Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Hyfforddwr Lloriau

💰 £31k - £37k 📍 Bangor Ar gau

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn edrych am Hyfforddwr Lloriau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Gellir ystyried y swydd hon fel un amser llawn neu ran-amser. Byddwch yn cyflwyno darpariaeth i ddysgwyr yng Ngogledd Cymru, ond efallai bydd gofyn i chi weithio mewn ardaloedd eraill ledled Cymru (wyneb yn wyneb ac ar-lein).

Cyflog: £31,498 - £36,642 y flwyddyn (37 awr yr wythnos)

Cyflog: £15,748 - £18,320 y flwyddyn (18.5 awr yr wythnos)

Dyma gyfle cyffrous i hyfforddwr Lloriau cymwysedig ymuno â’n tîm proffesiynol a llewyrchus. Bydd y swydd yn gofyn i’r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus weithio yn gyda thîm Hyfforddiant CGA - cangen fasnachol y Coleg. 

Byddwch yn gweithio yn yr adran Fusnes, Sgiliau ac Arloesi, gan farchnata, recriwtio, addysgu, asesu a chefnogi dysgwyr o fewn y sector. Bydd gofyn i chi hyfforddi ac asesu dysgwyr ym mhob agwedd ar Loriau (carpedi pren, laminadu a finyl/linoliwm), gan gyflwyno cymwysterau academaidd a sgiliau hanfodol hyd at lefel 3.

Bydd rhaglenni’r ddarpariaeth yn cynnwys QCF, NVQ, cyrsiau academaidd a dysgu seiliedig ar waith. Mae safonau uchel, proffesiynoldeb a gwybodaeth gyfredol am y diwydiant yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Bydd gennych ymagwedd broffesiynol a gwybodaeth gyfredol am fframweithiau perthnasol a byddwch yn cyflwyno pob cymhwyster sy’n berthnasol i’r fframwaith prentisiaethau. Yn ddelfrydol, byddwch yn gyfarwydd â gofynion gweinyddol rhaglenni prentisiaeth.

Byddwch yn gweithio â chyflogwyr allanol a rheolwyr o fewn y Coleg i nodi a gweithredu datrysiadau sy’n ymwneud â hyfforddiant er mwyn diwallu anghenion sefydliadau. Hefyd, bydd gofyn i chi gynorthwyo Dilyswyr Mewnol i sicrhau bod holl anghenion y Dilysydd Allanol a chyrff cyhoeddus yn cael eu diwallu.

Bydd gennych gymhwyster Lefel 3 (o leiaf) neu gywerth mewn maes perthnasol ac yn meddu ar Ddyfarniad Asesydd A1/Tystysgrif Dilyswyr Mewnol TAQA (neu barodrwydd i ennill un o’r cymwysterau hyn). Mae Lefel 2 (Gradd A-C) neu gymhwyster cyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, ynghyd ag ymrwymiad i ymgymryd â chymhwyster Paratoi i Addysgu (PTTLS). Bydd gennych hefyd brofiad perthnasol o weithio yn y diwydiant.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu gwych ar lafar ac yn ysgrifenedig, sgiliau TGCh cadarn a chymhwysedd galwedigaethol i asesu hyd at Lefel 3. Byddwch yn medru ysgogi ac ysbrydoli eraill, gan drosglwyddo gwybodaeth i’r dysgwyr. Byddwch yn meddu ar lygad wych am fanylder, ysfa i gwblhau targedau a ffocws ar ansawdd. 

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar. 

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1). 

Buddion:

28 diwrnod o wyliau, ynghyd â phythefnos ar gau dros y Nadolig ac 8 gwyl banc, Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, amrywiaeth o fanteision i weithwyr gan gynnwys cynlluniau aberthu cyflog, disgowntiau staff a pharcio am ddim.

Pwrpas y Swydd

Hyfforddi ac asesu dysgwyr ym mhob agwedd ar Loriau (carped, pren/laminedig a finyl/linoliwm), cymwysterau academaidd a sgiliau hanfodol Lefelau 1-3. 

Bydd y rhaglenni’n cynnwys adennill costau, QCF NVQ, cyrsiau academaidd a fframweithiau Dysgu Seiliedig ar Waith. Mae safonau uchel, proffesiynoldeb a gwybodaeth gyfredol am y diwydiant yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

PRIF GYFRIFOLDEBAU

·  Hyfforddi ac asesu dysgwyr mewn modd proffesiynol gan ddarparu safonau uchel

• Cynllunio a chyflwyno o leiaf 12 awr yr wythnos o hyfforddiant i ddysgwyr yn ôl yr angen (pro rata ar gyfer staff ffracsiynol)

·  Gweithio gyda chyflogwyr i nodi, hybu a chynnig datrysiadau hyfforddiant er mwyn diwallu eu hanghenion

·  Cynnig profiad dysgu di-dor i ddysgwyr, gan ddatblygu eu sgiliau sy’n benodol i’r sector cyflogaeth, gan gynnwys QCF NVQs, fframweithiau prentisiaeth a rhaglenni academaidd, arnodedig a phwrpasol

·  Gweithio gyda thîm o hyfforddwyr, aseswyr a gwirwyr mewnol i gefnogi a hybu gweithgarwch sicrhau ansawdd a rhagoriaeth, er mwyn diwallu anghenion cyrff dyfarnu ac ESTYN

·  Gweithio gyda’r tîm datblygu busnes i ddod o hyd i gwsmeriaid newydd a meithrin cysylltiadau cyffrous gyda chyflogwyr

Meddu ar ymwybyddiaeth o’r holl gwricwlwm a gynigir gan y Coleg a mentrau ariannu sydd ar gael i wneud y mwyaf o gyfleoedd gyda chwmnïau presennol a newydd.

·  Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr am gyrsiau a chyfleoedd ariannu e.e. llenyddiaeth marchnata ac ati

·  Sicrhau bod personél priodol (e.e. Cydlynwyr Masnachol) yn cael gwybod am werthiannau a darpar werthiannau

·  Cynnig lefel uchel o wasanaeth cwsmeriaid i bawb sy’n rhan o’r rhaglen ddysgu e.e. dysgwyr a chyflogwyr

·  Meithrin amgylchedd dysgu hyblyg a chynhyrchiol trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu a darparu gan gynnwys: dulliau dysgu o bell, cyfunol, yn yr ystafell ddosbarth ac ar safle’r cyflogwr (os yw’n briodol)

·  Hwyluso ac ymgorffori sgiliau hanfodol yn y rhaglen gyflwyno

·  Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl waith papur perthnasol, gan gynnwys adolygiadau o gynnydd dysgwyr a’u taflenni amser   ·  Cynnal cofnodion manwl mewn perthynas â gweithgarwch myfyrwyr ac adrodd gwybodaeth fanwl i’r Rheolwr Llinell lle bo angen

·  Gweithio mewn tîm i ddatblygu rhaglenni presennol a newydd

·  Sicrhau bod ansawdd yn wraidd i bob gweithgaredd a gynhelir a bod gweithdrefnau sicrhau ansawdd yn cael eu dilyn yn unol â gofynion y Coleg

·  Cydymffurfio â Rheoliadau a Gweithdrefnau ariannol y Coleg

· Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd sy’n cael eu hystyried yn berthnasol i’r swydd

Cyflog

💰 £31,498 - £36,642

Lleoliad

📍 Bangor

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £543 yr awr o sain 📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £15k - £18k 📍 Caeredin📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £23k 📍 Y Bala Ar gau

💰 £67k - £70k 📍 Caernarfon📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30,966 📍 Llandeilo📍 Hyblyg Ar gau

💰 £24,669 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29k 📍 Caernarfon📍 Hybrid Ar gau

💰 £28k 📍 Llangefni Ar gau

💰 £30k 📍 Bangor📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,459 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £28k - £30k 📍 Hybrid📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

💰 £23k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £31k 📍 Aberystwyth📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £29k - £34k 📍 Corwen Ar gau

💰 £22k - £26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £22k - 26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £25k - £30k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £35k - £45k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £21k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £29.5k 📍 Y Fenni📍 Abertyleri +23 Ar gau

💰 Soulbury 27-30 ynghyd â 3 phwynt SPA 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin📍 Caernarfon +1 Ar gau