Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth (x2 Swydd)

💰 £9.90/a 📍 Llanfairpwll Ar gau

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Gynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth (x2 Swydd)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Yn gweithio mewn awyrgylch prysur fel rhan o dîm brwdfrydig, mae’r swydd hon fel Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth yn chwarae rhan ganolog wrth gynnig gwasanaeth cwsmer rhagorol. 

Mae'r swydd hon yn seiliedig ar oriau blynyddol, lle gall faint o oriau rydych chi'n eu gweithio bob mis amrywio, ond bydd eich cyflog yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad cyfartal dros y flwyddyn.

Sut brofiad yw gweithio yma?

Plasty a gerddi cain yw Plas Newydd, gyda golygfeydd syfrdanol ar draws y Fenai tuag at fynyddoedd Eryri. Daw ymwelwyr o bob rhan o’r byd i Blas Newydd ac mae’r tim yn croesawu pobl gyfeillgar, groesawgar sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol i ymuno â nhw. Mae’n debygol y bydd angen ichi fod â’ch trafnidiaeth eich hun i gyrraedd yma, fodd bynnag, mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio o fewn eiddo bywiog mewn lleoliad gwirioneddol ryfeddol.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Fel elusen gadwraeth fwyaf Ewrop, rydym yn gweithio’n galed i godi arian fel ein bod yn gallu parhau i ofalu am dreftadaeth ein hymddiriedolaeth. Mae ymwelwyr yn rhan allweddol o’r hyn rydym yn ei wneud, felly byddwch yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn cynnig gwasanaeth rhagorol i’n holl ymwelwyr, bob dydd. Fel Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth, eich gwaith chi yw sicrhau bod ein hymwelwyr yn cael croeso perffaith fydd yn eu paratoi am brofiad arbennig am weddill y diwrnod.

Byddwch yn gyfrifol am ateb ymholiadau, a sicrhau bod ymwelwyr yn gallu dod o hyd i bopeth sydd ei angen arnynt yn ystod eu hymweliad. Mae deall pam a sut rydym yn ymgysylltu â’n cefnogwyr yn allweddol. Wrth weithio gyda’n hymdeimlad o le, byddwch yn gweithio gyda’r tîm croesawu ymwelwyr i gysylltu popeth rydym yn ei wneud yn ôl i’n hachos a’r gwaith parhaus rydym yn ei wneud.  Byddwch yn cyflwyno i safon uchel yn yr eiddo, ac yn sicrhau eich bod yn cyfathrebu’n glir a chyson gyda’n hymwelwyr, o’r clic cyntaf ar y wefan, i’r posteri a’r arwyddion o amgylch yr eiddo.

Am bwy ydym yn chwilio?

Hoffem glywed gennych, os ydy hyn yn swnio fel chi:

A ydych chi'n gallu siarad Cymraeg? 

Gallu gweithio mewn tîm - yn hyblyg ac yn addasadwy 

Trefnus a’r gallu i weithio heb fawr o oruchwyliaeth 

Defnyddiol a Chyfeillgar 

Yn canolbwyntio ar y cwsmer gydag agwedd gadarnhaol 

Brwdfrydig ac yn barod i ddysgu 

Dealltwriaeth o bwysigrwydd gwasanaeth gwych

Y Pecyn

Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd.  

Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed)

Cynllun gofal plant di-dreth.

Cynllun benthyciad blaendal rhent.

Benthyciad tocyn tymor.

Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema.

Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol.

Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl.

Rhaglen cynorthwyo cyflogai.

Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau.

Cyngor ariannol annibynnol.

Cyflog

💰 £9.90 yr awr

Lleoliad

📍 Llanfairpwll

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £25,019 - £28,399 📍 Caerdydd📍 Y Drenewydd Ar gau

💰 £21,979 - £23,749 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,020 - £35,411 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £27.26 yr awr 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £20,919 - £22,367 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £24,657 - £30,205 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,960 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Cyflog a bonws yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +2 Ar gau

💰 £30,151 - £32,020 📍 Pwllheli Ar gau

💰 £16,252 - £18,138 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £32,020 - £35,411 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 Cyflog a bonws yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +2 Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £20,758 - £21,318 📍 Nantgarw Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Talybont📍 O gartref +1 Ar gau

💰 £21,225 - £28,624 pro rata 📍 Bae Caerdydd Ar gau

💰 £28,505 - £31,757 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

💰 £36,386 - £42,155 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £25,895 - £29,890 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £37, 519 - £42,404 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £31,031 (+ Pwysiad Lleoliad) 📍 Caerdydd📍 O gartref +1 Ar gau

💰 £27,929 - £34,308 📍 Caernarfon📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £ 25,569 - £27,747 📍 Bangor Ar gau

💰 £21,197 - £23,144 📍 Caerdydd Ar gau