Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Gweithiwr Cefnogi Anghenion Ychwanegol

💰 £26k pro rata (£13.11 yr awr) 📍 Blaenau Gwent
Cais

Mae Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ yn edrych am Gweithiwr Cefnogi Anghenion Ychwanegol

Ydy’r rôl hon yn addas i chi?

Bydd y rôl hon yn cynnwys:

  • Cynnig cymorth a chefnogaeth briodol er mwyn sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael yr un cyfleoedd â’i gyfoedion i fwynhau ac elwa o holl weithgareddau’r Cylch.
  • Sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael ei gynnwys yn llawn ym mhob agwedd o waith y Cylch, gan addasu adnoddau, amgylcheddau a gweithgareddau lle bo angen.

Rydym yn chwilio am rywun:

  • Sy’n garedig, brwdfrydig ac ymroddedig.
  • Sy’n credu ym mhwysigrwydd cynhwysiant a sicrhau cyfleoedd cyfartal i bob plentyn.
  • Sy’n mwynhau gweithio gyda phlant bach ac sydd â diddordeb mewn cefnogi eu datblygiad a’u lles.
  • Sydd â natur ofalgar a’r gallu i chwarae, dysgu a meithrin perthnasoedd cadarnhaol.
  • Sy’n amyneddgar, yn gefnogol ac yn sensitif i anghenion unigol plant.
  • Sy’n gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da.
  • Sydd eisiau gweithio mewn amgylchedd Cymraeg, croesawgar a llawn cariad.

Lleoliad: Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ, Brynithel

Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â: Ceri Preston, Dirprwy Reolwr Talaith y De Ddwyrain

Rhif Ffôn: 07494491884

E-bost: [email protected]

Gwneud Cais:

Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.

Dychwelwch y ffurflenni yma:

[email protected]

Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.

Cyflog

💰 £25,564.50 pro rata (£13.11 yr awr)

Lleoliad

📍 Blaenau Gwent

Dyddiad cau

Gwneud cais

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £12.71 yr awr 📍 Rhondda Cynon Taf
Cais

💰 MCC8 £29k pro rata (£14.81 yr awr). Gwir gyflog ar sail gweithio 33.25 awr yr wythnos £22k. 📍 Blaenau Gwent Ar gau

💰 £12.71 yr awr 📍 Rhondda Cynon Taf
Cais

💰 £12.71 yr awr 📍 Sir Fôn Ar gau

💰 Isafswm Cyflog Cenedlaethol 📍 Castell-nedd Port Talbot Ar gau

💰 £12.71 yr awr 📍 Blaenau Gwent
Cais

💰 £34k - £52k 📍 Ceredigion
Cais

💰 £12.71 yr awr 📍 Gwynedd Ar gau

💰 £12.71 yr awr 📍 Sir Fôn Ar gau

💰 I'w drafod yn ddibynol ar brofiad 📍 Gwynedd
Cais

💰 £13+ yr awr 📍 Caerdydd
Cais

💰 £14.58 i £15.31 yr awr 📍 Powys
Cais

💰 £58k - £67k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 I'w drafod 📍 Wrecsam Ar gau

💰 £13.45 yr awr 📍 Caerdydd
Cais

💰 Yn dibynnu ar brofiad. 📍 Ceredigion Ar gau