Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfieithydd

💰 £27k - £33k 📍 Pontypridd Ar gau

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn edrych am Gyfieithydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am gyfieithydd i ddarparu gwasanaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd i staff ac i'r gwahanol adrannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Bydd hyn yn cynnwys cyfieithu dogfennau o'r Saesneg i'r Gymraeg a hefyd o'r Gymraeg i'r Saesneg o bryd i'w gilydd. Yn ogystal, bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynorthwyo'r Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu i gyhoeddi deunydd yn y Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd y rôl hon yn cyfrannu at sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cydymffurfio â rheoliadau Mesur y Gymraeg (2011), a thrwy wneud hynny bydd yn sicrhau bod gwasanaethau dwyieithog yn cael eu cynnig i gleifion yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr.

Bydd deiliad y swydd yn helpu i ddarparu gwasanaeth Cymraeg cynhwysfawr, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Cymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Safonau'r Gymraeg.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda rheolwyr gwasanaethau i wella gwasanaethau a sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog yn holl fusnes y Bwrdd Iechyd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Darparu gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg. Bydd hyn yn cynnwys cyfieithu'r canlynol:

    • Deunydd gofal iechyd fel taflenni gwybodaeth i gleifion, llythyrau i gleifion a chyfarwyddiadau meddygol o wahanol feysydd, o Ffisiotherapi i Faeth

    • Deunydd ar wefan y Bwrdd Iechyd

    • Llythyrau i'r cyhoedd ac oddi wrth y cyhoedd, ac unrhyw fathau eraill o ohebiaeth a dderbynnir

    • Deunydd cyfryngau cymdeithasol fel pyst Facebook a negeseuon Twitter

    • Posteri ac arwyddion.

    • Adroddiadau fel adroddiad blynyddol y Bwrdd Iechyd.

    • Unrhyw destunau eraill a ystyrir yn briodol gan Swyddog y Gymraeg neu'r Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg

  • Cyfieithu dogfennau/llythyron a gohebiaeth (e.e. llythyron cwyno, llythyron oddi wrth Aelodau'r Cynulliad, datganiadau i'r wasg ac ati) ar ran Swyddfa'r Prif Weithredwr lle bydd dyddiadau dychwelyd tyn a lle bydd y wybodaeth yn aml yn gymhleth/sensitif, megis y gofal a'r driniaeth a roddir i glaf/cleifion, asesiadau cymhleth, cofnodion meddygol ac ati

  • Gweithio'n agos ac ar y cyd â thîm cyfathrebu'r Bwrdd Iechyd i ddarparu gwybodaeth ddwyieithog i'w chyhoeddi drwy'r rhyngrwyd/y fewnrwyd a chyfryngau cymdeithasol y sefydliad

Amdanom ni

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn rhan o deulu GIG Cymru. Mae ein Bwrdd Iechyd yn darparu gofal iechyd sylfaenol, eilaidd a chymunedol ynghyd â gwasanaethau lles i tua 450,000 o bobl sy'n byw mewn tair sir: Pen-y-bont ar Ogwr, Merthur Tydful a Rhondda Cynon Taf.

Rydyn ni'n byw yn ôl ein gwerthoedd craidd:

  • Rydyn ni'n gwrando, yn dysgu ac yn gwella

  • Rydyn ni'n trin pawb â pharch

  • Rydyn ni i gyd yn gweithio fel un tîm

Rydyn ni'n gyflogwr lleol balch; mae tua 80% o'n gweithlu o 15,000 yn byw o fewn ein rhanbarth. O ganlyniad, nid enaid y sefydliad yn unig y mae ein staff yn ei gynrychioli, ond y cymunedau amrywiol rydyn ni'n eu gwasanaethu.

Cyflog

💰 £27,055 - £32,934

Lleoliad

📍 Pontypridd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £35,142 - £43,694 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £25,603 - £31,854 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £25,603 - £31,854 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £42,625 - £50,161 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £37,474 - £43,414 📍 Caerfyrddin📍 Abertawe +1 Ar gau

💰 £35,411 - £38,296 pro rata 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £26,894 - £29,640 📍 Hyblyg📍 Caerdydd Ar gau

💰 £28,420 - £31,529 📍 Machynlleth Ar gau

💰 £36,255 - £39,644 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 £36,255 - £39,644 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon Ar gau

💰 Cyflog cystadleuol 📍 Campws Caerfyrddin📍 Llanbed +1 Ar gau

💰 £52,303 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £21,460 – £30,023 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 Yn ddibynol ar sgiliau yr ymgeisydd 📍 Dolgellau Ar gau

💰 £25,000 - £27,000 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Campws Caerfyrddin📍 Campws Hyblyg Ar gau

💰 £37,519 - £42,404 📍 Hyblyg📍 Llangrannog +1 Ar gau

💰 £22,571 - £24,920 📍 Caerffili Ar gau

💰 £21,300 - £24,630 📍 Caerdydd Ar gau