Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Mae’r Cylch yn edrych am Gynorthwyydd achlysurol i weithio pan fo angen yn ystod absenoldeb staff neu hyfforddiant. Cyfle da i ddatblygu eich sgiliau fel ymarferydd gofal plant gyda thîm o staff profiadol. Byddwn yn ystyried ceisiadau gan rheini sy’n gweithio tuag at gymhwyster. Nid oes angen aros am y dyddiad cau i ymgeisio. Byddwn yn ystyried pob cais wrth i ni ei dderbyn a chynnig cyfweliad i ymgeiswyr addas.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu – E-bostiwch CV i [email protected]
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.