Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu

CBAC

💰 £28k - £29k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae CBAC yn edrych am Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Hoffem benodi Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu cyfrwng Cymraeg i ymuno â'n tîm AD. Gan gydweithio'n agos â'r Uwch Bartner Busnes AD: Datblygu Sefydliadol, byddwch chi'n cefnogi'r gwaith o ddarparu strategaethau Dysgu a Datblygu ac Ymgysylltu â'r Cyflogai sy'n canolbwyntio ar y cwsmer. 

Y rôl:

Byddwch chi'n cydlynu, yn trefnu ac yn cyfathrebu ynghylch gweithgareddau Dysgu a Datblygu mewnol ac allanol ar draws y corff. Byddwch chi hefyd yn darparu cefnogaeth weinyddol ragweithiol ddwyieithog ar gyfer mentrau Ymgysylltu â'r Cyflogai, Buddsoddwyr mewn Pobl a Datblygiadau Sefydliadol eraill.

Bydd gennych rôl allweddol yn darparu trefniadau sefydlu mewnol a chyfleoedd dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a chefnogi'r dasg o sicrhau bod gennym ddiwylliant dysgu cynhwysol. 

Amdanoch chi:

I ffynnu yn y rôl hon, byddwch chi'n hyderus wrth gyfathrebu ac yn meddu ar sgiliau cynllunio a threfnu cryf. Bydd y gallu gennych i weithio ac i gyfathrebu'n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn deall pwysigrwydd Dysgu a Datblygu ac yn gallu dangos profiad o weithio mewn tîm sy'n canolbwyntio ar y cwsmer. 

Ein Buddion:

Yn CBAC, rydym yn falch o fod yn lle cynhwysol a chefnogol i weithio. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddion ardderchog, gan gynnwys: 25 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (yn ogystal ag 16 o wyliau statudol / ychwanegol), gwersi Cymraeg am ddim, cynllun pensiwn cystadleuol a nifer o bolisïau sy'n ystyriol o deuluoedd. 

I gael gwybod mwy am y rôl, neu am weithio gyda ni, peidiwch ag oedi cyn cysylltu ag Elizabeth East (hi) ([email protected]), a fydd yn fwy na pharod i ateb eich cwestiynau. 

Dyddiad cau: Dydd Sul, 22 Ionawr 2023

Cyflog

💰 £27,639 - £29,445

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £16k 📍 Caerdydd Ar gau

ITV Cymru Wales

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

ITV Cymru Wales

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £36k - £42k 📍 Abertawe Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £26k - £29k 📍 Ynys Môn Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £21k - £25k pro rata 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £20k - £22k 📍 Hyblyg Ar gau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

💰 £26k - £32k 📍 Hyblyg Ar gau

Cyngor Dinas Casnewydd

💰 £27k - £42k 📍 Casnewydd Ar gau

Ynni Cymunedol Cymru

💰 £25k 📍 O gartref Ar gau

Menter Iaith Fflint a Wrecsam

💰 £20k 📍 Yr Wyddgrug📍 Allan yn y maes Ar gau

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

💰 £26k - £32k 📍 Hyblyg📍 Unrhyw swyddfa yng Nghymru Ar gau

Cyngor Dinas Casnewydd

💰 £23k - £25k pro rata 📍 Casnewydd Ar gau

Cyngor Bro Morgannwg

💰 £30k - £33k 📍 Y Barri Ar gau

Ynni Cymunedol Cymru

💰 £40k 📍 O gartref Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19k pro rata 📍 Sir Ddinbych Ar gau

UCAC

💰 £39k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ddinbych

💰 £28k - £30k 📍 Sir Ddinbych Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £21k - £25k pro rata 📍 Ceredigion Ar gau

Y Groes Goch Brydeinig

💰 £21k - £22k 📍 Caerdydd Ar gau

Adra

💰 £26k - £28k 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Adra

💰 £55k - £58k 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Senedd Cymru

💰 £55k - £66k 📍 Hyblyg Ar gau