Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Golygydd Llyfrau Plant a Phobl Ifanc

💰 Cystadleuol 📍 Talybont📍 O gartref +1 Ar gau

Mae Y Lolfa Cyf yn edrych am Olygydd Llyfrau Plant a Phobl Ifanc

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Y prif orchwyl fydd llywio rhaglen blant a phobl ifanc Y Lolfa drwy’r wasg gan olygu’r llyfrau yn greadigol ac ymgymryd â phob gwaith cysylltiol. Yn ogystal â chydweithio â golygyddion eraill Y Lolfa bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio gydag adran olygyddol y Cyngor Llyfrau ar rai teitlau. Bydd y Golygydd yn un o’n tîm golygyddol o chwech. Bydd yn atebol i Lefi Gruffudd, Pennaeth Cyhoeddi Y Lolfa. Rydym yn ystyried ymgeiswyr sydd am weithio isafswm o dri diwrnod ac uchafswm o bum diwrnod yr wythnos. Mae’r Lolfa yn hapus i ystyried ymgeiswyr sydd am weithio yn Y Lolfa neu o gartref neu gyfuniad o’r ddau, yn gyflogedig i’r Lolfa.

Disgrifiad:

Dyletswyddau

Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys gwneud y gwaith canlynol ar nifer o deitlau Cymraeg Y Lolfa i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd y posibilrwydd gweithio ar rai llyfrau i oedolion. 

·    Rheoli a llywio nifer penodol o lyfrau trwy’r wasg.

·    Sicrhau bod y testun yn gyflawn, yn glir, yn gywir ac yn gyson; ei fod yn cyfateb i ofynion y cytundeb, a’i fod yn cydymffurfio ag arddull y tŷ.

·    Cydweithio gyda’r awdur er mwyn mireinio’r arddull, cywiro camgymeriadau ffeithiol a chyfeiriadau gwallus/absennol, cwtogi lle bo angen.

·    Trefnu’r dalennau rhagarweiniol (teitl, awdur, nodyn hawlfraint, ISBN, tudalen gynnwys, cydnabyddiaethau, rhagair, etc.) a’r dalennau terfynol (atodiadau, llyfryddiaeth, mynegai, etc.)

·    Cyd-gysylltu gyda’r awdur, adrannau’r Lolfa a’r Cyngor Llyfrau.

·    Trefnu testun y clawr (yn cynnwys y broliant). 

·    Paratoi datganiadau i’r wasg a gwybodaeth hyrwyddo i’r adran farchnata.

·    Chwilio am luniau a sicrhau caniatâd. 

·    Darllen a deall cywiriadau golygyddion copi a’u gosod i mewn ar y sgrin gan ddefnyddio Word a rhaglenni tudalennu fel InDesign. (Rhoddir hyfforddiant). 

·    Trefnu golygu testunol a phrawfddarllen allanol pan fo’r angen yn codi. 

·    Comisiynu gwaith celf a chynllun y clawr; comisiynu neu ddewis dylunwaith ar gyfer corff y llyfr.

·    Cynnig syniadau ar gyfer cyfrolau a thrafod syniadau mewn cyfarfodydd golygyddol.

·    Darllen a mynegi barn ar lawysgrifau sydd wedi dod i law.

·    Paratoi deunydd gwybodaeth a marchnata am lyfrau ar wefannau mewnol ac allanol.

·    Gwneud gwaith gweinyddol amrywiol cysylltiedig.

·    Cyflawni tasgau eraill rhesymol yn ôl y galw.

Cyflog

💰 Cystadleuol

Lleoliad

📍 Talybont, O gartref, Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £35,333 - £42,155 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £33,075 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 O gwmpas £43,000 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £25,026 - £27,988 📍 Bae Caerdydd📍 Caerfyrddin +2 Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 pro rata 📍 Bangor Ar gau

💰 £23,620 pro rata 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

💰 £24,285 - £27,131 📍 Bangor Ar gau

💰 £25,662 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £37,474 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £37,519 - £42,404 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £26,894 - £29,080 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £33,820 - £37,261 📍 O gartref📍 Brynbuga Ar gau

💰 £32,458 - £34,318 📍 Hybrid Ar gau

💰 Di-dâl 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25,000 - £28,000 📍 Wrecsam Ar gau

💰 £20,812 - £21,968 pro rata 📍 Beddgelert Ar gau