Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen
Cyngor Llyfrau Cymru
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn edrych am Bennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n angerddol ynghylch pŵer trawsnewidiol darllen? Allwch chi helpu i greu rhaglenni a llyfrau sy’n ysbrydoli cariad gydol oes at ddarllen?
Os mai ‘ie’ yw’r ateb ac os oes gennych gefndir ym maes addysg neu brofiad ym maes llenyddiaeth plant a’ch bod yn chwilio am her newydd, ymunwch â ni yng Nghyngor Llyfrau Cymru.
Rydym yn awyddus i benodi Pennaeth newydd ar gyfer ein Hadran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen a fydd yn gweithio’n agos gyda chyd-weithwyr yn Llywodraeth Cymru, ysgolion a phartneriaid eraill sy’n gweithredu yn y maes hwn. Bydd gennych y creadigrwydd a’r egni i droi syniadau’n rhaglenni ac ysbrydoli cyllidwyr i fuddsoddi mewn ystod eang o weithgareddau sy’n cefnogi ein gweledigaeth –Cymru: Cenedl o Ddarllenwyr. Byddwch yn arwain tîm o dri gan ddarparu nifer o weithgareddau hyrwyddo darllen, gan gynnwys rhaglenni cenedlaethol fel Diwrnod y Llyfr a Sialens Ddarllen yr Haf.
Fel aelod allweddol o’r uwch dîm rheoli, mae’r rôl datblygu strategol hon yn adrodd i’r Prif Weithredwr. Mae’r lleoliad yn hyblyg ond bydd gofyn treulio o leiaf 8 diwrnod y mis yn ein swyddfeydd yn Aberystwyth. Rydym yn chwilio am siaradwr Cymraeg hyderus ac yn hapus i gefnogi’r ymgeisydd llwyddiannus i ddatblygu ei sgiliau Cymraeg ymhellach yn y gwaith.
Os yw’r rôl hon yn swnio’n addas i chi, mae rhagor o fanylion ar www.llyfrau.cymru neu drwy ebsotio [email protected]
Dyddiad cau: 6 Mehefin 2022
Cyflog
💰 £41,591– £45,648 pro rata
Lleoliad
📍 Castell Brychan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Tiwtoriaid mewn amrywiaeth o bynciau
Addysg Oedolion Cymru
Mae Addysg Oedolion Cymru yn edrych am Diwtoriaid mewn amrywiaeth o bynciau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gennym gyfle gwych i diwtoriaid cymwys ymuno â sefydliad ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i wasanaethu poblogaeth oedolion Cymru gyda chyfleoedd ysbrydoledig sy'n newid bywydau.
Rydym yn chwilio am diwtoriaid cymwys, medrus i gyflwyno y pynciau yn yr ardaloedd isod. Bydd yn ofynnol i gyflwyno yn ddwyieithog a drwy’r Gymraeg yn Sir Benfro. Gweler y pecynnau cais unigol ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer pob maes pwnc.
SIR BENFRO
Celf a Chrefft
Ffotograffiaeth
Cerfio pren/Pyrograffeg
Achyddiaeth
Astudiaethau Treftadaeth/Hanes Lleol
Cyflogadwyedd
POWYS
Sgiliau Hanfodol – Llythrennedd, Llythrennedd Digidol, Rhifedd
Cwnsela
CEREDIGION
Astudiaethau Treftadaeth/Hanes Lleol
Cyflogadwyedd
SIR GAERFYRDDIN
Anghenion Dysgu Ychwanegol a Sgiliau Byw'n Annibynnol
CASTELL-NEDD PORT TALBOT
Gwaith Saer a Gwaith Coed
Cyfrifiadura a Llythrennedd Digid
Cyflog
💰 £25.84 fesul yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)
Lleoliad
📍 Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ti a Fi Teithiol Caerdydd – Ail Hysbyseb
Mudiad Meithrin
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol Caerdydd – Ail Hysbyseb
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o Gylchoedd Ti a Fi. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau a rhannu negeseuon am ddilyniant i Addysg Gymraeg ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod â phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni/gwarchodwyr am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg.
Dyletswyddau’r Swydd
Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Cydweithio â’r Rheolwr Talaith i drefnu amserlen wythnosol i gynnal cylchoedd Ti a Fi.
Ymgymryd â rôl Arweinydd mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal a bennwyd – gall un neu fwy o’r rhain fod yn Gylch Ti a Fi am dro
Dangos hyblygrwydd i weithio’n rhithiol os oes angen.
Cynnal sesiwn wythnosol yn y cylchoedd Ti a Fi er mwyn arwain a chynnal gweithgareddau addas ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr.
Sicrhau bod yr ystafelloedd neu’r ardal tu allan a’r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer cynnal y cylchoedd yn addas ac yn ddiogel. Cynnal Asesiadau Risg gan ddilyn canllawiau Mudiad Meithrin
Sicrhau cyhoeddusrwydd i’r cylchoedd Ti a Fi trwy gydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn cynyddu’r defnydd a wneir ohonynt gan deuluoedd.
Ar y cyd a’r Rheolwr Talaith, Swyddogion Cefnogi, Swyddogion Cymraeg i Blant, meithrin perthynas a nifer o bartneriaethau lleol er mwyn hyrwyddo’r gwaith gan gynnwys Mentrau Iaith, Dechrau’n Deg, Ymwelwyr Iechyd, Dewis, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ayyb.
Cydweithio’n agos â chynlluniau eraill y Mudiad e.e Sefydlu a Symud a Chynllun Cymraeg i Blant, er mwyn sicrhau’r rhaglen orau yn lleol.
Codi ymwybyddiaeth o fuddion addysg Gymraeg lleol drwy gynorthwyo i gynnal digwyddiadau ac achlysuron cyhoeddusrwydd e.e. Diwrnodau hwyl i’r teulu.
Casglu gwybodaeth fel bo galw ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i gyllidwr / Mudiad Meithrin.
Cydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn sicrhau cysylltiad agos rhwng y cylchoedd Ti a Fi a chylchoedd meithrin yr ardal.
Trefnu bod Arweinydd/staff Cylchoedd Meithrin a chynrychiolydd o’r Ysgolion Cynradd Cymraeg lleol yn ymweld â’r cylchoedd Ti a Fi er mwyn trafod manteision dwyieithrwydd a dilyniant i Addysg Gymraeg gyda’r rhieni ac esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol i’w plant dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
Ar y cyd â’r Rheolwr Talaith trefnu rhaglen o gofrestru pob un o’r cylchoedd yn eu tro ar Gynllun ansawdd Ti a Fi Serennog
Mynychu cyfarfodydd tîm, Pwyllgorau Sir ac unrhyw bwyllgor arall perthnasol.
Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd fel bo’r angen.
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £19,138 pro rata
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn edrych am Swyddog Gweithgareddau Cymunedol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mudiad lleol yw Menter Iaith Fflint a Wrecsam sy’n hybu a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.
SWYDDOG GWEITHGAREDDAU CYMUNEDOL
Rydym yn chwilio am berson brwd ac egnïol i weithio gyda ni drwy gynnal ystod eang o weithgareddau a phrosiectau hwyliog er mwyn cynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn cymunedau siroedd y Fflint a Wrecsam.
Cyflog:
£19,680 + cyfraniad pensiwn cyfatebol hyd at 6%
Swydd am gyfnod o flwyddyn i gychwyn gyda’r bwriad o barhad yn ddibynnol ar gyllid.
Oriau:
37 awr yr wythnos (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd). Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid ynghyd â phatrymau gwaith hyblyg.
Lleoliad:
Mae swyddfa’r Fenter yn yr Wyddgrug
Dyddiad Cau:
Hanner dydd, Dydd Llun 13eg Mehefin 2022
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Gill Stephen (Prif Swyddog) [email protected] 01352 744040 neu ewch i https://www.facebook.com/menteriaithffaw am fwy o wybodaeth.
Cyflog
💰 £19,680
Lleoliad
📍 Sir y Fflint
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Cymorthfeydd ac Ymgyrchoedd - dros dro
Menter a Busnes
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gydlynydd Cymorthfeydd ac Ymgyrchoedd - dros dro
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Prosiect: Cyswllt Ffermio
Adran: Gwledig
Lleoliad: Unrhyw un o swyddfeydd Menter a Busnes. Gellir gweithio o adref yn y lle cyntaf.
Rheolwr Atebol: Swyddog Clinigau, Cymorthfeydd a Gohebiaeth
Graddfa: 3
Cyflog: £21,979 - £23,748
Cytundeb: Dros Dro
Sgiliau Dwyieithog: Hanfodol
Cyswllt Ffermio
Mae Cyswllt Ffermio’n brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant gyda ffocws drwy raglen Cymru-gyfan o weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth, cyngor arbenigol a chefnogaeth i arloesi. Un nod allweddol yw cynyddu’r pwyslais ar ymddygiad sy’n canolbwyntio ar fusnes, gan wella proffidioldeb, gallu cystadleuol a pherfformiad amgylcheddol busnesau fferm, coedwigaeth a bwyd yng Nghymru.
Ariennir Cyswllt Ffermio drwy’r Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020 sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Nod y Rôl
Cefnogi’r Rheolwr Clinigau, Cymorthfeydd a Gohebiaeth i gydlynu a threfnu rhaglen o gymorthfeydd ac ymgyrchoedd o safon uchel ar amrywiaeth o bynciau
Meithrin perthynas gyda gwahanol siaradwyr ac ymgynghorwyr, yn ogystal â Swyddogion Datblygu Cyswllt Ffermio er mwyn denu unigolion a busnesau i gymryd rhan â manteisio ar ddarpariaeth gwasanaethau Cyswllt Ffermio
Ymdrin ag ymholiadau cyson gan ffermwyr a choedwigwyr fydd am fynychu cymorthfeydd
Cyfrannu at weithgareddau eraill ac amcanion cyffredinol Menter a Busnes
Prif Gyfrifoldebau
**Cymorthfeydd **
Cydlynu rhaglen o gymorthfeydd / ymgyrchoedd o safon uchel ar amrywiaeth o bynciau mewn cydweithrediad â’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth
Cyfrifoldeb am drefniadaeth a rheolaeth y cymorthfeydd o ddydd i ddydd gan sicrhau eu bod yn rhedeg yn esmwyth ac yn darparu gwerth i’r cwsmer
Sicrhau bod y manylion cywir/addas yn cael ei basio at yr ymgynhorwyr can cadw at gofynion diogelu data
Sicrhau cyswllt cyson gyda’r Swyddog Datblygu lleol i sicrhau llwyddiant cymorthfeydd
Sicrhau bod cynghorwyr perthnasol wedi eu trefnu yn ôl pwnc ar y cyd â’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth
Sicrhau wrth drefnu cymorthfeydd fod pob cymhorthfa yn cael ei chadw o fewn cyllideb fesul cymhorthfa
Rhoi’r manylion ar y system archeb er mwyn i’r swyddog cymorthfeydd awdurdodi gwariant
Sicrhau bod pob cymhorthfa a clinig yn cael eu cynnwys ar y CMS yn amserol
Sicrhau bod manylion y cymorthfeydd sydd ar gael yn dyddiol ar y wefan e.e rhestr pynciau wedi diweddaru, adnabod yr angen a thrafod gyda’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth ynglyn ag unrhyw anghenion marchnata pellach
Ymdrin ag ymholiadau cyn y gymhorthfa a chanfod anghenion y cwsmeriaid er mwyn sicrhau eu bod wedi eu cofrestru ar gyfer cymhorthfa sy’n ateb eu gofynion
Sicrhau bod y gwaith papur angenrheidiol wedi’i gwblhau ac yn cwrdd â gofynion y prosiect a gofynion Llywodraeth Cymru
Sicrhau bod dilyniant a gwerthusiad wedi gwneud gyda pob busnes sydd wedi cael cymhorthfa
Cyfathrebu efo aelodau perthnasol o’r tîm Cyswllt Ffermio efo ymholiadau ar ôl gwneud ffurflenni gwerthuso
Mynychu digwyddiadau Cyswllt Ffermio os bod angen – digidol neu wyneb yn wyneb
Sicrhau bod mynychwyr cymorthfeydd yn cael eu cofnodi’n gywir drwy gyflwyno cronfeydd data mynychwyr i’r Ganolfan Gwasanaethau’n brydlon a’u mewnbynnu i CMS
Sicrhau bod adroddiadau wedi derbyn gan yr ymgynhorwr a’i danfon ymlaen at y busnes o fewn amser perthnasol
Cyfathrebu gyda’r asiantaethau allanol perthnasol ac adeiladu perthnasau gyda phartneriaid allweddol
Gwirio adborth mynychwyr y cymorthfeydd a chynorthwyo’r Ganolfan Wasanaeth i fewnbynnu adborth er mwyn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru
Dadansoddi, cydlynu a chrynhoi gwybodaeth ynglŷn â’r cymorthfeydd trwy werthuso yn erbyn targedau a darparu’r wybodaeth addas i’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth yn ôl yr angen
Cyfrannu’n gywir ac amserol i adroddiadau misol i’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth er mwyn monitor targedau cymorthfeydd
Darparu cymorth a chefnogaeth swyddfa sy’n ddibynadwy ac effeithiol
Cynorthwyo’r tîm marchnata a’r Ganolfan Wasanaeth yn ôl y galw gan gynnwys gweithio nes 5yh yn achlysurol os oes angen.
Arall
Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw
Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw
Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
Addysg hyd o leiaf NVQ lefel 3 neu’n uwch, a/neu brofiad dangosadwy mewn maes perthnasol
Profiad o drefnu digwyddiadau proffil uchel ar lefel leol a chenedlaethol
Sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol
Sgiliau rhyngbersonol a gweinyddol rhagorol
Gallu asesu a delio gydag ymholiadau’n gyflym a phrydlon
Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) llafar ac ysgrifenedig rhagorol
Sgiliau gwasanaeth y cwsmer rhagorol
Dealltwriaeth dda neu brofiad o’r sector amaeth a choedwigaeth yng Nghymru
Gallu mewnbynnu data’n gywir a chadw data’n gyfatebol gyda deddfau diogelu data perthnasol
Gallu ysgogi ei hun i weithio gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni ei amcanion a’i waith ei hun, gan ystyried anghenion y cwsmer
Rhagweithiol a brwdfrydig am waith yr Adran Wledig
Gallu bod yn rhagweithiol a gyrru pethau yn eu blaen yn effeithiol
Gallu bwrw ymlaen gyda’ch gwaith eich hun yn ogystal â bod yn rhan o dîm
Sgiliau technoleg gwybodaeth gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, cronfeydd data, yr e-bost a’r Rhyngrwyd
Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio
Ar gael i weithio gyda’r nos pan fo angen hynny
Manteisiol
- Gwybodaeth am raglen Cyswllt Ffermio
Cyflog
💰 £21,979 - £23,748
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ti a Fi Teithiol Bro Morgannwg (Swydd yn cael ei ariannu gan Awdurdod Lleol Bro Morgannwg)
Mudiad Meithrin
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol Bro Morgannwg (Swydd yn cael ei ariannu gan Awdurdod Lleol Bro Morgannwg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o Gylchoedd Ti a Fi. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau a rhannu negeseuon am ddilyniant i Addysg Gymraeg ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod â phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni/gwarchodwyr am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg.
Dyletswyddau’r Swydd
Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Cydweithio â’r Rheolwr Talaith i drefnu amserlen wythnosol i gynnal cylchoedd Ti a Fi.
Ymgymryd â rôl Arweinydd mewn 3 cylch Ti a Fi yn yr ardaloedd dynodedig ym Mro Morgannwg (gweitho gweithio yn unol â chyfyngiadau Cofid-19)
Dangos hyblygrwydd i weithio’n rhithiol os oes angen.
Cynnal sesiwn wythnosol yn y cylchoedd Ti a Fi er mwyn arwain a chynnal gweithgareddau addas ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr.
Sicrhau bod yr ystafelloedd neu’r ardal tu allan a’r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer cynnal y cylchoedd yn addas ac yn ddiogel. Cynnal Asesiadau Risg gan ddilyn canllawiau Mudiad Meithrin
Sicrhau cyhoeddusrwydd i’r cylchoedd Ti a Fi trwy gydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn cynyddu’r defnydd a wneir ohonynt gan deuluoedd sy'n byw yn yr ardaloedd perthnasol.
Ar y cyd a’r Rheolwr Talaith, Swyddogion Cefnogi, Swyddogion Cymraeg i Blant, meithrin perthynas a nifer o bartneriaethau lleol er mwyn hyrwyddo’r gwaith gan gynnwys Mentrau Iaith, Dechrau’n Deg, Ymwelwyr Iechyd, Dewis, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, Addysg ayyb i sicrhau bod Ti a Fi yn cael ei hyrwyddo'n weithredol.
Cydweithio’n agos â chynlluniau eraill y Mudiad e.e Sefydlu a Symud a Chynllun Cymraeg i Blant, er mwyn sicrhau’r rhaglen orau yn lleol.
Codi ymwybyddiaeth o fuddion addysg Gymraeg lleol drwy gynorthwyo i gynnal digwyddiadau ac achlysuron cyhoeddusrwydd e.e. Diwrnodau hwyl i’r teulu.
Casglu a darparu gwybodaeth ystadegol a diweddariadau rheolaidd fel bo galw ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i Lywodraeth Cymru / Mudiad Meithrin, yn unol â gofynion y grant.
Cydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn sicrhau cysylltiad agos rhwng y cylchoedd Ti a Fi a chylchoedd meithrin yr ardal.
Trefnu bod Arweinydd/staff Cylchoedd Meithrin a chynrychiolydd o’r Ysgolion Cynradd Cymraeg lleol yn ymweld â’r cylchoedd Ti a Fi er mwyn trafod manteision dwyieithrwydd a dilyniant i Addysg Gymraeg gyda’r rhieni ac esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol i’w plant dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
Ar y cyd â’r Rheolwr Talaith trefnu rhaglen o gofrestru pob un o’r cylchoedd yn eu tro ar Gynllun ansawdd Ti a Fi Serennog
Mynychu cyfarfodydd tîm, Pwyllgorau Sir ac unrhyw bwyllgor arall perthnasol.
Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd fel bo’r angen.
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £19,138 pro rata
Lleoliad
📍 Bro Morgannwg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu Cymunedol (Ardal Sir Fynwy)
Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy
Mae Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn edrych am Swyddog Datblygu Cymunedol (Ardal Sir Fynwy)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n hoffi trefnu gweithgareddau ac yn caru’r Gymraeg?
Mae Sefydliad Corfforedig Elusennol Menter Iaith BGTM (rhif elusennol 1181104) yn chwilio am berson arbennig i adeiladu ar y gwaith o hyrwyddo a datblygu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a wnaed eisoes yn Sir Fynwy.
Cefndir
Nod y Mentrau Iaith ydy hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru. Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991,ac erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yn gwasanaethu pob rhan o Gymru. Wedi tyfu o awydd a dyheadau pobl leol y mae’r Mentrau Iaith, er mwyn hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn eu cymunedau. Mae’r Mentrau Iaith yn un o bartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu ar lawr gwlad i wireddu amcanion Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg – sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mae pob Menter Iaith yn gweithredu mewn ffordd unigryw yn ddibynnol ar anghenion lleol.
Disgrifiad Swydd/Prif Gyfrifoldebau:-
Darparu cyfleoedd i drigolion y sir gael mynediad i ddigwyddiadau ieithyddol, diwylliannol a chelfyddydol.
Grymuso grymuso unigolion, grwpiau a chymunedau i ddefnyddio’r iaith
Asesu anghenion cymunedau Sir Fynwy o safbwynt gweithgareddau cyfrwng Cymraeg drwy broses o ymgynghori eang.
Meithrin a datblygu cysylltiadau agos gyda grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a phartneriaid eraill (e.e Cymraeg i Oedolion Gwent, Mudiad Meithrin) gan gydlynu a threfnu gweithgareddau blaengar a deniadol a’u gwerthuso’n gyson. Gweithio gyda phlant a phobl o bob oedran.
Datblygu prosiectau penodol a flaenoriaethwyd yng nghais a thargedau’r Llywodraeth.
Cyfrannu at brosesau gwerthuso a monitro'r Fenter.
Hyrwyddo gwaith y Fenter trwy ddefnydd helaeth o’r cyfryngau cymdeithasol a’r wefan.
Codi proffil y Fenter yn y wasg leol a chenedlaethol, paratoi datganiadau ac erthyglau cyson a’u dosbarthu i’r wasg a’r cyfryngau ac ati.
Paratoi ceisiadau am nawdd.
Manyleb person
Sgiliau Iaith Gymraeg da ar lafar ac yn ysgrifendig yn hanfodol
Dealltwriaeth o ddiwylliant ac anghenion ieithyddol Sir Fynwy a'r De-ddwyrain
Profiad o weithio gyda phlant ac oedolion a threfnu amrwy o weithgareddau ar eu cyfer
Y gallu i gyfathrebu’n glir yn Gymraeg a Saesneg ar bob lefel a gweithio gydag ystod eang o oedrannau
Hyderus pan yn weithio’n annibynnol ac yn dangos blaengaredd
Profiad o greu ac annog syniadau newydd (arloesol)
Sgiliau safonol o ddefnyddio TG / cyfryngau cymdeithasol
DBS cyfredol
Trwydded yrru gyfredol a char
Telerau’r Swydd
Cyflog: £22,002 -£23,111 (yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad)
Telir cyfraniad pensiwn cyflogwr (8%) yn ychwanegol
Costau Teithio
Telir costau teithio yn ôl graddfa CThEM
Oriau Gwaith
37.5 awr yr wythnos. Yn ddelfrydol bydd hon yn swydd amser llawn ond gellir ystyried ymgeiswyr sydd am weithio’n rhan amser. Disgwylir i chi weithio oriau anghymdeithasol ar adegau
Gwyliau
28 diwrnod y flwyddyn.
Hyd y Cytundeb
Ariennir y swydd hon yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru.
Bydd angen cwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus.
**Strwythur Rheoli **
Byddwch yn gweithio o dan gyfarwyddyd Prif Swyddog ac yn atebol i fwrdd Ymddiriedolwyr y Fenter.
Lleoliad swyddfa’r Fenter
Ystafell L4 Alder Suite, Tŷ Mamhilad C
Llawr Cyntaf Gogledd
Ystad Parc Mamhilad Park
Pontypŵl
NP4 0HZ
*Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus weithio mewn swyddfeydd ledled y sir ar adegau yn ogystal â gweithio o gartref
Dyddiad Cau: 15 Mehefin 2022
Cyswllt:Thomas Hughes, Prif Swyddog
Dychwelwch y ffurflen trwy ebost os gwelwch yn dda erbyn 12pm, Dydd Mercher, 15 Mehefin 2022
Cyflog
💰 £22,002 - £23,111
Lleoliad
📍 Torfaen
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn edrych am Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn awyddus i benodi cyfieithydd i weithio'n rhan o'i garfan gyfieithu brysur wedi'i hen sefydlu. Prif ddyletswydd deiliaid y swydd fydd cyfieithu dogfennau o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg.
Bydd gyda chi radd yn y Gymraeg neu gyfwerth a byddai profiad blaenorol o weithio fel cyfieithydd o fantais. Mae medrau TGCh o safon dda a’r gallu i weithio o dan bwysau ac yn ôl amserlenni tynn yn orfodol ar gyfer y swydd.
Byddwch chi’n gweithio gartref yn bennaf, ond bydd disgwyl i fynd i swyddfeydd a mynychu cyfarfodydd yn ôl y galw.
Mae’r swyddi’n cynnig cyflog cystadleuol, yr opsiwn i ymuno â Chynllun Pensiwn y Cyngor, 25 diwrnod o wyliau blynyddol (mewn blwyddyn lawn) sy’n cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth, a buddion megis ffioedd gostyngol ar gyfer aelodaeth â chanolfannau hamdden yn Rhondda Cynon Taf sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor a Chynllun Buddion i Staff.
Mae disgwyl cynnal cyfweliadau tua 13 Mehefin 2022 (i’w gadarnhau). Pe hoffech chi drafod manylion y swydd yn anffurfiol gyda Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg y Cyngor, Steffan Gealy, croeso i chi'i ffonio ar 07824541674.
Oherwydd y nifer sylweddol o ffurflenni cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
37 awr
Cyflog
💰 £30,095
Lleoliad
📍 Cwm Clydach
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn edrych am Uwch Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn awyddus i benodi uwch gyfieithydd i weithio'n rhan o'i garfan gyfieithu brysur wedi'i hen sefydlu. Prif ddyletswydd deiliaid y swydd fydd cyfieithu dogfennau o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg, gyda golwg arbennig ar wasanaethu gofynion Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y Cyngor. Bydd gofyn ymgymryd â gwaith prawf ddarllen yn ogystal ag ymgymryd â dyletswyddau rheoli llinell yn ôl y gofyn.
Bydd gyda chi radd yn y Gymraeg neu gyfwerth ar ben profiad blaenorol o weithio fel cyfieithydd ac ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol.
Byddwch chi’n gweithio gartref yn bennaf, ond bydd disgwyl i fynd i swyddfeydd a mynychu cyfarfodydd yn ôl y galw.
Mae’r swydd yn cynnig cyflog cystadleuol, yr opsiwn i ymuno â Chynllun Pensiwn y Cyngor, 25 diwrnod o wyliau blynyddol (mewn blwyddyn lawn) sy’n cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth, a buddion megis ffioedd gostyngol ar gyfer aelodaeth â chanolfannau hamdden yn Rhondda Cynon Taf sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor a Chynllun Buddion i Staff.
Mae disgwyl cynnal cyfweliadau tua 13 Mehefin 2022 (i’w gadarnhau). Pe hoffech chi drafod manylion y swydd yn anffurfiol gyda Phennaeth Uned Gwasanaethau Cymraeg y Cyngor, Steffan Gealy, croeso i chi'i ffonio ar 07824541674.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
37 awr
Cyflog
💰 £32,798
Lleoliad
📍 Cwm Clydach
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Coleg Cambria yn edrych am Ddarlithydd mewn Cymraeg i Oedolion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. A ninnau eisoes wedi cael dyfarniad ‘Rhagorol’ yn ein harolygiad diweddar gan Estyn ac wedi ennill Gwobr Platinwm Iechyd yn y Gweithle y Safon Iechyd Corfforaethol, rydym yn teimlo ein bod wedi cael dechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…
Teitl y Swydd: Darlithydd mewn Cymraeg i Oedolion
Lleoliad: Iâl, Wrecsam
Y Math o Gontract: Parhaol - Rhan Amser (18.5 awr yr wythnos) Cyflog: £27,382 - £39,357 (pro rata) yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol.
Mae Coleg Cambria yn chwilio am sawl Darlithydd mewn Cymraeg i Oedolion i ddarparu amrywiaeth o gyrsiau Cymraeg i oedolion ar draws y Gogledd Ddwyrain.
Eich cyfrifoldeb fel Darlithydd Cymraeg i Oedolion bydd darparu cyrsiau ar bob lefel ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn rhithiol ac yn y dosbarth.
Gofynion Hanfodol
Gydag o leiaf cymhwyster lefel 4 neu gyfwerth
Gyda chymhwyster dysgu neu'n foldlon gweithio tuag ato
Rhaid gallu cyfathrebu a chyflwyno dysgu’n rhugl trwy gyfrwng y Gymraeg
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, yn agored ac yn ymatebol i anghenion pobl eraill, ac yn gallu adnabod cryfderau ac anghenion datblygu’r myfyrwyr a’u gwneud yn ymwybodol ohonynt hefyd.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar y safle
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Cyflog
💰 £27,382 - £39,357 pro rata
Lleoliad
📍 Wrecsam
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Adra yn edrych am Reolwr Prosiectau Gwella Busnes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ni yw Adra. Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru. Nid ydym yn sefydliad sy'n aros yn ei unfan. Dros y blynyddoedd i ddod byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi y tu allan i'r sir, gyda'r uchelgais i fod yn darparu cannoedd fwy o gartrefi o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Er ein bod yn uchelgeisiol iawn, rydym yr un mor benderfynol o amddiffyn a datblygu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Byddwch yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni nifer o brosiectau newid a gwella’r busnes a fydd yn helpu’r cwmni i gyflawni’r blaenoriaethau allweddol y cytunwyd arnynt yng nghynllun corfforaethol y busnes.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan, www.adra.co.uk
Dyddiad Cau: 12pm 09/06/22
Cyflog
💰 £37,823 - £41,166
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Ysgol Brynhyfryd yn edrych am Bennaeth Cyfadran y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi Pennaeth Cyfadran Y Gymraeg a Ieithoedd Modern. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag ysgol ddynamig lle mae arweinyddiaeth ysbrydoledig a gwaith caled ar draws yr ysgol wedi trawsnewid ei pherfformiad yn erbyn pob un o’r mesuriadau perfformiad. Yn gyson, mae canlyniadau’r ysgol ymysg canlyniadau gorau Gogledd Cymru.
Mae cyflawniadau rhagorol yr ysgol wedi’u cydnabod gan y gymuned leol, ac ym mis Medi mae gordanysgrifio sylweddol yn yr ysgol.
Mae gan yr ysgol hefyd Chweched Dosbarth mawr a bywiog lle dysgir Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth Safon Uwch ynghyd â Chymraeg Ail Iaith.
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle i ymgeiswyr ddatblygu'n broffesiynol ac ymuno â thîm arweinyddiaeth ganol hynod effeithiol.
Cyflog
💰 PRC/ URC CAD1b
Lleoliad
📍 Rhuthun
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Ysgol Brynhyfryd yn edrych am Athro neu Athrawes y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi Athro \ Athraws Y Gymraeg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag ysgol ddynamig lle mae arweinyddiaeth ysbrydoledig a gwaith caled ar draws yr ysgol wedi trawsnewid ei pherfformiad yn erbyn pob un o’r mesuriadau perfformiad. Yn gyson, mae canlyniadau’r ysgol ymysg canlyniadau gorau Gogledd Cymru.
Mae cyflawniadau rhagorol yr ysgol wedi’u cydnabod gan y gymuned leol, ac ym mis Medi mae gordanysgrifio sylweddol yn yr ysgol.
Mae gan yr ysgol hefyd Chweched Dosbarth mawr a bywiog lle dysgir Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth Safon Uwch ynghyd â Chymraeg Ail Iaith.
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle i ymgeiswyr ddatblygu'n broffesiynol ac ymuno â thîm arweinyddiaeth ganol hynod effeithiol.
Cyflog
💰 PRC/ URC CAD2b
Lleoliad
📍 Rhuthun
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Swyddog Croesi’r Bont Talaith y De Ddwyrain a Clebran
Mudiad Meithrin
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Brif Swyddog Croesi’r Bont Talaith y De Ddwyrain a Clebran
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, gweithgar a chydwybodol i ymgymryd â’r swydd uchod a bod yn rhan o ddatblygiadau cynllun cyffrous Croesi’r Bont. Dylai’r person feddu ar bersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel a chydweithio’n agos gyda staff y cynllun. Mae’n hanfodol i fod â’r gallu i weithio’n hyblyg, yn annibynnol ac fel rhan o dîm. Rydym angen person sydd yn frwd dros y Gymraeg ac yn deall hanfodion rheoli pobl. Yn ychwanegol i hynny bydd disgwyl i’r person arwain a chefnogi gwaith cenedlaethol y cynllun yn un o’r meysydd canlynol: Ansawdd, Datblygu, Asesu a Hyfforddiant.
Dyletswyddau’r Swydd:
Bod yn atebol i’r Prif Weithredwr trwy’r Rheolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Llunio a gweithredu Cynllun Strategol ar y cyd â Rheolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont i sicrhau isadeiledd cryf o ran cydweithio rhwng Swyddogion Croesi’r Bont a staff ein Cylchoedd.
Llunio a gweithredu Cynllun Taleithiol ar y cyd â’r Rheolwr Talaith i adnabod Cylchoedd a sicrhau cefnogaeth effeithiol a chydweithio agos gyda’r Swyddogion Cefnogi er budd Cylchoedd y dalaith.
Gweithredu fel rheolwr llinell i Swyddogion Croesi’r Bont a Swyddogion Clebran yn y dalaith.
Cynllunio gweithgareddau a threfnu adnoddau addas ar gyfer swyddogion Croesi’r Bont a Clebran.
Sicrhau ansawdd a safon y cynllun ar draws y dalaith ac yn genedlaethol gan fonitro a gwirio cyson ac effeithiol.
Creu perthynas a chreu cyfleoedd i gydweithio gydag ystod o bartneriaid yn cynnwys cynrychiolwyr o’r siroedd.
Cydweithio gyda Phrif Swyddog y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu cynllun Croesi’r Bont ochr yn ochr â’r Cwricwlwm newydd.
Cynnal cyflwyniadau ar gyfer sefydliadau’r sir e.e. staff Cylchoedd, tîm Blynyddoedd Cynnar, staff yr ysgolion a fwydir gan gynnwys penaethiaid, penaethiaid Cyfnod Sylfaen, athrawon a staff y dosbarthiadau meithrin, Dechrau’n Deg, ac mewn rhai achosion, cynrychiolaeth o’r consortia lleol.
Ymweld â’r Cylchoedd yn unol â’r amserlen weithredu er mwyn arsylwi, sicrhau cysondeb a safonau’r asesiadau yn lleol ac yn genedlaethol.
Paratoi adroddiadau rheolaidd yn ôl y gofyn i fesur llwyddiant y sesiynau yn erbyn y targedau, a chyfrannu at adroddiadau cynnydd a monitro ar gyfer gwerthusiad annibynnol mewnol o’r cynllun.
Cydweithio gyda’r adran farchnata i hyrwyddo’r cynllun a chodi ymwybyddiaeth o ddulliau rhannu arfer dda ieithyddol rhwng y Cylch a’r cartref.
Adnabod cyfleodd ac ymchwilio mewn i ddatblygu’r cynllun yn ehangach.
Arolygu asesu llawr gwlad gan sicrhau cysondeb a safon genedlaethol i gamau datblygu Croesi’r Bont.
Cydweithio gyda Chydlynwyr Hyfforddiant Iaith Camau Mudiad Meithrin er mwyn adnabod cyfleoedd ar gyfer cyrsiau Cymraeg pellach i staff mewn lleoliadau.
Hyrwyddo, hysbysebu a marchnata’r cynllun pan yn briodol, a bod yn barod i baratoi deunydd ysgrifenedig i wefannau, i’r wasg a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Goruchwylio a chynnal tudalennau Facebook caeedig ar gyfer ysgogi a rhannu arfer dda.
Cydweithio a chynnal cyfarfodydd gyda chysylltiadau a phartneriaid o’r awdurdod lleol.
Parhau i ddatblygu cynnwys a goruchwylio cynhyrchu’r pecynnau (ffeiliau/CDs/Llyfrau Canu)
Arwain cyfarfodydd tîm Croesi’r Bont yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn.
Mynychu cyfarfodydd Timau Taleithiol yn rheolaidd.
Trefnu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda i’r tîm o Swyddogion Croesi’r Bont ar y cyd â Rheolwr Croesi’r Bont.
Adnabod cyfleoedd i gyfrannu at gyrsiau hyfforddiant Trochi Iaith drwy Academi
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Croesi’r Bont_ _yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Cenedlaethol neu Bennaeth yr Adran Hyfforddiant.
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Dyddiad Cyfweliadau: 7.6.2022 dros Teams
Cyflog
💰 £29,614 – £32,375
Lleoliad
📍 De Ddwyrain
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Gweithrediadau a Phrofiad Ymwelwyr
Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Gweithrediadau a Phrofiad Ymwelwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn rheoli ein tîm sy'n delio'n uniongyrchol â chwsmeriaid yng Nghastell y Waun, sef castell canoloesol ysblennydd sy'n sefyll ym mhen uchaf Dyffryn Ceiriog, a'r unig gastell Edwardaidd y mae rhywun wedi trigo ynddo'n barhaus. Ers yr unfed ganrif ar bymtheg, mae wedi bod yn gartref i'r teulu Myddelton. Fel caer strategol allweddol yn y Gororau, mae hunaniaeth Gymreig a Saesnig yn brwydro am oruchafiaeth yma hyd heddiw.
Byddwch yn rhan allweddol o dîm arweinyddiaeth portffolio gogledd-ddwyrain Cymru, yn cydweithio â rhai sy'n gofalu am gefn gwlad, ein treftadaeth adeiledig a chyfleusterau ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Dyma gyfle i weithiwr proffesiynol profiadol ym maes gweithrediadau ymwelwyr ysbrydoli ac arwain staff i wneud gwahaniaeth er lles natur a phobl, a darparu profiadau gwych i ymwelwyr.
Cymraeg yn ddymunol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu ofynion iaith cysylltwch â: [email protected]
Sut beth yw gweithio yma
Mae pob diwrnod yn wahanol yng Nghastell y Waun. Yn y swydd amrywiol hon, byddwch yn arwain y gwaith o ddarparu profiadau newydd i ymwelwyr, dod o hyd i ffyrdd newydd o ddod â hanes yn fyw, a chefnogi partneriaethau allanol.
Ceir digonedd o gyfleoedd i ddatblygu eich hun a'ch tîm, ac i wneud gwahaniaeth. Byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm gwych o bobl sy'n llawn brwdfrydedd ynghylch rhannu'r lle hwn a'i awyrgylch rhagorol. Fel rhan o gymuned ehangach o fewn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, byddwch yn ein helpu i greu profiadau newydd a gwell ar gyfer ein holl ymwelwyr.
Beth y byddwch yn ei wneud
Byddwch yn ymuno â phortffolio gogledd-ddwyrain Cymru ar adeg gyffrous, gan gyflwyno ffyrdd newydd o weithio a dylanwadu ar ei drywydd ar gyfer y dyfodol. Byddwch yn chwarae rhan weithgar mewn prosiectau mawr, wrth reoli cyllidebau ac wrth sicrhau ein bod yn cyflawni tasgau cydymffurfio. Fe fyddwch yn arweinydd a rheolwr gweladwy i dimau, yn ysgogi perfformiad gweithredol cryf ac yn darparu profiadau o'r safon uchaf un i'n holl ymwelwyr. Bydd gennych brofiad yn y maes rheoli ymwelwyr, a byddwch yn mynnu safonau cyflwyno a diogelwch uwch.
Os ydych yn arweinydd a rheolwr profiadol, wrth eich bodd yn gweithio mewn amgylchedd prysur a gydag eraill - gallai hon fod y swydd berffaith i chi!
**Am bwy ydym yn chwilio **
Byddai’n wych clywed gan bobl sydd â'r sgiliau/profiad canlynol:
Arweinydd deinamig, pragmataidd a llawn egni sydd â hanes o lwyddiant ym maes gweithrediadau ymwelwyr
Rheolwr llinell profiadol ac effeithiol
Hyfforddwr a mentor gwych, sydd â safonau perfformiad uchel
Unigolyn trefnus sy'n gallu ymdopi â nifer o flaenoriaethau
Gallu rheoli gweithrediadau, gan gynnwys cyllidebau, rotâu a chynlluniau, yn fedrus
Presenoldeb hyderus a digynnwrf sy'n cefnogi'r tîm ar draws yr eiddo
Yn fedrus wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid, er mwyn datblygu partneriaethau.
Y pecyn
Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.
O ba le bynnag y dewch, a waeth beth yw’ch cefndir, rydym yn awyddus i glywed gennych – p’un ai ydych yn rhoi jam yn gyntaf, hufen yn gyntaf, neu’n casáu sgons hyd yn oed, d’oes dim ots. Mae croeso i bawb.
Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:
Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd
Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)
Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
Cyflog
💰 £29,640
Lleoliad
📍 Wrecsam
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Polisi Caerdydd Ddwyieithog (Cymraeg Hanfodol)
Cyngor Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Polisi Caerdydd Ddwyieithog (Cymraeg Hanfodol)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae ein Tîm Caerdydd Ddwyieithog yn awyddus i gyflogi Swyddog Polisiyn Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd Caerdydd CF10 4UW.
Mae Caerdydd Ddwyieithog yn arwain y gwaith o ddatblygu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog lle gall pawb yn y brifddinas fanteisio ar wasanaethau a chymorth yn Gymraeg neu’n Saesneg Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd wedi dyblu dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae Caerdydd yn ddinas gynyddol ddwyieithog. Fel awdurdod lleol, rydym yn gweithio gyda chwmnïau yn y sector preifat a’r trydydd sector fel rhan o’r strategaeth ‘Caerdydd Ddwyieithog’ ehangach i geisio hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg yng Nghaerdydd.Nod y dull newydd a blaengar hwn o weithio yw chwalu’r muriau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, hyrwyddo dwyieithrwydd fel rhywbeth hollol naturiol a sicrhau bod gweledigaeth y Cyngor o greu ‘Caerdydd ddwyieithog’ yn cael ei gwireddu.
Am Y Swydd
Yn y rôl Swyddog Polisi hon byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth a byddwch yn dysgu sut i:
- Gefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i gyflawni Cynllun Gweithredu Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog amlasiantaethol ledled y ddinas 2022-27.
- Cynnig cyngor ar faterion sy'n ymwneud â Safonau'r Gymraeg statudol (Mesur y Gymraeg [Cymru] 2011), Polisïau'r Gymraeg ac agenda Caerdydd Ddwyieithog.
- Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i weithredu Safonau'r Gymraeg ar draws y Cyngor a chodi ymwybyddiaeth o'r Safonau hyn er mwyn sicrhau bod yr holl staff a chyfarwyddiaethau yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau dan ddeddfwriaeth y Gymraeg.
- Paratoi cyngor a chefnogaeth i'r holl staff, rheolwyr, aelodau etholedig a thrydydd partïon ar sut mae polisïau iaith y cyngor yn berthnasol i'w meysydd cyfrifoldeb. Rhoi cyngor a chymorth i unrhyw aelod arall o staff, y cyhoedd a sefydliadau allanol ar bob mater sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu a chydlynu polisïau a strategaethau i hwyluso a hyrwyddo’r Gymraeg/ Safonau’r Gymraeg er mwyn codi ymwybyddiaeth gorfforaethol o rwymedigaethau statudol y Cyngor a sicrhau bod staff yn cydymffurfio â’r safonau a bod gwasanaethau dwyieithog yn cael eu gwella.
- Delio ag unrhyw faterion eraill a allai godi yn ymwneud â'r Gymraeg, gan gynnwys ymchwiliadau Comisiynydd y Gymraeg, yn ôl y gofyn.
- Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog gyda gweinyddiaeth y Grŵp Caerdydd Ddwyieithog o Aelodau Trawsbleidiol ac unrhyw gyfarfodydd perthnasol eraill yn ôl yr angen.
- Cynrychioli'r Cyngor mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol perthnasol (e.e. Fforwm Partneriaid Caerdydd Ddwyieithog, Fforwm Cymraeg mewn Addysg ac ati)
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo Pennaeth Caerdydd Ddwyieithog a Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog ac yn rhoi cymorth ac arweiniad i Reolwyr a Staff Cyngor Caerdydd i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd y rôl hon yn cyfrannu at bob agwedd ar ddyletswyddau statudol y Cyngor gan gynnwys cefnogi'r gwaith o weithredu Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog i sicrhau ein bod yn cyflawni ein gweledigaeth i greu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog.
Mae'r gallu i weithio dan bwysau a chwblhau tasgau o fewn yr amserlenni y cytunir arnynt yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, yn ogystal â'r gallu i weithio a chyfathrebu i lefel uchel yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Rydym yn symud i fodel gweithio hybrid a fydd yn cynnwys gweithio mewn swyddfa a gartref ar-lein a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu'r sgiliau i gefnogi hyn. Pan fydd angen gweithio gartref, byddwch yn cael yr offer angenrheidiol, ond bydd angen i chi drefnu eich cysylltiad eich hun â’r rhyngrwyd.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Coleg Cambria yn edrych am Ddarlithydd Sgiliau Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. A ninnau eisoes wedi cael dyfarniad ‘Rhagorol’ yn ein harolygiad diweddar gan Estyn ac wedi ennill Gwobr Platinwm Iechyd yn y Gweithle y Safon Iechyd Corfforaethol, rydym yn teimlo ein bod wedi cael dechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…
Teitl y Swydd: Darlithydd Sgiliau Cymraeg
Lleoliad: Iâl, Wrecsam
Y Math o Gontract: Cyfnod Penodol - Rhan Amser (18.5 awr yr wythnos) hyd at 31 Awst 2023
Cyflog: £27,382 - £39,357 (pro rata) yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol.
Mae Coleg Cambria yn chwilio am Ddarlithydd Sgiliau Cymraeg i ymuno â’n tîm Cymraeg ar safle Iâl.
Fel Darlithydd Sgiliau Cymraeg byddwch yn gyfrifol am ddarparu cyrsiau iaith Gymraeg ar bob lefel yn rhithiol ac yn y dosbarth. Byddwch hefyd yn cynnig hyfforddiant iaith, mentora a chymorth i fyfyrwyr sydd eisiau parhau gyda’u hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gofynion Hanfodol
Gydag o leiaf cymhwyster lefel 4 neu gyfwerth
Gyda chymhwyster dysgu neu'n foldlon gweithio tuag ato
Rhaid gallu cyfathrebu a chyflwyno dysgu’n rhugl trwy gyfrwng y Gymraeg
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, yn agored ac yn ymatebol i anghenion pobl eraill, ac yn gallu adnabod cryfderau ac anghenion datblygu’r myfyrwyr a’u gwneud yn ymwybodol ohonynt hefyd.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.
Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar y safle
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Cyflog
💰 £27,382 - £39,357 pro rata
Lleoliad
📍 Wrecsam
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Gweithgareddau Chwaraeon
Urdd Gobaith Cymru
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Gydlynydd Gweithgareddau Chwaraeon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922, wedi cyflawni llawer wrth gynnig profiadau Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol a Gwirfoddoli i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru. Heddiw mae gan yr Urdd 55,000 o aelodau. Mae hyn wedi eu galluogi i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau a chymdeithas, ymestyn eu gorwelion a chynyddu eu hunan hyder.
Mae’r Urdd wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Ar drothwy ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Nod y swydd fydd cynyddu cyfranogaeth plant a phobl ifanc mewn gweithgaredd chwaraeon cyson, drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Jamie Price Rheolwr Rhanbarthol Chwaraeon y De ar [email protected]
Anfonwch Ffurflen Gais ar e-bost at [email protected]
Dyddiad Cau – 25/05/2022
Dyddiad Cyfweld - 31/05/2022 Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £19,601 - £22,058
Lleoliad
📍 Gorllewin Morgannwg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn edrych am Brif Swyddog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yw’r prif fudiad sy’n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i oedolion sy’n ofalwyr di-dâl yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn. Wedi’i sefydlu ym 1991, daeth y mudiad yn elusen gofrestredig ym 1997, ac mae wedi mynd o nerth i nerth, gan sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn ganolog i bopeth a wna.
Mae gofalwyr di-dâl yn parhau i wynebu heriau di-ri, ac mae mwy o lawer y medrir ei wneud o hyd i wella a chefnogi eu bywydau ymhellach.
Ydych chi’n barod am yr her hon?
Am ragor o wybodaeth a phecyn cais, cysylltwch â Julie Oatey ar [email protected] i ofyn am becyn swydd.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner dydd, 6 Mehefin 2022
Cyflog
💰 £38,052 - £43,757
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Tinopolis yn edrych am Ymchwilydd - Heno / Prynhawn Da
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ry’n ni’n chwilio am ymchwilydd cynnwys creadigol i ymuno â thîm Heno a Prynhawn Da. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm brwdfrydig ac uchelgeisiol ar raglenni sydd ymhlith y mwyaf poblogaidd ar S4C.
Mae’n gyfle cyffrous i greu cynnwys blaengar gwreiddiol ar gyfer rhaglenni a chyfresi aml lwyfan i S4C. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol ddiddordeb amlwg yn y diwydiannau creadigol a’r gallu i greu cynnwys apelgar.
Y prif ddyletswyddau fydd dod o hyd i straeon gwreiddiol poblogaidd ar gyfer Heno a Prynhawn Da, straeon adloniannol fydd yn creu sgwrs ar bob llwyfan darlledu. Byddwch yn paratoi eitemau stiwdio a phecynnau wedi’u ffilmio ar leoliad ac yn dilyn eitemau o’r syniad i’r sgrin. Bydd cyfleoedd hefyd i weithio ar raglenni eraill Tinopolis fel Ralio, Pawb a’i Farn a dogfennau amrywiol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn angenrheidiol.
Rydym yn gwmni sy’n awyddus i adlewyrchu’r cymunedau ry’ ni’n gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfleon cyfartal, ac rydym bob amser yn croesawu ceisiadau wrth unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb, a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Gydraddoldeb 2010.
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Llanelli
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cymorth Gweithredol
Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys yn edrych am Swyddog Cymorth Gweithredol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Os ydych yn credu bod gennych y sgiliau a’r angerdd ar gyfer y rôl hon yna cliciwch ar y ddolen isod i weld proffil y rôl. Os ydych yn credu mai dyma’r swydd i chi, yna cwblhewch ffurflen gais, gan nodi tystiolaeth yn erbyn pob cyrhaeddiad penodol a generig (sydd fel arfer i’w cael ar dudalen olaf y proffil rôl).
Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau i ymgeiswyr ar ein gwefan sy’n darparu mwy o fanylion ynghylch sut i gwblhau eich cais.
Bydd y cyflog yn ôl cyfran ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriadau meddygol a fetio.
Cyflog
💰 £26016 - £28725
Lleoliad
📍 Sir Gaerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ysgrifennydd Cyfreithiol
Arnold Davies Vincent Evans
Mae Arnold Davies Vincent Evans yn edrych am Ysgrifennydd Cyfreithiol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfreithwyr Arnold Davies Vincent Evans, Llanbedr Pont Steffan
Nid yw profiad cyfreithiol yn angenrheidiol.
Mae sgiliau ysgrifenedig a chyfathrebu da, a sylw i fanylder yn hanfodol.
Bydd y gallu i deipio wrth wrando yn fantais ond ddim yn angenrheidiol, a’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddelfrydol. Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at sylw Mrs E Davies erbyn dydd Mercher, 1af o Fehefin 2022.
Am sgwrs anffurfiol ffoniwch 01570 422 233
Cyflog
💰 £19,000 - £20,000
Lleoliad
📍 Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Business in Focus yn edrych am Gynghorwyr Busnes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gan Business in Focus Ltd sawl contract busnes gyda phortffolio o gleientiaid gwahanol e.e. Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes a Llywodraeth Cymru. Mae'r contractau hyn yn cynnig gwasanaethau sy'n ymwneud â chymorth busnes yng Nghymru a ledled y DU. Rheolir y contractau hyn gan y Rheolwr Contractau Busnes. Mae tîm o gynghorwyr busnes sy'n darparu'r gwasanaethau hyn gyda phortffolio o ddefnyddwyr terfynol.
**Crynodeb o'r Swydd: **
Bydd Cynghorwyr Busnes yn rheoli portffolio o hyd at 40 o unigolion sy'n dechrau busnesau, busnesau newydd cyfnod cynnar a busnesau sy'n bodoli eisoes ar ôl Covid. Ar gyfer busnesau newydd sydd heb eu sefydlu eto ac sydd ar ddechrau cyfnod cynnar, bydd y Cynghorydd Busnes yn darparu dull diduedd sy'n canolbwyntio ar fusnes, gan gynnig cymorth penodol drwy gyfuniad o sesiynau un i un rhithiol a gweminarau, neu alwadau ffôn. Bydd y ddarpariaeth yn rhithwir/digidol yn bennaf, ond ceir darpariaeth gorfforol sylweddol i feithrin cysylltiadau, sicrhau bod atgyfeiriadau'n cael eu gwneud a chynwysoldeb. Ar gyfer busnesau sefydledig, bydd y Cynghorydd Busnes yn trefnu cyfarfodydd rhithiol un i un er mwyn gwneud diagnosis o anghenion y busnes ac yn cynnig cymorth addas penodol, gan hwyluso mynediad i gynghorwyr arbenigol a chymorth gan Busnes Cymru, fel y bo'n briodol.
DYMUNOL:
Cymhwyster sy'n gysylltiedig â chynghori, e.e. Cymhwyster Cymorth Busnes y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5, SFEDI Lefel 5, neu gyfwerth, NEU Cymhwyster sy'n gysylltiedig â rheoli, e.e. Cymhwyster Rheoli y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5, neu gyfwerth, NEU Gymhwyster busnes lefel gradd
**Prif Gyfrifoldebau: **
- Sefydlu cysylltiadau â chleientiaid er mwyn cael trafodaethau cychwynnol i gael dealltwriaeth o'r cleient a'u syniad busnes drwy sesiynau un i un a grŵp. Canfod pa heriau personol sydd ganddynt ac y mae angen iddynt eu goresgyn a chytuno ar gynllun gweithredu ynghylch sut i'w cefnogi i oresgyn y materion/rhwystrau hyn.
- Deall prif elfennau a gofynion syniadau busnes er mwyn nodi materion a/neu gyfleoedd i ddatblygu'r syniad busnes.
- Cynnig gwybodaeth a chymorth i gleientiaid ynghylch materion busnes i'w helpu nhw ddechrau busnes. Gwneud atgyfeiriadau at arbenigwyr priodol / rhaglenni Llywodraeth Cymru/ Gwasanaeth Busnes Cymru ar gyfer BBaCh.
- Cofnodi a chwblhau cynlluniau gweithredu'n gywir, gweithgarwch â chleientiaid, canlyniadau a'r holl waith papur cysylltiedig yn unol â gofynion cytundebol Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person a gweithdrefnau gweithredol. Sicrhau bod oriau cymorth yn cael eu cynnig, eu cofnodi a'u cymeradwyo.
- Datblygu a darparu cymorth wedi'i deilwra sy'n cyfuno gweminarau a fideogynadledda un i un i fusnesau newydd cyn dechrau, cyfnod cynnar a busnesau sy'n bodoli eisoes mewn modd proffesiynol a gwybodus.
- Cynnal cyfarfodydd un i un gyda busnesau presennol i wneud diagnosis o'r anghenion busnes a'r cymorth sydd ei angen, gan arwain at gefnogi'r perchennog i ddatblygu Cynllun Gweithredu. Ar ôl ei ddatblygu, cefnogi'r perchennog i esblygu'r cynllun a'u cyflwyno i rwydweithiau cymorth a chyngor perthnasol er mwyn rhoi hwb i'w gwybodaeth a'u hyder.
- Sefydlu a datblygu rhwydwaith effeithiol o gysylltiadau, e.e. Canolfannau Gwaith, Cymunedau am Waith, Cymdeithasau Tai, CGS, i hyrwyddo'r prosiect a denu ac ymgysylltu â phobl leol i ystyried hunangyflogaeth.
- Cefnogi Hwylusydd CRF i nodi a datblygu digwyddiadau i hyrwyddo'r gwasanaeth. Ymgymryd â'r gweithgareddau hyn mewn ffordd broffesiynol a gwybodus.
- Meithrin cysylltiadau effeithiol â chleientiaid, cydweithwyr a chyflenwyr; yn y sector cyhoeddus a'r gwasanaethau sydd ar gael o'r sector preifat.
- Bod ar flaen y datblygiadau diweddaraf mewn busnes ac arferion, cymryd rhan mewn sesiynau uwchsgilio, bod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael gan wasanaethau cymorth busnes lleol a ledled Cymru.
- Rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid a gweithio gyda nhw i roi gwelliannau parhaus ar with.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n rhesymol ofynnol gan yr Uwch Dîm Rheoli.
Cyflog
💰 £30,000
Lleoliad
📍 Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Diwtor Marchnata dan hyfforddiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti’n berson sydd:
â diddordeb mewn pobl? yn llawn syniadau creadigol? â’r gallu i ysbrydoli eraill? eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu?
Os felly, ymgeisia am swydd Tiwtor Marchnata dan Hyfforddiant gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin (DCGO).
Mae DCGO yn un o 11 darparwr cyrsiau Cymraeg i Oedolion yng Nghymru dan nawdd Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac yn cyflogi dros 70 o staff. Gyda 50 mlynedd o brofiad yn y maes a bron i 2000 o ddysgwyr, mae DCGO wedi derbyn y farn ‘Rhagorol’ gan Estyn gan gadarnhau ei statws fel y darparwr mwyaf ac uchaf ei safon trwy Gymru gyfan.
Swydd dan Hyfforddiant
Os wyt ti’n awyddus i ennill amrywiaeth o brofiadau ym myd gwaith ac eisiau dechrau meithrin arbenigedd ym maes marchnata, addysg oedolion a chynllunio iaith, dyma’r swydd berffaith i ti.
Fel Tiwtor Marchnata dan Hyfforddiant byddi’n cydweithio â’r Tiwtor Marchnata presennol ar ymgyrch farchnata’r haf; gwaith allweddol o bwysig er mwyn denu dysgwyr newydd cyn dechrau’r flwyddyn academaidd. Byddi’n cael pob cefnogaeth i gwblhau hyfforddiant marchnata a TG a ddarperir i staff y brifysgol.
Cyn dechrau dysgu, byddi’n cael y cyfle i astudio Tystysgrif Lefel 4 CBAC i Diwtoriaid Dysgu Cymraeg, a thrwy hynny, yn cael mewnwelediad gwerthfawr i ddulliau dysgu ac addysgu’r Gymraeg. Yn ogystal â’r hyfforddiant, byddi’n dod yn rhan o’n cymuned glòs o diwtoriaid ac yn cael mentor a fydd wrth law i dy gefnogi yn ystod dy dymor cyntaf yn y dosbarth.
Bwriad y swydd yw rhoi'r cyfle hyfforddiant, i gefnogi unigolyn i ddatblygu'r profiad a sgiliau fydd yna yn cynnig sylfaen iddynt ystyried cyfleoedd bellach yn y maes. Er hyn bydd y swydd am gyfnod penodol yn unig. Mae’r swydd yn un llawn amser ac mae ar gael hyd at 31 Gorffennaf 2023, a bydd y lleoliad gwaith i’w gytuno arno gyda’r ymgeisydd llwyddiannus. Mae’r brifysgol yn gweithredu dull hybrid o weithio ar hyn o bryd.
Disgwylir i ddeiliad y swydd ddechrau cyn gynted â phosib ar ôl 31 Mai 2021.
Dylai ymgeiswyr fod gyda 2 Lefel Uwch Gyfrannol neu 1 Lefel A neu NVQ Lefel 3 mewn pwnc perthnasol, neu brofiad cyfatebol.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn Hanfodol i'r swydd hon.
Derbyniwn geisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 6 Mehefin 2022.
Bydd cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn cael eu cynnal ym Mangor dydd Mercher 15/6/22.
Cyflog
💰 £23,487 - £26,341
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!