Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Lluniau Llonydd

S4C

💰 £21k - £24k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae S4C yn edrych am Swyddog Lluniau Llonydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Pwrpas S4C yw gwasanaethu'r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu y platfform ac ecosystem i sbarduno'r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy'n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i'w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy'n deall gwerth a phwysigrwydd lluniau llonydd i ymuno â'r Adran Ddigidol a Marchnata. Gyda'r gallu i adnabod beth sy'n gwneud llun da a sgiliau trefnu rhagorol, byddwch fel aelod o'r tîm Brand a Chreadigol yn gyfrifol am drin a dethol lluniau cryf i hyrwyddo cynnwys S4C i'r gwylwyr.

Prif ffocws y rôl bydd trefnu, golygu, catalogio a dosbarthu lluniau llonydd, gan sicrhau delweddau hyrwyddo cryf ac addas i'n cynnwys ar draws llwyfannau, a chefnogi gweledigaeth greadigol brand S4C. Mae'r rôl yn gweithio'n agos gydag adrannau eraill o fewn S4C yn ogystal ag asiantaethau â chwmnïau cynhyrchu allanol.

Manylion Eraill

Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg. Os hoffech mwy o wybodaeth ar hyn plîs cysylltwch ag [email protected].

Cyflog: £21,000 - £24,000 y flwyddyn

Cytundeb: 12 mis

Oriau Gwaith: 35.75

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: 26 diwrnod yn ogystal â gwyliau'r banc.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn ymuno â'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 12:00 ar ddydd Mercher 25 Mai 2022 i [email protected] neu'r Adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C: Yr Egin, Caerfyrddin SA31 3EQ.

Ni dderbynnir CV.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Cyflog

💰 £21,000 - £24,000

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Prifysgol Bangor

💰 £23k - £26k 📍 Bangor Ar gau

TIAA Ltd

💰 £21k 📍 Amrywiol Ar gau

Adra

💰 £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Mantell Gwynedd

💰 £28k - £30k 📍 Hyblyg Ar gau

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £31k 📍 Hyblyg Ar gau

Adra

💰 £23k - £26k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

ITV Cymru Wales

💰 I'w drafod 📍 Caerdydd Ar gau

Cymdeithas yr Iaith

💰 £21k - £24k 📍 Aberystwyth Ar gau

Cwmni Da

💰 £30k - £35k 📍 Caernarfon Ar gau

Adra

💰 £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Ynni Cymunedol Cymru

💰 £30k - £33k 📍 Gweithio o Adref Ar gau

Adra

💰 £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £43k - £46k 📍 Conwy Ar gau

Adra

💰 £29k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £27k - £30k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon

💰 £25k - £28k 📍 Caernarfon Ar gau

Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri

💰 £20k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £16k 📍 Betws y Coed Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £49k 📍 Amrywiol Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £21k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

Antur Cymru

💰 £20k 📍 Gweithio o Adref Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £25k - £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

Cyngor Bro Morgannwg

💰 £30k - £33k 📍 Y Barri Ar gau