Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Nawdd

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

💰 £21k 📍 Llanelwedd Ar gau

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn edrych am Gydlynydd Nawdd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Nawdd hyderus, dynamig a brwdfrydig i ymuno â’n tîm i chwarae rôl ganolog wrth gael gafael ar a hwyluso ein Noddwyr ar gyfer digwyddiadau, yn cynnwys Sioe Frenhinol Cymru, y Ffair Aeaf a’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad. 

Ynglŷn â Ni

Wedi’i sefydlu bron 120 o flynyddoedd yn ôl, ond gydag agwedd gadarn o gyfoes, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn llenwi lle unigryw yn nhirwedd wledig a diwylliannol Cymru. Fel elusen gofrestredig, ein nod craidd yw hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy, garddwriaeth, coedwigaeth, cadwraeth a’r amgylchedd yng Nghymru. Rydym yn cyflawni’r amcanion hyn trwy gynnal tri digwyddiad mawr bob blwyddyn, ochr yn ochr â nifer o wobrau, bwrsarïau ac ysgoloriaethau. 

Yn ychwanegol at ein digwyddiadau ein hun, rydym yn croesawu nifer o ddigwyddiadau trydydd parti ar ein maes sioe 150 erw, sy’n cynhyrchu incwm allweddol i fod yn sail i’n gwaith elusennol. 

Wrth edrych ymlaen bydd angen i’r Gymdeithas, fel pob sefydliad, ddatblygu i barhau’n berthnasol. Mae gennym nifer o brosiectau cyffrous yn yr arfaeth ac ymgyrch i gofleidio newid a thyfu llwyddiant ein digwyddiadau. 

Felly, mae’r Cydlynydd Nawdd yn aelod hollbwysig o Dîm Datblygu Busnes y Gymdeithas, sy’n adrodd i Bennaeth Datblygu Busnes, ac yn gweithio’n agos â Phwyllgor Nawdd y Gymdeithas a busnesau trydydd parti.

Cyfrifoldebau Allweddol

Mae’r swydd yn eang ac yn amrywiol; mae’n cwmpasu pob agwedd ar nawdd ar gyfer tri phrif ddigwyddiad y Gymdeithas a bydd yn cynnwys:

·   Cynorthwyo gyda chanfod noddwyr newydd ar gyfer amrywiol adrannau digwyddiadau’r elusen.

·   Paratoi cynigion nawdd a chynorthwyo mewn trafodaethau gyda noddwyr.

·   Cyfathrebu â busnesau a datblygu perthynas gref gyda noddwyr, trwy e-bost, teleffon ac yn bersonol.

·   Mewnbynnu pecynnau noddwyr ar gronfa ddata, a chefnogi wrth ddatblygu prosesau adrannau a chronfa ddata newydd y Gymdeithas.

·   Gweinyddu buddion a breintiau noddwyr, e.e. Baneri, hysbysebu, sylwebaethau, tocynnau a bathodynnau. Gweithio gyda’r Tîm Baneri a Stiwardiaid wrth drefnu digwyddiadau.

·   Diweddaru atodlenni a chatalogau gyda manylion noddwyr.

·   Cynorthwyo gydag Anfonebu a phrosesu taliadau.

·   Cefnogi cwblhau awgrymiadau nawdd newydd a chreu pecynnau nawdd newydd.

·   Gweithio gyda’r Swyddog Stondinau Masnach wrth sefydlu Stondinau Masnach Noddwyr.

·   Darparu cefnogaeth nawdd gyffredinol i Bennaeth Datblygu Busnes.

·   Gweithio gyda chroestoriad o staff yn cynnwys Cyllid, Marchnata a Chystadlaethau.

Tîm bychan ydym a bydd yna orchwylion sy’n disgyn y tu allan i’r cyfrifoldebau allweddol uchod. Felly, bydd angen ichi fod yn hyblyg ac yn fodlon addasu yn ôl y gofynion.

Mae hon yn swydd gyffrous, ac rydym yn chwilio am rywun i ymuno â’r tîm am y tymor hir a’r bwriad yw y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn tyfu ac yn datblygu gyda ni ac y bydd yn rhan ganolog o’r Gymdeithas a’i dyfodol.

Mae angen ichi fod yn danbaid ac yn ymroddedig i lwyddiant hir dymor y Gymdeithas tra byddwch yn gallu gweithio dan bwysau, trin blaenoriaethau lluosog, bod yn gyfathrebwr hyderus a chwrdd â therfynau amser.

Ynglŷn â Chi

Mae’r swydd yn adrodd yn uniongyrchol i Bennaeth Datblygu Busnes ac mae’r priodoleddau canlynol yn rhinweddau personol pwysig ar gyfer y swydd.

Sylweddolir efallai na fydd un ymgeisydd yn meddu arnynt i gyd. Serch hynny, defnyddiwch eich cais i ddangos sut y gall eich profiad, eich sgiliau a’ch gwybodaeth gwrdd â gofynion cyflawni’r swydd hon. 

Profiad

·    Profiad o werthu y gellir ei ddangos.

·    Profiad mewn gofal a gwasanaeth cwsmeriaid. 

·    Gwybodaeth am brosesu ariannol.

·    Hanes o lwyddiant blaenorol mewn gwaith tîm rhagorol.

·    Profiad wrth reoli cysylltiadau trydydd parti yn llwyddiannus.

·    Gallu i weithio mewn dull trefnus a rhagweithiol. Sgiliau a gwybodaeth 

·    Llythrennedd TG rhagorol (yn cynnwys Excel) ac yn gyfarwydd â gweithredu cronfeydd data.

·    Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.

·    Y gallu i weithio ar eich menter eich hun yn ogystal ag o fewn tîm.

·    Gallu rhagorol i sgwrsio yn Saesneg ac yn Gymraeg (dymunol). 

·    Yn gallu sicrhau sylw astud i fanylion a bod yn drefnus.

·    Ymarweddiad cyfeillgar, agos-atoch, a hyderus. 

Gwybodaeth hanfodol

·   Prawf o hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.

I drafod y swydd yn anffurfiol, anogir ymgeiswyr i gysylltu â Phennaeth Datblygu Busnes, Clare James ([email protected]).

I wneud cais am y swydd hon, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at Caron W Evans, Pennaeth Gweinyddiaeth ([email protected]).

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 hanner dydd ar 17 Chwefror 2023.

Byddir yn cynnal cyfweliadau ar ddydd Gwener 24 Chwefror 2023. 

AMODAU A THELERAU CYFLOGAETH CYFFREDINOL

Oriau amser llawn: 36.25 awr yr wythnos. (Oriau craidd y busnes: 08.45 y bore tan 17.00 y pnawn. Dydd Llun i Ddydd Gwener. Cinio 12.30 y pnawn tan 13.30 y pnawn). Mae dull hybrid a hyblyg o weithio yn bosibl fel y cytunir gyda’r Rheolwr Llinell.

Oriau ychwanegol: Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio oriau ychwanegol yn barod ar gyfer 3 digwyddiad yr elusen. Bydd rhyw gymaint o amser o’r gwaith yn lle tâl (TOIL) yn gymwys.

Gwyliau: 24 diwrnod y flwyddyn ynghyd â gwyliau cyhoeddus arferol. 

Buddion: Bydd Deddf Pensiwn 2011 yn gymwys. Bydd Gofal Iechyd, Yswiriant Bywyd a chymorth ar salwch tymor hir yn cael ei ddarparu ar ôl cwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus.

Cyflog

💰 £21,000

Lleoliad

📍 Llanelwedd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

TIAA Ltd

💰 £21k 📍 Amrywiol Ar gau

Adra

💰 £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Mantell Gwynedd

💰 £28k - £30k 📍 Hyblyg Ar gau

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £31k 📍 Hyblyg Ar gau

Adra

💰 £23k - £26k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

ITV Cymru Wales

💰 I'w drafod 📍 Caerdydd Ar gau

Cymdeithas yr Iaith

💰 £21k - £24k 📍 Aberystwyth Ar gau

Cwmni Da

💰 £30k - £35k 📍 Caernarfon Ar gau

Adra

💰 £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Ynni Cymunedol Cymru

💰 £30k - £33k 📍 Gweithio o Adref Ar gau

Adra

💰 £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £43k - £46k 📍 Conwy Ar gau

Adra

💰 £29k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £27k - £30k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon

💰 £25k - £28k 📍 Caernarfon Ar gau

S4C

💰 £21k - £24k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri

💰 £20k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £16k 📍 Betws y Coed Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £49k 📍 Amrywiol Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £21k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

Antur Cymru

💰 £20k 📍 Gweithio o Adref Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £25k - £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

Cyngor Bro Morgannwg

💰 £30k - £33k 📍 Y Barri Ar gau