Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Swyddog Presenoldeb a Chymorth 6ed Dosbarth – Ysgol Gyfun Penglais
Rydym yn ceisio penodi Swyddog Presenoldeb a Chymorth 6ed Dosbarth a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod myfyrwyr y chweched dosbarth yn cael eu cefnogi yn y ffordd orau bosibl drwy gydol eu taith ym mlynyddoedd 12 a 13, ac i sicrhau bod lefelau presenoldeb yn cael eu monitro’n agos.
Byddwch yn mwynhau gweithio gyda staff a myfyrwyr a byddwch yn hynod drefnus, yn effeithlon ac yn gyfathrebwr rhagorol.
Mae hwn yn gyfle delfrydol i ymgeisydd uchelgeisiol chwarae rhan allweddol wrth gynyddu dyheadau a llwyddiant ein myfyrwyr, a thrwy hynny gyfrannu at daith Ysgol Penglais i fod yn ysgol ardderchog.
Mae gan Ysgol Penglais lawer i’w gynnig:
ysgol sydd yn seiliedig ar waith ymchwil gyda pherthnasau da rhwng staff a disgyblion
ymroddiad i ddatblygiad proffesiynol staff er mwyn cyrraedd rhagoriaeth
agos i dref Prifysgol bywiog Aberystwyth
wedi ei leoli ar arfordir bendigedig bae Ceredigion, ardal o hyfrydwch naturiol
Pecyn Gwybodaeth
Am fwy o fanylion, cysylltwch a Helena Clements (PA i’r Pennaeth) ar 01970 624811 neu drwy e-bost [email protected]
Mae Ysgol Penglais yn gyflogwr sydd yn sicrhau cyfleoedd cyfartal.
Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cyflog
💰 £27,274 - £28,608 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.