Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Mae Cylch Meithrin Rhiwbeina yn edrych am Gynorthwyydd
Lleoliad: FESTRI CAPEL BETHEL , MAES Y DERI , RHIWBEINA , CAERDYDD
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg. Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 – 3 yn ddelfrydol i ofalu am blant.
Mae Cylch Meithrin Rhiwbeina yn lleoliad cynnes, croesawgar a phrysur lle mae plant yn dysgu, chwarae a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn chwilio am aelodau brwdfrydig, gofalgar a chreadigol i ymuno â’n tîm a helpu i greu profiadau dysgu hapus ac ystyrlon i’n plant. Os ydych chi’n angerddol am y Gymraeg, datblygiad plant a gweithio fel rhan o dîm gwych, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu: Angharad Phelps-Jowers [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Rhiwbeina yn edrych am Cyd-Arweinydd
Lleoliad: FESTRI CAPEL BETHEL , MAES Y DERI , RHIWBEINA , CAERDYDD
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y Cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn siaradwr newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg. Gofynnir am gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch ynghyd â phrofiad perthnasol i gymryd gofal o gylch.
Mae Cylch Meithrin Rhiwbeina yn lleoliad cynnes, croesawgar a phrysur lle mae plant yn dysgu, chwarae a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn chwilio am aelodau brwdfrydig, gofalgar a chreadigol i ymuno â’n tîm a helpu i greu profiadau dysgu hapus ac ystyrlon i’n plant. Os ydych chi’n angerddol am y Gymraeg, datblygiad plant a gweithio fel rhan o dîm gwych, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu: Angharad Phelps-Jowers [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod yn ddibynol ar brofiad
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.