Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch Swyddog Clercyddol

💰 £24,285 - £27,131 📍 Bangor Ar gau

Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Uwch Swyddog Clercyddol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r Coleg Gwyddorau Dynol yn awyddus i benodi Uwch Swyddog Clercyddol parhaol, llawn amser i ymuno â Thîm Gweinyddol y Coleg. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol yn benodol am yr Ysgol Gwyddorau Addysgol.

Bydd y dyletswyddau'n cynnwys darparu cefnogaeth weinyddol effeithlon i Bennaeth yr Ysgol a'r Uwch Dîm Gweithredol a threfnu a rhoi prosesau a gweithdrefnau gweinyddol ar waith o fewn yr Ysgol o ddydd i ddydd.

Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg i safon Lefel A neu NVQ Lefel 3 (neu gymhwyster cyfwerth) mewn maes pwnc perthnasol, neu feddu ar brofiad gweinyddol perthnasol. Dylai fod gan yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd brofiad o weithio mewn swyddfa / swydd weinyddol a gallu defnyddio rhaglenni Microsoft Office. Dylai ymgeiswyr fedru dangos sgiliau trefnu ardderchog a’r gallu i drin baich gwaith amrywiol a thrwm.

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib. 

Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad. 

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 27 Chwefror, 2023.

Cewch wneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â: Gwawr Griffiths, Gweinyddwr y Coleg, e-bost: [email protected].

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal

Cyflog

💰 £24,285 - £27,131

Lleoliad

📍 Bangor

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £36,000 - £40,000 📍 Caerdydd📍 Hybrid +1 Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £33,075 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 O gwmpas £43,000 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £25,026 - £27,988 📍 Bae Caerdydd📍 Caerfyrddin +2 Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 pro rata 📍 Bangor Ar gau

💰 £23,620 pro rata 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

💰 £25,662 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £37,474 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £37,519 - £42,404 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £26,894 - £29,080 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £33,820 - £37,261 📍 O gartref📍 Brynbuga Ar gau

💰 £32,458 - £34,318 📍 Hybrid Ar gau

💰 Di-dâl 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25,000 - £28,000 📍 Wrecsam Ar gau

💰 £20,812 - £21,968 pro rata 📍 Beddgelert Ar gau