Swyddi Cymraeg — Hyfforddi
23 swydd yn cyfateb
Swyddog Gwybodaeth a Dysgu
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn edrych am Swyddog Gwybodaeth a Dysgu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw ariannwr cymunedol mwyaf y DU. Rydym yn dyfarnu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i brosiectau cymunedol sy’n dod â syniadau ac uchelgeisiau pobl yn fyw. Rydym yn cefnogi ystod eang o brosiectau iechyd, addysgol, amgylcheddol ac elusennol gyda grantiau’n amrywio o gyn lleied â £500 i raglenni gwerth miliynau o bunnoedd. Roedd 86% o'n grantiau newydd am lai na £10k.
Mae arian y Loteri Genedlaethol yn agored i bawb, ac mae’n fraint i ni allu gweithio gyda’r grwpiau lleiaf ar lawr gwlad hyd at elusennau mawr ledled y DU.
Mae cyfle wedi codi i ddau Swyddog Gwybodaeth a Dysgu parhaol llawn amser i ymuno â’n tîm yng Nghymru i gefnogi cydweithwyr, deiliaid grant a rhanddeiliaid i rannu, creu a defnyddio Gwybodaeth a Dysgu yn effeithiol drwy:
- Cefnogi datblygiad ein rhaglenni grant a dangos eu heffaith i’n rhanddeiliaid
- Ein helpu i ddeall ac ymateb i anghenion cymunedau ledled Cymru
- Cynnal gweithgareddau sy'n rhannu ac yn cyfnewid Gwybodaeth a Dysgu i gefnogi ein gwaith ni a gwaith eraill.
- Yn ogystal â defnyddio Gwybodaeth a Dysgu i lywio polisi ac arferion o fewn a thu allan i'r Gronfa, byddwch hefyd yn hwyluso gweithgareddau dysgu ar gyfer staff, deiliaid grant a rhanddeiliaid. Byddwch yn arwain gweithgarwch o amgylch ein themâu dysgu blaenaf ac yn cefnogi ein tri thîm rhanbarthol yng Nghymru i wneud hynny hefyd. Byddwch hefyd yn sganio'r amgylchedd allanol i gael gwybodaeth am yr hyn y mae eraill yn ei wneud.
Gan dynnu ar eich gwybodaeth am bolisi, a’r sectorau gwirfoddol a chyhoeddus yng Nghymru, byddwch yn cynghori cydweithwyr a phenderfynwyr am sut y gall ein cyllid gael yr effaith fwyaf.
Dyddiad y cyfweliad: Wythnos yn dechrau 20fed o Fawrth
**Lleoliad: **Caerdydd neu’r Drenewydd
Mae gennym ddull hybrid o weithio, a bydd patrwm gwaith a lleoliad yn cael eu cytuno arnynt gyda'r ymgeisydd llwyddiannus. Gall y rôl fod yn ein swyddfa yng Nghaerdydd neu'r Drenewydd.
Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â: [email protected]
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau ymchwil a dadansoddi
- Y gallu i ysgrifennu a siarad am syniadau a gwybodaeth gymhleth mewn ffordd ddifyr a syml
- Sgiliau hwyluso – profiad o gynnull a hwyluso trafodaethau lle mae pobl yn rhannu ac yn trafod syniadau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau
- Wedi’ch ysgogi gan werthoedd ac yn angerddol dros bwrpas y Gronfa
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am amgylchedd polisi Cymru, yn enwedig Llywodraeth Cymru
- Gwybodaeth am y sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru
- Y gallu i weithio'n hyblyg ac ymdrin â blaenoriaethau cystadleuol lluosog o fewn tîm bach
- Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg
Cyfle Cyfartal
Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob siâp a maint. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd lle mae ei angen.
Credwn hefyd y dylai ein pobl gynrychioli'r cymunedau, y sefydliadau a'r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym wedi ymrwymo i fod yn lle cynhwysol a gwych i weithio, ac rydym yn cydnabod bod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. O'r herwydd, rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl ag anableddau, cefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (B.A.M.E), LGBTQ+ ac o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol.
Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol os bydd angen drwy'r broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol.
Cyflog
💰 £25,019 - £28,399
Lleoliad
📍 Caerdydd, Y Drenewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymgynghorydd
Mae Partneriaeth yn edrych am Ymgynghorydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
DIBEN Y SWYDD
Meithrin cydweithredu effeithiol ag ysgolion ac Awdurdodau Lleol trwy ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel, i sicrhau bod yr holl staff, ym mhob ysgol yn y bartneriaeth, yn cael cefnogaeth dda mewn meysydd megis Cwricwlwm i Gymru, datblygu a darparu cymwysterau newydd, addysgeg a hunanwerthuso. Bydd y rôl yn hyblyg er mwyn ymateb i anghenion gwahanol pob Awdurdod Lleol, ac wrth wneud hynny i ddeall gofynion ysgolion ledled y Bartneriaeth o ran cymorth. Bydd cynghorwyr yn gweithio'n agos gyda chyd-weithwyr yn yr Awdurdodau Lleol ar ystod eang o fentrau a fydd yn newid wrth i flaenoriaethau newydd godi. Cyfrannu at y broses o lunio a datblygu polisi a chynlluniau strategol; paratoi adroddiadau yn ôl y gofyn; cynrychioli a/neu gynorthwyo'r Uwch-gynghorwyr Strategol ac ymateb i anghenion newidiol, a hynny er mwyn gweithredu'r blaenoriaethau yn y Cynllun Busnes.
Ar gael yn barhaol neu ar secondiad
Bydd opsiynau llawn-amser a rhan-amser/gweithio hyblyg yn cael eu hystyried (hyd at 1 FTE)
Cyflog – Soulbury 13-15 ynghyd â 3 phwynt SPA (neu'n cyfateb i'r telerau ac amodau cyflogaeth yn achos secondiad)
Dylai'r rheiny sy'n dymuno cael eu hystyried ar gyfer secondiad gael cymeradwyaeth eu Corff Llywodraethu cyn gwneud cais.
Dyddiad Dechrau – cyn gynted â phosibl
Cafodd Partneriaeth ei ffurfio ym mis Ebrill 2022 yn dilyn darfodiad ERW. Mae'r consortiwm newydd yn wasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol cwbl integredig, ac mae wedi'i gomisiynu gan dri awdurdod lleol – Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro a Dinas a Sir Abertawe. Ei nod yw darparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel i bob arweinydd, athro ac aelod o staff cymorth i wella'r deilliannau ar gyfer yr holl ddysgwyr. Bydd Partneriaeth hefyd yn gweithio gyda chonsortia, partneriaethau ac Awdurdodau Lleol eraill ledled Cymru, sefydliadau ymchwil, a Llywodraeth Cymru i arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno polisi ledled y tri ALl.
Rydym am benodi athro/athrawes tra effeithiol i swydd Ymgynghorydd, gyda ffocws penodol ar Gymraeg Ail Iaith (Uwchradd). Gan weithio mewn tîm o 12 o ymgynghorwyr eraill, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddatblygu cydweithredu effeithiol gydag ysgolion ac ALlau er mwyn sicrhau bod yr holl staff addysgu a dysgu yn cael cefnogaeth dda mewn meysydd megis Cwricwlwm i Gymru, datblygu a darparu cymwysterau newydd, addysgeg a hunanwerthuso.
Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar hanes profedig o addysgu rhagorol i gefnogi a gwella ymarfer ystafell ddosbarth. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus sicrhau cysondeb o ran mynediad at gyfleoedd a dysgu proffesiynol o ansawdd uchel i bawb, yn ogystal â sicrhau cysondeb o ran cymorth i ysgolion trwy bartneriaethau effeithiol ag Awdurdodau Lleol ac ysgolion.
Darperir manylion llawn am y rôl yn y swydd-ddisgrifiad sydd ynghlwm. Os hoffech drafod y cyfle ymhellach, cysylltwch â Gwennan Schiavone, Uwch Ymgynghorydd Strategol drwy e-bost: [email protected]
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Chwefror 2023.
Cynhelir y cyfweliadau yn yr wythnos yn dechrau ar 27 Chwefror 2023
Cyflog
💰 Soulbury 13 – 15 plus 3 SPA
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Hyfforddiant Ymyrraeth gan Wyliedyddion
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Hyfforddiant Ymyrraeth gan Wyliedyddion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn amser dros dro uchod, am gyfnod o 3 mis, yn gweithio yn y Gwasanaethau Myfyrwyr - Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys cyflwyno hyfforddiant ymyrraeth gan wyliedyddion i fyfyrwyr gan wneud hynny wyneb yn wyneb.
Bydd deiliad y swydd wedi cael addysg hyd at 1 Lefel A neu 2 lefel UG neu NVQ Lefel 4 (mewn maes pwnc perthnasol neu gyfwerth) a bydd yn cydlynu rhaglen i gyflwyno sesiynau hyfforddi’r brifysgol ar ymyrraeth gan wyliedyddion, a fydd yn para 1.5 awr, i holl fyfyrwyr presennol y flwyddyn gyntaf, yn Semester 2, blwyddyn academaidd 2022/23. Os bydd amser yn caniatáu, bydd deiliad y swydd hefyd yn trefnu cyfleoedd i fyfyrwyr o flynyddoedd eraill, ac i aelodau staff, ddilyn yr hyfforddiant.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Mae gallu siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 14 Chwefror, 2023.
Cewch wneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â: Helen Munro, Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr, e-bost: [email protected], ffôn: (01248) 388021.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £27,929 - £34,308
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Hyfforddwr Lloriau
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn edrych am Hyfforddwr Lloriau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gellir ystyried y swydd hon fel un amser llawn neu ran-amser. Byddwch yn cyflwyno darpariaeth i ddysgwyr yng Ngogledd Cymru, ond efallai bydd gofyn i chi weithio mewn ardaloedd eraill ledled Cymru (wyneb yn wyneb ac ar-lein).
Cyflog: £31,498 - £36,642 y flwyddyn (37 awr yr wythnos)
Cyflog: £15,748 - £18,320 y flwyddyn (18.5 awr yr wythnos)
Dyma gyfle cyffrous i hyfforddwr Lloriau cymwysedig ymuno â’n tîm proffesiynol a llewyrchus. Bydd y swydd yn gofyn i’r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus weithio yn gyda thîm Hyfforddiant CGA - cangen fasnachol y Coleg.
Byddwch yn gweithio yn yr adran Fusnes, Sgiliau ac Arloesi, gan farchnata, recriwtio, addysgu, asesu a chefnogi dysgwyr o fewn y sector. Bydd gofyn i chi hyfforddi ac asesu dysgwyr ym mhob agwedd ar Loriau (carpedi pren, laminadu a finyl/linoliwm), gan gyflwyno cymwysterau academaidd a sgiliau hanfodol hyd at lefel 3.
Bydd rhaglenni’r ddarpariaeth yn cynnwys QCF, NVQ, cyrsiau academaidd a dysgu seiliedig ar waith. Mae safonau uchel, proffesiynoldeb a gwybodaeth gyfredol am y diwydiant yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd gennych ymagwedd broffesiynol a gwybodaeth gyfredol am fframweithiau perthnasol a byddwch yn cyflwyno pob cymhwyster sy’n berthnasol i’r fframwaith prentisiaethau. Yn ddelfrydol, byddwch yn gyfarwydd â gofynion gweinyddol rhaglenni prentisiaeth.
Byddwch yn gweithio â chyflogwyr allanol a rheolwyr o fewn y Coleg i nodi a gweithredu datrysiadau sy’n ymwneud â hyfforddiant er mwyn diwallu anghenion sefydliadau. Hefyd, bydd gofyn i chi gynorthwyo Dilyswyr Mewnol i sicrhau bod holl anghenion y Dilysydd Allanol a chyrff cyhoeddus yn cael eu diwallu.
Bydd gennych gymhwyster Lefel 3 (o leiaf) neu gywerth mewn maes perthnasol ac yn meddu ar Ddyfarniad Asesydd A1/Tystysgrif Dilyswyr Mewnol TAQA (neu barodrwydd i ennill un o’r cymwysterau hyn). Mae Lefel 2 (Gradd A-C) neu gymhwyster cyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, ynghyd ag ymrwymiad i ymgymryd â chymhwyster Paratoi i Addysgu (PTTLS). Bydd gennych hefyd brofiad perthnasol o weithio yn y diwydiant.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu gwych ar lafar ac yn ysgrifenedig, sgiliau TGCh cadarn a chymhwysedd galwedigaethol i asesu hyd at Lefel 3. Byddwch yn medru ysgogi ac ysbrydoli eraill, gan drosglwyddo gwybodaeth i’r dysgwyr. Byddwch yn meddu ar lygad wych am fanylder, ysfa i gwblhau targedau a ffocws ar ansawdd.
Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Buddion:
28 diwrnod o wyliau, ynghyd â phythefnos ar gau dros y Nadolig ac 8 gwyl banc, Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, amrywiaeth o fanteision i weithwyr gan gynnwys cynlluniau aberthu cyflog, disgowntiau staff a pharcio am ddim.
Pwrpas y Swydd
Hyfforddi ac asesu dysgwyr ym mhob agwedd ar Loriau (carped, pren/laminedig a finyl/linoliwm), cymwysterau academaidd a sgiliau hanfodol Lefelau 1-3.
Bydd y rhaglenni’n cynnwys adennill costau, QCF NVQ, cyrsiau academaidd a fframweithiau Dysgu Seiliedig ar Waith. Mae safonau uchel, proffesiynoldeb a gwybodaeth gyfredol am y diwydiant yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
PRIF GYFRIFOLDEBAU
· Hyfforddi ac asesu dysgwyr mewn modd proffesiynol gan ddarparu safonau uchel
• Cynllunio a chyflwyno o leiaf 12 awr yr wythnos o hyfforddiant i ddysgwyr yn ôl yr angen (pro rata ar gyfer staff ffracsiynol)
· Gweithio gyda chyflogwyr i nodi, hybu a chynnig datrysiadau hyfforddiant er mwyn diwallu eu hanghenion
· Cynnig profiad dysgu di-dor i ddysgwyr, gan ddatblygu eu sgiliau sy’n benodol i’r sector cyflogaeth, gan gynnwys QCF NVQs, fframweithiau prentisiaeth a rhaglenni academaidd, arnodedig a phwrpasol
· Gweithio gyda thîm o hyfforddwyr, aseswyr a gwirwyr mewnol i gefnogi a hybu gweithgarwch sicrhau ansawdd a rhagoriaeth, er mwyn diwallu anghenion cyrff dyfarnu ac ESTYN
· Gweithio gyda’r tîm datblygu busnes i ddod o hyd i gwsmeriaid newydd a meithrin cysylltiadau cyffrous gyda chyflogwyr
Meddu ar ymwybyddiaeth o’r holl gwricwlwm a gynigir gan y Coleg a mentrau ariannu sydd ar gael i wneud y mwyaf o gyfleoedd gyda chwmnïau presennol a newydd.
· Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr am gyrsiau a chyfleoedd ariannu e.e. llenyddiaeth marchnata ac ati
· Sicrhau bod personél priodol (e.e. Cydlynwyr Masnachol) yn cael gwybod am werthiannau a darpar werthiannau
· Cynnig lefel uchel o wasanaeth cwsmeriaid i bawb sy’n rhan o’r rhaglen ddysgu e.e. dysgwyr a chyflogwyr
· Meithrin amgylchedd dysgu hyblyg a chynhyrchiol trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu a darparu gan gynnwys: dulliau dysgu o bell, cyfunol, yn yr ystafell ddosbarth ac ar safle’r cyflogwr (os yw’n briodol)
· Hwyluso ac ymgorffori sgiliau hanfodol yn y rhaglen gyflwyno
· Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl waith papur perthnasol, gan gynnwys adolygiadau o gynnydd dysgwyr a’u taflenni amser · Cynnal cofnodion manwl mewn perthynas â gweithgarwch myfyrwyr ac adrodd gwybodaeth fanwl i’r Rheolwr Llinell lle bo angen
· Gweithio mewn tîm i ddatblygu rhaglenni presennol a newydd
· Sicrhau bod ansawdd yn wraidd i bob gweithgaredd a gynhelir a bod gweithdrefnau sicrhau ansawdd yn cael eu dilyn yn unol â gofynion y Coleg
· Cydymffurfio â Rheoliadau a Gweithdrefnau ariannol y Coleg
· Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd sy’n cael eu hystyried yn berthnasol i’r swydd
Cyflog
💰 £31,498 - £36,642
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Hyfforddwr - Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru
Mae Cwmpas yn edrych am Hyfforddwr - Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cwmpas yn credu y dylai ein heconomi a’n cymdeithas weithio’n wahanol, gan roi pobl a’r blaned yn gyntaf. Rydym yn asiantaeth gydweithredol a datblygu, yn gweithio dros newid economaidd a chymdeithasol. Rydym yn chwilio am bobl sy’n rhannu ein gweledigaeth a’n gwerthoedd i ymuno â’n tîm. Os oes gennych chi ddiddordeb, darllenwch ymlaen!
Disgrifiad:
Hyfforddwr - Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru Crynodeb o’r Prosiect: Mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yn rhaglen gynhwysiant digidol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cefnogi sefydliadau a grwpiau sy’n gweithio gyda’r cyhoedd yng Nghymru i ystyried sut i gynyddu cynhwysiant digidol i sicrhau bod pawb sy’n byw yng Nghymru yn gallu elwa o fod ar-lein. Fel rhaglen, rydym ni’n gweithio er mwyn sicrhau bod gan bawb y sgiliau, mynediad a’r cymhelliant i ddefnyddio’r rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol yn hyderus. Byddwch yn rhan o dîm Cymru gyfan, gan weithio gyda chydweithwyr sy’n cyflawni ystod o gyfrifoldebau fel rhan o dîm darparu ehangach sy’n gweithio tuag at ddeilliannau penodol.
Crynodeb o’r swydd: Datblygu a darparu hyfforddiant a chymorth gyda’r nod o wella sgiliau, hyder a chymhelliant staff rheng flaen a gwirfoddolwyr ar draws y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, er mwyn gwella lefelau sgiliau Digidol a Chynhwysiant yng Nghymru.
Cyflog cychwynnol: £25,013 - £29,793 y flwyddyn.
Contract: Cyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2025
Oriau: 35 awr yr wythnos
Lleoliad: Bydd y swydd hon yn golygu teithio ledled Cymru a gweithio gartref. Bydd milltiroedd busnes yn cael eu had-dalu.
Dyddiad cau: 22:00, Dydd Sul, 8 Ionawr 2023
Cyflog
💰 £25,013 - £29,793
Lleoliad
📍 O gartref, Teithio ledled Cymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Tiwtor / Asesydd Gofal Plant
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Diwtor / Asesydd Gofal Plant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Urdd yn fudiad sy’n parhau i dyfu ac arloesi, ac yn un o’r cyflogwyr mwyaf sy’n gweithredu trwy'r Gymraeg. Fe sefydlwyd yn 1922, ac erbyn heddiw cyflogir dros 300 o staff, bron 55,000 o aelodau, 10,000 o wirfoddolwyr a throsiant o £10m. Byddwn yn dathlu ein pen-blwydd yn 100 yn 2022 gan weithio gydag ein haelodau a’n gwirfoddolwyr ynghyd ac amryw o bartneriaid sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, S4C, BBC, Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Stonewall Cymru, Chwaraeon Cymru, Ysgolion a Cholegau Cymru.
Y Swydd
Mae Adran Prentisiaethau’r Urdd yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, profiadol, a chymwys i ymuno â’r Adran Prentisiaethau fel Tiwtor / Asesydd Gofal Plant.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Lisa Waters (Rheolwr HWB Sgiliau Hanfodol) neu Gary Lewis (Cyfarwyddwr Chwaraeon a Phrentisiaethau).
[email protected] Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau – 05 Ionawr 2023
Dyddiad Cyfweld – i’w gadarnhau
Cyflog
💰 £22,295 - £28,223
Lleoliad
📍 Unrhyw le yng Nghymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Hyfforddwr Cymraeg
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn edrych am Hyfforddwr Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Hyfforddwr Cymraeg.
Pwy yw Heddlu Dyfed- Powys?
Ni yw’r ardal heddlu fwyaf yn ddaearyddol yng Nghymru a Lloegr, ac rydym yn falch o wasanaethu cymunedau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Efallai bod y boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu’n fach mewn nifer (tua 515,000 o bobl), ond mae’r dirwedd ddynamig yn golygu bod yn rhaid inni fod yn arloesol o ran ein hymagwedd blismona er mwyn darparu ar gyfer anghenion gwahanol ein cymunedau, sy’n cynnwys economi twristiaeth bywiog yn ystod misoedd yr haf.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Diben y Swydd: Rhoi gwersi Cymraeg i holl staff Heddlu Dyfed-Powys er mwyn gweithio tuag at weithlu sy’n gwbl ddwyieithog.
Tasgau Penodol i’r Swydd
Cyflwyno delwedd a gwasanaeth proffesiynol i fyfyrwyr wrth gyflenwi hyfforddiant, gan ymgysylltu’n effeithiol â chwsmeriaid mewnol ac allanol ar bob lefel.
Bod yn atebol am gynhyrchu deunydd gwersi Cymraeg a deunydd ymchwil yn amserol er mwyn caniatáu cyflenwi’r cynllun hyfforddi wedi’i gostio.
Datblygu, gwerthuso a gwella deunydd gwersi Cymraeg a bod yn hyblyg i addasu deunydd a chyflenwi dysgu yn ôl yr angen.
Arwain ar ddatblygu adnodd dysgu ar-lein ar gyfer cyflenwi gwersi Cymraeg.
Cynllunio a chydlynu cyflenwi gwersi Cymraeg o allu amrywiol, gan gydlynu gweithgareddau gydag eraill yn ôl yr angen.
Cynllunio cynllun gwaith blynyddol, gan gynnwys dysgu o lefelau 1 i 5.
Cofnodi cynnydd myfyrwyr ac ysgrifennu adroddiad blynyddol i’w rannu â’r sefydliad.
Ysgogi myfyrwyr â chyflwyniad brwdfrydig a dychmygus.
Cofrestru a pharatoi myfyrwyr ar gyfer asesiadau allanol a phortffolios ar gyfer achrediad lle bo’n berthnasol.
Cydlynu gweithgareddau ac adnoddau o fewn maes penodol o’r cwricwlwm, gan gefnogi cydweithwyr i gyflenwi’r maes arbenigol hwn.
Ceisio’r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau a datblygiadau o ran strwythur cyflenwi gwersi Cymraeg, yn unol â’r cwricwlwm a chanllawiau cenedlaethol.
Cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau sefydliadol a allai fod ar benwythnosau neu gyda’r hwyr. Mae digwyddiadau’n cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ymgysylltu â chydweithwyr a gweithio’n hyblyg, yn arbennig o fewn yr ardal heddlu.
Pwy ydyn ni’n chwilio amdano?
Yr iaith Gymraeg ac amrywiaeth
Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog, ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn croesawu ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir a siaradwyr Cymraeg.
Darganfyddwch pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol yma.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriadau meddygol a fetio.
Swydd dros dro yw hon hyd at 24 mis.
Cynhelir cyfweliadau ar: 19/12/2022 a 21/12/2022
Angen rhagor o wybodaeth?
Peidiwch ag oedi i gysylltu â’r tîm recriwtio drwy e-bost: [email protected]
Cyflog
💰 £26,565 - £29,331
Lleoliad
📍 Rhydaman
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Darparu Gwasanaethau – y Gymraeg
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Arweinydd Darparu Gwasanaethau – y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae ein Tîm Academi Caerdydd yn awyddus i gyflogi Arweinydd Darparu Gwasanaethau – y Gymraeg a fydd yn gweithio’n hybrid ac o Neuadd y Ddinas, Caerdydd, CF10 3ND, am gyfran o’u hamser a gartref.
Mae Academi Caerdydd yn rhan o'n Gwasanaeth Adnoddau Dynol, gan ddarparu cyfleoedd hyfforddiant i weithwyr y Cyngor ac i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghaerdydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n rhan o dîm i gynnig gwasanaeth o’r safon orau.
Yn y rôl hon:
Byddwch yn darparu cyrsiau a chyrsiau hyfforddiant a chyrsiau sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg ac yn y Gymraeg, i staff mewnol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, gan gefnogi dysgu a datblygu gweithwyr.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda Swyddogion a chydweithwyr Tîm Cyfieithu Cymraeg y Cyngor (Caerdydd Ddwyieithog) i sicrhau bod yr hyfforddiant yn adlewyrchu anghenion pob maes gwasanaeth ac mae'r cynnwys yn adlewyrchu'n gywir Safonau'r Gymraeg a gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol Cymreig.
Bydd cyfran o'r hyfforddiant yn cael ei ddarparu'n rhithiol fodd bynnag bydd angen cyflwyno rhai cyrsiau ar y safle yn Neuadd y Ddinas. Byddwch yn cael y ddyfais/offer gofynnol i alluogi gweithio gartref.
Nodiadau Ychwanegol – Oriau gwaith safonol 9:00-17:00, dydd Llun i ddydd Gwener fodd bynnag bydd angen hyblygrwydd pan fo angen gweithio y tu allan i'r oriau hyn.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad helaeth o weithio fel hyfforddwr, creu a chyflwyno hyfforddiant wyneb yn wyneb ac ar-lein i gwsmeriaid a dangos dealltwriaeth dda o'r egwyddorion y tu ôl i ddysgu a datblygu o ansawdd uchel sy'n gysylltiedig â’r Gymraeg, a'r rôl y mae'n ei chwarae wrth gefnogi sefydliad.
Mae’r swydd yn addas i’w rhannu swydd ac mae'n un dros dro am 12 mis.
Dylai'r ymgeiswyr llwyddiannus allu cyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg i Lefel 5 – Hyfedredd.
Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o arwyddnodau – gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.
I gefnogi eich cais neu gyfweliad posibl efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gael gwybod ychydig mwy am rôl ehangach y Cyngor drwy ein dilyn ar Twitter, Facebook ac Instagram, tanysgrifio i'n sianel YouTube, neu drwy fynd i'n gwefan www.caerdydd.gov.uk
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn ymgeisio, ffoniwch John Latchem-Agnew ar 07966 228534.
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Hyfforddwr Sgiliau Digidol a Chynhwysiant
Mae Cwmpas yn edrych am Hyfforddwr Sgiliau Digidol a Chynhwysiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Crynodeb o’r Prosiect: Mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yn rhaglen gynhwysiant digidol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cefnogi sefydliadau a grwpiau sy’n gweithio gyda’r cyhoedd yng Nghymru i ystyried sut i gynyddu cynhwysiant digidol i sicrhau bod pawb sy’n byw yng Nghymru yn gallu elwa o fod ar-lein. Fel rhaglen, rydym ni’n gweithio er mwyn sicrhau bod gan bawb y sgiliau, mynediad a’r cymhelliant i ddefnyddio’r rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol yn hyderus. Byddwch yn rhan o dîm Cymru gyfan, gan weithio gyda chydweithwyr sy’n cyflawni ystod o gyfrifoldebau fel rhan o dîm darparu ehangach sy’n gweithio tuag at ddeilliannau penodol.
Crynodeb o’r swydd: Datblygu a darparu hyfforddiant a chymorth gyda’r nod o wella sgiliau, hyder a chymhelliant staff rheng flaen a gwirfoddolwyr ar draws y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, er mwyn gwella lefelau sgiliau Digidol a Chynhwysiant yng Nghymru.
Cyflog cychwynnol: £25,013 - £29,793 y flwyddyn
Contract: Cyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2025
Oriau: 35 awr yr wythnos
Lleoliad: Bydd y swydd hon yn golygu teithio ledled Cymru a gweithio gartref. Bydd milltiroedd busnes yn cael eu had-dalu
Dyddiad cau: 22:00, Dydd Sul, 9 Hydref 2022
Gwybodaeth/ Profiad
-Bydd gennych wybodaeth fanwl am ystod o dechnegau hyfforddi er mwyn gallu ymgysylltu ag amrywiaeth o wahanol arddulliau dysgu.
-Bydd gennych ymwybyddiaeth dda o dechnoleg ddigidol a’i defnydd fel adnodd hyfforddi.
-Bydd angen i chi feddu ar wybodaeth am yr agenda cynhwysiant digidol a’r gallu i gefnogi cymunedau, sefydliadau a dinasyddion i ymgysylltu’n llawn ar-lein. Gellir darparu hyfforddiant ar hyn.
-Bydd angen i chi hefyd fod yn ymwybodol o fframwaith sgiliau sylfaenol digidol y DU.
Sgiliau:
-Byddwch wedi datblygu sgiliau ymgysylltu a gweithio gyda phobl. Mae hyn yn cynnwys siarad yn gyhoeddus, darparu hyfforddiant a gweithdai i gefnogi grwpiau ac unigolion, yn rhithiol ac wyneb yn wyneb.
-Byddwch wedi datblygu sgiliau cyfathrebu a sgiliau datrys problemau sylfaenol.
-Yn ddelfrydol, byddwch wedi datblygu sgiliau i ddefnyddio MS PowerPoint, ond gellir darparu hyfforddiant ar hyn os oes angen.
-Byddwch wedi datblygu sgiliau i greu deunyddiau hyfforddiant, gan gynnwys amlinellu sesiynau, creu cyflwyniadau a chynhyrchu’r holl ddeilliannau hyfforddi eraill.
-Byddwch yn meddu ar sgiliau sylfaenol a’r gallu amlwg i addasu i newid ac yn fodlon datblygu sgiliau a gwybodaeth bersonol.
-Byddwch wedi datblygu sgiliau TGCh ynghyd â’r gallu i ddefnyddio gwahanol adnoddau digidol i ddangos budd technoleg i’n cleientiaid, er y byddai modd darparu hyfforddiant ar gyfer hyn.
-Disgwylir i staff allu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm a threfnu gwaith o fewn nifer o derfynau amser, adeiladu perthnasau effeithiol a defnyddio MS Office ac adnoddau cyfarfod ar-lein.
-Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Cyflog
💰 £25,013 - £29,793
Lleoliad
📍 O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Asesydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Mae Portal yn edrych am Asesydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Asesydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Dwyieithog ar gyfer de-ddwyrain, canolbarth a gorllewin Cymru.
Ydych chi'n arweinydd / rheolwr profiadol sy'n angerddol am ddatblygiad eraill? Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnig cymwysterau rheoli i unigolion gan reoli eich dyddiadur eich hun? Os felly, rydym am glywed wrthych!
Rydym yn recriwtio ar gyfer asesydd wedi ei l(l)eoli yn ne ddwyrain a de orllewin Cymru I gynnal grwp o ddysgwyr.
Mae rôl yr Asesydd yn cynnwys asesu a hyfforddi ymgeiswyr ar gyfer Brentisiaeth Uwch Lefel 4/5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, sy'n cynnwys cyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus brofiad blaenorol o weithio o fewn rôl arwain a / neu reoli, bydd ganddynt agwedd wych a bydd ganddynt y parodrwydd i addasu a datblygu eu hunain ymhellach. Nid yw cymhwyster mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth neu ymarfer asesu (cymhwyster Asesydd) yn hanfodol, fodd bynnag, mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi ei seilio adref (yn y maes) ond gellir disgwyl rhywfaint o deithio ar brydiau, mae'r gallu i deithio yn hanfodol.
Cyflog Cychwyn Sylfaenol: Rhwng £27,000 i £ 32,000 y flwyddyn yn seiliedig ar brofiad a chymwysterau a chynigir £ 500 ychwanegol ar gyfer siaradwyr y Gymraeg.
Buddion Ychwanegol: Cliniadur, ffôn symudol, pecyn gwyliau hael a chynllun pensiwn cyfrannol.
Gweithle: Allan yn y maes / Cartref
Oriau: Llawn amser. Fe ystyrir oriau rhan amser
Dyddiad Cau: 21 Hydref 2022.
Y broses ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais isod ac anfonwch gyda’ch CV i [email protected]
Mae Portal yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynt os derbynnir llawer iawn o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar ar gyfer y swydd hon.
Bydd ymgeiswyr yn derbyn cyfathrebiad yn mynd ymlaen â'u cais i'r cam nesaf o fewn 2 wythnos yn dilyn y dyddiad cau. Os na dderbynnir hyn, gall ymgeiswyr gymryd yn ganiataol nad yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus ar yr achlysur hwn.
Cyflog
💰 £27,000 - £32,000
Lleoliad
📍 Allan yn y maes, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd cyflenwi gwasanaethau – y Gymraeg
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Arweinydd cyflenwi gwasanaethau – y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae ein Tîm Academi Caerdydd yn awyddus i gyflogi Arweinydd Darparu Gwasanaethau – y Gymraeg a fydd yn gweithio’n hybrid ac o Neuadd y Ddinas, Caerdydd, CF10 3ND, am gyfran o’u hamser a gartref.
Mae Academi Caerdydd yn rhan o'n Gwasanaeth Adnoddau Dynol, gan ddarparu cyfleoedd hyfforddiant i weithwyr y Cyngor ac i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghaerdydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n rhan o dîm i gynnig gwasanaeth o’r safon orau.
Yn y rôl hon:
Byddwch yn darparu cyrsiau a chyrsiau hyfforddiant a chyrsiau sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg ac yn y Gymraeg, i staff mewnol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, gan gefnogi dysgu a datblygu gweithwyr.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda Swyddogion a chydweithwyr Tîm Cyfieithu Cymraeg y Cyngor (Caerdydd Ddwyieithog) i sicrhau bod yr hyfforddiant yn adlewyrchu anghenion pob maes gwasanaeth ac mae'r cynnwys yn adlewyrchu'n gywir Safonau'r Gymraeg a gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol Cymreig.
Bydd cyfran o'r hyfforddiant yn cael ei ddarparu'n rhithiol fodd bynnag bydd angen cyflwyno rhai cyrsiau ar y safle yn Neuadd y Ddinas. Byddwch yn cael y ddyfais/offer gofynnol i alluogi gweithio gartref.
Nodiadau Ychwanegol – Oriau gwaith safonol 9:00-17:00, dydd Llun i ddydd Gwener fodd bynnag bydd angen hyblygrwydd pan fo angen gweithio y tu allan i'r oriau hyn.
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Caerdydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Asesydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Gorllewin Cymru
Mae Portal yn edrych am Asesydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Gorllewin Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n arweinydd / rheolwr profiadol sy'n angerddol am ddatblygiad eraill? Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnig cymwysterau rheoli i unigolion gan reoli eich dyddiadur eich hun? Os felly, rydym am glywed wrthych!
Rydym yn recriwtio ar gyfer asesydd wedi ei l(l)eoli I gynnal grwp o ddysgwyr.
Mae rôl yr Asesydd yn cynnwys asesu a hyfforddi ymgeiswyr ar gyfer Brentisiaeth Uwch Lefel 4/5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, sy'n cynnwys cyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus brofiad blaenorol o weithio o fewn rôl arwain a / neu reoli, bydd ganddynt agwedd wych a bydd ganddynt y parodrwydd i addasu a datblygu eu hunain ymhellach. Nid yw cymhwyster mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth neu ymarfer asesu (cymhwyster Asesydd) yn hanfodol, fodd bynnag, mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi ei seilio adref (yn y maes) ond gellir disgwyl rhywfaint o deithio ar brydiau, mae'r gallu i deithio yn hanfodol.
Cyflog Cychwyn Sylfaenol: Rhwng £27,000 i £32,000 y flwyddyn yn seiliedig ar brofiad a chymwysterau a chynigir £500 ychwanegol ar gyfer siaradwyr y Gymraeg.
Buddion Ychwanegol: Cliniadur, ffôn symudol, pecyn gwyliau hael a chynllun pensiwn cyfrannol.
Gweithle: Allan yn y maes / Cartref
Oriau: Llawn amser. Fe ystyrir oriau rhan amser
Dyddiad Cau: 9 Medi 2022
Y broses ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais isod ac anfonwch gyda’ch CV i [email protected]
Mae Portal yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynt os derbynnir llawer iawn o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar ar gyfer y swydd hon.
Bydd ymgeiswyr yn derbyn cyfathrebiad yn mynd ymlaen â'u cais i'r cam nesaf o fewn 2 wythnos yn dilyn y dyddiad cau. Os na dderbynnir hyn, gall ymgeiswyr gymryd yn ganiataol nad yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus ar yr achlysur hwn.
Cyflog
💰 £27,000 - £32,000
Lleoliad
📍 O gartref, Allan yn y maes
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu'r Gymraeg yn y Gweithle
Mae Cyngor Sir Penfro yn edrych am Swyddog Datblygu'r Gymraeg yn y Gweithle
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:
Bod yn gyfrifol am gydlynu cyrsiau hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle ar draws y Cyngor.
Gweithio tuag at dargedau fel y’u gosodwyd ac y cytunwyd arnynt mewn cydweithrediad rhwng Cyngor Sir Penfro a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, i gynyddu’r canfyddiad o’r Cyngor fel un sy’n darparu amgylchedd gwaith dwyieithog ac i fodloni gofynion Rheoliadau Safonau’r Gymraeg yn well.
Gwella dealltwriaeth a chanfyddiadau o’r defnydd o’r Gymraeg yn ysgolion a chymunedau Sir Benfro er mwyn ysgogi mwy o barodrwydd ymhlith staff, gan gynnwys rheolwyr, ac aelodau i ymgysylltu’n gadarnhaol â’r cyfleoedd i ddysgu Cymraeg a ddarperir drwy’r rhaglen.
Sefydlu a chynnal cydberthnasau gwaith cadarnhaol gyda’r rheolwyr y mae eu staff yn ymwneud â’r rhaglen gan gydnabod natur ddeinamig hyfforddiant a datblygiad, a’r angen am agwedd hyblyg a rhagweithiol at y rôl er mwyn ymgysylltu’n weithredol ag unigolion a grwpiau.
Arwain ar nodi anghenion hyfforddi a datblygu iaith Gymraeg y cyflogeion ac aelodau.
Cynllunio rhaglenni hyfforddi a datblygu, a hwyluso dysgu gyda grwpiau unigol, wrth adolygu cynnydd a chyfrannu at systemau gwerthuso, i sicrhau gwelliant ac effeithiolrwydd parhaus.
Datblygu a chyflwyno rhaglenni hyfforddi a datblygu iaith Gymraeg dwys, hwyluso dysgu gydag unigolion a grwpiau tra’n cyfrannu at fonitro’r rhaglenni er mwyn adrodd i Grŵp Cyflawni Strategaeth Iaith Gymraeg y Cyngor a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Darparu hyfforddiant pwrpasol i feysydd penodol o'r busnes pan ofynnir amdano.
Darparu cynllun cymorth un-i-un i bartneru a chefnogi uwch-reolwyr (targed rhif 2). Datblygu, cynnal a hyrwyddo cyfres o ddigwyddiadau cymorth dysgu anffurfiol, sy'n ysgogi recriwtio a chadw, ac yn hyrwyddo cysylltedd a hyder ymhlith dysgwyr.
Ystyried costau ac amserlenni gweithgareddau a gynllunnir gan gadw o fewn y cyllidebau a'r amserlenni a nodwyd.
Datblygu adnoddau hyfforddi, gan gynnwys paratoi nodiadau ac arddangosiadau gweledol gan ddefnyddio gwybodaeth ac ymchwil eich hun.
Cadw cofnodion ar bresenoldeb/absenoldeb mewn hyfforddiant a digwyddiadau i sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw'n gyfredol at ddibenion monitro ac adrodd.
Meddu ar wybodaeth am bolisïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol perthnasol.
Hyrwyddo diogelwch gwybodaeth a chyfrinachedd yn unol â deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau'r cyngor.
Ymgymryd ag unrhyw waith ychwanegol a ystyrir yn briodol i natur y swydd.
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Sir Benfro
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Tiwtor / Asesydd Ôl 16 Ysgol Gwynllyw, Pontypwl
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Diwtor / Asesydd Ôl 16 Ysgol Gwynllyw, Pontypwl
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson sydd wedi cymhwyso fel asesydd ac yn unol â gofynion CBAC / City and Guilds i ddysgu’r cwrs Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (GChDDP): Ymarfer a Theori. Os na fydd cymhwyster asesu gan yr unigolyn, byddwn yn ystyried rhoi’r unigolyn ar gwrs asesu. Rydym yn chwilio am berson sy’n gallu cyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg ac sy’n frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol o’r radd uchaf.
Disgrifiad:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy'r Rheolwr Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol a Chynllun Ysgolion Cam Wrth Gam i gyflawni’r dyletswyddau canlynol: · Cyflwyno’r cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2/3 Ymarfer a Theori o fewn amser penodedig i ddisgyblion mewn ysgol/ion uwchradd
· Cynhyrchu adnoddau dysgu ar gyfer unedau’r cwrs Lefel 2 craidd a Lefel 2/3 Ymarfer a Theori GChDDP, gan ystyried elfennau ychwanegol fel integreiddio’r sgiliau allweddol i’r gwaith galwedigaethol
· Asesu gwaith y dysgwyr yn ôl gofynion y bwrdd dyfarnu a threfnu achrediad portffolios
· Dylid bod yn brydlon, yn gyfrifol ac yn medru darparu ar gyfer holl anghenion y dysgwyr o fewn eu gofal
· Cynnal sesiwn anwytho gyda’r dysgwr ar ddechrau’r cwrs
· Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer dysgu ac asesu gyda’r dysgwyr, gan ystyried anghenion yr unigolyn, ac anghenion darparwr y lleoliad gwaith
· Sicrhau bod dysgwyr yn deall diben, gofynion a phrosesau asesiad
· Defnyddio dull asesu dilys, teg, dibynadwy a diogel
· Nodi a chasglu tystiolaeth sy’n ddilys, cywir a digonol
· Gwneud penderfyniadau asesu yn erbyn meini prawf penodol
· Cefnogi, tiwtora a mentora dysgwyr i gwblhau’r gwaith wrth ymweld, ac o bell
· Sicrhau bod gwaith portffolio pob dysgwr yn cael ei gwblhau yn brydlon
· Gosod gwaith y dysgwyr ar y system electroneg Valid-8
· Sicrhau fod y dysgwr yn derbyn adborth teg ac adeiladol sy’n cadarnhau cyflawniad ac yn nodi unrhyw ofynion ychwanegol
· Sicrhau fod pob gwaith wedi’i gwblhau o fewn amser
· Cyrraedd targedau fel y nodir gan y cwmni
· Hyrwyddo perthynas bositif gyda phob lleoliad gwaith
· Mynychu cyfarfodydd safoni
· Gwirio dogfennaeth Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd y dysgwyr (GDG)
· Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyflog
💰 £22,234 pro rata
Lleoliad
📍 Pont-y-pŵl
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Asesydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Dwyieithog
Mae Portal yn edrych am Asesydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Dwyieithog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n arweinydd / rheolwr profiadol sy'n angerddol am ddatblygiad eraill? Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnig cymwysterau rheoli i unigolion gan reoli eich dyddiadur eich hun? Os felly, rydym am glywed wrthych!
Rydym yn recriwtio ar gyfer asesydd wedi ei leoli yn ne ddwyrain a de orllewin Cymru I gynnal grŵp o ddysgwyr.
Mae rôl yr Asesydd yn cynnwys asesu a hyfforddi ymgeiswyr ar gyfer Brentisiaeth Uwch Lefel 4/5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, sy'n cynnwys cyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus brofiad blaenorol o weithio o fewn rôl arwain a / neu reoli, bydd ganddynt agwedd wych a bydd ganddynt y parodrwydd i addasu a datblygu eu hunain ymhellach. Nid yw cymhwyster mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth neu ymarfer asesu (cymhwyster Asesydd) yn hanfodol, fodd bynnag, mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi ei seilio adref (yn y maes) ond gellir disgwyl rhywfaint o deithio ar brydiau, mae'r gallu i deithio yn hanfodol.
Cyflog Cychwyn Sylfaenol: Rhwng £27,000 i £ 30,000 y flwyddyn yn seiliedig ar brofiad a chymwysterau a chynigir £ 500 ychwanegol ar gyfer siaradwyr y Gymraeg.
Buddion Ychwanegol: Cliniadur, ffôn symudol, pecyn gwyliau hael a chynllun pensiwn cyfrannol.
Gweithle: Allan yn y maes / Cartref
Oriau: Llawn amser. Fe ystyrir oriau rhan amser
Dyddiad Cau: Gorffennaf 29ain
Y broses ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais isod ac anfonwch gyda’ch CV i [email protected]
Mae Portal yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynt os derbynnir llawer iawn o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar ar gyfer y swydd hon.
Bydd ymgeiswyr yn derbyn cyfathrebiad yn mynd ymlaen â'u cais i'r cam nesaf o fewn 2 wythnos yn dilyn y dyddiad cau. Os na dderbynnir hyn, gall ymgeiswyr gymryd yn ganiataol nad yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus ar yr achlysur hwn.
Cyflog
💰 £27,000 - £ 30,000
Lleoliad
📍 O gartref, Allan yn y maes
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Asesydd Chwaraeon (Gogledd Cymru)
Mae Portal yn edrych am Asesydd Chwaraeon (Gogledd Cymru)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn awyddus i ddod o hyd i unigolyn angerddol i ymuno â'n tîm ffantastig fel Asesydd Chwaraeon. Rydym yn chwilio am rywun sy’n meddu ar agwedd gadarnhaol a’r parodrwydd I addasu a datblygu ei hun.
Disgrifiad:
Mae’r rôl yn golygu asesu a hyfforddi ymgeiswyr ar gyfer Brentisiaethau Lefel 2 a 3 mewn Arwain Gweithgareddau a Chefnogi addysgu Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn ysgolion sy'n cynnwys cyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus a phrofiad blaenorol o weithio o fewn y maes chwaraeon mewn rol asesu neu arweinyddiaeth. Nid yw cymhwyster mewn ymarfer asesu yn angenrheidiol, ond, mae’r gallu I siarad ag ysgrifennu yn y Gymraeg yn angenrheidiol.
Mae'r swydd hon wedi ei seilio adref (yn y maes) ond gellir disgwyl rhywfaint o deithio ar brydiau, mae'r gallu i deithio yn hanfodol.
Cyflog Cychwyn Sylfaenol: Rhwng £26,000 i £ 27,000 y flwyddyn yn seiliedig ar brofiad a chymwysterau a chynigir £500 ychwanegol ar gyfer siaradwyr y Gymraeg.
Buddion Ychwanegol: Cliniadur, ffôn symudol, pecyn gwyliau hael a chynllun pensiwn cyfrannol.
Gweithle: Allan yn y maes / Cartref
Oriau: Llawn amser. Fe ystyrir oriau rhan amser
Dyddiad Cau: 29/07/2022
Y broses ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais ac anfonwch gyda’ch CV i [email protected]
Mae Portal yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynt os derbynnir llawer iawn o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar ar gyfer y swydd hon.
Bydd ymgeiswyr yn derbyn cyfathrebiad yn mynd ymlaen â'u cais i'r cam nesaf o fewn 2 wythnos yn dilyn y dyddiad cau. Os na dderbynnir hyn, gall ymgeiswyr gymryd yn ganiataol nad yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus ar yr achlysur hwn.
Cyflog
💰 £26,000 - £ 27,000 +
Lleoliad
📍 O gartref, Allan yn y maes
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Asesydd dan Hyfforddiant - Cytundeb o'r 1.9.2022 hyd at 31.5.2024
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Asesydd dan Hyfforddiant - Cytundeb o'r 1.9.2022 hyd at 31.5.2024
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson addas i hyfforddi fel aseswyr i gyflwyno hyfforddiant ac i asesu dysgwyr yn unol â’r Safonau Cenedlaethol, a gofynnion y Cyrff Dyfarnu CBAC / City and Guilds. Bydd disgwyl i’r person llwyddiannus ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu. Rydym yn chwilio am berson sy’n gallu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg ac sy’n frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol o’r radd uchaf.
Dyletswyddau’r Swydd: Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy Reolwr Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol a Chynllun Ysgolion Cam wrth Gam am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: Mynychu hyfforddiant i ennill cymhwyster Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol TAQA o fewn 18 mis o ddyddiad cychwyn y swydd drwy gwblhau:
· (Uned 301) uned theori gychwynnol (cyfanswm o 16 awr) o bell drwy Zoom/Google Meet.
· Unedau ymarferol dilynol drwy sesiynau 1 i 1 gyda’r asesydd TAQA yn fisol wedi’r sesiynau cyflwyno, a chasglu a chyflwyno portffolio o dystiolaeth briodol.
· Cyflwyno’r cymhwyster Diploma Lefel 2/3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (GChDDP) o fewn amser penodedig.
· Dylai’r asesydd o dan hyfforddiant fod yn brydlon, yn gyfrifol ac yn darparu ar gyfer holl anghenion y dysgwyr o fewn eu gofal o dan arweiniad y mentor.
· Mae’n gyfrifoldeb ar yr asesydd o dan hyfforddiant i drefnu ymweliadau, arwain trafodaethau ac i gyfathrebu’n broffesiynol gyda’r dysgwyr, arweinyddion y Cylch, athrawon / penaethiaid ysgol, rheolwyr a’r oedolion eraill o fewn y lleoliad.
· Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer dysgu ac asesu gyda’r dysgwyr, gan gymryd i ystyriaeth anghenion yr unigolyn, ac anghenion darparwr y lleoliad gwaith, o dan arweiniad y mentor.
· Cefnogi, tiwtora a mentora dysgwyr i gwblhau’r gwaith, wrth ymweld ac o bell, o dan arweiniad y mentor.
· Sicrhau fod pob gwaith wedi’i gwblhau o fewn amser.
· Gosod gwaith y dysgwyr ar system electroneg Valid-8.
· Sicrhau fod y dysgwr yn derbyn adborth teg ac adeiladol ar bob penderfyniad asesu.
· Cymryd rhan mewn gweithdai hyfforddi ar gyfer y cymhwyster Lefel 2 Craidd mewn GChDDP.
· Cyrraedd targedau fel y nodir gan y cwmni.
· Hyrwyddo perthynas bositif gyda phob lleoliad gwaith.
· Mynychu Cyfarfodydd Safoni unwaith bob tymor.
· Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw.
· Paratoi adnoddau mewn cydweithrediad ag eraill yn ôl yr angen.
· Mynychu Seremoni Wobrwyo flynyddol.
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol a Chynllun Ysgolion Cam wrth Gam yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Cyfweliadau: Wythnos dechrau 25.7.2022 dros Teams
Cyflog
💰 £22,234 pro rata
Lleoliad
📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Asesydd (Lefel 5) Cynllun Prentisiaeth - Cytundeb o'r 1.9.2022 hyd at 31.8.2024
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Asesydd (Lefel 5) Cynllun Prentisiaeth - Cytundeb o'r 1.9.2022 hyd at 31.8.2024
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hon yn swydd 1 neu 2 diwrnod yr wythnos yn ddibynnol ar y nifer o ddysgwyr. Yn ystod yr amser yma bydd angen i’r person llwyddiannus ymweld â phob dysgwr yn y lleoliad gwaith am 2 awr o gyswllt uniongyrchol bob mis. Yn ogystal â hyn bydd angen i’r person llwyddiannus gyflwyno’r cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant mewn cyfres o weithdai tiwtorialau trwy gydol y cwrs. Rhaid hefyd treulio amser i gwblhau’r dogfennau perthnasol sy’n gysylltiedig gyda’r Brentisiaeth.
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy Reolwr Cenedlaethol Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
· Cyflwyno’r cymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant o fewn amser penodedig.
· Dylai’r aseswyr fod yn brydlon, yn gyfrifol ac yn darparu ar gyfer holl anghenion y dysgwyr o fewn eu gofal.
· Mae’n gyfrifoldeb ar yr aseswyr i drefnu ymweliadau, arwain trafodaethau ac i gyfathrebu’n broffesiynol gyda’r dysgwyr, arweinyddion y Cylch, athrawon / penaethiaid ysgol, rheolwyr a’r oedolion eraill o fewn y lleoliad.
· Cynnal sesiwn anwytho gyda’r dysgwr ar ddechrau’r cwrs.
· Cynnal cyfarfodydd cynnydd yn rheolaidd gyda’r dysgwr ac arweinydd/athro/ rheolwr y lleoliad.
· Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer dysgu ac asesu gyda’r dysgwyr, gan gymryd i ystyriaeth anghenion yr unigolyn, ac anghenion darparwr y lleoliad gwaith.
· Sicrhau bod dysgwyr yn deall diben, gofynion a phrosesau asesiad.
· Defnyddio dulliau asesu dilys, teg dibynadwy a diogel.
· Nodi a chasglu tystiolaeth sy'n ddilys, cywir a digonol.
· Gwneud penderfyniadau asesu yn erbyn meini prawf penodol.
· Cefnogi, tiwtora a mentora dysgwyr i gwblhau’r gwaith yn unol ag ymrwymiad cytundeb Cynllun Prentisiaethau Mudiad Meithrin, wrth ymweld ag o bell.
· Sicrhau bod gwaith portffolio electroneg (Valid-8) pob ymgeisydd yn cael ei gwblhau yn brydlon.
· Sicrhau fod y dysgwr yn derbyn adborth teg ac adeiladol syn cadarnhau cyflawniad ac yn nodi unrhyw ofynion ychwanegol.
· Cynnal cofnodion gofynnol o’r broses asesu, ei ddeilliannau a chynnydd y dysgwr.
· Gweithio gydag eraill i sicrhau y safonir arfer a deilliannau eraill.
· Sicrhau fod pob gwaith wedi’i gwblhau o fewn amser.
· Cyrraedd targedau fel y nodir gan y cwmni.
· Hyrwyddo perthynas bositif gyda phob lleoliad gwaith.
· Mynychu 2 weithdy / tiwtorial y mis trwy gydol y cwrs.
· Cyflwyno yn y gweithdai yn ôl yr angen.
· Cwblhau dogfennau sy’n berthnasol i’r Fframwaith Brentisiaethau yn fisol yn unol ag ymrwymiad cytundeb Cynllun Prentisiaethau Mudiad Meithrin.
· Mynychu Cyfarfodydd Safoni unwaith bob tymor.
· Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw.
· Mynychu Seremoni Wobrwyo flynyddol.
· Cynorthwyo yn ôl yr angen i recriwtio dysgwyr mewn ardal benodedig.
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Cyfweliadau: Wythnos dechrau 25.7.2022 dros Teams
Cyflog
💰 £25,834 pro rata
Lleoliad
📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Cyswllt â’r Aelodau
Mae Senedd Cymru yn edrych am Bennaeth Cyswllt â’r Aelodau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am arweinydd cryf sy’n gallu ysgogi ei hun ac sy’n rhoi pwyslais cryf ar wasanaethau cwsmeriaid, sy’n barod i gymryd y camau cyntaf i ddatrys problemau, ac sy’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd lle mae pawb yn gweithio dan gryn bwysau.
Byddwch yn arwain y tîm Dysgu ac Ymgysylltu â’r Aelodau sy’n gyfrifol am ddatblygu rhaglen dysgu a datblygu berthnasol ac amserol, o safon uchel, a’i chyflwyno i’r Aelodau a’u staff. Mae'r tîm yn rheoli'r gyllideb ac yn datblygu ffyrdd arloesol o ddarparu hyfforddiant ledled Cymru sy'n berthnasol i bob agwedd ar waith yr Aelodau. Mae hefyd yn gyfrifol am fewnrwyd yr Aelodau ac arolwg bodlonrwydd yr Aelodau.
Gan ddefnyddio ffyrdd cynhyrchiol o ymgysylltu â’r Aelodau i gasglu adborth er mwyn nodi a deall anghenion yr Aelodau, byddwch yn cynorthwyo'r Prif Weithredwr a Bwrdd Gweithredol y Comisiwn i wneud penderfyniadau effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr Aelodau gan godi ymwybyddiaeth a chryfhau dealltwriaeth o'r anghenion hynny.
Bydd angen ichi ddangos barn sicr ac ennyn ymddiriedaeth a hyder yr Aelodau a chydweithwyr ac ymgysylltu a chyfathrebu’n effeithiol. Bydd angen ichi ddatblygu a meithrin perthynas ag eraill, cael pobl i ddeall safbwyntiau pobl eraill, a deall rôl y Senedd a’r Comisiwn.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol. Byddwch yn gallu cynhyrchu gwybodaeth sy’n glir a chywir, a chynnig cyngor diduedd, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Rhaid ichi fod yn wleidyddol ddiduedd bob amser.
Yn fwy cyffredinol, bydd angen ichi ddangos ymrwymiad personol i werthoedd Comisiwn y Senedd, gan arwain newid i hybu amcanion strategol Comisiwn y Senedd.
Cysylltwch â ni os ydych chi am ymuno â ni.
Cyflog
💰 £55,240 - £66,234
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Asesydd Chwaraeon (Gogledd Cymru)
Mae Portal yn edrych am Asesydd Chwaraeon (Gogledd Cymru)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r rôl yn golygu asesu a hyfforddi ymgeiswyr ar gyfer Brentisiaethau Lefel 2 a 3 mewn Arwain Gweithgareddau a Chefnogi addysgu Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn ysgolion sy'n cynnwys cyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus a phrofiad blaenorol o weithio o fewn y maes chwaraeon mewn rol asesu neu arweinyddiaeth. Nid yw cymhwyster mewn ymarfer asesu yn angenrheidiol, ond, mae’r gallu I siarad ag ysgrifennu yn y Gymraeg yn angenrheidiol.
Mae'r swydd hon wedi ei seilio adref (yn y maes) ond gellir disgwyl rhywfaint o deithio ar brydiau, mae'r gallu i deithio yn hanfodol.
Cyflog Cychwyn Sylfaenol: Rhwng £26,000 i £ 27,000 y flwyddyn yn seiliedig ar brofiad a chymwysterau a chynigir £500 ychwanegol ar gyfer siaradwyr y Gymraeg.
Buddion Ychwanegol: Cliniadur, ffôn symudol, pecyn gwyliau hael a chynllun pensiwn cyfrannol.
Gweithle: Allan yn y maes / Cartref
Oriau: Llawn amser. Fe ystyrir oriau rhan amserDyddiad Cau: 17/06/2022
Y broses ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais ac anfonwch gyda’ch CV i [email protected]
Mae Portal yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynt os derbynnir llawer iawn o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar ar gyfer y swydd hon.
Bydd ymgeiswyr yn derbyn cyfathrebiad yn mynd ymlaen â'u cais i'r cam nesaf o fewn 2 wythnos yn dilyn y dyddiad cau. Os na dderbynnir hyn, gall ymgeiswyr gymryd yn ganiataol nad yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus ar yr achlysur hwn.
Cyflog
💰 £26,000 - £27,000 +
Lleoliad
📍 Allan yn y maes, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Addysg ac Ieuenctid
Mae Stonewall Cymru yn edrych am Swyddog Addysg ac Ieuenctid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Allwch chi ddychmygu'ch hunan yn creu adnoddau hyfforddi i athrawon ar gyfer elusen hawliau dynol flaenllaw? Hoffech chi ddefnyddio'ch sgiliau a'ch profiad i gefnogi ysgolion, colegau a gwasanaethau ieuenctid i gael mwy o effaith yn eu gwaith ar gynhwysiant LHDTC+? Oes gennych chi'r sgiliau a'r offer i ysgogi ystod eang o gynulleidfaoedd i ddatblygu eu dealltwriaeth o arfer da o ran cynhwysiant LHDTC+? Os yw hyn yn eich disgrifio chi, gwnewch gais i ymuno â ni fel Swyddog Addysg ac Ieuenctid yn Stonewall Cymru.
Mae Stonewall yn elusen hawliau dynol. Rydym yn sefyll dros bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, queer, cwestiynu ac ace (LHDTC+) ym mhobman. Rydym yn dychmygu byd lle mae pob person LHDTC+ yn rhydd i fod yn nhw eu hunain a gallwn fyw ein bywydau i'r eithaf.
Dros y 30+ mlynedd diwethaf, rydym wedi helpu i greu newid trawsnewidiol ym mywydau pobl LHDTC+ yn y DU. Mae ein hymgyrchoedd yn sbarduno newid cadarnhaol yn agweddau'r cyhoedd a pholisi cyhoeddus. Rydym yn sicrhau y gall pobl LHDTC+ ffynnu drwy gydol ein bywydau drwy adeiladu rhaglenni newid dwfn a pharhaus gyda'r sefydliadau sy'n cael yr effaith fwyaf arnom, p'un a'i ydym yn dysgu, yn gweithio, yn gweddïo neu'n chwarae chwaraeon.
Fel Swyddog Addysg ac Ieuenctid Stonewall Cymru, byddech yn rhan allweddol o dîm o bobl angerddol sy'n gweithio gyda'n gilydd i gyflawni ein Strategaeth Rhydd i Fod (2021-25). Ar gyfer y rôl hon rydym yn chwilio am swyddog dwyieithog profiadol gyda gwybodaeth a dealltwriaeth o'r sector addysg ac ieuenctid, profiad o feithrin perthynas â rhanddeiliaid a'r gallu i ysbrydoli ystod o gynulleidfaoedd trwy siarad cyhoeddus a chyflwyno.
Mae ein pobl yn ffurfio cymuned fywiog a deinamig. Mae gan lawer o'n staff fuddsoddiad personol yn y gwaith a wnawn, ac rydym yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Rydym yn falch o'r amrywiaeth hwn, ac o'n cefnogaeth i'n gilydd – yn ein timau, ein grwpiau rhwydwaith, a'n cyfeillgarwch.
Cyflog
💰 £27,440
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Hyfforddai Cymorth Corfforaethol
Ar gau. Mae’r swydd hon ar gau. Nid oes dyddiad cau wedi ei gofnodi.
Raglen Dyfodol Môn wedi lansio i ceisio recriwtio 15 o hyfforddeion newydd eleni. Profiad gwaith ymarferol ynghyd â chyfle i ennill cymhwyster proffesiynol gyda chyflog.
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Hyfforddai Dysgu Digidol
Ar gau. Mae’r swydd hon ar gau. Nid oes dyddiad cau wedi ei gofnodi.
Raglen Dyfodol Môn wedi lansio i ceisio recriwtio 15 o hyfforddeion newydd eleni. Profiad gwaith ymarferol ynghyd â chyfle i ennill cymhwyster proffesiynol gyda chyflog.
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.