Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Recriwtio ac Ehangu Mynediad y Gymraeg

Ysgol Deintyddiaeth, Prifysgol Caerdydd

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Ysgol Deintyddiaeth, Prifysgol Caerdydd yn edrych am Swyddog Recriwtio ac Ehangu Mynediad y Gymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i siaradwr Cymraeg rhugl ymuno â Thîm Addysg yr Ysgol Deintyddiaeth. Bydd yn cefnogi’r Ysgol i weithredu a gwerthuso rhaglen waith sydd â’r nod o gynyddu ceisiadau i’r rhaglenni israddedig gan ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith, a chynyddu nifer ac amrywiaeth y cyfleoedd i fyfyrwyr gyflawni eu hyfforddiant meddygol israddedig mewn sefydliad cyfrwng Cymraeg.

Wedi ei hariannu gan y Coleg Cymraeg, bydd y swydd cyfnod penodol o dair blynedd hon ar gael ar sail ran-amser (21 awr yr wythnos). Mae’r Ysgol yn hyblyg o ran y patrwm gwaith.

Rydym yn chwilio am gyfathrebwr rhagorol sy’n gallu cyflwyno gwybodaeth fanwl a chymhleth yn ddwyieithog mewn modd effeithiol, proffesiynol a deniadol i ystod eang o gynulleidfaoedd ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliant a brwdfrydig gyda chofnod diamheuol o gyflwyno portffolio o weithgareddau marchnata a chyfathrebu, a gallu gweithredol i nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliant a datblygiad.

Dylid cyfeirio ymholiadau anffurfiol ynghylch y rôl at Reolwr yr Ysgol, Riah-Jayne Jones [email protected]

Dyddiad Cau: Dydd Sul, 29 Ionawr 2023.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i roi’r gorau i hysbysebu’r swydd hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymroi i gefnogi a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth, gan greu awyrgylch cynhwysol i’w gweithwyr. Rydyn ni o’r farn bod modd gwneud hynny trwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o sawl cefndir gwahanol a hoffai greu prifysgol sy’n ceisio cyflawni ei dyletswydd gymdeithasol, diwylliannol ac economaidd dros Gaerdydd, Cymru a’r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Cyflog

💰 £28,762 - £33,31

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £16,062 📍 Caerdydd Ar gau

ITV Cymru Wales

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

ITV Cymru Wales

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £36,382 - £42,149 📍 Abertawe Ar gau

S4C

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerdydd Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £25,927 - £29,174 📍 Ynys Môn Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £21,453 - £25,017 pro rata 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £19,601 - £22,058 📍 Hyblyg Ar gau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

💰 £25,655 - £31,534 📍 Hyblyg Ar gau

Cyngor Dinas Casnewydd

💰 £27,491 - £42,333 📍 Casnewydd Ar gau

Ynni Cymunedol Cymru

💰 £25,000 📍 O gartref Ar gau

Menter Iaith Fflint a Wrecsam

💰 £19,680 📍 Yr Wyddgrug📍 Allan yn y maes Ar gau

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

💰 £25,655 - £31,534 📍 Hyblyg📍 Unrhyw swyddfa yng Nghymru Ar gau

Cyngor Dinas Casnewydd

💰 £22,571 - £24,920 pro rata 📍 Casnewydd Ar gau

Cyngor Bro Morgannwg

💰 £30,364 - £33,039 📍 Y Barri Ar gau

Ynni Cymunedol Cymru

💰 £40,000 📍 O gartref Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19,138 pro rata 📍 Sir Ddinbych Ar gau

UCAC

💰 £39,193 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ddinbych

💰 £27,514 - £30,095 📍 Sir Ddinbych Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £21,453 - £25,017 pro rata 📍 Ceredigion Ar gau

Y Groes Goch Brydeinig

💰 £20,501 - £22,429 📍 Caerdydd Ar gau

Adra

💰 £25,641 - £28,250 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Adra

💰 £54,782 - £57,899 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Senedd Cymru

💰 £55,240 - £66,234 📍 Hyblyg Ar gau