Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Ymchwilydd Sgorio

Rondo

💰 I'w drafod 📍 Caernarfon📍 Caerdydd +2 Ar gau

Mae Rondo yn edrych am Ymchwilydd Sgorio

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Rondo yn chwilio am berson sydd â diddordeb brwd mewn pêl-droed i weithio ar raglenni Sgorio mewn cyfnod euraidd i bêl-droed Cymru.

Bydd yr ymchwilydd llwyddiannus yn gweithio ar gemau byw llinol a digidol, ar raglenni uchafbwyntiau ac hefyd yn ymchwilio a chreu cynnwys i gyfryngau cymdeithasol Sgorio.

Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm cynhyrchu profiadol ac yn cynnig syniadau am eitemau, dod o hyd i gyfranwyr, paratoi nodiadau cynhwysfawr i sylwebwyr, logio manylion mewn basau data, gan hefyd dderbyn hyfforddiant mewn nifer o roliau’r tîm cynhyrchu’n ystod gemau byw.

Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig ymuno ag adran lwyddiannus mewn cyfnod hynod gyffrous. Er bod profiad blaenorol yn fanteisiol, nid yw profiad yn hanfodol ar gyfer y rôl hon – rydyn ni’n croesawu ymgeiswyr sydd ag angerdd dros bêl-droed a pharodrwydd i ddysgu. 

Hanfodol 

Person brwdfrydig, egniol a chreadigol sydd â gwir ddiddordeb ym mhêl-droed Cymru.

Y gallu i gyfathrebu’n glir a chywir yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Bod yn barod i gyflawni pob math o dasgau a hynny ar brydiau o fewn terfynau amser tynn Dealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol.   Sgiliau TG sylfaenol.

Manteisiol 

Trwydded yrru lawn.

Profiad o ymchwilio neu gymhwyster mewn darlledu. 

Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol. 

Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg ac o adre ar adegau. Parodrwydd i weithio o swyddfeydd Rondo yng Nghaerdydd a Chaernarfon yn ôl y galw, ac ar nifer o benwythnosau’n ôl y galw.

Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected] 

Cyflog

💰 I'w drafod

Lleoliad

📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

TIAA Ltd

💰 £21,200 📍 Amrywiol Ar gau

Adra

💰 £28,249 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Mantell Gwynedd

💰 £28,226 - £30,095 📍 Hyblyg Ar gau

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £31,490 📍 Hyblyg Ar gau

Adra

💰 £23,378 - £25,640 📍 Gogledd Cymru Ar gau

ITV Cymru Wales

💰 I'w drafod 📍 Caerdydd Ar gau

Cymdeithas yr Iaith

💰 £21,000 - £24,000 📍 Aberystwyth Ar gau

Cwmni Da

💰 £30,000 – £35,000 📍 Caernarfon Ar gau

Adra

💰 £28,249 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Ynni Cymunedol Cymru

💰 £30,000 - £33,000 📍 Gweithio o Adref Ar gau

Adra

💰 £28,249 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £42,614 - £45,648 📍 Conwy Ar gau

Adra

💰 £29,298 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £27,116 - £30,497 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon

💰 £25,419 - £28,226 📍 Caernarfon Ar gau

S4C

💰 £21,000 - £24,000 📍 Caerfyrddin Ar gau

Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri

💰 £19,760 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £16,380 📍 Betws y Coed Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £49,089 📍 Amrywiol Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £20,800 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

Antur Cymru

💰 £20,280 📍 Gweithio o Adref Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £24,899 – £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

Cyngor Bro Morgannwg

💰 £30,364 - £33,039 📍 Y Barri Ar gau