Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynghorydd y Gymraeg

Ofcom Cymru

💰 £55k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Ofcom Cymru yn edrych am Gynghorydd y Gymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae tîm Ofcom yng Nghymru yn chwilio am Gynghorydd y Gymraeg i arwain ei gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg ac i sicrhau cydymffurfiaeth â’i Safonau Cymraeg. Yn unigolyn medrus sy’n siarad Cymraeg, bydd yr unigolyn hwn yn hyrwyddo gwaith Ofcom drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws y sefydliad.

Bydd eich rôl yn cynnwys sicrhau bod Ofcom yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg drwy godi ymwybyddiaeth ohonynt i dimau ar draws y sefydliad; goruchwylio’r gwaith o gyfieithu dogfennau Ofcom yn Gymraeg yn unol â’i phrosesau cymeradwy a’i hamserlenni cyhoeddi tynn; a chynnal a datblygu’r berthynas â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

Mae’r iaith Gymraeg yn bwysig i Ofcom, ac mae’r tîm yn falch o’i hymroddiad a’r ffordd y maent yn integreiddio’r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd. 

Mae Ofcom yn trin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yn gyfartal yn ei gwaith yng Nghymru ac yn credu bod ei dull gweithredu yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at allu siaradwyr Cymraeg i ymgysylltu â materion cyfathrebu yn eu dewis iaith.

Mae hon yn rôl lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol. Mae Ofcom yn croesawu ceisiadau yn yr iaith Gymraeg a chynhelir y cyfweliad ar gyfer y swydd hon yn Gymraeg.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae Ofcom yn gyflogwr blaengar a chynhwysol ac mae’n cydnabod gwerth amrywiaeth i “sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb”. Mae’r sefydliad yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â’r cymwysterau priodol beth bynnag fo’u cefndir, yn enwedig ymgeiswyr sy’n fenywod, yn anabl ac yn Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig gan nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n deg yn ei gweithlu ar hyn o bryd. Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae Ofcom yn gwarantu y bydd yn cyfweld unrhyw ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r meini prawf dethol hanfodol.   Mae gan Ofcom fodel gweithio ystwyth, sy’n ei galluogi i gael dull niwtral o ran lleoliad wrth lenwi swyddi gwag. Mae hefyd yn cefnogi dulliau gweithio'n hyblyg, lle bo’n bosibl. Mae cydweithwyr yn rhydd i symud o gwmpas ei swyddfeydd, gan alluogi iddynt weithio ochr yn ochr â thimau a grwpiau eraill, a chydweithio â nhw. Mae'r mentrau hyn yn helpu cydweithwyr Ofcom i weithio’n hyblyg mewn ffordd sy’n eu cefnogi.

I drafod yn anffurfiol, cysylltwch â thîm Goodson Thomas ar 029 2167 4422 / [email protected]

Bydd pob cais yn cael ei gydnabod.

Cyflog

💰 £55,000

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

TIAA Ltd

💰 £21k 📍 Amrywiol Ar gau

Adra

💰 £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Mantell Gwynedd

💰 £28k - £30k 📍 Hyblyg Ar gau

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £31k 📍 Hyblyg Ar gau

Adra

💰 £23k - £26k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

ITV Cymru Wales

💰 I'w drafod 📍 Caerdydd Ar gau

Cymdeithas yr Iaith

💰 £21k - £24k 📍 Aberystwyth Ar gau

Cwmni Da

💰 £30k - £35k 📍 Caernarfon Ar gau

Adra

💰 £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Ynni Cymunedol Cymru

💰 £30k - £33k 📍 Gweithio o Adref Ar gau

Adra

💰 £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £43k - £46k 📍 Conwy Ar gau

Adra

💰 £29k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £27k - £30k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon

💰 £25k - £28k 📍 Caernarfon Ar gau

S4C

💰 £21k - £24k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri

💰 £20k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £16k 📍 Betws y Coed Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £49k 📍 Amrywiol Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £21k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

Antur Cymru

💰 £20k 📍 Gweithio o Adref Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £25k - £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

Cyngor Bro Morgannwg

💰 £30k - £33k 📍 Y Barri Ar gau