Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cadeirydd y Coleg

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 Honorariwm 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Gadeirydd y Coleg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn chwilio am Gadeirydd newydd i’w arwain mewn cyfnod cyffrous.

Mae hwn yn gyfle arbennig i unigolyn profiadol sydd yn awyddus i ddefnyddio’i sgiliau a phrofiadau helaeth ym myd llywodraethiant, arweinyddiaeth ac addysg i arwain corff cynllunio cenedlaethol uchelgeisiol sydd â’r Gymraeg wrth wraidd ei bwrpas a’i weledigaeth.

Y Coleg sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’n cyflawni hyn drwy weithio mewn partneriaeth gyda phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i adeiladu cyfundrefn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg gynhwysol o’r radd flaenaf. 

Fel Cadeirydd, byddwch yn arwain y Bwrdd Cyfarwyddwyr a’r Coleg wrth weithredu Cynllun Strategol y Coleg, sydd yn canolbwyntio ar ehangu a datblygu cyfleoedd i fyfyrwyr a dysgwyr yng nghyd-destun Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a blaenoriaethau polisi eraill.

Prif ddyletswyddau’r Cadeirydd yw cynnig a dangos arweiniad strategol, ac arwain y Bwrdd wrth iddo lunio a chymeradwyo strategaethau, monitro perfformiad a sicrhau bod strwythurau llywodraethiant cryf yn goruchwylio holl ystod gwaith y Coleg.

Disgwylir ymrwymiad o tua dau ddiwrnod y mis ar gyfartaledd. Telir honorariwm o £7,500 y flwyddyn ac ad-delir costau yn unol â pholisi costau’r Coleg.

Bydd y penodiad am gyfnod o bedair blynedd, i ddechrau ym mis Gorffennaf 2022. 

Mae’r Coleg yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob rhan o’r gymuned. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored, a gwneir y penodiad ar sail teilyngdod.

Dyddiad Cau: 1 Mehefin 2022

Ceir manylion llawn a ffurflen gais ar wefan y Coleg, www.colegcymraeg.ac.uk/cadeirydd2022

Cyflog

💰 Honorariwm

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

TIAA Ltd

💰 £21k 📍 Amrywiol Ar gau

Adra

💰 £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Mantell Gwynedd

💰 £28k - £30k 📍 Hyblyg Ar gau

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £31k 📍 Hyblyg Ar gau

Adra

💰 £23k - £26k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

ITV Cymru Wales

💰 I'w drafod 📍 Caerdydd Ar gau

Cymdeithas yr Iaith

💰 £21k - £24k 📍 Aberystwyth Ar gau

Cwmni Da

💰 £30k - £35k 📍 Caernarfon Ar gau

Adra

💰 £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Ynni Cymunedol Cymru

💰 £30k - £33k 📍 Gweithio o Adref Ar gau

Adra

💰 £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £43k - £46k 📍 Conwy Ar gau

Adra

💰 £29k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £27k - £30k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon

💰 £25k - £28k 📍 Caernarfon Ar gau

S4C

💰 £21k - £24k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri

💰 £20k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £16k 📍 Betws y Coed Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £49k 📍 Amrywiol Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £21k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

Antur Cymru

💰 £20k 📍 Gweithio o Adref Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £25k - £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

Cyngor Bro Morgannwg

💰 £30k - £33k 📍 Y Barri Ar gau