Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch Diwtor-Dysgu Cymraeg y Fro

Cyngor Bro Morgannwg

💰 £30k - £33k 📍 Y Barri Ar gau

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn edrych am Uwch Diwtor-Dysgu Cymraeg y Fro

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

O ganlyniad i benodiad newydd y deiliad presennol, rydym yn chwilio am Uwch Diwtor newydd i gefnogi tîm bach o diwtoriaid ymroddgar sy’n rhoi anghenion y dysgwyr wrth galon pob gweithred.

Amdanom ni

Mae Dysgu Cymraeg y Fro yn darparu rhaglen lawn o gyrsiau Cymraeg i oedolion ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r tîm yn rhan o’r adran Dysgu Oedolion yn y Gymuned sy’n gwasanaethu oedolion ledled Bro Morgannwg. O ganlyniad i benodiad newydd y deiliad presennol, rydym yn chwilio am Uwch Diwtor newydd i gefnogi tîm bach o diwtoriaid ymroddgar sy’n rhoi anghenion y dysgwyr wrth galon pob gweithred.

Ynglŷn â'r rôl

Manylion am gyflog: JNC Youth & Community Pwynt 19-22, £30,364 - £33,039

Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 awr yr wythnos (Llawn amser)

Prif Fan Gwaith: Canolfan Ddysgu Cymunedol Palmerston, y Barri

**Cytundeb: **tair blynedd yn y lle cyntaf

Disgrifiad:

Yn atebol i Reolwr Dysgu Cymraeg y Fro, bydd yr Uwch Diwtor yn cyflawni rôl allweddol, yn gyfrifol am:

- Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol y staff

- Adnoddau a’r Cwricwlwm

- Amserlenni a Chyflenwi

- Arholiadau

- Dysgu Atodol ac Anffurfiol

- Llais y Dysgwr

- Disgwylir i’r Uwch Diwtor ddysgu cyrsiau’n gyson, gan gynnwys dosbarthiadau nos, a chyfrannu at y broses Ansawdd drwy arsylwi gwersi, Safoni ac ysgrifennu adroddiadau.

Amdanat ti/Bydd angen:

- Sgiliau iaith ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg.

- Profiad o lwyddiant fel Tiwtor Cymraeg i Oedolion ar bob lefel iaith.

- Sgiliau rhagorol mewn trefnu, rheoli amser, cyflwyno ac hyfforddi.

- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun.

- Gradd Anrhydedd a chymhwyster Addysgu neu Hyfforddiant.

- Ystod eang o sgiliau digidol a thechnoleg chyfathrebu.

Cyflog

💰 £30,364 - £33,039

Lleoliad

📍 Y Barri

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Ar gau

Ysgol Glan Clwyd

Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Ar gau

Grŵp Cynefin

Ar gau

Grŵp Cynefin

Ar gau

Cyfoeth Naturiol Cymru

Ar gau