Cynghorwyr Busnes
Mae Business in Focus yn edrych am Gynghorwyr Busnes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gan Business in Focus Ltd sawl contract busnes gyda phortffolio o gleientiaid gwahanol e.e. Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes a Llywodraeth Cymru. Mae'r contractau hyn yn cynnig gwasanaethau sy'n ymwneud â chymorth busnes yng Nghymru a ledled y DU. Rheolir y contractau hyn gan y Rheolwr Contractau Busnes. Mae tîm o gynghorwyr busnes sy'n darparu'r gwasanaethau hyn gyda phortffolio o ddefnyddwyr terfynol.
**Crynodeb o'r Swydd: **
Bydd Cynghorwyr Busnes yn rheoli portffolio o hyd at 40 o unigolion sy'n dechrau busnesau, busnesau newydd cyfnod cynnar a busnesau sy'n bodoli eisoes ar ôl Covid. Ar gyfer busnesau newydd sydd heb eu sefydlu eto ac sydd ar ddechrau cyfnod cynnar, bydd y Cynghorydd Busnes yn darparu dull diduedd sy'n canolbwyntio ar fusnes, gan gynnig cymorth penodol drwy gyfuniad o sesiynau un i un rhithiol a gweminarau, neu alwadau ffôn. Bydd y ddarpariaeth yn rhithwir/digidol yn bennaf, ond ceir darpariaeth gorfforol sylweddol i feithrin cysylltiadau, sicrhau bod atgyfeiriadau'n cael eu gwneud a chynwysoldeb. Ar gyfer busnesau sefydledig, bydd y Cynghorydd Busnes yn trefnu cyfarfodydd rhithiol un i un er mwyn gwneud diagnosis o anghenion y busnes ac yn cynnig cymorth addas penodol, gan hwyluso mynediad i gynghorwyr arbenigol a chymorth gan Busnes Cymru, fel y bo'n briodol.
DYMUNOL:
Cymhwyster sy'n gysylltiedig â chynghori, e.e. Cymhwyster Cymorth Busnes y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5, SFEDI Lefel 5, neu gyfwerth, NEU Cymhwyster sy'n gysylltiedig â rheoli, e.e. Cymhwyster Rheoli y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5, neu gyfwerth, NEU Gymhwyster busnes lefel gradd
**Prif Gyfrifoldebau: **
- Sefydlu cysylltiadau â chleientiaid er mwyn cael trafodaethau cychwynnol i gael dealltwriaeth o'r cleient a'u syniad busnes drwy sesiynau un i un a grŵp. Canfod pa heriau personol sydd ganddynt ac y mae angen iddynt eu goresgyn a chytuno ar gynllun gweithredu ynghylch sut i'w cefnogi i oresgyn y materion/rhwystrau hyn.
- Deall prif elfennau a gofynion syniadau busnes er mwyn nodi materion a/neu gyfleoedd i ddatblygu'r syniad busnes.
- Cynnig gwybodaeth a chymorth i gleientiaid ynghylch materion busnes i'w helpu nhw ddechrau busnes. Gwneud atgyfeiriadau at arbenigwyr priodol / rhaglenni Llywodraeth Cymru/ Gwasanaeth Busnes Cymru ar gyfer BBaCh.
- Cofnodi a chwblhau cynlluniau gweithredu'n gywir, gweithgarwch â chleientiaid, canlyniadau a'r holl waith papur cysylltiedig yn unol â gofynion cytundebol Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person a gweithdrefnau gweithredol. Sicrhau bod oriau cymorth yn cael eu cynnig, eu cofnodi a'u cymeradwyo.
- Datblygu a darparu cymorth wedi'i deilwra sy'n cyfuno gweminarau a fideogynadledda un i un i fusnesau newydd cyn dechrau, cyfnod cynnar a busnesau sy'n bodoli eisoes mewn modd proffesiynol a gwybodus.
- Cynnal cyfarfodydd un i un gyda busnesau presennol i wneud diagnosis o'r anghenion busnes a'r cymorth sydd ei angen, gan arwain at gefnogi'r perchennog i ddatblygu Cynllun Gweithredu. Ar ôl ei ddatblygu, cefnogi'r perchennog i esblygu'r cynllun a'u cyflwyno i rwydweithiau cymorth a chyngor perthnasol er mwyn rhoi hwb i'w gwybodaeth a'u hyder.
- Sefydlu a datblygu rhwydwaith effeithiol o gysylltiadau, e.e. Canolfannau Gwaith, Cymunedau am Waith, Cymdeithasau Tai, CGS, i hyrwyddo'r prosiect a denu ac ymgysylltu â phobl leol i ystyried hunangyflogaeth.
- Cefnogi Hwylusydd CRF i nodi a datblygu digwyddiadau i hyrwyddo'r gwasanaeth. Ymgymryd â'r gweithgareddau hyn mewn ffordd broffesiynol a gwybodus.
- Meithrin cysylltiadau effeithiol â chleientiaid, cydweithwyr a chyflenwyr; yn y sector cyhoeddus a'r gwasanaethau sydd ar gael o'r sector preifat.
- Bod ar flaen y datblygiadau diweddaraf mewn busnes ac arferion, cymryd rhan mewn sesiynau uwchsgilio, bod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael gan wasanaethau cymorth busnes lleol a ledled Cymru.
- Rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid a gweithio gyda nhw i roi gwelliannau parhaus ar with.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n rhesymol ofynnol gan yr Uwch Dîm Rheoli.
Cyflog
💰 £30,000
Lleoliad
📍 Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Tiwtor Marchnata dan hyfforddiant
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Diwtor Marchnata dan hyfforddiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti’n berson sydd:
â diddordeb mewn pobl? yn llawn syniadau creadigol? â’r gallu i ysbrydoli eraill? eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu?
Os felly, ymgeisia am swydd Tiwtor Marchnata dan Hyfforddiant gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin (DCGO).
Mae DCGO yn un o 11 darparwr cyrsiau Cymraeg i Oedolion yng Nghymru dan nawdd Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac yn cyflogi dros 70 o staff. Gyda 50 mlynedd o brofiad yn y maes a bron i 2000 o ddysgwyr, mae DCGO wedi derbyn y farn ‘Rhagorol’ gan Estyn gan gadarnhau ei statws fel y darparwr mwyaf ac uchaf ei safon trwy Gymru gyfan.
Swydd dan Hyfforddiant
Os wyt ti’n awyddus i ennill amrywiaeth o brofiadau ym myd gwaith ac eisiau dechrau meithrin arbenigedd ym maes marchnata, addysg oedolion a chynllunio iaith, dyma’r swydd berffaith i ti.
Fel Tiwtor Marchnata dan Hyfforddiant byddi’n cydweithio â’r Tiwtor Marchnata presennol ar ymgyrch farchnata’r haf; gwaith allweddol o bwysig er mwyn denu dysgwyr newydd cyn dechrau’r flwyddyn academaidd. Byddi’n cael pob cefnogaeth i gwblhau hyfforddiant marchnata a TG a ddarperir i staff y brifysgol.
Cyn dechrau dysgu, byddi’n cael y cyfle i astudio Tystysgrif Lefel 4 CBAC i Diwtoriaid Dysgu Cymraeg, a thrwy hynny, yn cael mewnwelediad gwerthfawr i ddulliau dysgu ac addysgu’r Gymraeg. Yn ogystal â’r hyfforddiant, byddi’n dod yn rhan o’n cymuned glòs o diwtoriaid ac yn cael mentor a fydd wrth law i dy gefnogi yn ystod dy dymor cyntaf yn y dosbarth.
Bwriad y swydd yw rhoi'r cyfle hyfforddiant, i gefnogi unigolyn i ddatblygu'r profiad a sgiliau fydd yna yn cynnig sylfaen iddynt ystyried cyfleoedd bellach yn y maes. Er hyn bydd y swydd am gyfnod penodol yn unig. Mae’r swydd yn un llawn amser ac mae ar gael hyd at 31 Gorffennaf 2023, a bydd y lleoliad gwaith i’w gytuno arno gyda’r ymgeisydd llwyddiannus. Mae’r brifysgol yn gweithredu dull hybrid o weithio ar hyn o bryd.
Disgwylir i ddeiliad y swydd ddechrau cyn gynted â phosib ar ôl 31 Mai 2021.
Dylai ymgeiswyr fod gyda 2 Lefel Uwch Gyfrannol neu 1 Lefel A neu NVQ Lefel 3 mewn pwnc perthnasol, neu brofiad cyfatebol.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn Hanfodol i'r swydd hon.
Derbyniwn geisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 6 Mehefin 2022.
Bydd cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn cael eu cynnal ym Mangor dydd Mercher 15/6/22.
Cyflog
💰 £23,487 - £26,341
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Archwiliwr Mewnol dan Hyfforddiant
Mae TIAA Ltd yn edrych am Archwiliwr Mewnol dan Hyfforddiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae ein tîm archwilio mewnol wedi'i sefydlu ers dros 20 mlynedd ac mae'n ganolog i'r gwasanaeth gofalgar a gynigiwn i'n cleientiaid. Ni anghofiwn mai pobl go iawn - cleifion, myfyrwyr, tenantiaid, neu gwsmeriaid sydd wrth wraidd unrhyw archwiliad a thu ôl i'r holl ffigurau a thaenlenni. O’r herwydd, mae ein timau’n cael eu hannog i ddod â’u hunain yn gyflawn i’r gwaith. Gweithredu gydag uniondeb a dealltwriaeth, a defnyddio eu gwybodaeth arbenigol i wella bywydau pobl. Y rôl A fyddai gennych chi ddiddordeb mewn Prentisiaeth? Neu a fyddai'n well gennych rywbeth mwy mewnol? Mae gennym opsiynau ar gyfer y ddau fel y gallwn ddarparu ar gyfer eich dewis o lwybr gyrfa yn berffaith. Defnyddir Archwilio Mewnol gan ein cleientiaid i'w helpu i gynnal fframwaith llywodraethu a rheoli risg cryf. Mae'n helpu i ganfod risgiau gweithredol ac yn arwain at gryfhau a thyfu busnesau. Os ydych chi eisiau gyrfa mewn cyfrifeg a chyllid, mae’n bosib nad dyma'r rôl i chi, fodd bynnag, os oes gennych chi feddwl dadansoddol ac rydych am fod yn rhan bwysig wrth helpu busnesau eraill i lwyddo yna gallai hyn fod yn berffaith i chi! Fel Archwilydd Mewnol dan Hyfforddiant, byddwch yn cefnogi eich tîm i gynnal adolygiadau archwilio mewnol ar gyfer ystod eang o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat. Bwriad yr adolygiadau a gynhelir yw gweld a yw'r prosesau'n gweithredu yn ôl y bwriad ac i ganfod cyfleoedd i weithredu'n fwy effeithiol. Fel Hyfforddai, byddwn yn rhoi’r holl gymorth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i ennill eich cymwysterau proffesiynol a llwyddo yn eich gyrfa. Mae'r cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen o fewn y cwmni yn ddiddiwedd. Am hynny, gofynnwn am unigolyn brwdfrydig, gweithgar sy'n angerddol am ddarparu gwasanaeth rhagorol i'n cleientiaid. Gofynion:
Byddwn yn rhoi'r arfau sydd eu hangen arnoch i lwyddo fel Archwilydd Mewnol. Waeth beth fo'ch cefndir, dyfnder eich profiad, neu lefel addysg, rydym yn awyddus i archwilio eich addasrwydd gyda TIAA Ltd. Y cyfan a ofynnwn yw bod gennych y meddylfryd cywir a diddordeb cryf ym myd Archwilio Mewnol. Yr elfennau allweddol sydd gan ein Harchwilwyr Mewnol yw:
Sgiliau ysgrifennu cryf.
Meddwl dadansoddol.
Gallu rhagorol i roi sylw i fanylion.
Sgiliau ardderchog o ran cadw at derfynau amser a threfnu.
Y gallu i ddefnyddio cynnyrch Microsoft Office.
Y gallu i gyfathrebu ar bob lefel (ar lafar ac yn ysgrifenedig).
Cymhwysedd i fyw a gweithio yn y DU.
Byddai o fudd cael trwydded yrru lawn y DU. Gallai hefyd fod angen aros oddi cartref o bryd i'w gilydd oherwydd lleoliad daearyddol y cleientiaid. Pam ymuno â TIAA Ltd:
Cyflog cychwynnol o £21,200.
30 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd â gwyliau banc.
Cynllun hyfforddi wedi'i gefnogi'n llawn, sy'n eich galluogi i ennill eich cymhwyster IIA
Opsiynau gweithio o bell a hybrid.
Oriau hyblyg sy'n caniatáu’r cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith
Cynllun aberthu cyflog ar gyfer car trydan/hybrid
Prosesau arfarnu rheolaidd gyda chyfleoedd diderfyn o ran camu ymlaen yn eich gyrfa.
Mentrau cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad yn y byd gweithio o bell.
Mae gennym ymrwymiad i lwyddo yn hytrach na chyfundrefn a yrrir gan dargedau absoliwt, ac rydym yn gofalu am bob un o’n harbenigwyr unigol ac yno iddynt i gynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant. Rydym yn credu mewn rhoi'r annibyniaeth a'r gydnabyddiaeth i chi ysgogi eich llwyddiant eich hun. P’un a ydych newydd ddechrau ar eich gyrfa neu os oes gennych y profiad i reoli eich maes gwaith eich hun yn hyderus, rydym am eich helpu i wireddu’ch potensial oherwydd rydym yma i’ch gwarchod. Sut i wneud cais:
I ddod yn Archwiliwr Mewnol dan Hyfforddiant, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol trwy glicio ar 'Apply Now!', neu mae croeso i chi anfon e-bost at Claire yn [email protected].
Cyflog
💰 £21,200
Lleoliad
📍 Amrywiol
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Plastrwr
Mae Adra yn edrych am Blastrwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dros y blynyddoedd i ddod byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi y tu allan i'r sir, gyda'r uchelgais i fod yn darparu cannoedd fwy o gartrefi o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Er ein bod yn uchelgeisiol iawn, rydym yr un mor benderfynol o amddiffyn a datblygu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Telerau ac Amodau
£28,249 y flwyddyn
40 awr yr wythnos, 08:00-16:30 dydd Llun i ddydd Gwener
25 diwrnod o wyliau y flwyddyn
Cytundeb Parhaol
Lleoli yng Ngogledd Cymru
Tal salwch galwedigaethol yn dilyn y 6 mis cyntaf
Rydym yn annog ceisiadau gan ferched, tenantiaid a grwpiau lleiafrifol sydd at hyn o bryd yn cael eu tan-gynrychioli yn ein gwelthlu.
Mae’r gallu cyffredinol i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys dweud enwau lleoedd / enwau Cymraeg, rhoi a derbyn manylion, rhoi cyfarchiad dwyieithog yn hanfodol ar gyfer y swyddi yma.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan, www.adra.co.uk
Cyflog
💰 £28,249
Lleoliad
📍 Gogledd Cymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Hwylusydd Iechyd a Llesiant
Mae Mantell Gwynedd yn edrych am Hwylusydd Iechyd a Llesiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae holl staff Mantell Gwynedd yn gweithio yn hybrid erbyn hyn rhwng y Swyddfa / Adref
Rydym yn croesawu ceisiadau i rannu swydd / gweithio yn rhan amser / gweithio yn hyblyg.
Am fanylion pellach: 01286 672626 neu [email protected]
Cyflog
💰 £28,226 - £30,095
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Aelod tîm, Rheoli Cwsmeriaid
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych am Aelod tîm, Rheoli Cwsmeriaid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Buddion:
Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, 28 diwrnod o wyliau blynyddol, gan godi i 33 diwrnod dros 5 mlynedd, opsiynau gweithio hyblyg, iechyd galwedigaethol gan gynnwys gwasanaethau cwnsela a chynghori a gofal llygaid, talebau gofal plant a chynlluniau aberthu cyflog.
Diben y Rôl
Mae cyfle cyffrous wedi codi i weithio fel Uwch Gynghorydd o fewn Hwb Cwsmeriaid CNC. Byddwch yn gweithredu fel arbenigwr mewn swyddogaeth benodol, a fydd yn cynnwys naill ai ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth, Cwynion neu geisiadau cymhleth am wybodaeth gan gwsmeriaid, gan weithredu fel cyswllt a chynghori’r busnes i sicrhau ein bod yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth ac yn darparu gwasanaeth cwsmer o’r radd flaenaf. Byddwch hefyd yn cefnogi datblygiad yr Hwb Cwsmeriaid ac yn bod yn rhagweithiol wrth gynghori gweddill y busnes i sicrhau’r lefel uchaf o wasanaeth cwsmer ar draws y sefydliad.
Cymwysterau a Sgiliau
- Sgiliau gofal cwsmer ardderchog ynghyd â'r cymhelliant i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i'n holl gwsmeriaid.
- Gwybodaeth drylwyr o'r sefydliad a'r gallu i ddylanwadu a chyfarwyddo ar draws holl lefelau'r sefydliad.
- Gwybodaeth drylwyr a gorau oll os oes gennych gymhwyster cydnabyddedig yn gysylltiedig â'ch maes gwaith arbenigol.
- Gwybodaeth ymarferol ardderchog o ddeddfwriaethau amrywiol yr ydym wedi ein cyfyngu ganddynt a pholisi cwynion a chanmoliaeth a pholisi taliadau a thrwyddedu data CNC, ynghyd â'r gallu i ddehongli deddfwriaeth a datblygu polisïau.
- Sgiliau trefnu cadarn ynghyd â'r gallu i reoli eich llwyth gwaith eich hun a monitro llwyth gwaith eraill, gweithio yn ôl amserlenni caeth, ac addasu i flaenoriaethau sy'n newid yn ôl yr angen.
- Profiad o ddatblygu cydberthnasau gwaith cadarn gyda chydweithwyr mewnol, gan gyfathrebu syniadau yn glir ac mewn ffordd sy'n llawn perswâd, ynghyd â'r gallu i gyflwyno dadleuon grymus i drafod a dylanwadu ar ganlyniadau boddhaol.
- Lefel uchel o greadigrwydd ac arloesedd ynghyd â'r gallu i weithio'n rhagweithiol gydag arweinwyr maes busnes i wella'r wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd.
Cyflog
💰 £31,490
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Warden Cymunedol
Mae Adra yn edrych am Warden Cymunedol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dros y blynyddoedd i ddod byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi y tu allan i'r sir, gyda'r uchelgais i fod yn darparu cannoedd fwy o gartrefi o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Er ein bod yn uchelgeisiol iawn, rydym yr un mor benderfynol o amddiffyn a datblygu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Byddwch yn cefnogi dull Adra o greu cymdogaethau effeithiol a chynaliadwy - lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynyddu balchder ar Stadau, ac yn cynorthwyo i ddarparu Gwasanaeth Tenantiaeth effeithiol, effeithlon a sensitif i denantiaid a chwsmeriaid sy'n cefnogi ac annog pobl i gynnal tenantiaethau cynaliadwy a chadarnhaol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan, www.adra.co.uk
Cyflog
💰 £23,378 - £25,640
Lleoliad
📍 Gogledd Cymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynhyrchydd Cynorthwyol / Cynhyrchydd Iau
Mae ITV Cymru Wales yn edrych am Gynhyrchydd Gynorthwyol / Gynhyrchydd Iau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gan weithio ar gyfres ffeithiol newydd sbon i S4C, mae hwn yn gyfle cyffrous i wneuthurwr rhaglenni uchelgeisiol ddatblygu eu sgiliau cynhyrchu yn ITV Cymru Wales.
Rydym yn chwilio am gynhyrchydd cynorthwyol profiadol neu gynhyrchydd iau gyda phrofiad blaenorol o gynhyrchu rhaglenni dogfen neu faterion cyfoes i ymuno â'n tîm.
Bydd gennych farn olygyddol gadarn, dawn greadigol i adrodd straeon ac angerdd am werthoedd cynhyrchu uchel. Byddwch yn hunan saethwr hyderus gyda phrofiad ffilmio blaenorol ar gynyrchiadau, gyda'r gallu i gyfarwyddo cyfranwyr ar leoliad yn ogystal â chriwiau camera a sain. Gan weithio gyda’r Cynhyrchydd Cyfres/Cyfarwyddwr, bydd disgwyl i chi ddatblygu perthnasoedd ymddiriedus gyda sefydliadau a chyfranwyr amrywiol. Byddwch yn chwarae rhan fawr mewn cyfarfodydd cynllunio a chynnwys a bydd disgwyl i chi drefnu'r rhan fwyaf o'r ffilmio ar gyfer y gyfres. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda'r golygydd ac yn cyfrannu at siapio'r gyfres, yn cynorthwyo’r golygu a’r ôl-gynhyrchu.
Gellid gofyn i chi hefyd gynhyrchu cynnwys arall o fewn tîm Rhaglenni Cymraeg ITV Cymru Wales.
Meini Prawf Lleiaf -
Profiad o gynhyrchu ffeithiol gydag agwedd greadigol at adrodd straeon, triniaethau a chynhyrchu.
Sgiliau ffilmio hunan saethu cryf
Profiad o systemau golygu/llwytho gyda'r gallu i gynorthwyo cynyrchiadau gyda rhagolygu cynnwys.
Cyfathrebwr gwych gyda'r gallu i feithrin perthnasoedd ymddiriedus.
Siaradwr Cymraeg rhugl
_ Meini prawf allweddol -_
Barn olygyddol gadarn gyda gwybodaeth ymarferol drylwyr o faterion Cydymffurfiaeth a Chyfreithiol.
Sgiliau trefnu gwych gyda hanes profedig o ddatrys problemau o fewn cynyrchiadau.
Mae gweithio i derfynau amser yn hanfodol, ac mae hanes profedig o weithio dan bwysau yn allweddol.
Mae ITV wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ei weithlu ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd ac fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses).
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ymgyrchoedd
Mae Cymdeithas yr Iaith yn edrych am Swyddog Ymgyrchoedd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni’n chwilio am Swyddog Ymgyrchoedd gweithgar a brwdfrydig i weithio gyda’n grwpiau ymgyrchu, rhanbarthau, celloedd ac aelodau ar draws y wlad i gefnogi ein hymgyrchoedd ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan.
Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau a chyfrannu at lwyddiant ymgyrchoedd y Gymdeithas ar draws sawl maes o bwys mewn cyfnod tyngedfennol i’n hiaith a’n cymunedau.
Bydd y Swyddog Ymgyrchoedd yn gyfrifol am gydlynu, ysgogi a chefnogi gweithgarwch ymgyrchu’r Gymdeithas ar draws Cymru, gan weithio i dynnu gwirfoddolwyr ac aelodau i mewn i’n gwaith. Bydd yn cydweithio â'n Grwpiau Ymgyrchu i ddatblygu a hyrwyddo ein hymgyrchoedd cenedlaethol a lleol mewn meysydd blaenoriaeth, gan gynnwys addysg, cymunedau, hawliau iaith a’r byd darlledu a digidol. Bydd y Swyddog hefyd yn cydweithio â'n rhanbarthau a chelloedd ar draws Cymru i ysgogi gweithgarwch llawr gwlad ac ennill ymgyrchoedd ar faterion o flaenoriaeth leol.
Bydd y Swyddog Ymgyrchoedd yn cydweithio â swyddogion gwirfoddol Cymdeithas yr Iaith yn ogystal â’r staff eraill i sicrhau dilyniant a gweithrediad effeithiol ein hymgyrchoedd a’n gweithgareddau ehangach.
Cyflog
💰 £21,000 - £24,000
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Weinyddydd & Rheolwr Cynhyrchu
Mae Cwmni Da yn edrych am Uwch Weinyddydd & Rheolwr Cynhyrchu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cwmni Da yn chwilio am unigolyn profiadol, hynod drefnus a brwdfrydig i ymuno â’r Cwmni ar adeg cyffrous wrth i ni adeiladu a thyfu ym mhennod nesaf yn hanes y cwmni. Rydym yn gwmni sydd yn mherchnogaeth y gweithlu.
Bydd gennych ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ddofn o’r byd darlledu ac yn brofiadol yn delio gyda nifer o ddyletswyddau ar yr un pryd.
Swyddogaethau
Cefnogaeth weinyddol i Fwrdd y Cyfarwyddwyr a’r Tim Rheoli
Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Gyfarwyddwr gan gadw trefn ar ddyddiadur ac amser
Pwynt cyswllt gyda’n partneriaid rhyngwladol ar gynyrchiadau
Gweithio’n agos gyda Rheolwr Materion Busnes y Cwmni
Dolen gyswllt allweddol rhwng Cwmni Da a Darlledwyr
Cydweithio â’r Pennaeth Cynhyrchu ar amserlenni cynhyrchu y Cwmni
Cydweithio â’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyllidebau cynyrchiadau y Cwmni
Rheoli Cynyrchiadau Rhyngwladol
Os ydych chi’n barod am her, ond eto’n hyderus yn eich sgiliau a’ch gallu presennol, efallai mai dyma’r rôl i chi!
Telerau £30k – £35k dibynol ar brofiad
Dyddiad cau: 6ef o Fehefin, 2022
SWYDD DISGRIFIAD LLAWN
Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i’r tim rheoli, delio â gohebiaeth a galwadau ffôn. Rheoli dyddiaduron a threfnu cyfarfodydd ac apwyntiadau, yn aml yn rheoli mynediad at y Rheolwr Cyfarwyddwr a’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau . Archebu a threfnu teithiau, trafnidiaeth a llety.
**Prif gyfrifoldebau a dyletswyddau Rheoli Gweinyddol **
Cefnogaeth weinyddol i Fwrdd y Cyfarwyddwyr a’r Tim Rheoli
Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Gyfarwyddwr gan gadw trefn ar ddyddiadur ac amser
Trefnu cyfarfodydd ac cofnodi yn achlysurol
Cofnodi cyfarfodydd Bwrdd Ymddiriedolaeth ar adeg
Pwynt cyswllt gyda’n partneriaid rhyngwladol ar gynyrchiadau
Gweithio’n agos gyda Rheolwr Materion Busnes y Cwmni
Dolen gyswllt allweddol rhwng Cwmni Da a Darlledwyr
Cydweithio â’r Pennaeth Cynhyrchu ar amserlenni cynhyrchu y Cwmni
Cydweithio â’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyllidebau cynyrchiadau y Cwmni
Mae’r Rheolwr Cynhyrchu yn aelod allweddol o’r tîm cynhyrchu
Maent yn adrodd yn uniongyrchol i Gynhyrchwyr a’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau.
Maent yn cydweithio’n agos â phob Uwch Gynhyrchydd i sicrhau bod cynyrchiadau’n rhedeg yn esmwyth, o fewn cyfyngiad amser ac o fewn cyllideb.
Maent yn cynorthwyo’r Cynhyrchydd i ddehongli a gwireddu gweledigaeth y Cyfarwyddwr, yn ariannol ac yn rhesymegol (logistical).
Maent yn brif gyswllt rhwng y cynhyrchydd, cyfarwyddwr a’r rheolwr Ol Gynhyrchu er mwyn cytuno a chynllunio amserlen golygu, dybio a graffeg fydd yn dilyn gofynion pawb.
Mae’n hanfodol eu bod yn deall y prosesau technegol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu teledu, gan gynnwys elfennau camera, goleuadau, sain a golygu
Sicrhau bod holl amodau gwaith aelodau’r cast a’r criw yn cydymffurfio â’r cytundebau a’r rheoliadau statudol perthnasol.
**Prif gyfrifoldebau a dyletswyddau Rheoli Cynhyrchiad **
Sicrhau bod pob elfen o wariant p’un a yw yn gostau allanol, costau mewnol neu amserlennu staff, yn cyd-fynd â’r gyllideb gynhyrchu.
Paratoi taflenni dyddiol i’r Tim Cynhyrchu, yn manylu bob agwedd o’r saethu dyddiol.
Prif gyswllt rhwng y cynhyrchydd, cyfarwyddwr a’r rheolwr Ol Gynhyrchu er mwyn cytuno a chynllunio amserlen ol-gynhyrchu er mwyn sicrhau bod y cynhyrchiad yn cael ei chyfleu yn unol a chytundeb gyda’r darlledwr.
Meddu ar sgiliau cyfathrebu cryf, a’r gallu i adnabod problemau ac i’w ddatrys yn effeithiol
Gweithio’n effeithiol, a chyda diplomyddiaeth a sensitifrwydd, gyda holl aelodau’r tîm cynhyrchu, actorion, cyfranwyr eraill, ac aelodau’r cyhoedd
Cydymffurfio â rheoliadau sy’n ymwneud ag atebolrwydd ac indemniad wrth saethu mewn gwahanol leoliadau
Gwybodaeth gyfredol o ddeddfwriaeth, rheoliadau a gweithdrefnau cysylltiedig perthnasol, gan gynnwys hawlfraint, diogelu data, atebolrwydd cyhoeddus, a chydymffurfio â, rheolau a chytundebau cyfatebol mewn gwledydd a sefydliadau eraill
Sicrhau bod holl drwyddedau angenrheidiol wedi clirio ar gyfer cynhyrchu
Cysylltu ag awduron, asiantau artistiaid, aelodau o’r cyhoedd, a’r staff chyhoeddusrwydd
Mynychu a chyd-drefnu cyfarfodydd cynllunio ac ymarferion
Gwirio a threfnu taliadau ar gyfer materion a chaniatad trydydd parti o bob math yn hawlfraint, breindaliadau, cerddoriaeth neu arall.
Gyfrifol am baratoi a monitro amserlenni a chyllidebau
Sicrhau bod holl bropiau/adnoddau/elfennau set yn ogystal a byrbrydau/diodydd o diwrnodau ffilmio yn cael ei dychwelyd i’w storfa bethrnasol
Delio gyda thaliadau artistiaid / Cyfranwyr / cyflwynwyr a chostau
Cyflog
💰 £30,000 – £35,000
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Saer Coed x2
Mae Adra yn edrych am Saer Coed x2
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn annog ceisiadau gan ferched, tenantiaid a grwpiau lleiafrifol sydd at hyn o bryd yn cael eu tan-gynrychioli yn ein gwelthlu.
Mae’r gallu cyffredinol i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys dweud enwau lleoedd / enwau Cymraeg, rhoi a derbyn manylion, rhoi cyfarchiad dwyieithog yn hanfodol ar gyfer y swyddi yma.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan, www.adra.co.uk
Dyddiad Cau: Hanner Dydd 02/06/2022
Cyflog
💰 £28,249
Lleoliad
📍 Gogledd Cymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Datblygu a Gweithredu
Mae Ynni Cymunedol Cymru yn edrych am Reolwr Datblygu a Gweithredu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ynni Cymunedol Cymru’n chwilio am unigolyn egnïol i gymryd rhan mewn datblygu’r sefydliad a’r sector, gan ein galluogi ni i ddatblygu ym maes gwres, effeithlonrwydd ynni a thrafnidiaeth.
Bydd y swydd hon yn cyflawni prosiectau sy’n cael eu hymgymryd gan YCC ac yn edrych am brosiectau newydd mewn partneriaeth gyda’n haelodau.
Ceir rhagor o wybodaeth yn y Swydd Ddisgrifiad
Cyflog: £30,000 - £33,000
Llawn Amser
Dyddiad Cau 24/5/22
Anfonwch CV a Llythyr Eglurhaol at [email protected] er mwyn ymgeisio.
Cyflog
💰 £30,000 - £33,000
Lleoliad
📍 Gweithio o Adref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweithiwr Tir
Mae Adra yn edrych am Weithiwr Tir
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn annog ceisiadau gan ferched, tenantiaid a grwpiau lleiafrifol sydd at hyn o bryd yn cael eu tan-gynrychioli yn ein gwelthlu.
Mae’r gallu cyffredinol i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys dweud enwau lleoedd / enwau Cymraeg, rhoi a derbyn manylion, rhoi cyfarchiad dwyieithog yn hanfodol ar gyfer y swyddi yma.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan, www.adra.co.uk
Dyddiad Cau: Hanner Dydd 02/06/2022
Cyflog
💰 £28,249
Lleoliad
📍 Gogledd Cymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Busnes, Twristiaeth ac Adfywio
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn edrych am Reolwr Busnes, Twristiaeth ac Adfywio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen gais ni i gael eu hystyried. Ni dderbynnir CVs ar eu pen eu hunain. Os nad ydych wedi cael gwahoddiad i gyfweliad o fewn tair wythnos o'r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu. Ydych chi awydd bod yn rhan o siapio un o gyrchfannau twristiaeth fwyaf poblogaidd y DU (a byddem yn dadlau yn y byd)?
Mae Llandudno wedi’i henwi fel un o’r wyth lle gorau yn y byd i deithwyr ymweld â nhw yn 2022 yn ogystal ag ennill teitl prifddinas cychwyn busnes y Deyrnas Unedig (DU). Mae Abergele wedi dod yn fyd-enwog fel cartref “I’m A Celebrity” yn y DU. Mae Conwy, gyda’i chastell eiconig a statws Treftadaeth y Byd UNESCO ac yn un o’r trefi canoloesol sydd wedi’i chadw orau ym Mhrydain. Mae Bae Colwyn yn gartref i gemau Undeb Rygbi Cymru dan 20 oed ac mae'r dref wedi elwa o fuddsoddiad cyfalaf o £70 miliwn dros y pymtheg mlynedd diwethaf. Mae De'r Sir yn gorwedd yn rhannol yn Eryri sef Parc Cenedlaethol mwyaf Cymru ac sydd â statws gwarchodfa Awyr Dywyll. Mae gennym y cyfan - môr, mynyddoedd, llynnoedd a threfi a phentrefi ffyniannus yr ydym yn hynod falch ohonynt. A allech chi fod yn berson perffaith i’n helpu i barhau â’n rhaglen gyffrous o ddatblygiad economaidd yn yr ardal amrywiol a hardd hon?
Rydym yn chwilio am berson arloesol a phrofiadol i arwain ein timau Busnes, Twristiaeth a Chymunedol. Bydd angen i chi fod yn rhagweithiol ac yn arloesol wrth i ni ddechrau deall y tueddiadau ôl-Covid sy'n dod i'r amlwg ac sy'n effeithio ar ein heconomi a'n patrymau gwaith. Byddwch yn uchelgeisiol ac yn greadigol, yn gallu dehongli ein strategaethau allweddol ar gyfer awdurdodau lleol a’r Llywodraeth, deall pwysau’r diwydiant a nodi cyfleoedd.
Mae’r rôl hon yn ganolog i ddatblygu canol ein holl drefi ac aneddiadau, gan helpu i gyflawni prosiectau adfywio sy’n gwella ein heconomi ymwelwyr, yn cefnogi busnesau lleol ac yn helpu i dyfu’r economi.
Gan weithio gyda’r sector lletygarwch a thwristiaeth, byddwch yn ymateb i anghenion ymwelwyr a masnach, gan sicrhau bod ein henw da am ragoriaeth yn cael ei gynnal a’i adeiladu arno er mwyn cynyddu gwariant ymwelwyr wrth sicrhau twristiaeth barchus ar draws ein sir.
Yn rheolwr profiadol, byddwch yn arwain tîm deinamig a llawn cymhelliant o weithwyr proffesiynol sydd â chyfoeth o wybodaeth ac arbenigeddau unigol ac sydd â chymunedau Conwy yn ganolog iddynt.
Mae partneriaethau yn allweddol i lwyddiant y rôl hon o fewn a thu allan i'r Cyngor. Byddwch yn gyfathrebwr, cyflwynydd a rhwydweithydd rhagorol sy'n hyderus wrth weithio gydag uwch gydweithwyr, Aelodau etholedig, y Trydydd Sector a'r gymuned fusnes.
Bydd deiliad y swydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Busnes Conwy, ond gydag opsiynau gweithio o gartref hyblyg.
Os ydych chi eisiau bod yn rhan o dîm sy’n helpu i arwain, siapio a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau, busnesau a’n harlwy i dwristiaid yna rydym eisiau clywed gennych, ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.
Cyflog
💰 £42,614 - £45,648
Lleoliad
📍 Conwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Trydanwyr x2
Mae Adra yn edrych am Drydanwyr x2
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn annog ceisiadau gan ferched, tenantiaid a grwpiau lleiafrifol sydd at hyn o bryd yn cael eu tan-gynrychioli yn ein gwelthlu.
Mae’r gallu cyffredinol i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys dweud enwau lleoedd / enwau Cymraeg, rhoi a derbyn manylion, rhoi cyfarchiad dwyieithog yn hanfodol ar gyfer y swyddi yma.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan, www.adra.co.uk
Dyddiad Cau: Hanner Dydd 02/06/2022
Cyflog
💰 £29,298
Lleoliad
📍 Gogledd Cymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Rydym ni’n cynnig addysgu arloesol, y cyfarpar diweddaraf a chefnogaeth ragorol ar draws ystod eang o leoliadau dysgu a chyrsiau.
Ymhellach, cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.
Rydym ni nawr yn edrych am Lyfrgellydd Gwasanaethau Cwsmeriaid i ymuno â champws Caerfyrddin ar sail lawn amser, barhaol yn gweithio 22 awr yr wythnos.
- Y RÔL –
Rôl y Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol fydd datblygu ar y seiliau cadarn a osodwyd eisoes trwy ddefnydd medrus o ddulliau digidol gan gyfathrebu’n effeithiol a chreu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau digidol sy’n cynnwys nifer o llwyfannau ar-lein (gwefan, cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyron).
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddarganfod ffyrdd amrywiol a dychmygus o gyfathrebu a hyrwyddo cynnig eang y Ganolfan, sy’n cynnwys:
y rhaglen artistig a phrosiectau creadigol
y gymuned greadigol â digwyddiadau rhyngweithio i’r sector sgrîn
cyrsiau hyfforddiant a chyfleon addysgiadol
adnoddau'r ganolfan sy’n cynnwys gofodau cynhyrchu a chydweithio
Disgwylir i’r swyddog gyfrannu at, ysgrifennu a/neu olygu copi ar gyfer adroddiadau, cyhoeddiadau, y wefan, datganiadau ac erthyglau, a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gan gynnig syniadau o ran deunydd addas i gynulleidfaoedd amrywiol.
** - AMDANOCH CHI - **
I gael eich ystyried fel Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau digidol i gyflawni ymgyrchoedd yn effeithiol
Sgiliau cynllunio a threfnu gan ymdopi â sawl math o waith ar yr un pryd
Gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfatebol
Y gallu i adnabod y gynulleidfa darged, ei hanghenion a’i disgwyliadau;
Profiad o gynhyrchu a chreu cynnwys addas ar ffurf lluniau a fideos.
Y gallu i gydweithio ac ymgynghori gyda chydweithwyr a phartneriaid
Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig
**- BUDDION – **
- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 28 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gwyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol
Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach
- Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio fel y cynllun seiclo i’r gwaith
Cyflog
💰 £27,116 - £30,497
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dirprwy Glerc y Dref
Mae Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon yn edrych am Ddirprwy Glerc y Dref
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd Dirprwy Glerc y Dref yn Swyddog o’r Cyngor ac yn absenoldeb Clerc y Dref (Swyddog Priodol) mae o dan ddyletswydd statudol i gyflawni’r holl swyddogaethau, ac yn arbennig i gyflwyno neu gyhoeddi’r holl hysbysiadau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, gan Swyddog Priodol y Cyngor. Bydd Dirprwy Glerc y Dref yn gyfrifol am sicrhau bod swyddogaethau’r Cyngor fel awdurdod lleol yn cael eu cyflawni.
Disgwylir i Ddirprwy Glerc y Dref gynghori’r Cyngor ar, a chynorthwyo Clerc y Dref i lunio’r polisïau cyffredinol i’w dilyn mewn perthynas â gweithgareddau’r cyngor a chynorthwyo i gynhyrchu’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gwneud penderfyniadau effeithiol. Bydd y sawl a benodir yn atebol i Glerc y Dref am reoli adnoddau’n effeithiol a bydd yn adrodd iddo yn ôl yr angen.
Bydd deilydd y swydd yn chwarae rhan allweddol o ran rhedeg gweithgareddau a swyddogaethau’r Cyngor Tref.
Cyfrifoldebau:
Cyfarfodydd a Phwyllgorau
- Cynorthwyo Clerc y Dref i ddarparu rhaglenni ar gyfer cyfarfodydd amrywiol y Cyngor Tref ac i gofnodi mewn cyfarfodydd o’r fath.
- Cynrychioli’r Cyngor Tref mewn cyfarfodydd gyda chyrff allanol, fel bo’r angen.
- Cymryd rȏl flaenllaw o ran y trefniadau, a mynychu digwyddiadau a seremonïau fel Noson y Maer, Sul y Maer, Sul y Cofio, Noson Nadoligaidd a gweithgareddau Cylch Cyfeillgarwch Trefi Caerog.
Cyffredinol
- Cymryd rȏl flaenllaw mewn unrhyw ddatblygiadau neu gynlluniau fydd y Cyngor Tref yn ei ddatblygu. Mae hyn yn cynnwys arwain ar brosiectau fel Parc Coed Helen, sydd newydd gael ei gymryd drosodd oddi wrth yr awdurdod lleol, ac unrhyw brosiect arall yn ôl y gofyn.
- Derbyn a delio gyda gohebiaeth a dogfennau neu ddod â dogfennau o’r fath i sylw’r Cyngor Tref. Cynhyrchu gohebiaeth fel canlyniad i, neu oherwydd, polisïau’r Cyngor.
- Bod yn rhan o’r broses o ran monitro a chreu polisïau.
- Darparu, mewn cydweithrediad gyda’r Maer a’r Clerc, ohebiaeth i’r wasg parthed gweithgareddau neu benderfyniadau’r Cyngor Tref.
- Cyfathrebu’n rheolaidd gyda chynghorau a chymdeithasau eraill er mwyn cadw perthynas effeithiol gyda nhw.
- Delio gyda materion iechyd a diogelwch.
- Cynorthwyo gyda chyfrifoldebau fel landlord 8-10 Stryd Bangor.
- Bod yn un o ddeiliaid goriad Adeilad yr Institiwt.
- Cynorthwyo i ymchwilio i gwynion.
- Gwneud unrhyw ddyletswydd neu gyfrifoldeb rhesymol arall yn unol â natur a lefel y swydd.
Technoleg Gwybodaeth
- Arwain ar faterion Technoleg Gwybodaeth a Chyfryngau Cymdeithasol er mwyn diweddaru sustemau’r Cyngor a sicrhau gwelliant parhaus.
- Cynnal, a chymryd cyfrifoldeb dros wefan y Cyngor Tref
- Datblygu a chynnal ffyrdd amgen o gyfathrebu’n effeithiol efo’r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill, er enghraifft drwy dudalen Facebook,
Materion Ariannol
- Delio gyda materion ariannol a chynhyrchu adroddiadau ariannol.
- Bod yn rhan o'r awdurdod deuol ar gyfer taliadau ar-lein.
Gweinyddiaeth
Ymgymryd ag unrhyw waith gweinyddol fel:
Cadw Dyddiadur y Maer a datblygu ffyrdd o wneud hyn yn electronig.
Bancio, talu biliau a delio gydag anfonebau.
Cyfrifon / Cyflogau.
Llogi ystafelloedd a delio gyda’r cyhoedd.
Ceisiadau Cynllunio.
Gwasanaethau a Chystadlaethau arbennig y Cyngor.
Anfon gwahoddiadau i ddigwyddiadau Dinesig
Mynychu holl ddigwyddiadau Dinesig y Cyngor
Delio gyda ac ymateb i ohebiaeth y Maer
Cadw protocol Dinesig
Datblygiad Personol
- Mynychu cyrsiau hyfforddi neu seminarau fel bo’n ofynnol gan y Cyngor
- Datblygu dealltwriaeth o wybodaeth broffesiynol angenrheidiol er mwyn cael rheolaeth effeithiol ar faterion y Cyngor.
Sgiliau Personol
- Profiad o ddarparu cefnogaeth weinyddol o safon uchel
- Sgiliau rhifedd a llythrennedd rhagorol a sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig ardderchog (Cymraeg a Saesneg).
- Sgiliau / medrusrwydd o safon uchel mewn TGCh sylfaenol megis Word, Powerpoint, Excel ayb, gyda’r hyder a chwilfrydedd i ddatblygu ymhellach.
- Delio â’r cyhoedd mewn modd proffesiynol wyneb yn wyneb ac ar y ffȏn.
- Parodrwydd i fod yn hyblyg.
- Y gallu i gydweithio gydag amrediad o bobl.
- Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o Dîm.
- Yn gallu parchu cyfrinachedd.
Am becyn gwybodaeth, ffurflen gais , swydd ddisgrifiad a manylion personol, neu am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Sion Wyn Evans , Clerc Cyngor Tref Caernarfon ar 01286 672 943 neu ar [email protected]
Cyflog
💰 £25,419 - £28,226
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Lluniau Llonydd
Mae S4C yn edrych am Swyddog Lluniau Llonydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas S4C yw gwasanaethu'r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu y platfform ac ecosystem i sbarduno'r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy'n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i'w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy'n deall gwerth a phwysigrwydd lluniau llonydd i ymuno â'r Adran Ddigidol a Marchnata. Gyda'r gallu i adnabod beth sy'n gwneud llun da a sgiliau trefnu rhagorol, byddwch fel aelod o'r tîm Brand a Chreadigol yn gyfrifol am drin a dethol lluniau cryf i hyrwyddo cynnwys S4C i'r gwylwyr.
Prif ffocws y rôl bydd trefnu, golygu, catalogio a dosbarthu lluniau llonydd, gan sicrhau delweddau hyrwyddo cryf ac addas i'n cynnwys ar draws llwyfannau, a chefnogi gweledigaeth greadigol brand S4C. Mae'r rôl yn gweithio'n agos gydag adrannau eraill o fewn S4C yn ogystal ag asiantaethau â chwmnïau cynhyrchu allanol.
Manylion Eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg. Os hoffech mwy o wybodaeth ar hyn plîs cysylltwch ag [email protected].
Cyflog: £21,000 - £24,000 y flwyddyn
Cytundeb: 12 mis
Oriau Gwaith: 35.75
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: 26 diwrnod yn ogystal â gwyliau'r banc.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn ymuno â'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 12:00 ar ddydd Mercher 25 Mai 2022 i [email protected] neu'r Adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C: Yr Egin, Caerfyrddin SA31 3EQ.
Ni dderbynnir CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Cyflog
💰 £21,000 - £24,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Hyfforddeion Dehongliad Rheilffordd a Boston Lodge
Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn edrych am Hyfforddeion Dehongliad Rheilffordd a Boston Lodge
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio yn y sector treftadaeth?
Ydych chi’n chwilio am ffordd o gael profiad?
Mae gan Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri dair swydd i hyfforddeion fel rhan o Brosiect Dehongli’r Rheilffyrdd a Boston Lodge a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Bydd dwy swydd, ym maes dehongli a rheoli prosiectau, yn addas i raddedigion sy’n chwilio am brofiad yn y sector treftadaeth a bydd un swydd arall yn addas i rywun sy’n chwilio am brofiad o weinyddu mewn amgylchedd peirianneg.
Mae tair prif elfen i’r prosiect: dehongliadau ar draws y rheilffyrdd, datblygu sgiliau, a diogelu adeiladau. Mae hwn yn gyfnod cyffrous gyda’r cyhoeddiad diweddar am ddynodi Tirweddau Llechi Gogledd Cymru yn Safle Treftadaeth Byd. Mae gan y prosiect gysylltiadau agos â’r ardaloedd llechi ac mae’n rhannu’r un uchelgais i gael effaith gadarnhaol yn yr ardal.
Mae’r swyddi dan hyfforddiant yn rhai llawn-amser, am 2 flynedd, yn dechrau ym mis Medi ac yn denu’r cyflog byw. Maent yn rhan o elfen sgiliau’r prosiect ac mae hwn yn gyfle gwych i’r unigolion iawn ddatblygu sgiliau mewn amgylchedd treftadaeth lle ddim oes llawer o gyrsiau ffurfiol.
Er y byddem yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sydd â’r hawl i fyw a gweithio yn y DU, rydym yn awyddus i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, a datblygu sgiliau treftadaeth yng Nghymru felly byddem yn annog ceisiadau gan y rheini sy’n siarad neu’n dysgu’r iaith, a’r rheini sy’n dod o Gymru a/neu sydd wedi’u hyfforddi yng Nghymru ac sy’n chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau yn y sector treftadaeth yng Nghymru.
Cyflog
💰 £19,760
Lleoliad
📍 Penrhyndeudraeth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Swyddog Rhaglennu a Phartneriaethau
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Uwch Swyddog Rhaglennu a Phartneriaethau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych yn unigolyn brwdfrydig sydd â phrofiad o weithio mewn cymunedau Cymreig? A hoffech chwarae rôl allweddol yn datblygu dyfodol newydd a chyffrous ar gyfer Tŷ Mawr? Os ydych, hoffem glywed gennych. Helpwch ni i roi Tŷ Mawr Wybrnant a gwaddol cyfieithiad yr Esgob William Morgan o’r Beibl yn ôl yn gadarn ar fap treftadaeth Cymru yn dilyn cyfnod o fod wedi cau oherwydd y pandemig. Rydym yn cydweithio gyda phartneriaid a’r gymuned i archwilio opsiynau o ran beth yw’r ffordd orau i ni ddefnyddio ac ymgysylltu â’r lleoliad arbennig hwn wrth symud ymlaen. Rydym yn chwilio am unigolyn i arwain y gwaith hwn fel bod gennym y model cywir a’r cymorth cymunedol ar waith er mwyn iddo ffynnu.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn sefydliad dwyieithog a rhaid i'r holl staff a gwirfoddolwyr ddangos ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd cwbl ddwyieithog. Cwblhewch yr Asesiad Cymhwysedd Iaith Gymraeg ynghlwm a'i uwchlwytho ochr yn ochr â'ch CV os gwelwch yn dda. Rydym yn chwilio am isafswm o lefel 3 Gwrando a Deall a Siarad. Mae croeso mawr i ddysgwyr Cymraeg wneud cais a bydd cyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr mewnol sy’n edrych am ddatblygiad gyrfaol.
Cyfweliadau: 31 Mai.
Mae hwn yn gontract rhan amser cyfnod penodol sy’n golygu gweithio tri diwrnod yr wythnos hyd at ddiwedd Tachwedd 2023. Gall patrymau gwaith gael eu trafod ond bydd yn cynnwys gweithio ar benwythnos a gwyliau’r banc yn achlysurol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu ofynion iaith cysylltwch â: [email protected]
Sut beth yw gweithio yma
Mae Tŷ Mawr yn ffermdy traddodiadol o’r 16eg ganrif sydd wedi’i leoli yng nghwm Wybrnant ger Penmachno. Yma y ganed yr Esgob William Morgan, ac ef oedd y cyntaf i gyfieithu’r Beibl cyfan i'r Gymraeg, ac i raddau helaeth mae ei rôl yn cael ei hystyried yn allweddol i sicrhau parhad yr iaith. Rydym hefyd yn gofalu am gasgliad anhygoel o dros 200 o Feiblau gan gynnwys un o gyfieithiadau gwreiddiol 1588 a chopïau mewn nifer o ieithoedd ar draws y byd.
Byddwch wedi’ch lleoli yn Nhŷ Mawr yn rheolaidd a byddwch hefyd yn gallu gweithio o’n swyddfa lawr y ffordd yn ein Swyddfa Ystad Dinas. Bydd eich cyrhaeddiad yn ymestyn drwy ddyffryn Conwy, gan weithio’n rheolaidd gyda chymunedau yn lleoliadau fel Pentrefoelas, Penmachno, Llanrwst a Chonwy. Mae hon yn ardal wledig sy’n gyfoethog o ran traddodiadau, a’r Gymraeg yn iaith bob dydd i’r mwyafrif. Mae balchder amlwg ymysg y cymunedau oherwydd arwyddocâd diwylliannol Tŷ Mawr ac rydym yn ymrwymedig i ddathlu ei stori arbennig am genedlaethau i ddod.
Beth y byddwch yn ei wneud
Yn rhan allweddol o dîm ehangach sy’n awyddus i ddatblygu Tŷ Mawr Wybrnant, bydd eich gwaith yn canolbwyntio ar feithrin perthynas â’r gymuned leol, sefydliadau partner ac unigolion sy’n awyddus i chwarae rhan yn nyfodol Tŷ Mawr. Gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid presennol a newydd, byddwch yn gyfrifol am drefnu, hwyluso a darparu ystod o gyfleoedd i bobl ymgysylltu â straeon Tŷ Mawr a’r Beibl. Gall hyn fod ar ffurfiau amrywiol e.e. diwrnodau agored, gweithdai, pererindodau, ymweliadau addysgol, gweithgareddau allgymorth o fewn cymunedau a chynnwys ar-lein. Eich gwaith chi fydd meddwl am syniadau creadigol sy’n ein galluogi i ymgysylltu pobl o bob cwr o Gymru - a'r byd - gyda’r lleoliad arbennig hwn a’r casgliad beiblaidd rhyfeddol sydd dan ein gofal.
Byddwch yn profi ac yn gwerthuso gweithgareddau ymgysylltu amrywiol ac yn gweithio i ddeall yn llawn sut yr hoffai ein cefnogwyr a’n partneriaid weld Tŷ Mawr yn gweithredu yn y dyfodol. Bydd y gwaith yn llywio ein cynllun ar gyfer y dyfodol o ran sut fydd pobl yn ymgysylltu â Thŷ Mawr o 2024 ymlaen.
Am bwy ydym yn chwilio
Unigolyn egnïol a hyblyg i ddatblygu amrywiaeth o bartneriaethau a phrofiadau, ar y safle ac oddi ar y safle, a fydd yn arwain at ddyfodol disglair a chyffrous i Dŷ Mawr.
Os ydych chi'n bodloni'r canlynol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych:
Sgiliau cyfathrebu rhagorol. Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg
Sgiliau pobl da, sy'n galluogi perthnasoedd gweithio da yn fewnol ac yn allanol
Profiad o weithio o fewn cymunedau Cymreig
Diddordeb mewn hanes Cymru, ei hiaith a’i llenyddiaeth, gan gynnwys arwyddocâd Tŷ Mawr Wybrnant
Profiad o gyfleu syniadau creadigol yn effeithiol i ystod o randeiliaid gyda’r gallu i addasu cynlluniau ar gyfer anghenion partneriaid, aelodau tîm a chynulleidfaoedd
Profiad o fagu, cynnal a datblygu partneriaethau er mwyn cynnig cyfleoedd ymgysylltu i ymwelwyr, gwirfoddolwyr neu gyfranogwyr cymunedol
Dealltwriaeth am yr hyn sy’n gwneud profiad da i ymwelwyr
Profiad o gyflwyno rhaglenni ymwelwyr a/neu weithio gyda chymuned neu bartneriaid masnachol i gyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau, yn ddelfrydol ar gyfer cynulleidfaoedd y sector treftadaeth, ac ar eu cyfer
Diddordeb mewn cadwraeth adeiladau neu gasgliadau
Y pecyn
Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.
O ba le bynnag y dewch, a waeth beth yw’ch cefndir, rydym yn awyddus i glywed gennych – p’un ai ydych yn rhoi jam yn gyntaf, hufen yn gyntaf, neu’n casáu sgons hyd yn oed, d’oes dim ots. Mae croeso i bawb.
Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:
Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd
Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)
Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
Cyflog
💰 £16,380
Lleoliad
📍 Betws y Coed
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Portffolio
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Reolwr Portffolio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Rheolwyr Portffolio yn uwch weithwyr proffesiynol yn y celfyddydau sy’n cyfuno eu harbenigedd celfyddydol sylweddol a’u gwybodaeth fusnes gref i helpu i gyflawni’n ymarferol ystod o fentrau sy’n gysylltiedig â flaenoriaethau Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae Rheolwyr Portffolio hefyd yn rheolwyr llinell i’r Swyddogion Datblygu.
Mae’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â’r rôl hon yn cynnwys y Celfyddydau a Pobl Ifanc, yn enwedig o ran Cynllun Gweithredu Ehangu Ymgysylltu Cyngor y Celfyddydau ynghylch amrywiaeth ac anabledd, a datblygu dawns, cerddoriaeth glasurol, a syrcas.
“Yn amrywiol ac yn gofyn llawer ond byth yn ddiflas, mae rôl y Rheolwr Portffolio yn gyfle gwych i weithio gyda chydweithwyr yn genedlaethol ar draws portffolio o feysydd strategol. Os oes gennych chi syniadau a gyriant eisiau gwneud gwahaniaeth i’r celfyddydau yng Nghymru, mae hwn yn amser cyffroes i ymuno â’n tîm.” Sally, Rheolwr Portffolio
Amdanoch chi
Os ydych chi’n rhywun sydd â phrofiad blaenorol o weithio yn y celfyddydau neu gymunedau ac sy’n gallu ysbrydoli hyder yn y sector, gallai’r rôl hon fod i chi. Bydd angen i chi fod yn ddatryswr problemau ac yn feddyliwr creadigol, a hefyd gwybod sut i fod yn gynhyrchiol, yn drefnus a sut i gyflawni pethau. Gallwn ddysgu’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch chi os ydych chi’n chwilfrydig ac yn ddigon gyredig i fod yn rhan o’n tîm.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddysgu, datblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Cyflog
💰 £49,089
Lleoliad
📍 Amrywiol
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Cegin/Arlwyo
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Gynorthwyydd Cegin/Arlwyo
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth ac mae’n ceisio penodi staff brwdfrydig i weithio o fewn gwasanaethau’r Llyfrgell. Gwahoddir ceisiadau am y swydd ganlynol:
CYNORTHWYYDD ARLWYO / CEGIN
Band 1: £20,800
Cytundeb blwyddyn. 37 awr yr wythnos
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 2.00 o’r gloch 23 Mai 2022
Dyddiad cyfweliadau: i’w cadarnhau
Darparu gwasanaeth yn y gegin a pharatoi bwydydd syml ar gyfer gwasanaeth lletygarwch y Llyfrgell. Bydd deilydd y swydd yn darparu gwasanaeth Blaen Tŷ i staff, darllenwyr ac ymwelwyr. Oriau gwaith wythnosol fydd 37 awr yr wythnos (Llun-Gwener), gofynnir i’r sawl a benodir weithio ar sail rota ar ddyddiau Sadwrn pan fydd y galw. Bydd y swydd hefyd o bryd i’w gilydd yn cynorthwyo yn Siop a Derbynfa’r Llyfrgell.
Mae’r pecyn cyflogaeth yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyflog terfynol, polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd, oriau gweithio hyblyg a phrisiau gostyngol yn y bwyty. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Am becyn gwybodaeth a manylion am sut i wneud cais cysylltwch ag Uned Adnoddau Dynol y Llyfrgell ar 01970 632530/1; neu drwy defnyddio'r blwch e-bost uchod.
Cyflog
💰 £20,800
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynhyrchydd Digidol
Mae S4C yn edrych am Gynhyrchydd Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Newyddion S4C yn wasanaeth newyddion digidol sydd yn dod a’r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg o amrywiol ffynonellau. Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa ehangach na’r rhai sy’n gwylio gwasanaeth Newyddion S4C ar deledu, a hynny ar ffurf fideo a thestun, drwy aml blatfformau.
Gyda diddordeb brwd mewn newyddion Cymreig a’r cyfryngau digidol bydd gennych syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu gwasanaeth digidol a denu dilyniant.
Bydd gennych brofiad o weithio ym maes cyhoeddi digidol gyda dealltwriaeth o ofynion cyhoeddi ar aml blatfform. Byddwch gennych y gallu i fod yn greadigol gyda’r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy’n dal y llygad ac yn creu sŵn.
Byddwch yn hyderus yn gweithio gyda fideo, lluniau llonydd, graffeg thestun, ac yn deall beth sy’n gwneud stori ddigidol dda. Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.
Manylion eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg. Os hoffech mwy o wybodaeth ar hyn plîs cysylltwch ag [email protected].
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: Bydd eich oriau gwaith arferol yn ôl patrwm sifft weithredol, sef cyfanswm o 35¾ awr yr wythnos. Eich rôl yw cynnal gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos. O ganlyniad bydd eich patrwm sifft ar draws 7 diwrnod, ac yn unol â gofynion y gwasanaeth
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 yn y prynhawn ar ddydd Mawrth 24 Mai 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
**Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth **
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol. Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweinyddwr
Mae Antur Cymru yn edrych am Weinyddwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gweinyddwr ar gyfer Tîm Busnes Cymru yn y Canolbarth a Gorllewin Cymru
A oes gennych yr hyn sydd ei angen i chwarae rôl allweddol wrth gefnogi mentrau bach a chanolig yng Nghymru i gyflawni eu huchelgais am dwf? Os felly, byddwch yn falch o glywed bod cyfle i ymuno â tîm cyfeillgar Busnes Cymru yng Nghanolbarth & Gorllewin Cymru.
Pwy fydda i'n gweithio gyda?
Mae Busnes Cymru yn darparu cymorth busnes o'r radd flaenaf i fentrau bach a chanolig yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Fe’i ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac mae’n cael ei ddarparu gan Bartneriaeth Twf Cymru (PTC), partneriaeth o Busnes Mewn Ffocws, Antur Cymru a Serco.
Felly, beth fydd rôl Gweinyddwr yn cynnwys?
Yn adrodd i'r Arweinydd y Tîm Perthynas â Chleientiaid, byddwch yn darparu gwasanaeth broceriaeth llawn i gleientiaid i gynorthwyo â’r gwaith o ddarparu gwasanaeth Busnes Cymru.
Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys ond nid yn gyfyngedig i:
Gosod data yn gywir o fewn bas-data a taenlenni.
Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer trefnu gwahanol hyfforddiant a digwyddiadau i’r rhanbarth e.e. paratoi gwybodaeth, gwybodaeth cofrestru a manylion mynychu cleientiaid, dilyn i fyny ar unrhyw wybodaeth sydd ar goll.
Cynnal ffeiliau cleientiaid yn gywir.
Ateb y ffôn a cyfeirio galwadau i’r person iawn.
Beth fydd ei angen arnaf er mwyn cael fy ystyried ar gyfer y rôl Gweinyddwr hwn?
Profiad o weithio o fewn rôl weinyddol/gwasanaeth cwsmeriaid, gyda sylw da at manylder a darparu gwasanaeth effeithiol o safon uchel.
Profiad o gosod data i fewn i bas-data a taenlenni.
Y gallu i weithio'n effeithiol o dan bwysau mewn amgylchedd sy’n gofyn am gywirdeb.
Yn drefnus iawn, gyda'r gallu i reoli a blaenoriaethu llwyth gwaith yn effeithiol
Sgiliau cyfathrebu a rhwydweithio gwych, gyda'r gallu i ryngweithio'n effeithiol â phobl ar bob lefel.
Llythrennedd TG gyda gwybodaeth weithredol dda o Microsoft Office.
Beth fyddaf i'n ei dderbyn yn gyfnewid?
Cyflog: Yn cychwyn o £20,280 y flwyddyn.
Manteision ychwanegol: Y mae Antur Cymru yn darparu pecyn deniadol o fuddion gan gynnwys cynllun gweithio hyblyg, 23 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau cyhoeddus, pensiwn, rhaglen cefnogi gweithwyr, cynllun beicio i gwaith, cynllun technoleg ac yn y blaen.
Oriau: Llawn amser, 37.5 awr yr wythnos
Math o gontract: Parhaol (tan Mawrth 202
Cyflog
💰 £20,280
Lleoliad
📍 Gweithio o Adref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!