Swyddog Polisi Caerdydd Ddwyieithog
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Polisi Caerdydd Ddwyieithog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae ein Tîm Caerdydd Ddwyieithog yn awyddus i gyflogi Swyddog Polisi yn Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd Caerdydd CF10 4UW.
Mae Caerdydd Ddwyieithog yn arwain y gwaith o ddatblygu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog lle gall pawb yn y brifddinas fanteisio ar wasanaethau a chymorth yn Gymraeg neu’n Saesneg Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd wedi dyblu dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae Caerdydd yn ddinas gynyddol ddwyieithog. Fel awdurdod lleol, rydym yn gweithio gyda chwmnïau yn y sector preifat a’r trydydd sector fel rhan o’r strategaeth ‘Caerdydd Ddwyieithog’ ehangach i geisio hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg yng Nghaerdydd.Nod y dull newydd a blaengar hwn o weithio yw chwalu’r muriau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, hyrwyddo dwyieithrwydd fel rhywbeth hollol naturiol a sicrhau bod gweledigaeth y Cyngor o greu ‘Caerdydd ddwyieithog’ yn cael ei gwireddu.
Am Y Swydd
Yn y rôl Swyddog Polisi hon byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth a byddwch yn dysgu sut i:
- Gefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i gyflawni Cynllun Gweithredu Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog amlasiantaethol ledled y ddinas 2022-27.
- Cynnig cyngor ar faterion sy'n ymwneud â Safonau'r Gymraeg statudol (Mesur y Gymraeg [Cymru] 2011), Polisïau'r Gymraeg ac agenda Caerdydd Ddwyieithog.
- Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i weithredu Safonau'r Gymraeg ar draws y Cyngor a chodi ymwybyddiaeth o'r Safonau hyn er mwyn sicrhau bod yr holl staff a chyfarwyddiaethau yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau dan ddeddfwriaeth y Gymraeg.
- Paratoi cyngor a chefnogaeth i'r holl staff, rheolwyr, aelodau etholedig a thrydydd partïon ar sut mae polisïau iaith y cyngor yn berthnasol i'w meysydd cyfrifoldeb. Rhoi cyngor a chymorth i unrhyw aelod arall o staff, y cyhoedd a sefydliadau allanol ar bob mater sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu a chydlynu polisïau a strategaethau i hwyluso a hyrwyddo’r Gymraeg/ Safonau’r Gymraeg er mwyn codi ymwybyddiaeth gorfforaethol o rwymedigaethau statudol y Cyngor a sicrhau bod staff yn cydymffurfio â’r safonau a bod gwasanaethau dwyieithog yn cael eu gwella.
- Delio ag unrhyw faterion eraill a allai godi yn ymwneud â'r Gymraeg, gan gynnwys ymchwiliadau Comisiynydd y Gymraeg, yn ôl y gofyn.
- Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog gyda gweinyddiaeth y Grŵp Caerdydd Ddwyieithog o Aelodau Trawsbleidiol ac unrhyw gyfarfodydd perthnasol eraill yn ôl yr angen.
- Cynrychioli'r Cyngor mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol perthnasol (e.e. Fforwm Partneriaid Caerdydd Ddwyieithog, Fforwm Cymraeg mewn Addysg ac ati)
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Aelod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru x 6
Mae Llywodraeth Cymru yn edrych am Aelod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru x 6
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am chwe aelod ar gyfer Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) – allech chi fod yn un o'r bobl rydyn ni'n chwilio amdano? Ydych chi'n rhywun sy'n poeni am Gymru – ei hamgylchedd, ei heconomi, ei diwylliant a lles cenedlaethau'r dyfodol?
Os ydych chi'n ddeinamig, yn ymroddedig ac yn arloesol a hoffech helpu CNC i ymateb i'r heriau sydd o'ch blaen, gwnewch gais nawr. Rydym yn chwilio am un aelod sy'n siarad Cymraeg, gyda gallu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y pum swydd arall.
Mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd ar ei busnes, gan gynnwys penodiadau i gyrff cyhoeddus. Croesewir ac anogir ceisiadau gan bob grŵp ac rydym yn sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd cymwys am swydd gyhoeddus yn cael triniaeth lai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Cedwir at egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored, a phenodir ar sail teilyngdod.
Am ragor o fanylion ac i wneud cais ewch i wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru neu ar gyfer ymholiadau anfonwch e-bost at yr Uned Penodiadau Cyhoeddus.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Hanner dydd ar ddydd Llun 27 Mehefin. Ni ystyrir apelau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn. Sylwer, disgwylir cynnal cyfweliadau ar hyn o bryd yn ystod mis Medi.
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod pwysigrwydd datblygu a meithrin galluoedd dwyieithog y rheini sy'n cael eu penodi i swyddi cyhoeddus yng Nghymru ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gallu dangos eu bod yn gallu gweithio trwy'r Gymraeg a'r Saesneg. Os hoffech fersiwn print bras, Braille neu sain o'r hysbyseb hon, [email protected].
Cyflog
💰 £350 y dydd
Lleoliad
📍 Unrhyw le yng Nghymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Gwybodaeth (x 2 swydd)
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn edrych am Gynorthwyydd Gwybodaeth (x 2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swyddi yma.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen gais ni i gael eu hystyried. Ni dderbynnir CVs ar eu pen eu hunain. Os nad ydych wedi cael gwahoddiad i gyfweliad o fewn tair wythnos o'r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu. Ydych chi wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid? Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy'n hyderus, yn frwdfrydig a sy’n medru mynegi eu hunain yn dda i ymuno â'n tîm prysur.
Mae'r swydd yn cynnwys delio â nifer fawr o ymholiadau gan drigolion ac ymwelwyr sy'n defnyddio gwasanaethau'r cyngor dros y ffôn, a mewn person ym mhrif swyddfa'r Cyngor, Coed Pella ym Mae Colwyn. Bydd gofyn i chi reoli ymholiadau yn effeithlon ac yn sensitif trwy ddarparu gwasanaeth gwybodaeth a chymorth cywir i alluogi datrys ymholiadau yn y man cyswllt cyntaf, lle bo hynny'n bosibl.
Dylai fod gan ymgeiswyr safon dda o addysg i lefel NVQ 2 (neu gyfwerth), sgiliau TGCh da a bod â'r gallu i wrando a dangos empathi â chwsmeriaid.
Mae'r Gwasanaeth yn delio'n uniongyrchol â'r cyhoedd, mae'r gallu i sgwrsio'n gartrefol â chwsmeriaid yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swyddi yma.
Cyflog
💰 £8,125 - £8,288 (15 awr) / £20,043 - £20,444 (37 awr)
Lleoliad
📍 Conwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Gwasanaethau Cwsmeriaid
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Gynorthwyydd Gwasanaethau Cwsmeriaid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Bangor yn chwilio am Gynorthwyydd Gwasanaethau Cwsmeriaid parhaol llawn amser i ymuno â'r tîm Blaen Tŷ.
Mae staff gwasanaethau cwsmeriaid yn gweithio ar draws amrywiol leoliadau yn y brifysgol ac mae ganddynt ran allweddol yn y gwaith o sicrhau bod y brifysgol yn gweithredu’n ddi-drafferth ac maent yn ateb amrywiaeth o ymholiadau wyneb yn wyneb ac ar y ffôn.
Bydd gan ddeiliad y swydd o leiaf bedwar TGAU gyda graddau A - D (gan gynnwys Saesneg a Mathemateg) neu NVQ Lefel 1 mewn pwnc perthnasol a gorau oll os oes gennych rywfaint o brofiad mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer (manwerthu, lletygarwch neu debyg). Byddwch hefyd yn gyfarwydd â gweithio mewn derbynfa brysur. Mae'r gallu i ddefnyddio man gwerthu cyfrifiadurol yn rhan hanfodol o'r rôl yn ogystal ag ymdrin yn effeithlon â thrafodion ac ymholiadau, a gweithredu gydag uniondeb, disgresiwn a pharodrwydd i helpu cwsmeriaid.
Byddai diddordeb personol mewn Chwaraeon a/neu'r Celfyddydau yn fanteisiol oherwydd lleoliad dwy o’r derbynfeydd prysuraf ond nid yw'n hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi.
Wrth ddechrau eu hyfforddiant yng Nghanolfan Brailsford, dylai deiliad y swydd ddisgwyl cael ei ddefnyddio ar draws holl fannau blaen tŷ’r brifysgol a bydd hynny’n cynnwys sifftiau gyda’r nos ac ar benwythnosau. Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu hystyried i wneud y swydd hon ar sail ran amser neu rannu swydd fel bod yr oriau llawn amser yn cael eu bodloni.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau mor fuan ag sydd yn rhesymol bosib.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk.
Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 3 Gorffennaf 2022.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £18,212 - £20,092
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ysgoloriaeth Ymchwil tair blynedd yn Ysgol Reoli Caerdydd
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Ysgoloriaeth Ymchwil tair blynedd yn Ysgol Reoli Caerdydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn chwilio am berson brwdfrydig i ymgymryd â doethuriaeth mewn Busnes Cynaliadwy. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn Ysgoloriaeth tair blynedd a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Bydd yr ymchwil yn nodi ac yn tynnu sylw at yr arferion gorau o ran Cynaliadwyedd mewn busnes ac yn rhoi sylw i'r dulliau y mae busnesau Cymru yn eu cymryd i leihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol, tra hefyd yn cefnogi datblygiad economaidd lleol, gan ddiogelu cymunedau Cymru a'r Iaith Gymraeg.
Mae'r ysgoloriaeth yn agored i unrhyw un o fyfyrwyr y Deyrnas Unedig (DU) a'r UE sy'n bodloni amodau trigolion y DU. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig, er mwyn cynnal a chyflwyno'r ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg.
Disgrifiad:
Effaith debygol: Canlyniad y gwaith fydd i gefnogi arfer gorau mewn busnes, arddangos arfer da Cymru wrth arwain y ffordd mewn busnes cynaliadwy a chreu canllaw cymorth ar gyfer busnesau newydd a phresennol, mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd diwydiannol (e.e. gwledig, trefol a arfordirol) i ehangu a datblygu ffyrdd sy'n diwallu anghenion y gymdeithas, yr economi a'r amgylchedd naturiol.
Yr ysgoloriaeth: O Hydref 2022, am uchafswm o 3 blynedd (os nad yw'r ymgeisydd wedi’i gwblhau o fewn y cyfnod hwn, bydd angen iddynt ariannu gweddill y PhD eu hunain)
Mae'r ysgoloriaeth yn cynnwys ffioedd cwrs PhD a thâl grant cynhaliaeth pob blwyddyn. Y tâl a delir i'r ysgolhaig bob blwyddyn fydd £16,062. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio gydag amrywiaeth o staff Met Caerdydd gan gynnwys mynychu cynadleddau, symposiwm posteri, sesiynau datblygiad proffesiynol, a chyfarfodydd o leiaf unwaith bob 2 fis gyda'u goruchwyliwr. Mae angen mynychu cyfarfodydd goruchwylio yn rheolaidd fel rhan o'r contract. Cefnogir gwiethio hybrid, ac mae dilyniant PhD yn dibynnu ar gwblhau Adolygiadau Cynnydd yn foddhaol ar ôl 6 mis, 12 mis a 24 mis.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17:00 Dydd Iau 30 Mehefin 2022, i wneud cais, anfonwch CV gyda datganiad ategol byr at [email protected]
Cyflog
💰 £16,062
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynhyrchydd Rhaglenni Cymraeg
Mae ITV Cymru Wales yn edrych am Gynhyrchydd Rhaglenni Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am gynhyrchydd uchelgeisiol i ymuno a’r tîm materion cyfoes Cymraeg yn ITV Cymru Wales.
Mae Y Byd ar Bedwar wedi bod yn datgelu rhai o straeon mwyaf Cymru a’r byd ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae'r rôl hon yn gyfle cyffrous a phrin i newyddiadurwr profiadol i ddatblygu a chynhyrchu cynnwys i’r safon uchaf a thorri straeon newydd sy'n gosod yr agenda.
Gyda chysylltiadau eang ar draws Cymru bydd gennych syniadau gwreiddiol a gwybodaeth wych o faterion cyfoes Cymru a’r byd.
Bydd gennych ddealltwriaeth gref o gydymffurfiaeth a chanllawiau darlledu a’r gallu i weithio yn annibynnol dan amgylchiadau heriol.
Yn ddelfrydol bydd gennych sgiliau camera a golygu da a phrofiad o gyfarwyddo timau cynhyrchu.
**Meini prawf allweddol **-
- Hanes profedig o gynhyrchu newyddiaduraeth wreiddiol a chreadigol.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o gydymffurfiaeth a chanllawiau darlledu.
- Dealltwriaeth dda o blatfformau digidol a syniadau am sut i ddenu cynulleidfaoedd newydd i’n cynnwys.
Gofynion y rôl -
- Ymchwilio, cynllunio a chynhyrchu straeon i’r safon uchaf.
- Storîwr sydd yn arddangos sgiliau sgriptio rhagorol â Chymraeg cywir.
- Sgiliau hunan saethu cryf a golygu sylfaenol yn ddymunol.
- Rhwydweithiau o gysylltiadau eang ac amrywiol ar draws Cymru.
- Sgiliau cyfathrebu da er mwyn arwain a chyd-weithio ar ymchwiliadau gyda thîm o newyddiadurwyr llai profiadol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.itvjobs.com
I ymgeisio - hoffwn i chi anfon CV a blas o’ch gwaith hyd yma i ni fel rhan o’ch cais.
Mae ITV wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ei weithlu ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd ac fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses). Dyddiad Cau: 30ain o Fehefin 2022
Cyflog
💰 Yn ôl profiad
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Newyddiadurwr Digidol (Materion Cyfoes Cymraeg)
Mae ITV Cymru Wales yn edrych am Newyddiadurwr Digidol (Materion Cyfoes Cymraeg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae ITV Cymru Wales yn chwilio am newyddiadurwr brwdfrydig sy’n angerddol am greu cynnwys digidol.
Fel Newyddiadurwr Digidol byddwch yn cefnogi’r adran Rhaglenni Cymraeg yn ITV Cymru Wales gan sicrhau bod y cynnwys yn uchelgeisiol, yn greadigol ac yn gywir.
Byddwch yn gyfrifol am gynllunio cynnwys digidol y tîm ac am gydlynu cynnwys newyddion dyddiol i wasanaeth newyddion digidol S4C. Byddwch yn cael y cyfle i fynd ar leoliad i gasglu a ffilmio cynnwys unigryw ar gyfer y platfformau digidol ac yn cynhyrchu cynnwys amrywiol i ddenu cynulleidfaoedd newydd. Byddwch hefyd yn arsylwi gwaith dau newyddiadurwr dan hyfforddiant ac yn golygu eu cynnwys i Newyddion S4C.
Bydd gennych farn olygyddol gadarn a phrofiad ymarferol o gydymffurfiaeth yn ogystal â gwybodaeth eang o faterion cyfoes Cymru a’r Byd.
Os ydych chi’n newyddiadurwr sydd â syniadau a gweledigaeth uchelgeisiol ar sut i ddatblygu cynnwys digidol Cymraeg i’r dyfodol, gall y rôl yma fod yn gyfle gwych i chi.
Swydd llawn amser.
Cytundeb 3 blynedd
Sgiliau Allweddol -
- Profiad perthnasol o gynhyrchu cynnwys digidol newyddiadurol.
- Barn olygyddol gref, gyda gwybodaeth eang o gydymffurfiaeth a’r gyfraith.
- Dealltwriaeth wych o blatfformau a chynulleidfaoedd digidol a sut i’w cyrraedd yn ddigidol.
- Sgiliau ieithyddol a Chymraeg cywir
Nodweddion y rôl -
- Y gallu i weithio dan bwysau ac ar draws brandiau gwahanol.
- Cyfathrebwr da gyda phrofiad o weithio mewn tim.
- Yn angerddol dros Gymru a phwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiad o fewn ein cynnwys.
Mae ITV wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ei weithlu ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd ac fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses).
Cyflog
💰 Yn ôl profiad
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Darlithydd mewn TAR (PCET)
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Ddarlithydd mewn TAR (PCET)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Drindod Dewi Sant yn brifysgol sector deuol ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â nifer o Golegau Addysg Bellach. Rydym wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd addysgol arloesol i ddysgwyr a fydd yn cryfhau ein cymunedau ac yn cyflawni potensial unigolion.
Lleolir y swydd yn yr Athrofa, Canolfan Addysg y Drindod Dewi Sant.
Mae’r Athrofa yn cynnig ystod o raglenni Blynyddoedd Cynnar, Addysg Gychwynnol Athrawon a rhaglenni addysg ôl-raddedig eraill gan gynnwys TAR addysg athrawon ôl-16.
Bydd y swydd yn cyfrannu at ddarpariaeth rhaglenni TAR (PCET) ôl-16.
Mae ein rhaglenni’n adeiladu ar gysylltiad maith y brifysgol â newid addysgol ac arloesi, sy’n dyddio’n ôl i 1848, ac fe’u lluniwyd i ddatblygu cariad at ddysgu.
Y Rôl:
Disgwylir i chi gyfrannu at ystod lawn y ddarpariaeth TAR (PCET) ar draws ein portffolio o ddarpariaeth amser llawn, ran amser a dysgu o bell, a bydd angen rhywfaint o waith gyda’r nos hefyd.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfrannu’n gadarnhaol i’r rhaglen TAR (PCET) yn nhermau addysgu yn ogystal â goruchwylio ymarfer dysgu.
Yn ychwanegol, byddwch yn dylunio ac yn datblygu deunyddiau addysgu, yn goruchwylio gwaith myfyrwyr ac yn cynnig cyngor, adborth, cefnogaeth ac anogaeth.
Amdanoch chi: Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl Darlithydd mewn TAR (PCET), bydd arnoch angen:
· Tystiolaeth o’r gallu i gyfrannu at ddatblygiad darpar athrawon ym maes addysg a hyfforddiant ôl-16
· Y gallu i ddarparu cyfarwyddyd ac adborth adeiladol ar arfer proffesiynol myfyrwyr o fewn eu lleoliadau fel y bo’n briodol
· Tystiolaeth o ymgysylltu’n briodol â gofynion sicrhau ansawdd a rheoleiddio
· Hygrededd academaidd personol a phroffesiynol a chyflawniad
· Gwybodaeth am y sector addysg ysgolion ac addysg gymunedol yng Nghymru, ac ymgysylltu â’r sector hwnnw
· Profiad o addysgu a chefnogi myfyrwyr ar lefel astudio israddedig ac ôl-raddedig, naill ai’n unigol neu fel aelod o dîm addysgu
· Gradd anrhydedd mewn pwnc perthnasol
· Cymhwyster ôl-raddedig lefel uwch (Meistr neu uwch) sy’n berthnasol i’r swydd, neu barodrwydd i ymgymryd ag astudio pellach
· Cymhwyster TAR (PCET) (neu’r cyfwerth)
· Gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg (ar lafar ac ar bapur)
Buddion:
Yr hawl i wyliau blynyddol yw 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, ynghyd ag 8 gŵyl banc a 4 diwrnod pan fo’r Brifysgol ar gau
Mae ein gweithwyr yn cael mynediad i becyn cyflog a buddion gwych mewn cydnabyddiaeth o’u cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion ar eich cyfer chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n gefnogol i deuluoedd sy’n darparu gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cefnogaeth i ennill cymwysterau pellach
- Cefnogaeth i iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Disgowntiau i staff ar ystod o gynnyrch a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio gan gynnwys y cynllun beicio i’r gwaith
Mae’n bosibl y bydd sefydliadau eraill yn galw’r rôl hon yn Ddarlithydd, Darlithydd Addysg, neu Ddarlithydd Addysgu.
Felly, os ydych yn chwilio am eich her nesaf fel Darlithydd mewn Addysg, gwnewch gais drwy’r botwm a ddangosir.
Bydd y swydd hon yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Sylwer, nid yw’r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, a’ch Datganiad Ategol yn arbennig.
Dyddiad Cau: 30 Mehefin, 2022 11:59yp.
Cyflog
💰 £36,382 - £42,149
Lleoliad
📍 Abertawe
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynhyrchydd Promos
Mae S4C yn edrych am Gynhyrchydd Promos
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn edrych am berson brwdfrydig i ymuno’r â’r Tîm Delwedd a Brand i gynhyrchu/cyfarwyddo ffilmiau byr creadigol sy’n hyrwyddo cynnwys y sianel ac yn gyrru gwylio.
Disgrifiad:
Cynhyrchydd Promos
Pwrpas S4C yw gwasanaethu‘r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu y platfform ac ecosystem i sbarduno’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy’n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i’w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.
Mae S4C yn edrych am berson brwdfrydig i ymuno’r â’r Tîm Delwedd a Brand i gynhyrchu/cyfarwyddo ffilmiau byr creadigol sy’n hyrwyddo cynnwys y sianel ac yn gyrru gwylio. Byddwch yn cyfarwyddo a chynhyrchu deunydd fideo o promos, teasers a showreels i hysbysebion digidol er mwyn codi ymwybyddiaeth am raglenni a denu gwylwyr i S4C - naill ai i wylio rhaglenni ar deledu, ar-lein, ar-alw neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Yn ogystal â chynhyrchu a chyfarwyddo’r promos hyn ar gyfer amrediad eang o gynnwys S4C (drama, adloniant, dogfennau, digwyddiadau), byddwch hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu deunydd i hyrwyddo gwahanol elfennau o wasanaeth S4C mewn amrywiaeth o leoliadau ac ar amrediad o lwyfannau (teledu, cyfryngau cymdeithasol, sgriniau digidol ayyb). Yn ddelfrydol byddwch â phrofiad o gyfarwyddo, golygu ac ôl-gynhyrchu ac o gyfarwyddo sesiynau trosleisio. Byddwch a barn olygyddol gref, gwybodaeth eang o dechnegau saethu/golygu, gwybodaeth am gerddoriaeth gyfoes Cymraeg a gwybodaeth eang am arlwy S4C ar draws y llwyfannau gwahanol. Y gallu i fras olygu gan ddefnyddio Avid yn ddymunol. Dyfeisgarwch ac egni’n angenrheidiol.
Manylion eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd S4C, Sgwâr Canolog Caerdydd. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn o dro i dro.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: 12 mis
Oriau gwaith: 35.75 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio ar rai penwythnosau a gwyliau banc ac mewn digwyddiadau gyda’r nos. Bydd y cyflog yn cymryd i ystyriaeth yr oriau ychwanegol y mae’n bosibl y bydd angen i chi weithio.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau.
Pensiwn: Os byddwch yn ymuno â’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 12:00 yn y prynhawn ar ddydd Llun 4 Gorffennaf 2022 i [email protected] neu’r Adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin SA31 3EQ.
Ni dderbynnir CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu gefndir economaidd cymdeithasol, oedran, sefyllfa deuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr rhan neu lawn amser, crefydd, gwleidyddiaeth, tueddfryd rhywiol, ailbennu rhyw, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd o iaith (heblaw lle mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn angenrheidiol ar gyfer swydd) neu unrhyw wahaniaeth amherthnasol arall ac mae'n ymroddedig i ystyried amrywiaethau mewn modd positif. Mae S4C yn croesawu ac yn cymell ceisiadau am swyddi oddi wrth grwpiau allai fod wedi eu tangynrychioli gan gynnwys merched, pobl dduon ac o leiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth agored a theg a phenderfynir ar benodiadau ar sail teilyngdod.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol - Plant Milwyr
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol - Plant Milwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas y swydd hon yw cynorthwyo gyda sicrhau bod plant personél y Lluoedd Arfog ar draws Cymru’n cael eu cefnogi’n effeithiol mewn addysg ac felly lliniaru rhai o'r effeithiau y gallai symudedd a/neu leoli eithriadol eu cael.
Cytundeb: Dros Dro (Cytundeb am 18 mis hefo'r potensial o estyniad unol a cyllid grant)
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel Uwch boddhaol.
Gweler y Swydd Ddisgrifiad am y gofynion sgiliau yn y Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Croesawir ceisiadau gan rai sydd heb y lefel addas o ran y gofynion ieithyddol os ydynt yn fodlon ymrwymo i ddysgu a chyrraedd y lefel disgwyliedig.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod disgrifiad swydd/manylion personol fel ffeil PDF.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r manyleb personol i’ch cyfrifiadur neu go bach gan unwaith y bydd y swydd yn cau, bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu.
** Ni ddylai staff Cyngor Sir Ynys Môn ymgeisio drwy'r dudalen allanol, bydd angen i chi fewngofnodi drwy Ddangosfwrdd Amdanaf I i wneud cais. Os na fyddwch yn gwneud cais drwy Dangosfwrdd Amdanaf I, yn anffodus ni dderbynnir eich ffurflen gais. **
Cyflog
💰 £25,927 - £29,174
Lleoliad
📍 Ynys Môn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol Clwb Cwtsh
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol Clwb Cwtsh
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ry’n ni’n chwilio am berson creadigol, brwd a chydwybodol i weithio o fewn adran farchnata a chyfathrebu fyrlymus a phrysur i hyrwyddo gwaith ac amcanion Mudiad Meithrin. Mae hon yn rôl gyffrous a chreadigol sy’n ddelfrydol i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a phrofiad gwerthfawr ym maes marchnata a’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd gan y person a gaiff ei benodi wybodaeth a phrofiad o farchnata gan gynnwys y dulliau cyfathrebu diweddaraf ynghyd â sgiliau rhyngbersonol da. Ry’n ni’n disgwyl i’r person a gaiff ei benodi fod yn gallu cyfathrebu’n hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg gan feddu ar ddawn greadigol a dull rhagweithiol, hyblyg at bob agwedd o’r gwaith i greu cynnwys digidol deniadol. Mae’r gallu i weithio’n yn annibynnol ac fel rhan o dîm yn hanfodol ynghyd â’r gallu i chwilio am gyfleoedd creadigol i hyrwyddo amcanion y Mudiad.
Disgrifiad:
Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: · Cynorthwyo gydag ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu’r Mudiad mewn modd blaengar, creadigol a chyfoes – gan ganolbwyntio ar brosiect Clwb Cwtsh yn benodol · Cynorthwyo i ddatblygu a diweddaru llwyfannau rhwydweithio cymdeithasol Mudiad Meithrin yn rheolaidd gan lunio cynnwys cywir, amrywiol, deniadol sy’n ymgysylltu â rhieni a rhanddeiliaid · Cynorthwyo i ddatblygu a diweddaru platfformau digidol Clwb Cwtsh gan gymryd cyfrifoldeb am sicrhau fod y cynnwys yn amrywiol a deniadol.
· Cynorthwyo i greu cynnwys, cydlynu dylunio amrywiol ddogfennau, taflenni, posteri a deunydd hyrwyddo a marchnata cynllun Clwb Cwtsh. · Cyfrannu fel aelod o’r tîm marchnata a chyfathrebu at holl waith yr adran gan ddangos y gallu i fod yn hyblyg i ymgymryd â gwahanol dasgau yn ôl y gofyn a derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill sy’n berthnasol i waith Mudiad Meithrin · Cynorthwyo gyda threfniadau a mynychu digwyddiadau cenedlaethol a thaleithiol e.e. Eisteddfodau a sioeau cenedlaethol, Taith Gŵyl Dewin a Doti, Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin, cynadleddau, lansiadau a digwyddiadau perthnasol i waith Clwb Cwtsh a’r Mudiad · Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw sy’n berthnasol i waith Mudiad Meithrin · Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £21,453 - £25,017 pro rata
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd TG a Gwasanaethau Digidol
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Gynorthwyydd TG a Gwasanaethau Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922, wedi cyflawni llawer wrth gynnig profiadau Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol a Gwirfoddoli i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru. Heddiw mae gan yr Urdd 55,000 o aelodau. Mae hyn wedi eu galluogi i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau a chymdeithas, ymestyn eu gorwelion a chynyddu eu hunan hyder.
Mae’r Urdd wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Ar drothwy ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau. Y Swydd
Ni fu erioed amser mwy cyffrous i ymuno â thîm TG Urdd. Rydym yn gweithio ar draws y sefydliad, gan ddarparu'r systemau a'r gefnogaeth TG sy'n ofynnol i symud ymlaen yn unol â'n cynllun strategol.
Mae pandemig COVID wedi cyflymu ein cynlluniau trawsnewid digidol ac rydym yng nghanol ein taith i strategaeth cwmwl yn gyntaf. Rydym yn trosglwyddo ein prif systemau data i Microsoft Dynamics 365 ac yn ehangu ein defnydd o feddalwedd Microsoft 365 a Microsoft Azure.
Bydd y rôl hon yn darparu cefnogaeth TG i'n holl leoliadau ledled Cymru. Er mai cefnogaeth o bell fydd mwyafrif y rôl, bydd angen teithio i'n safleoedd o bryd i'w gilydd pan fydd anghenion yn codi na ellir delio â nhw o bell.
Byddwch hefyd yn cefnogi Digwyddiadau mawr fel Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, cystadlaethau chwaraeon cenedlaethol gan gynnwys rygbi 7 pob ochr a Gala nofio yn ogystal a’n gwersylloedd poblogaidd. Croesawir ceisiadau oddi wrth ddysgwyr Cymraeg yn ogystal â Chymry Cymraeg. Am fwy o fanylion cysylltwch â Dafydd Lewis (Pennaeth TG) ar 07976003341 neu [email protected] I gyflwyno cais, anfonwch CV a Llythyr Cais dim mwy ‘na 400 gair at yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau – Byddwn yn cadw’r swydd yn agored hyd nes byddwn wedi penodi ymgeisydd addas.
**Dyddiad Cyfweld **– Yn unol a ceisiadau a trafodaeth efo ymgeiswyr. Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £19,601 - £22,058
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd Iaith Gymraeg
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn edrych am Gyfieithydd Iaith Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant sydd ag ymagwedd hyblyg gyfrannu at waith pwysig y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Rydyn ni’n awyddus i glywed gan ymgeiswyr, waeth beth fo’u hamgylchiadau neu eu lleoliad daearyddol. Mae ein pencadlys modern wedi’i leoli wrth gyffordd 41 yr M4 ar bwys gorsaf trên Baglan, ac yno rydyn ni’n hyrwyddo gweithio hyblyg. Er mai hwn yw lleoliad swyddogol ar gyfer y swydd, bydden ni’n awyddus i glywed gan bobl sydd eisiau hyblygrwydd yn eu lleoliad gwaith. Hefyd byddai’r swydd hon yn addas i rywun sydd eisiau rhannu swydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau Cymraeg cadarn, ac yn hyderus i’w defnyddio i greu dogfennau ysgrifenedig. Dylech chi gynnwys tystiolaeth o gyfieithu mewn lleoliad ffurfiol ar eich cais. (Cymraeg/Saesneg. Saesneg/Cymraeg).
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â gwahanol ddulliau o gyfieithu. Y dull pwysicaf yw trosi dogfennau o’r naill iaith i’r llall, gan gynnwys adroddiadau, llythyrau a thaflenni gwybodaeth. Hefyd, bydd gwaith trawsgrifio achlysurol o’r Gymraeg i’r Saesneg a’r Saesneg i’r Gymraeg.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n fanwl gywir, a meddu ar ddealltwriaeth dda o becyn Microsoft Office. Byddai profiad blaenorol o feddalwedd cyfieithu proffesiynol hefyd yn fuddiol.
Byddai profiad blaenorol a gwybodaeth o waith y GIG yn fanteisiol, ynghyd â phrofiad o a/neu gymhwyster mewn cyfieithu ar y pryd, ond nid yw hyn yn hanfodol.
Rydyn ni’n ymrwymedig i ddatblygu ein staff a sicrhau bod gan yr holl dîm gydbwysedd priodol rhwng eu bywydau a’u gwaith.
Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Cyflog
💰 £25,655 - £31,534
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Athro Dosbarth, Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn edrych am Athro Dosbarth, Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi athro / athrawes egnïol i ymuno â staff Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli ym mis Medi 2022 i ddarparu gwasanaeth trochi ar gyfer disgyblion sy’n trosglwyddo i addysg Gymraeg o fewn y ddinas. Lleolir y ganolfan drochi ar safle dros dro Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli yng Nghaerllion sydd ond 12 milltir o Gaerdydd ac yna fe fydd yn symud i ganol dinas Casnewydd pan fydd y safle parhaol yn barod. Disgwylir i’r athro ymweld a chyfathrebu gydag ysgolion y disgyblion a’i rhieni i sicrhau cydweithio effeithiol er mwyn trosglwyddo’r disgyblion i’w hysgolion parhaol yn rhugl yn y Gymraeg.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd cytundeb cyfnod penodol (2il o Fedi 2022 – 31ain o Awst 2023) hon oddi wrth athrawon brwdfrydig ac ymroddgar sydd yn barod i gyfrannu i fywyd allgyrsiol yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyd-weithio’n agos gyda’r holl staff i ddarparu amgylchedd a phrofiadau cyffrous i’r plant i’w trochi yn yr iaith Gymraeg.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol Mrs Lona Jones-Campbell ar 01633 850804 / neu 01633 414698.
MAE YN OFYNNOL I CHI GOFRESTRU GYDA CGA AM Y SWYDD HON
Cyflog
💰 £27,491 - £42,333
Lleoliad
📍 Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Aelodaeth a Chyfathrebu
Mae Ynni Cymunedol Cymru yn edrych am Swyddog Aelodaeth a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ynni Cymunedol Cymru'n chwilio am unigolyn egnïol a brwdfrydig i ddatblygu ein presenoldeb fel sefydliad, ynghyd â darparu gwasanaethau gweinyddol ar gyfer ein healodaeth a chyflawni gwasanaethau aelodaeth.
Y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Cyflog - £ 25,000
Lleoliad - Byddwn yn ystyried opsiynau gweithio hyblyg
Oriau - 35 awr yr wythnos
Dyddiad Cau - Dydd Llun 11 Gorffennaf, Canol dydd
I wneud cais anfonwch CV a datganiad personol 2 dudalen at [email protected]
Cyflog
💰 £25,000
Lleoliad
📍 O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweithgareddau Cymunedol
Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn edrych am Swyddog Gweithgareddau Cymunedol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Un o 22 Menter Iaith ledled Cymru yw Menter Iaith Fflint a Wrecsam. Mae pob Menter Iaith yn gweithio i hybu a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg o fewn eu cymunedau lleol. Rydym yn chwilio am berson brwd ac egnïol i weithio gyda ni drwy gynnal ystod eang o weithgareddau a phrosiectau hwyliog er mwyn cynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn cymunedau siroedd y Fflint a Wrecsam.
Oriau: 37 awr yr wythnos (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd). Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid ynghyd â phatrymau gwaith hyblyg.
Prif Gyfrifoldebau:
Gweithio gyda staff eraill Menter Iaith Fflint a Wrecsam i gynnal gweithgareddau blaengar a hwyliog i bobl o bob oedran sydd yn defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng cyfathrebu naturiol;
Datblygu prosiectau penodol;
Cydweithio â mudiadau Cymraeg eraill i gefnogi unrhyw weithgaredd sy’n bodoli eisoes trwy gyfrwng y Gymraeg a llenwi bylchau yn y ddarpariaeth bresennol;
Cynorthwyo i sefydlu a chynnal Pwyllgorau Ardal mewn ardaloedd ieithyddol penodol;
Cynorthwyo i greu a pharatoi deunyddiau marchnata a datblygu ymgyrchoedd marchnata penodol fel bo’r angen;
Cynorthwyo i weithredu Cynllun Marchnata’r Fenter a chodi ei phroffil yn y wasg leol a chenedlaethol;
Mynychu cyfarfodydd ar ran y Fenter pan fo angen.
Cyflog
💰 £19,680
Lleoliad
📍 Yr Wyddgrug, Allan yn y maes
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn edrych am Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle gwych wedi codi yn ein tîm cyfieithu ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Hoffem benodi cyfieithydd profiadol a chymwys i ymuno â'n tîm ymroddedig sydd wedi'i hen sefydlu i ddarparu gwasanaethau cyfieithu i nifer o sefydliadau'r GIG yng Nghymru. Os hoffech chi fod yn rhan o dîm deinamig ac ymroddedig, sy'n darparu gwasanaethau cyfieithu i hwyluso gwasanaethau Cymraeg i GIG Cymru, cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd, dyma'r swydd i chi!
Crynodeb o'r swydd
Fel Cyfieithydd byddwch yn gweithio o fewn tîm cyfieithu sefydledig yn Uned yr Iaith Gymraeg ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Mae Uned yr Iaith Gymraeg wedi ei sefydlu gyda dwy brif swyddogaeth. Y cyntaf yw cynnig arweiniad, cymorth a chyngor i adrannau a meysydd gwasanaeth y sefydliad ar ddarparu gwasanaethau dwyieithog a chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018 o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Yn ail mae Uned y Gymraeg yn darparu gwasanaethau cyfieithu i bob adran a maes darparu gwasanaeth ar draws PCGC ac i sefydliadau GIG eraill trwy gytundebau lefel gwasanaeth.
Rydym am recriwtio Cyfieithydd cymwys a phrofiadol ble mae o leiaf dwy flynedd o brofiad ym maes cyfieithu yn hanfodol, gyda'r gallu i gyfieithu a phrawfddarllen testun rhwng 2,500 a 3,000 o eiriau'r dydd ar amrywiaeth o wahanol bynciau.
Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd ble mae trosiant gwaith yn gyflym, lle byddwn yn trosi mwy na 100,000 o eiriau yr wythnos fel tîm craidd. Bydd y gallu i reoli eich llwyth gwaith eich hun, blaenoriaethu eich llwyth gwaith a chwrdd â therfynau amser tyn sy'n gwrthdaro yn hynod o bwysig.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu cyfieithiadau ysgrifenedig o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg gan ddefnyddio amrywiaeth o offer TG gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i apiau Microsoft Office a'r defnydd o dermau a meddalwedd cof cyfieithu.
Prawfddarllen a sicrhau ansawdd eich gwaith a gwaith eraill yn y tîm cyn ei gyhoeddi.
Cydgysylltu ag aelodau'r tîm a chleientiaid sy'n defnyddio ein gwasanaethau bob dydd.
Dilyn protocolau a gweithdrefnau adrannol a rheoli eich llwyth gwaith yn effeithiol ac yn effeithlon gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth.
Ymchwilio a sicrhau cysondeb yn y derminoleg a ddefnyddir.
Amdanom ni
Sefydlwyd Uned Iaith Gymraeg Cydwasanaethau GIG Cymru yn 2016. Mae'r adran wedi datblygu a thyfu ers hynny, i fodloni'r galw o fewn GIG Cymru am wasanaethau cyfieithu. Rydym yn darparu gwasanaethau cyfieithu o'r radd flaenaf i PCGC a Sefydliadau GIG eraill.
Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd cyflym, lle na fydd unrhyw ddiwrnod yr un fath, yn cyfieithu a phrawfddarllen amrywiaeth o ddogfennau a chynnwys testun.
Rydym yn dîm proffesiynol a chefnogol sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad o fewn y rôl.
Cyflog
💰 £25,655 - £31,534
Lleoliad
📍 Hyblyg, Unrhyw swyddfa yng Nghymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Dysgu Cyfnod Penodol Lefel 3
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn edrych am Gynorthwyydd Dysgu Cyfnod Penodol Lefel 3
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli am apwyntio Cynorthwyydd Dysgu Lefel 3 ar gytundeb penodol o flwyddyn i gefnogi disgyblion yn y ganolfan Drochi.
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio cynorthwy-ydd egnïol i gydweithio gyda’r athro dosbarth. Lleolir y ganolfan drochi ar safle dros dro Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli yng Nghaerllion sydd ond 12 milltir o Gaerdydd ac yna fe fydd yn symud i ganol dinas Casnewydd pan fydd y safle parhaol yn barod.
Yn ddelfrydol bydd gennych gymhwyster mewn gofal plant a phrofiad o weithio gyda phlant. Gwerthfawrogir manylion am ddatblygiad proffesiynol ac unrhyw fanylion o weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol.
Cynigir y ddwy swydd ar sail 31 awr a hanner yr wythnos, yn gweithio yn ystod y tymor ysgol yn unig. Rhaid cymryd gwyliau blynyddol yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Mrs Lona Jones-Campbell, Pennaeth Gweithredol, ar 01633 850804 (rhif cyswllt dros dro).
Mae’r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Adfer Troseddwyr (1974) ac yn ddibynnol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Rhwystro.
MAE YN OFYNNOL I CHI GOFRESTRU GYDA CGA AM Y SWYDD HON
Cyflog
💰 £22,571 - £24,920 pro rata
Lleoliad
📍 Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Diwtor-Dysgu Cymraeg y Fro
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn edrych am Uwch Diwtor-Dysgu Cymraeg y Fro
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
O ganlyniad i benodiad newydd y deiliad presennol, rydym yn chwilio am Uwch Diwtor newydd i gefnogi tîm bach o diwtoriaid ymroddgar sy’n rhoi anghenion y dysgwyr wrth galon pob gweithred.
Amdanom ni
Mae Dysgu Cymraeg y Fro yn darparu rhaglen lawn o gyrsiau Cymraeg i oedolion ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r tîm yn rhan o’r adran Dysgu Oedolion yn y Gymuned sy’n gwasanaethu oedolion ledled Bro Morgannwg. O ganlyniad i benodiad newydd y deiliad presennol, rydym yn chwilio am Uwch Diwtor newydd i gefnogi tîm bach o diwtoriaid ymroddgar sy’n rhoi anghenion y dysgwyr wrth galon pob gweithred.
Ynglŷn â'r rôl
Manylion am gyflog: JNC Youth & Community Pwynt 19-22, £30,364 - £33,039
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 awr yr wythnos (Llawn amser)
Prif Fan Gwaith: Canolfan Ddysgu Cymunedol Palmerston, y Barri
**Cytundeb: **tair blynedd yn y lle cyntaf
Disgrifiad:
Yn atebol i Reolwr Dysgu Cymraeg y Fro, bydd yr Uwch Diwtor yn cyflawni rôl allweddol, yn gyfrifol am:
- Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol y staff
- Adnoddau a’r Cwricwlwm
- Amserlenni a Chyflenwi
- Arholiadau
- Dysgu Atodol ac Anffurfiol
- Llais y Dysgwr
- Disgwylir i’r Uwch Diwtor ddysgu cyrsiau’n gyson, gan gynnwys dosbarthiadau nos, a chyfrannu at y broses Ansawdd drwy arsylwi gwersi, Safoni ac ysgrifennu adroddiadau.
Amdanat ti/Bydd angen:
- Sgiliau iaith ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Profiad o lwyddiant fel Tiwtor Cymraeg i Oedolion ar bob lefel iaith.
- Sgiliau rhagorol mewn trefnu, rheoli amser, cyflwyno ac hyfforddi.
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun.
- Gradd Anrhydedd a chymhwyster Addysgu neu Hyfforddiant.
- Ystod eang o sgiliau digidol a thechnoleg chyfathrebu.
Cyflog
💰 £30,364 - £33,039
Lleoliad
📍 Y Barri
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfarwyddwr Gweithredol
Mae Ynni Cymunedol Cymru yn edrych am Gyfarwyddwr Gweithredol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ynni Cymunedol Cymru'n chwilio am unigolyn creadigol a deinamig i arwain newid mewn sector llewyrchus, gan weithio law yn llaw â chymunedau a'r llywodraeth i gyflawni ynni glân democrataidd a lleol. Dewch i fod yn rhan o dîm hyblyg, sy'n gweithio a adref ac sydd ar flaen y gad yn ymateb cymunedau Cymru i'r trychineb hinsawdd.
Cyflog - £ 40,000
Lleoliad - Byddwn yn ystyried opsiynau gweithio hyblyg
Oriau - 35 awr yr wythnos
Dyddiad Cau - Dydd Llun 11 Gorffennaf, Canol dydd
I wneud cais anfonwch CV a datganiad personol 2 dudalen at [email protected]
Cyflog
💰 £40,000
Lleoliad
📍 O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ti a Fi Teithiol Sir Ddinbych
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol Sir Ddinbych
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rhoddir pwyslais gan y Mudiad ar sicrhau bod gan rhieni/gwarchodwyr a phlant ifainc fynediad hwylus i gylchoedd Ti a Fi sy’n agos i’w cartrefi ac sy’n darparu cyfleoedd chwarae a chymdeithasu o ansawdd. Nod y Mudiad yw ceisio sicrhau bod pob cylch Ti a Fi yn cyflogi Arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o Gylchoedd Ti a Fi. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau a rhannu negeseuon am ddilyniant i Addysg Gymraeg ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod â phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni/gwarchodwyr am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg.
Disgrifiad:
Dyletswyddau’r Swydd Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: · Cydweithio â’r Rheolwr Talaith i drefnu amserlen wythnosol i gynnal cylchoedd Ti a Fi.
· Ymgymryd â rôl Arweinydd mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal a bennwyd – gall un neu fwy o’r rhain fod yn Gylch Ti a Fi am dro.
· Dangos hyblygrwydd i weithio’n rhithiol os oes angen.
· Cynnal sesiwn wythnosol yn y cylchoedd Ti a Fi er mwyn arwain a chynnal gweithgareddau addas ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr.
· Sicrhau bod yr ystafelloedd neu’r ardal tu allan a’r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer cynnal y cylchoedd yn addas ac yn ddiogel. Cynnal Asesiadau Risg gan ddilyn canllawiau Mudiad Meithrin.
· Sicrhau cyhoeddusrwydd i’r cylchoedd Ti a Fi trwy gydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn cynyddu’r defnydd a wneir ohonynt gan deuluoedd.
· Ar y cyd a’r Rheolwr Talaith, Swyddogion Cefnogi, Swyddogion Cymraeg i Blant, meithrin perthynas a nifer o bartneriaethau lleol er mwyn hyrwyddo’r gwaith gan gynnwys Mentrau Iaith, Dechrau’n Deg, Ymwelwyr Iechyd, Dewis, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ayyb.
· Cydweithio’n agos â chynlluniau eraill y Mudiad e.e Sefydlu a Symud a Chynllun Cymraeg i Blant, er mwyn sicrhau’r rhaglen orau yn lleol.
· Codi ymwybyddiaeth o fuddion addysg Gymraeg lleol drwy gynorthwyo i gynnal digwyddiadau ac achlysuron cyhoeddusrwydd e.e. Diwrnodau hwyl i’r teulu.
· Casglu gwybodaeth fel bo galw ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i gyllidwr / Mudiad Meithrin.
· Cydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn sicrhau cysylltiad agos rhwng y cylchoedd Ti a Fi a chylchoedd meithrin yr ardal.
· Trefnu bod Arweinydd/staff Cylchoedd Meithrin a chynrychiolydd o’r Ysgolion Cynradd Cymraeg lleol yn ymweld â’r cylchoedd Ti a Fi er mwyn trafod manteision dwyieithrwydd a dilyniant i Addysg Gymraeg gyda’r rhieni ac esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol i’w plant dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
· Ar y cyd â’r Rheolwr Talaith trefnu rhaglen o gofrestru pob un o’r cylchoedd yn eu tro ar Gynllun ansawdd Ti a Fi Serennog.
· Mynychu cyfarfodydd tîm, Pwyllgorau Sir ac unrhyw bwyllgor arall perthnasol.
· Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd fel bo’r angen.
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £19,138 pro rata
Lleoliad
📍 Sir Ddinbych
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Polisi
Mae UCAC yn edrych am Swyddog Polisi
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae UCAC yn chwilio am berson profiadol, brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm gweithgar.
Disgrifiad:
Prif waith y Swyddog Polisi fydd paratoi a chydlynu polisïau UCAC mewn cydweithrediad â’r Ysgrifennydd Cyffredinol ac o dan arweiniad y Cyngor Cenedlaethol a’r Gynhadledd Flynyddol
Hyrwyddo polisïau UCAC ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol
Cyflog cychwynnol y swydd: £39,193
Ceir ffurflen gais, disgrifiad swydd a manylion pellach o’r Brif Swyddfa.
Dyddiad cau: Mehefin 28, 2022
01970 639950 |[email protected] www.ucac.cymru
Cyflog
💰 £39,193
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn edrych am Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ymunwch â’n tîm cyfathrebu, marchnata ac ymgysylltu i’n helpu i ddatblygu ymgyrchoedd marchnata arloesol a chreadigol gan hyrwyddo gwasanaethau allweddol a ddarperir gan y cyngor. Gan weithio gyda thîm blaenllaw o arbenigwyr cyfathrebu, a chyda’u cefnogaeth, byddwch yn dod â sgiliau creadigol, digidol a marchnata ynghyd i’n helpu i hyrwyddo prosiectau a gwasanaethau’n effeithiol i’r cyhoedd. Rydym yn chwilio am rywun na fydd ofn rhoi cynnig ar dechnegau newydd o fewn tîm cefnogol sydd yn annog dysgu a newid. Rhywun a fydd yn gwthio’r ffiniau gydag egni.
Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar y swydd, ffoniwch Sian Owen ar 01824 706125.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wag hon, gwnewch gais ar-lein trwy ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk Am ddulliau eraill o wneud cais, cysylltwch â’r Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706100.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ein ffurflen gais i gael ei ystyried. Mae’n ddrwg gennym nad ydym yn gallu ateb pob cais. Os nad ydych wedi derbyn ateb o fewn tair wythnos i’r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad.
Dyddiad Cau: 24 Mehefin 2022
Cyflog
💰 £27,514 - £30,095
Lleoliad
📍 Sir Ddinbych
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Sefydlu a Symud yn y De Orllewin x2
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Sefydlu a Symud yn y De Orllewin x2
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, egnïol a threfnus i weithio ar gynllun penodol sef sefydlu ac agor Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi mewn ardal ddaearyddol penodol.
Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel a chyd-weithio ag eraill
Cyflog
💰 £21,453 - £25,017 pro rata
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!