Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Gwasanaethau Atal Digartrefedd

💰 £39,947 - £43,652 📍 Hyblyg📍 Dinbych +3 Ar gau

Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Reolwr Gwasanaethau Atal Digartrefedd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am unigolion arbennig iawn i arwain a datblygu y timoedd trais yn y cartref ac atal digartrefedd ac i dywys Gorwel a'i staff i ddyfodol cyffrous trwy ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf i'n cwsmeriaid.

Disgrifiad:

  1. Sicrhau bod gwasanaethau yn cael ei gyflawni i safon uchel, ar amser ac o fewn cyllidebau, ac yn darparu gwerth am arian.
  2. Sicrhau dealltwriaeth clir o anghenion darpariaeth cefnogaeth gan ymateb yn weithredol ac yn strategol fel bod Gorwel yn ffynnu. 
  3. Rheoli’r Arweinwyr Tim drwy ddarparu cyngor a chymorth ymarferol ar reoli cynlluniau cefnogi, a sicrhau ei bod yn cynnal rheolaeth achosion yn brydlon.
  4. Cyfrifol am lunio a chyflawni cynllun gweithredol blynyddol ar gyfer y cynlluniau sydd yn ymateb i ddeilliannau cytundebau gwasanaeth.
  5. Cynorthwyo Prif Swyddog Gorwel i ddatblygu cynllun busnes strategol.
  6. Adnabod cyfleodd i ddatblygu gwasanaethau newydd ac arwain yn y broses tendro.
  7. Cynorthwyo Prif Swyddog Gorwel drwy baratoi hunan arfarniad blynyddol o’r gwasanaethau.
  8. Cyfrifol am fonitro cyllidebau blynyddol ar gyfer y cynlluniau.
  9. Cyfrifol am lunio ac adolygu polisïau a gweithdrefnau Gorwel yn y maes cefnogi er mwyn cael y gwasanaeth mwyaf effeithiol i bobl sy’n profi digartrefedd.
  10. Cynrychioli Gorwel a chynnal perthynas weithredol rhagorol gyda chomisiynwyr, cynrychiolwyr o gyrff statudol, mudiadau gwirfoddol neu drydydd sector.
  11. Arwain a chynrychioli Gorwel mewn cyfarfodydd wrth ymateb i ddigwyddiadau diogelu / difrifol.
  12. Cwblhau ceisiadau / ffynonellau arian ar gyfer y gwasanaethau. (o dan £10k)
  13. Sicrhau hyrwyddo cyson a chyhoeddusrwydd o wasanaethau Gorwel gan gynnwys cynrychioli Gorwel mewn cyfarfodydd, fforymau a chynadleddau.
  14. Sicrhau fod fframwaith monitro ac adolygu ansawdd gwasanaethau yn cael ei weithredu’n effeithiol sydd yn ymateb i ddeilliannau arianwyr a chynllun busnes Gorwel.
  15. Cyfrifol am weithdrefnau priodol mewn lle i fonitro a phenderfynu ar achosion risg ac anghenion canolog ag uchel.
  16. Cyfrifol am arwain, paratoi a chyflawni adolygiadau gwasanaeth arianwyr gan weithredu ar argymhellion.
  17. Sicrhau fod Gorwel yn cyfrannu i’r drefn Cynllun Gweithredol Grant Cymorth Tai a Strategaethau Awdurdodau Lleol yn y maes tai, digartrefedd, VAWDASV.
  18. Hyrwyddo a datblygu cyfleoedd cyfranogiad ar draws Gorwel.
  19. Cyfrifol am gynllunio rhaglen hyfforddiant blynyddol ar gyfer y tîm.
  20. Dealltwriaeth a gwybodaeth o faterion budd-daliadau lles gan gynnwys oblygiadau ymdrin â diwygio lles.
  21. Mynychu cyfarfodydd a chynadleddau ar ran Gorwel a bod yn ymwybodol bob amser o dueddiadau a phynciau trafod cyfredol o fewn y maes cefnogaeth, VARM ac digartrefedd.
  22. Cymryd rhan egnïol mewn cyfarfodydd tîm gan fynychu’r cynlluniau yn ôl yr angen.
  23. Gweledigaeth i ddatblygu gwasanaethau sydd yn cynnig “cefnogaeth a mwy”.
  24. Sicrhau bod prosesau deddfwriaeth diogelu cenedlaethol yn cael eu gweithredu a’u monitro ar draws cynlluniau gweithredol Gorwel.
  25. Rheoli, hyfforddi a mentora ( y staff sydd yn atebol ichi gan sicrhau eu bod yn cyflawni a chynnal y safonau disgwyliedig i’w rolau, ac eu galluogi i ddatblygu a chefnogi timoedd sy’n ymateb i Fframwaith Amgylchedd sy’n Wybodus o Safbwynt Seicolegol (PIE)
  26. Hyrwyddo a sicrhau diwylliant sydd yn croesawu newid, drwy fod yn croesawu arloesedd, a bod yn barod i dreialu dulliau newydd o weithio sydd yn anelu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib.
  27. Arwain ar weithredu safonau ansawdd perthnasol a chynnal prosesau gwelliant parhaus gan sicrhau bod holl ddata monitro ac adolygu yn ein cynorthwyo i gynnal gwelliant parhaus, gan ganolbwyntio ar allbynnau i’r cwsmer.
  28. Sicrhau defnydd effeithiol o systemau rheoli achosion i gefnogi’r darpariaeth o wasanaethau sydd yn blaenoriaethu diogelwch y cwsmer.

Cyflog

💰 £39,947 - £43,652

Lleoliad

📍 Hyblyg, Dinbych, Penygroes, Swyddfeydd eraill Gorwel, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £36,000 - £40,000 📍 Caerdydd📍 Hybrid +1 Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £33,075 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 O gwmpas £43,000 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £25,026 - £27,988 📍 Bae Caerdydd📍 Caerfyrddin +2 Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 pro rata 📍 Bangor Ar gau

💰 £23,620 pro rata 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

💰 £24,285 - £27,131 📍 Bangor Ar gau

💰 £25,662 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £37,474 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £37,519 - £42,404 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £26,894 - £29,080 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £33,820 - £37,261 📍 O gartref📍 Brynbuga Ar gau

💰 £32,458 - £34,318 📍 Hybrid Ar gau

💰 Di-dâl 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25,000 - £28,000 📍 Wrecsam Ar gau

💰 £20,812 - £21,968 pro rata 📍 Beddgelert Ar gau