Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Dirprwy Glerc y Dref

💰 £25,419 - £28,226 📍 Caernarfon Ar gau

Mae Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon yn edrych am Ddirprwy Glerc y Dref

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Bydd Dirprwy Glerc y Dref yn Swyddog o’r Cyngor ac yn absenoldeb Clerc y Dref (Swyddog Priodol) mae o dan ddyletswydd statudol i gyflawni’r holl swyddogaethau, ac yn arbennig i gyflwyno neu gyhoeddi’r holl hysbysiadau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, gan Swyddog Priodol y Cyngor. Bydd Dirprwy Glerc y Dref yn gyfrifol am sicrhau bod swyddogaethau’r Cyngor fel awdurdod lleol yn cael eu cyflawni.

Disgwylir i Ddirprwy Glerc y Dref gynghori’r Cyngor ar, a chynorthwyo Clerc y Dref i lunio’r polisïau cyffredinol i’w dilyn mewn perthynas â gweithgareddau’r cyngor a chynorthwyo i gynhyrchu’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gwneud penderfyniadau effeithiol. Bydd y sawl a benodir yn atebol i Glerc y Dref am reoli adnoddau’n effeithiol a bydd yn adrodd iddo yn ôl yr angen.

Bydd deilydd y swydd yn chwarae rhan allweddol o ran rhedeg gweithgareddau a swyddogaethau’r Cyngor Tref.

Cyfrifoldebau:

Cyfarfodydd a Phwyllgorau

  1. Cynorthwyo Clerc y Dref i ddarparu rhaglenni ar gyfer cyfarfodydd amrywiol y Cyngor Tref ac i gofnodi mewn cyfarfodydd o’r fath.
  2. Cynrychioli’r Cyngor Tref mewn cyfarfodydd gyda chyrff allanol, fel bo’r angen.
  3. Cymryd rȏl flaenllaw o ran y trefniadau, a mynychu digwyddiadau a seremonïau fel Noson y Maer, Sul y Maer, Sul y Cofio, Noson Nadoligaidd a gweithgareddau Cylch Cyfeillgarwch Trefi Caerog.

Cyffredinol

  1. Cymryd rȏl flaenllaw mewn unrhyw ddatblygiadau neu gynlluniau fydd y Cyngor Tref yn ei ddatblygu. Mae hyn yn cynnwys arwain ar brosiectau fel Parc Coed Helen, sydd newydd gael ei gymryd drosodd oddi wrth yr awdurdod lleol, ac unrhyw brosiect arall yn ôl y gofyn.
  2. Derbyn a delio gyda gohebiaeth a dogfennau neu ddod â dogfennau o’r fath i sylw’r Cyngor Tref. Cynhyrchu gohebiaeth fel canlyniad i, neu oherwydd, polisïau’r Cyngor.
  3. Bod yn rhan o’r broses o ran monitro a chreu polisïau.
  4. Darparu, mewn cydweithrediad gyda’r Maer a’r Clerc, ohebiaeth i’r wasg parthed gweithgareddau neu benderfyniadau’r Cyngor Tref.
  5. Cyfathrebu’n rheolaidd gyda chynghorau a chymdeithasau eraill er mwyn cadw perthynas effeithiol gyda nhw.
  6. Delio gyda materion iechyd a diogelwch.
  7. Cynorthwyo gyda chyfrifoldebau fel landlord 8-10 Stryd Bangor.
  8. Bod yn un o ddeiliaid goriad Adeilad yr Institiwt.
  9. Cynorthwyo i ymchwilio i gwynion.
  10. Gwneud unrhyw ddyletswydd neu gyfrifoldeb rhesymol arall yn unol â natur a lefel y swydd.

Technoleg Gwybodaeth

  1. Arwain ar faterion Technoleg Gwybodaeth a Chyfryngau Cymdeithasol er mwyn diweddaru sustemau’r Cyngor a sicrhau gwelliant parhaus.
  2. Cynnal, a chymryd cyfrifoldeb dros wefan y Cyngor Tref
  3. Datblygu a chynnal ffyrdd amgen o gyfathrebu’n effeithiol efo’r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill, er enghraifft drwy dudalen Facebook,

Materion Ariannol

  1. Delio gyda materion ariannol a chynhyrchu adroddiadau ariannol.
  2. Bod yn rhan o'r awdurdod deuol ar gyfer taliadau ar-lein.

Gweinyddiaeth

Ymgymryd ag unrhyw waith gweinyddol fel:

  • Cadw Dyddiadur y Maer a datblygu ffyrdd o wneud hyn yn electronig.

  • Bancio, talu biliau a delio gydag anfonebau.

  • Cyfrifon / Cyflogau.

  • Llogi ystafelloedd a delio gyda’r cyhoedd.

  • Ceisiadau Cynllunio.

  • Gwasanaethau a Chystadlaethau arbennig y Cyngor.

  • Anfon gwahoddiadau i ddigwyddiadau Dinesig

  • Mynychu holl ddigwyddiadau Dinesig y Cyngor

  • Delio gyda ac ymateb i ohebiaeth y Maer

  • Cadw protocol Dinesig

Datblygiad Personol

  1. Mynychu cyrsiau hyfforddi neu seminarau fel bo’n ofynnol gan y Cyngor
  2. Datblygu dealltwriaeth o wybodaeth broffesiynol angenrheidiol er mwyn cael rheolaeth effeithiol ar faterion y Cyngor.

Sgiliau Personol

  1. Profiad o ddarparu cefnogaeth weinyddol o safon uchel
  2.  Sgiliau rhifedd a llythrennedd rhagorol a sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig ardderchog (Cymraeg a Saesneg).
  3. Sgiliau / medrusrwydd o safon uchel mewn TGCh sylfaenol megis Word, Powerpoint, Excel ayb, gyda’r hyder a chwilfrydedd i ddatblygu ymhellach.
  4. Delio â’r cyhoedd mewn modd proffesiynol wyneb yn wyneb ac ar y ffȏn.
  5. Parodrwydd i fod yn hyblyg.
  6. Y gallu i gydweithio gydag amrediad o bobl.
  7. Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o Dîm.
  8. Yn gallu parchu cyfrinachedd.

Am becyn gwybodaeth, ffurflen gais , swydd ddisgrifiad a manylion personol, neu am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Sion Wyn Evans , Clerc Cyngor Tref Caernarfon ar 01286 672 943 neu ar [email protected]

Cyflog

💰 £25,419 - £28,226

Lleoliad

📍 Caernarfon

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £20,919 - £22,367 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £35,142 - £43,694 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £25,603 - £31,854 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £25,603 - £31,854 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £42,625 - £50,161 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £37,474 - £43,414 📍 Caerfyrddin📍 Abertawe +1 Ar gau

💰 £35,411 - £38,296 pro rata 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £26,894 - £29,640 📍 Hyblyg📍 Caerdydd Ar gau

💰 £28,420 - £31,529 📍 Machynlleth Ar gau

💰 £36,255 - £39,644 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 £36,255 - £39,644 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon Ar gau

💰 Cyflog cystadleuol 📍 Campws Caerfyrddin📍 Llanbed +1 Ar gau

💰 £52,303 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £21,460 – £30,023 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 Yn ddibynol ar sgiliau yr ymgeisydd 📍 Dolgellau Ar gau

💰 £25,000 - £27,000 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Campws Caerfyrddin📍 Campws Hyblyg Ar gau

💰 £37,519 - £42,404 📍 Hyblyg📍 Llangrannog +1 Ar gau

💰 £22,571 - £24,920 📍 Caerffili Ar gau