Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch Swyddog Adnoddau, Cymru

💰 £13,720 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Stonewall Cymru yn edrych am Uwch Swyddog Adnoddau, Cymru

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Allwch chi ddychmygu'ch hunan yn creu adnoddau a defnyddiau e-ddysgu dwyieithog ar gyfer elusen hawliau dynol flaenllaw? Hoffech chi ddefnyddio'ch sgiliau a'ch profiad i gefnogi Ysgolion, Colegau a Gweithleoedd Cymru i gael mwy o effaith yn eu gwaith ar gynhwysiant LHDTC+? Oes gennych chi'r sgiliau a'r offer i ysgogi ystod eang o gynulleidfaoedd i ddatblygu eu dealltwriaeth o arfer da o ran cynhwysiant LHDTC+? Os yw hyn yn eich disgrifio chi, gwnewch gais i ymuno â ni fel Uwch Swyddog Adnoddau (Cymru) yn Stonewall.  

Elusen hawliau dynol yw Stonewall. Rydyn ni'n sefyll dros bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, cwiar, anrhywiol ac sy'n cwestiynu (LHDTC+) ym mhobman. Rydyn ni'n dychmygu byd lle mae pob person LHDTC+ yn rhydd i fod yn nhw'u hunain a lle gallwn fyw ein bywydau i'r eithaf.  

Yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi helpu i greu newid trawsnewidiol ym mywydau pobl LHDTC+ gwledydd Prydain. Mae ein hymgyrchoedd yn ysgogi newid cadarnhaol mewn agweddau cyhoeddus ac mewn polisi cyhoeddus. Rydyn ni'n sicrhau bod modd i bobl LHDTC+ ffynnu ar bob cam yn ein bywydau drwy greu rhaglenni newid dwys a pharhaus gyda'r sefydliadau sy'n cael yr effaith fwyaf arnon ni, p'un a ydyn ni'n dysgu, yn gweithio, yn gweddïo neu'n gwneud chwaraeon. 

Fel Uwch Swyddog Adnoddau yn Stonewall Cymru, fe fyddech chi'n rhan allweddol o dîm o bobl frwdfrydig ac angerddol sy'n cydweithio i gyflawni ein strategaeth Rhydd i Fod (2021-25). Ar gyfer y swydd yma, rydyn ni'n chwilio am gyfathrebwr dwyieithog sy'n gallu ysgrifennu canllawiau, blogiau a modiwlau e-ddysgu ar gyfer Lleoliadau Addysg a Gweithleoedd.    Mae ein pobl yn gymuned fywiog a deinamig. Mae gan lawer o'n staff fudd personol yn y gwaith rydyn ni'n ei wneud, ac rydyn ni'n dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Rydyn ni'n falch o'r amrywiaeth yma, ac o'n cefnogaeth i'n gilydd – yn ein timau, ein grwpiau rhwydwaith, ac yn ein cyfeillgarwch.  

Cyflog

💰 £13,720

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £30k - £33k 📍 Caerffili Ar gau

💰 £198/d 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £30k - £32k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £27k - £29k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £42k - £48k 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 £21k - £25k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £35k 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £40k 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £21k - £25k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 Rôl wirfoddol - modd hawlio costau 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Rôl wirfoddol - modd hawlio costau 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £28k - £29k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Llanelli Ar gau

💰 Yn unol a phrofiad 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £40k - £46k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £34k - £40k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £34k - £40k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £35k - £42k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £23k - £26k 📍 Sir Fôn Ar gau