Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Athro/Athrawes (Mathemateg) – Ysgol Bro Teifi
Dyddiad Dechrau: Ionawr 1af 2027
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi addysgwr blaengar a chydwybodol i ymuno a’n cyfadran Fathemateg fel Athro/Athrawes Mathemateg ar gytundeb parhaol. Rydym yn awyddus iawn i glywed wrth athrawon profiadol neu newydd gymhwyso i ymuno gyda’n tîm ymroddgar o athrawon.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Addysgu gwersi Mathemateg ar draws yr ystod oed uwchradd.
- Angerddol dros eu pwnc ac at ddysgu
- Yn barod i wneud yn siŵr fod disgyblion yn derbyn profiadau dysgu cyffrous, hwylus a gwerthfawr er mwyn cyflawni 4 diben y cwricwlwm.
- Addysgwr rhagorol
- Ymroddedig i sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial.
O weithio yn ein hysgol, cewch fynediad at yr adnoddau dysgu modern, diweddaraf wedi eu darparu mewn ystafelloedd dysgu pwrpasol. I gefnogi lles ein staff, mae’r ysgol hefyd yn darparu mynediad rhad ac am ddim i ystafell ffitrwydd yr ysgol o 7.30 y bore hyd at 21.00 yr hwyr i aelodau staff.
Pecyn Gwybodaeth
Os hoffech wybodaeth pellach am y swydd neu os hoffech drefnu ymweliad i’r safle, mae yna groeso i chi gysylltu gyda mi am sgwrs ar unrhyw adeg drwy ffonio’r ysgol ar 01559 362503 neu drwy e-bostio [email protected].
Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cyflog
💰 £33,731 - £51,942 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.