Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Prif Weithredwr

Plaid Cymru

💰 £54k - £64k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

Mae Plaid Cymru yn edrych am Brif Weithredwr

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

A ydych yn dymuno chwarae rhan allweddol yn arweinyddiaeth Plaid Cymru a helpu i symud ein gwlad tuag at Annibyniaeth? Allwch chi arwain ac ysbrydoli tîm bach ond ymroddedig o staff a gweithio gyda miloedd o aelodau’r Blaid?

Yna mae'r swydd hon ar eich cyfer chi.

Disgrifiad:

Mae rôl Prif Weithredwr Plaid Cymru yn cyfuno elfennau o lywodraethiant, arweinyddiaeth, rheolaeth, cydymffurfiaeth, cyfathrebu a datblygu strategol. Mae'r Prif Weithredwr yn bennaeth ar dîm staff y blaid, ond mae hefyd yn arwain y gwaith o gyfathrebu a chydgysylltu gyda sylfaen gwirfoddol a strwythurau llywodraethiant mewnol y Blaid, ac yn sicrhau cyswllt agos ag arweinyddiaeth wleidyddol y Blaid yn y Senedd a San Steffan. Y Prif Weithredwr sy'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol ac am gysylltu'n agos â'r Comisiwn Etholiadol a'r Comisiynydd Gwybodaeth. Y Prif Weithredwr yw'r uwch gynghorydd staff i'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol ac yn gyfrifol am yr ysgrifenyddiaeth ar ei gyfer.

Gweithredir llawer o'r uchod trwy ddirprwyo i staff priodol, a bydd y Prif Weithredwr yn ffurfio ac yn datblygu'r tîm staff hwnnw er mwyn cyflawni amcanion strategol y Blaid.

Lleoliad – Caerdydd ond gellir ystyried gweithio'n hybrid

Cynhelir cyfweliadau ar 10/3/23 yng Nghaerdydd

Ffoniwch Geraint Day ar 029 20 472272 am sgwrs anffurfiol am y swydd.

E-bostiwch ceisiadau wedi'u cwblhau i [email protected]

Cyflog

💰 £53,788 - £64,492

Lleoliad

📍 Caerdydd, Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Llyfrau Cymru

💰 £42k - £46k pro rata 📍 Castell Brychan Ar gau

Addysg Oedolion Cymru

💰 £25.84 yr awr 📍 Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19k pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

Menter Iaith Fflint a Wrecsam

💰 £20k 📍 Sir y Fflint Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

💰 £22k - £23k 📍 Torfaen Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

💰 £30k 📍 Cwm Clydach Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

💰 £33k 📍 Cwm Clydach Ar gau

Coleg Cambria

💰 £27k - £39k pro rata 📍 Wrecsam Ar gau

Adra

💰 £38k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Brynhyfryd

💰 PRC/ URC CAD1b 📍 Rhuthun Ar gau

Ysgol Brynhyfryd

💰 PRC/ URC CAD2b 📍 Rhuthun Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £30k 📍 Wrecsam Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30k - £34k 📍 Caerdydd Ar gau

Coleg Cambria

💰 £27k - £39k pro rata 📍 Wrecsam Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £20k - £22k 📍 Gorllewin Morgannwg Ar gau

Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr

💰 £38k - £44k 📍 Bangor Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ôl profiad 📍 Llanelli Ar gau

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys

💰 £26k - £29k 📍 Sir Gaerfyrddin Ar gau

Arnold Davies Vincent Evans

💰 £19k - £20k 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Business in Focus

💰 £30k 📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £23k - £26k 📍 Bangor Ar gau