsoddi a Thrawsnewid Strategol
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Rheolwr Adnoddau – Buddsoddi a Thrawsnewid Strategol
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
A ydych yn angerddol am drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus, sicrhau buddsoddiad a chyflawni newid ystyrlon?
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn chwilio am unigolyn eithriadol i arwain y gwaith strategol o gynllunio, dyrannu a llywodraethu’r buddsoddiad ym maes gofal cymdeithasol ar draws Ceredigion a rhanbarth gorllewin Cymru. Mae hwn yn gyfle cyffrous i lunio rhaglenni trawsnewid mawr, dylanwadu ar bolisi ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, a sicrhau bod buddsoddiad yn cyflawni manteision parhaol i’n cymunedau.
Ynglŷn â’r Rôl
Fel Rheolwr Adnoddau – Buddsoddi a Thrawsnewid Strategol, byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni strategaethau buddsoddi ar draws rhaglenni cyfalaf a refeniw, gan gefnogi agenda Llesiant Gydol Oes (TAW). Byddwch yn gweithio’n agos gydag uwch arweinwyr, Llywodraeth Cymru, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ac ystod eang o bartneriaid strategol er mwyn sicrhau, rheoli a gwneud y mwyaf o gyfleoedd buddsoddi.
Byddwch yn gwneud y canlynol:
Arwain y gwaith o baratoi cynlluniau buddsoddi strategol a rhaglenni trawsnewid.
Sicrhau a goruchwylio cyfleoedd sylweddol o ran cyllid grant.
Dylanwadu ar ddatblygiad polisi ar lefel ranbarthol a chenedlaethol
Datblygu achosion busnes a threfniadau llywodraethu ar gyfer rhaglenni cymhleth
Darparu cyngor arbenigol i uwch arweinwyr ar flaenoriaethau buddsoddi a thrawsnewid
Sicrhau rheolaeth effeithiol o ran risgiau, cydymffurfiaeth a chyflawni rhaglenni.
Amdanoch Chi
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd:
Yn meddu ar radd berthnasol neu gymhwyster cyfatebol.
 phrofiad sylweddol o arwain rhaglenni newid trawsnewidiol.
Yn Ymarferydd Prince2
Yn gallu ymgysylltu’n hyderus ag uwch randdeiliaid ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.
Yn meddu ar sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu, negodi ac arwain.
Pam Ymuno â Ni?
Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle unigryw i ddylanwadu ar gyfeiriad gofal cymdeithasol, llesiant a buddsoddiad ar draws gorllewin Cymru yn y dyfodol. Byddwch yn gweithio ar flaen y gad o ran trawsnewid, gan helpu i lunio gwasanaethau, sicrhau cyllid a gwella canlyniadau i drigolion ledled y rhanbarth.
Rydym yn credu bod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn hynod bwysig. Er mwyn eich cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion canlynol:
Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni amodau penodol, gallwch ddewis gweithio o gartref neu o un o swyddfeydd y Cyngor.
Amser Hyblyg: Gellir gweithio oriau o fewn patrwm hyblyg diffiniedig rhwng dydd Llun a dydd Gwener, yn amodol ar anghenion y gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â Ni
Am ragor o wybodaeth ac am drafodaeth anffurfiol ynghylch y swydd hon, cysylltwch â Greg Jones: [email protected]
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £46,142 - £48,226 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.