Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Aelod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru x 6

💰 £350 y dydd 📍 Unrhyw le yng Nghymru Ar gau

Mae Llywodraeth Cymru yn edrych am Aelod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru x 6

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am chwe aelod ar gyfer Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) – allech chi fod yn un o'r bobl rydyn ni'n chwilio amdano? Ydych chi'n rhywun sy'n poeni am Gymru – ei hamgylchedd, ei heconomi, ei diwylliant a lles cenedlaethau'r dyfodol?

Os ydych chi'n ddeinamig, yn ymroddedig ac yn arloesol a hoffech helpu CNC i ymateb i'r heriau sydd o'ch blaen, gwnewch gais nawr. Rydym yn chwilio am un aelod sy'n siarad Cymraeg, gyda gallu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y pum swydd arall.

Mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd ar ei busnes, gan gynnwys penodiadau i gyrff cyhoeddus. Croesewir ac anogir ceisiadau gan bob grŵp ac rydym yn sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd cymwys am swydd gyhoeddus yn cael triniaeth lai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Cedwir at egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored, a phenodir ar sail teilyngdod.

Am ragor o fanylion ac i wneud cais ewch i wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru neu ar gyfer ymholiadau anfonwch e-bost at yr Uned Penodiadau Cyhoeddus. 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Hanner dydd ar ddydd Llun 27 Mehefin. Ni ystyrir apelau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn. Sylwer, disgwylir cynnal cyfweliadau ar hyn o bryd yn ystod mis Medi.

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod pwysigrwydd datblygu a meithrin galluoedd dwyieithog y rheini sy'n cael eu penodi i swyddi cyhoeddus yng Nghymru ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gallu dangos eu bod yn gallu gweithio trwy'r Gymraeg a'r Saesneg. Os hoffech fersiwn print bras, Braille neu sain o'r hysbyseb hon, [email protected]

Cyflog

💰 £350 y dydd

Lleoliad

📍 Unrhyw le yng Nghymru

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £36,000 - £40,000 📍 Caerdydd📍 Hybrid +1 Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £33,075 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 O gwmpas £43,000 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £25,026 - £27,988 📍 Bae Caerdydd📍 Caerfyrddin +2 Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 pro rata 📍 Bangor Ar gau

💰 £23,620 pro rata 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

💰 £24,285 - £27,131 📍 Bangor Ar gau

💰 £25,662 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £37,474 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £37,519 - £42,404 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £26,894 - £29,080 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £33,820 - £37,261 📍 O gartref📍 Brynbuga Ar gau

💰 £32,458 - £34,318 📍 Hybrid Ar gau

💰 Di-dâl 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25,000 - £28,000 📍 Wrecsam Ar gau

💰 £20,812 - £21,968 pro rata 📍 Beddgelert Ar gau