Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth Di-sgript (Unscripted)

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae S4C yn edrych am Bennaeth Di-sgript (Unscripted)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Fel un o dîm Cynnwys byddwch yn cydweithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Cynnwys i greu a goruchwylio strategaeth cynnwys aml-lwyfan ar gyfer S4C.

Byddwch yn cyflwyno a chomisiynu ystod eang o gynnwys amrywiol ac arloesol gan gyflenwyr. Yn cydbwyso rhagoriaeth olygyddol â'r holl ofynion cydymffurfio a chyllidebol, gan sicrhau bod y cynnwys a gomisiynwyd yn cyd-fynd yn strategol â'r weledigaeth ar gyfer S4C.

Byddwch yn ddolen gyswllt allweddol ac adeiladol gyda'r sector gynhyrchu annibynnol drwy gydweithio, creu a meithrin syniadau ar y cyd er mwyn adnabod a meithrin cynnwys o'r safon uchaf.

Bydd eich cyfraniad a'ch dylanwad fel arweinydd yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan.

Manylion Eraill

Lleoliad: Canolfan yr Egin, Caerfyrddin

Mae S4C yn gweithredu polisi Hybrid

Cyflog: Yn unol â phrofiad

Cytundeb: 3 mlynedd

Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mawrth 20 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg

Cyflog

💰 Yn unol â phrofiad

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £20,852 📍 Y Bala Ar gau

💰 £34,304 - £40,927 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £40,057 - £45,839 pro rata 📍 Bangor Ar gau

💰 I'w drafod 📍 Aberystwyth📍 Caerdydd Ar gau

💰 £24,651 - £26,778 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £44,000 – £50,000 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £21,453 - £25,017 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £51,380 - £61,440 📍 Casnewydd Ar gau

💰 Honorariwm 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £32,306 - £39,027 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £21,049 pro rata 📍 Sir y Fflint📍 Wrecsam Ar gau

💰 £21,049 pro rata 📍 Wrecsam Ar gau

💰 £26,849 📍 Llanelwy Ar gau

💰 £19,601 - £22,058 📍 Llangrannog Ar gau

💰 £21,225 - £28,624 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £28,647 📍 Bangor Ar gau

💰 £21,506 - £42,326 📍 Gorseinon Ar gau

💰 £25,211 - £28,223 📍 Morgannwg Ganol Ar gau

💰 £25,211 - £28,223 📍 Maelgwyn Ar gau

💰 £23,000 📍 Blaenau Ffestiniog Ar gau

💰 £34,198 - £36,335 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £41517 - £44784 📍 Llangynnwr Ar gau

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon Ar gau