Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Prosiect - Cynllun Mentora Myfyrwyr yn y Gymraeg

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn edrych am Swyddog Prosiect - Cynllun Mentora Myfyrwyr yn y Gymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am Gydlynydd Prosiect i ymuno â’r tîm gwasanaethau proffesiynol er mwyn cydlynu'r Cynllun Mentora Myfyrwyr yn y Gymraeg. Mae'r swydd yn cynnwys trefnu rhaglen fentora ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd (iaith gyntaf ac ail iaith). Bydd y gwaith prosiect yn cynnwys recriwtio, hyfforddi a chefnogi myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig i gynnal rhaglenni mentora ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd mewn ysgolion ledled Cymru.

Am ragor o fanylion cewch gysylltu â Cadi Thomas.

Mae'r swydd hon yn un rhan amser, 21 awr yr wythnos, am gyfnod o 4 mis.

Cyflog: £28,762 - £33,314 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 5)

Dyddiad Cau: Dydd Sul, 29 Ionawr 2023

Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Disgrifiad Swydd

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau

Dyletswyddau Allweddol

Rhoi arweiniad proffesiynol ar brosesau a gweithdrefnau prosiect Mentora Myfyrwyr y Gymraeg, gan ddefnyddio barn a chreadigrwydd i awgrymu'r dull gweithredu mwyaf priodol lle bo hynny'n briodol, a sicrhau bod materion cymhleth a chysyniadol yn cael eu deall.

Ymchwilio a dadansoddi materion penodol i brosiect Mentora Myfyrwyr y Gymraeg, gan wneud argymhellion ar gyfer datblygu prosesau a gweithdrefnau.

Sicrhau bod darpariaeth Mentora Myfyrwyr y Gymraeg yn cael ei chyflawni ar y cyd â rhanddeiliaid allanol (yn arbennig sefydliadau AU Cymru, ysgolion a cholegau), gan newid y ddarpariaeth yn rhagweithiol yn unol â gofynion rhanddeiliaid.

Cysylltu â myfyrwyr AU Cymru, sefydliadau AU ac athrawon ysgol / coleg i gydlynu rhaglen o fentora’r Gymraeg ledled Cymru.

Casglu data er mwyn deall tueddiadau a phatrymau sylfaenol a chreu adroddiadau fel sy'n briodol.

Sefydlu perthynas weithio â chysylltiadau allweddol, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol ag Ysgolion / Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen.

Cynllunio a chydlynu pecynnau gwaith y cynlluniau prosiect ar draws y partneriaid rhanbarthol, gan gynnwys asesu anghenion prosiect, paratoi llinellau amser, nodi cerrig milltir allweddol a chynlluniau prosiect, a sicrhau cadw at derfynau amser.

Gweithio gydag Arweinydd Academaidd y Prosiect a phartneriaid cenedlaethol i sicrhau bod adroddiadau cynnydd ac ariannol yn cael eu cyflwyno o fewn amlinelliadau'r amserlenni yn y cytundebau prosiect.

Gweithio gyda rhanddeiliad i ddatblygu a darparu hyfforddiant mentoriaid (myfyrwyr AU Cymru) yn y prosiect Mentora Myfyrwyr y Gymraeg.

Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r prosiect.

Dyletswyddau Cyffredinol

Ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus, caffael a mireinio sgiliau ac arbenigedd mewn meysydd newydd neu gysylltiedig, ac ymwneud â gweithgareddau adolygu perfformiad fel sy'n briodol.

Sicrhau bod dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd yn cael ei chymhwyso wrth gyflawni'r holl ddyletswyddau.

Cadw at bolisïau'r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Sicrhau cydymffurfiad â gofynion cyfreithiol a rheoliadol mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch, ariannol a pholisïau, gweithdrefnau a chodau eraill y Brifysgol fel sy'n briodol.

Perfformio dyletswyddau eraill yn achlysurol nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond sy’n gyson â'r rôl.

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg

1.  Gradd/NVQ 4 neu brofiad/aelodaeth broffesiynol gyfatebol

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad

2.  Tystiolaeth o sgiliau TG a rhifedd ardderchog ynghyd â’r gallu i ddefnyddio rhaglenni MS Office

3.  Dealltwriaeth dda o dechnegau rheoli prosiect, ochr yn ochr â phrofiad o reoli a chwblhau prosiectau yn ôl amserlenni a chyllidebau y cytunwyd arnynt

4.  Profiad perthnasol o ymgysylltu â nifer o randdeiliaid a meithrin perthynas weithio gref â hwy

5.  Profiad perthnasol o negodi ag ystod o randdeiliaid er mwyn cytuno ar becynnau gwaith a sicrhau bod gweithgareddau prosiect yn cael eu cwblhau

6.  Dealltwriaeth o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r Gymraeg fel pwnc yn y sector uwchradd

Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm

7.  Tystiolaeth o'r gallu i ddeall a chyfleu gwybodaeth sydd angen ei hesbonio’n fanwl, ar lafar ac ar bapur, yn Gymraeg ac yn Saesneg

8.  Tystiolaeth o'r gallu i ddarparu gwybodaeth reoli, sesiynau briffio ac adroddiadau

Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau

9.  Tystiolaeth o'r gallu i ddatrys problemau gan ddefnyddio menter a chreadigrwydd; y gallu i adnabod, datblygu a dewis opsiynau yn annibynnol

10.  Tystiolaeth o'r gallu i drefnu, blaenoriaethu a chynllunio amser ac adnoddau, gan gynnwys rheoli amser personol, gweithio o fewn terfynau amser a chynllunio gwaith i eraill

Meini Prawf Dymunol

1.  Cymhwyster Ôl-raddedig / Proffesiynol

2.  Profiad o weithio yn y sector Addysg Uwch

3.  Profiad o weithio ym maes y Gymraeg a / neu ieithoedd eraill

4.  Profiad o weithio ag ysgolion uwchradd

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Ysgol Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn chwilio am gydlynydd cenedlaethol ar gyfer prosiect Mentora Myfyrwyr y Gymraeg (sydd wedi ei ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol) sy'n anelu at gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio'r Gymraeg hyd at Safon Uwch (iaith gyntaf ac ail iaith) a thu hwnt. Mae’r prosiect hwn yn rhannu nifer o nodweddion â Phrosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern (https://mflmentoring.co.uk) a bydd yn tynnu ar brofiad ac arbenigedd staff y prosiect llwyddiannus hwnnw. Bydd prosiect Mentora Myfyrwyr y Gymraeg yn dwyn ynghyd bedair prifysgol a nifer o ysgolion ledled Cymru. Bydd deiliad y swydd yn cael cyfle i adeiladu partneriaethau er mwyn cefnogi'r Gymraeg fel pwnc ar draws y sector.

Cyflog

💰 £28,762 - £33,314

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £36,000 - £40,000 📍 Caerdydd📍 Hybrid +1 Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £33,075 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 O gwmpas £43,000 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £25,026 - £27,988 📍 Bae Caerdydd📍 Caerfyrddin +2 Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 pro rata 📍 Bangor Ar gau

💰 £23,620 pro rata 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

💰 £24,285 - £27,131 📍 Bangor Ar gau

💰 £25,662 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £37,474 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £37,519 - £42,404 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £26,894 - £29,080 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £33,820 - £37,261 📍 O gartref📍 Brynbuga Ar gau

💰 £32,458 - £34,318 📍 Hybrid Ar gau

💰 Di-dâl 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25,000 - £28,000 📍 Wrecsam Ar gau

💰 £20,812 - £21,968 pro rata 📍 Beddgelert Ar gau