Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu

💰 £34k - £36k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Marchnata a Chyfathrebu

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Marchnata a Chyfathrebu i ymuno â'r tîm.

Cyfle i arwain ar holl elfennau marchnata a chyfathrebu’r Eisteddfod, gan gynnwys ein platfformau digidol a’n gwefan, gan gynnwys ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, llunio a gweithredu ein strategaethau cyfathrebu lleol a chenedlaethol, y wasg a’r cyfryngau, hysbysebu, creu copi mewn print ac ar-lein, a llawer mwy. 

Prif Ddyletswyddau - Llunio a gweithredu strategaethau cyfathrebu a marchnata’r Eisteddfod yn ganolog ac ar gyfer pob Eisteddfod unigol.

- Rheoli, hybu a pharatoi arweinyddiaeth greadigol gan ddatblygu adnoddau a systemau i hybu gweithgareddau, a monitro, datblygu a chodi proffil yr Eisteddfod yn y wasg a’r cyfryngau.

- Comisiynu a rheoli ymchwil yn ôl yr angen a chreu, coladu a llunio arolygon er mwyn paratoi gwybodaeth ystadegol i hysbysu penderfyniadau’r Tîm Rheoli a’r Bwrdd.

- Rheoli prosesau ymgyrchoedd hysbysebu’r Eisteddfod ynghyd â hybu ac amddiffyn y brand a’r ddelwedd gorfforaethol drwy reoli enw da'r Eisteddfod yn gyhoeddus.

- Monitro ffynonellau gwybodaeth a gynhyrchir gan sefydliadau allanol perthnasol a chynghori'r Tîm Rheoli a’r Bwrdd ar ymateb corfforaethol.

- Cyfathrebu gwybodaeth gorfforaethol berthnasol yn rheolaidd i gyd-weithwyr.

- Arwain ar greu a chyhoeddi llenyddiaeth swyddogol yr Eisteddfod mewn print ac ar-lein.

- Rheoli sianelau cyfryngau cymdeithasol yr Eisteddfod.

- Cynllunio a gweithredu anghenion cyhoeddusrwydd noddwyr.

- Rheoli, datblygu a diweddaru gwefan a phlatfformau digidol yr Eisteddfod, gan gynnwys paratoi a golygu clipiau fideo drwy gydol y flwyddyn.

- Paratoi cylchlythyrau electronig ar gyfer ymgysylltu gwleidyddol, a chadw mewn cysylltiad gydag ymwelwyr a chwsmeriaid.

Math o gytundeb: Parhaol

Cyflog: £34,250 - £36,352. Penodir ar waelod y raddfa.

Dyddiad cau: 8 Chwefror 2023

Cyfweliadau: 16 / 17 Chwefror (lleoliad i’w gadarnhau).

Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Mae croeso i chi gysylltu â [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.

Cyflog

💰 £34,250 - £36,352

Lleoliad

📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £36,000 - £40,000 📍 Caerdydd📍 Hybrid +1 Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £33,075 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 O gwmpas £43,000 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £25,026 - £27,988 📍 Bae Caerdydd📍 Caerfyrddin +2 Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 pro rata 📍 Bangor Ar gau

💰 £23,620 pro rata 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

💰 £24,285 - £27,131 📍 Bangor Ar gau

💰 £25,662 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £37,474 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £37,519 - £42,404 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £26,894 - £29,080 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £33,820 - £37,261 📍 O gartref📍 Brynbuga Ar gau

💰 £32,458 - £34,318 📍 Hybrid Ar gau

💰 Di-dâl 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25,000 - £28,000 📍 Wrecsam Ar gau

💰 £20,812 - £21,968 pro rata 📍 Beddgelert Ar gau