Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Cyffredinol Yr Egin

💰 £37,474 - £43,414 📍 Campws Caerfyrddin📍 O gartref Ar gau

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Reolwr Cyffredinol Yr Egin

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.

Rydym ni nawr yn edrych am Rheolwr Cyffredinol i ymuno â ni ar sail llawn amser, cyfnod parhaol, yn gweithio am 37 awr yr wythnos.

- Y RÔL -

Ers agor yn 2018 mae statws Yr Egin fel adnodd gwerthfawr i Gaerfyrddin, Sir Gâr ac i Gymru wedi’i sefydlu. Rôl y Rheolwr Cyffredinol bydd cynorthwyo i ddatblygu’r ganolfan ymhellach gan fod yn gyfrifol am y busnes yn ddyddiol megis staffio, cytundebau â chontractwyr a thenantiaid, iechyd a diogelwch, er mwyn sicrhau bod y weledigaeth gyffrous yn cael ei gyflawni i’w lawn botensial. Bydd disgwyl i’r Rheolwr Cyffredinol gadw llygad manwl ar ffynhonellau incwm y ganolfan a rhoi systemau yn eu lle i gynorthwyo gyda twf y ganolfan.

Bydd gofyn i’r Rheolwr Cyffredinol gyfrannu cyngor a darparu arweiniaid er mwyn gwireddu gweledigaeth pellgyrhaeddol y ganolfan sy’n canolbwyntio ar bedair prif elfen : y diwydiannau creadigol, yr iaith Gymraeg, y gymuned a’r economi. Disgwylir i’r Rheolwr Cyffredinol gyfrannu’n effeithiol at dwf Yr Egin fel clwstwr creadigol llwyddiannus gan weithredu’r weledigaeth gyffrous a osodwyd gan y Brifysgol ar gyfer creu manteision yng Nghaerfyrddin a Dinas-ranbarth Bae Abertawe a thu hwnt.

Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.

- AMDANOCH CHI -

Bydd angen i chi feddu ar y canlynol:

-   Gradd neu gymhwyster cyfwerth yn y diwydiannau creadigol, celfyddydol neu ddigidol

-   Profiad mewn rôl arweiniol / uwch dîm rheoli yn y diwydiannau creadigol / sector ddiwylliannol 

-   Sgiliau cynllunio a threfnu rhagorol a'r gallu i weithio’n annibynol ac o dan bwysau

-   Gallu blaenoriaethu gwaith, gan wneud penderfyniadau cadarn ac amserol gan ddefnyddio eich ysgogiad eich hun 

-   Profiad o ddatblygu a rheoli perthnasau mewn amrywiol gyd-destunau gyda rhanddeiliad mewnol ac allanol

-   Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, gyda’r gallu i gefnogi ac annog eraill

-   Adnabyddiaeth o bolisiau a gofynion Adnoddau Dynol gyda phrofiad helaeth o reoli staff, staff llawrydd a gwirfoddolwyr

-   Profiad masnachol yn datblygu ffynhonellau ariannol – gall hyn fod wedi deillio o gefndir nid er elw neu academaidd 

-   Gallu gosod cyllidebau a dangosyddion perfformiad allweddol a gweithredu o’u mewn gan gyflawni targedau ariannol 

-   Profiad o gyflwyno adroddiadau misol yn cynnig dadansoddiad ariannol a strategol

-   Gwybodaeth arbenigol am Bolisïau Iechyd a Diogelwch, ym maes diwydiannau creadigol 

-    Profiad helaeth o baratoi asesiadau risg cymleth ar gyfer digwyddiadau sydd a nifer o rhanddeiliaid sydd hefyd yn cynnwys ymateb i covid

-   Profiad a thystiolaeth o gynhyrchu a rheoli digwyddiadau byw neu brosiect creadigol uchelgeisiol gan roi gweithdrefnau priodol yn eu lle

-   Cydnabod yr angen am gyfrinachedd priodol   -   Siaradwr/aig Cymraeg rhugl a hyderus, gyda’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ac yn gywir trwy gyfrwng y Gymraeg* a’r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig

Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:

-   Gradd uwch 

-   Cymhwysterau Iechyd a Diogelwch ym maes creadigol

-   Profiad o raglennu artistig – naill ai rhaglennu gŵyl, neu leoliad celfyddydau, neu raglennu ardal ddigidol, ac wedi cael profiad felly o fodelau cynhyrchu gwahanol

-   Profiad o gydweithio ag undebau megis BECTU, Equity ayb

- BUDDION

- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 35 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol 

Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:

-    Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol

-    Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu

-    Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl

-    Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach

-    Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela

-    Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau

-    Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith

Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Rheolwr Cyffredinol, ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.

Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.

Dyddiad Cau: 20 Hydref 2022, 11:59pm

Cyflog

💰 £37,474 - £43,414

Lleoliad

📍 Campws Caerfyrddin, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £20,919 - £22,367 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £35,142 - £43,694 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £25,603 - £31,854 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £25,603 - £31,854 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £42,625 - £50,161 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £37,474 - £43,414 📍 Caerfyrddin📍 Abertawe +1 Ar gau

💰 £35,411 - £38,296 pro rata 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £26,894 - £29,640 📍 Hyblyg📍 Caerdydd Ar gau

💰 £28,420 - £31,529 📍 Machynlleth Ar gau

💰 £36,255 - £39,644 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 £36,255 - £39,644 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon Ar gau

💰 Cyflog cystadleuol 📍 Campws Caerfyrddin📍 Llanbed +1 Ar gau

💰 £52,303 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £21,460 – £30,023 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 Yn ddibynol ar sgiliau yr ymgeisydd 📍 Dolgellau Ar gau

💰 £25,000 - £27,000 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Campws Caerfyrddin📍 Campws Hyblyg Ar gau

💰 £37,519 - £42,404 📍 Hyblyg📍 Llangrannog +1 Ar gau

💰 £22,571 - £24,920 📍 Caerffili Ar gau