Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch Swyddog Clercyddol

Prifysgol Bangor

💰 £24k - £27k 📍 Bangor Ar gau

Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Uwch Swyddog Clercyddol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r Coleg Gwyddorau Dynol yn awyddus i benodi Uwch Swyddog Clercyddol parhaol, llawn amser i ymuno â Thîm Gweinyddol y Coleg. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol yn benodol am yr Ysgol Gwyddorau Addysgol.

Bydd y dyletswyddau'n cynnwys darparu cefnogaeth weinyddol effeithlon i Bennaeth yr Ysgol a'r Uwch Dîm Gweithredol a threfnu a rhoi prosesau a gweithdrefnau gweinyddol ar waith o fewn yr Ysgol o ddydd i ddydd.

Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg i safon Lefel A neu NVQ Lefel 3 (neu gymhwyster cyfwerth) mewn maes pwnc perthnasol, neu feddu ar brofiad gweinyddol perthnasol. Dylai fod gan yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd brofiad o weithio mewn swyddfa / swydd weinyddol a gallu defnyddio rhaglenni Microsoft Office. Dylai ymgeiswyr fedru dangos sgiliau trefnu ardderchog a’r gallu i drin baich gwaith amrywiol a thrwm.

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib. 

Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad. 

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 27 Chwefror, 2023.

Cewch wneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â: Gwawr Griffiths, Gweinyddwr y Coleg, e-bost: [email protected].

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal

Cyflog

💰 £24,285 - £27,131

Lleoliad

📍 Bangor

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +3 Ar gau

GwE

💰 GS3 📍 Yr Wyddgrug Ar gau

GwE

💰 GS3 📍 Bae Colwyn Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Hyblyg📍 Caerfyrddin +3 Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19k 📍 Hyblyg Ar gau

Ysgol Brynhyfryd

💰 PRC/ URC CAD1b 📍 Rhuthun Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £31k - £34k 📍 Caerdydd Ar gau

S4C

💰 £30k - £38k 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £25k - £28k 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £30k 📍 Bae Colwyn📍 Bae Caerdydd +1 Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £27k 📍 Bangor Ar gau

Y Lolfa Cyf

💰 I'w drafod 📍 Talybont Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £26k pro rata 📍 Porthmadog Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £22k pro rata 📍 Penygroes📍 O gartref Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £25k - £27k 📍 Ynys Môn Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £28k - £31k 📍 Hyblyg📍 Gwynedd +1 Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £40k - £44k 📍 Hyblyg📍 Dinbych +3 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £20k - £22k 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £32k 📍 Y Bala📍 Dinbych +2 Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £27k - £42k 📍 O fewn a thu allan i Geredigion Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £40k - £44k 📍 Hyblyg📍 Penygroes +2 Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £37k - £46k pro rata 📍 Llangefni📍 Aberystwyth +2 Ar gau

ITV Cymru Wales

💰 I'w drafod 📍 Caerdydd Ar gau