Swyddog Gwybodaeth a Dysgu
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn edrych am Swyddog Gwybodaeth a Dysgu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw ariannwr cymunedol mwyaf y DU. Rydym yn dyfarnu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i brosiectau cymunedol sy’n dod â syniadau ac uchelgeisiau pobl yn fyw. Rydym yn cefnogi ystod eang o brosiectau iechyd, addysgol, amgylcheddol ac elusennol gyda grantiau’n amrywio o gyn lleied â £500 i raglenni gwerth miliynau o bunnoedd. Roedd 86% o'n grantiau newydd am lai na £10k.
Mae arian y Loteri Genedlaethol yn agored i bawb, ac mae’n fraint i ni allu gweithio gyda’r grwpiau lleiaf ar lawr gwlad hyd at elusennau mawr ledled y DU.
Mae cyfle wedi codi i ddau Swyddog Gwybodaeth a Dysgu parhaol llawn amser i ymuno â’n tîm yng Nghymru i gefnogi cydweithwyr, deiliaid grant a rhanddeiliaid i rannu, creu a defnyddio Gwybodaeth a Dysgu yn effeithiol drwy:
- Cefnogi datblygiad ein rhaglenni grant a dangos eu heffaith i’n rhanddeiliaid
- Ein helpu i ddeall ac ymateb i anghenion cymunedau ledled Cymru
- Cynnal gweithgareddau sy'n rhannu ac yn cyfnewid Gwybodaeth a Dysgu i gefnogi ein gwaith ni a gwaith eraill.
- Yn ogystal â defnyddio Gwybodaeth a Dysgu i lywio polisi ac arferion o fewn a thu allan i'r Gronfa, byddwch hefyd yn hwyluso gweithgareddau dysgu ar gyfer staff, deiliaid grant a rhanddeiliaid. Byddwch yn arwain gweithgarwch o amgylch ein themâu dysgu blaenaf ac yn cefnogi ein tri thîm rhanbarthol yng Nghymru i wneud hynny hefyd. Byddwch hefyd yn sganio'r amgylchedd allanol i gael gwybodaeth am yr hyn y mae eraill yn ei wneud.
Gan dynnu ar eich gwybodaeth am bolisi, a’r sectorau gwirfoddol a chyhoeddus yng Nghymru, byddwch yn cynghori cydweithwyr a phenderfynwyr am sut y gall ein cyllid gael yr effaith fwyaf.
Dyddiad y cyfweliad: Wythnos yn dechrau 20fed o Fawrth
**Lleoliad: **Caerdydd neu’r Drenewydd
Mae gennym ddull hybrid o weithio, a bydd patrwm gwaith a lleoliad yn cael eu cytuno arnynt gyda'r ymgeisydd llwyddiannus. Gall y rôl fod yn ein swyddfa yng Nghaerdydd neu'r Drenewydd.
Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â: [email protected]
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau ymchwil a dadansoddi
- Y gallu i ysgrifennu a siarad am syniadau a gwybodaeth gymhleth mewn ffordd ddifyr a syml
- Sgiliau hwyluso – profiad o gynnull a hwyluso trafodaethau lle mae pobl yn rhannu ac yn trafod syniadau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau
- Wedi’ch ysgogi gan werthoedd ac yn angerddol dros bwrpas y Gronfa
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am amgylchedd polisi Cymru, yn enwedig Llywodraeth Cymru
- Gwybodaeth am y sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru
- Y gallu i weithio'n hyblyg ac ymdrin â blaenoriaethau cystadleuol lluosog o fewn tîm bach
- Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg
Cyfle Cyfartal
Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob siâp a maint. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd lle mae ei angen.
Credwn hefyd y dylai ein pobl gynrychioli'r cymunedau, y sefydliadau a'r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym wedi ymrwymo i fod yn lle cynhwysol a gwych i weithio, ac rydym yn cydnabod bod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. O'r herwydd, rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl ag anableddau, cefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (B.A.M.E), LGBTQ+ ac o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol.
Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol os bydd angen drwy'r broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol.
Cyflog
💰 £25,019 - £28,399
Lleoliad
📍 Caerdydd, Y Drenewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Prosiect (1 FTE)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gydlynydd Prosiect (1 FTE)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle gwych i ymuno â thîm Cyswllt Ffermio i gydlynu a chefnogi’r gwaith o ddarparu Agrisgôp, y rhaglen fentora ac academi Amaeth i ffermwyr yng Nghymru.
Disgrifiad:
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i’r sector amaeth trwy Gymru gyfan. Ei brif ffocws yw i gynorthwyo ffermwyr i baratoi tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan annog y sector i addasu ac i barhau i fod yn gystadleuol tra’n symud tuag at economi carbon isel. Nod
Cydlynu a chefnogi'r gwaith o ddarparu Agrisgôp, y rhaglen fentora ac academi Amaeth i ffermwyr yng Nghymru gan sicrhau bod targedau'n cael eu cyflawni a bod y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu o'r safon uchaf. Prif Gyfrifoldebau
· Cydlynu pob elfen o gadw cofnodion ac adrodd ar gyfer elfennau perthnasol rhaglen Cyswllt Ffermio a gweithredu gwelliannau i brosesau gweinyddu lle bo angen
· Darparu cymorth gweinyddu i'r tîm o arweinwyr Agrisgôp i sicrhau bod cofnodion o'u gweithgareddau a'u grwpiau yn cael eu cofnodi a'u dadansoddi i'r terfynau amser y cytunwyd arnynt a mynd ar drywydd gwaith papur coll lle bo angen
· Rhoi cymorth gweinyddol ar gyfer fframwaith mentoriaid ffermwr i sicrhau bod dyddiaduron ac anfonebau mentora yn cael eu derbyn yn unol â'r terfynau amser y cytunwyd arnynt a mynd ar drywydd gwaith papur coll lle bo angen
· Ymdrin ag ymholiadau'n ymwneud â'r rhaglen a datblygu asesiad clir a dealltwriaeth o anghenion y ffermwr a'r coedwigwr cyn eu cofrestru gyda'r pecyn cymorth mwyaf priodol
· Cynorthwyo cwsmeriaid sydd wedi cofrestru gyda'r rhaglen i wneud cais am wasanaethau eraill a fydd yn cefnogi eu dilyniant drwy Cyswllt Ffermio
· Cyfathrebu â ffermwyr yn rheolaidd gan weithredu fel prif bwynt cyswllt i'r rhai sy'n dymuno gwneud cais am fentor, gan eu tywys drwy gydol y broses fentora
· Gweithio gydag arweinydd y tîm i neilltuo mentoriaid i fentoreion pan fydd ceisiadau'n cael eu cyflwyno a chyhoeddi'r gwaith papur perthnasol
· Sicrhau bod yr holl gofnodion sy'n ymwneud â'r gweithgareddau o'r safonau uchaf ac yn cydlynu coladu adborth cwsmeriaid
· Cysylltu ag Arweinwyr yr Academi Amaeth i'w cefnogi gyda threfnu a chynnal dosbarthiadau'r Academi Amaeth
· Cydlynu proses recriwtio’r Academi Amaeth a hysbysu ymgeiswyr llwyddiannus/aflwyddiannus
· Bod yn gyfrifol am archebu lleoliadau, lluniaeth a threfnu cludiant pan fo angen
· Sicrhau bod gweithgareddau a digwyddiadau'n rhedeg yn llyfn a rhoi gwerth i gwsmeriaid · Bod yn gyfrifol am gasglu gwybodaeth cleientiaid ar yr holl gyfranogwyr a'r mynychwyr a sicrhau eu bod yn cael eu lanlwytho i'r gronfa ddata ganolog (BAS)
· Gweithio'n agos gyda'r Swyddogion Datblygu i sicrhau bod ymholiadau yn ymwneud â gweithgareddau Datblygu a Mentora yn cael eu trin yn unol â hynny
· Cyflenwi ystadegau cywir ar gyfer yr adroddiadau misol a monitro niferoedd sy'n mynychu gweithgareddau gan sicrhau bod y cronfeydd data a'r systemau canolog (BAS a CMS) yn cael eu diweddaru mewn modd amserol
· Coladu'r gwaith papur a gyflwynir gan is-gontractwyr a gwirio ei fod yn bodloni'r gofynion angenrheidiol **Arall **
· Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmeriaid, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch yn cael eu bodloni
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
· Addysg hyd at lefel gradd mewn amaeth neu bwnc perthnasol neu brofiad dangosadwy o weithio yn y sector amaeth yng Nghymru
· Gallu i asesu a deall yn glir anghenion busnesau fferm/coedwigaeth, y gefnogaeth sydd angen a’i gofynion
· Sgiliau cydlynu a threfnu rhagorol
· Sgiliau gweinyddol a rhyngbersonol gwych
· Gallu asesu a delio gydag ymholiadau’n gyflym ac effeithiol
· Gallu adnabod anghenion y cwsmer a thynnu’r wybodaeth berthnasol i deilwra cyngor i ofynion penodol y cwsmer
· Cyfathrebu llafar o safon uchel
· Sgiliau ysgrifenedig dwyieithog cywir
· Sgiliau gwasanaeth cwsmer rhagorol
· Dealltwriaeth dda neu brofiad o’r sector amaethyddiaeth / gwledig
· Gallu mewnbynnu data’n gywir a chydymffurfio gyda deddfau diogelu data perthnasol
· Gallu ysgogi ei hun i weithio gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni ei amcanion a’i waith ei hun, gan ystyried anghenion y cwsmer
· Rhagweithiol a brwdfrydig am waith yr Adran Wledig
· Gallu bod yn rhagweithiol a gyrru pethau ymlaen yn effeithlon
· Gallu parhau gyda’i waith ei hun yn ogystal â bod yn rhan o dîm
· Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)
· Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod
· Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio
· Ar gael i weithio gyda’r nos fel y bo’r gofyn **Dymunol **
· Gwybodaeth am raglen Cyswllt Ffermio Gwneud Cais
Gellir gwneud ceisiadau am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan: www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected] Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Einir Davies ar 07985 155 514 neu [email protected] Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 10.00yb, dydd Llun, 13 Mawrth 2023. Cyfweliadau Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar wythnos cychwyn 20 Mawrth 2023. Os yw’r dyddiad yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Mae ein Polici Cydraddoldeb ac Amyrwiaeth i’w weld ar ein gwefan.
Cyflog
💰 £21,979 - £23,749
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Iechyd Cyhoeddus
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Swyddog Iechyd Cyhoeddus
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad:
1. Goruchwylio cydymffurfiad â gweithdrefnau a pholisïau rheoli clefydau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwyliadwriaeth mewn lleoliadau cymunedol, ymchwilio i achosion o wenwyn bwyd ac achosion o glefydau hysbysadwy statudol.
2. Ymateb i ac ymchwilio i hysbysiadau / rhybuddion o system rheoli digwyddiadau ar-lein Iechyd Cyhoeddus Cymru a elwir yn TARIAN ar hyn o bryd, ac asesu'r risg.
3. Darparu cyngor a chefnogaeth atal a rheoli heintiau i wahanol leoliadau fel gwasanaethau gofal, llongau eithwyr, ysgolion, a lleoliadau gofal plant ac ati i sicrhau bod rheolaethau heintiau priodol ar waith.
4. Cychwyn gorfodaeth a chamau cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth Iechyd y Cyhoedd a'r Amgylchedd, ar ôl cyfeirio materion at y rheolwr llinell. Mae'r rhain yn cynnwys paratoi a chyflwyno rhybuddion, paratoi a rhoi tystiolaeth mewn achosion cyfreithiol. Ymgymryd â'r gweithgareddau gorfodi gofynnol yn ôl yr angen i sicrhau cydymffurfiad rheoliadol yn amrywio o gyngor anffurfiol i gamau ffurfiol ac erlyn yn unol â Chodau Arferion a chanllawiau.
Cyngor Sir Ynys Môn
Swydd Disgrifiad / Manyleb Person
RHAN A
- Cefnogi Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a chydweithwyr atal heintiau eraill i adnabod, ymchwilio, rheoli ac adrodd yn brydlon am achosion sy'n gysylltiedig â chlefydau heintus hysbysadwy, clefydau trosglwyddadwy ac achosion o wenwyn bwyd.
- Casglu, trefnu, dilysu ac adrodd yn ôl i gydweithwyr a rheolwyr ar ddata o archwiliadau a gweithgareddau ymchwilio.
- Cynnal cofnodion cywir a chynhwysfawr. Cynnal ffeiliau safleoedd, nodiadau achos, a lle bo hynny'n briodol, paratoi ffurflenni blynyddol / paratoi adroddiadau i asiantaethau perthnasol eraill.
- Cynnal archwiliadau hylendid bwyd yn unol â Chod Ymarfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
- Sicrhau cymhwysedd a dangos Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn unol â safonau proffesiynol a gofynion statudol. Bod yn ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â deddfwriaeth newydd sy'n effeithio ar waith yr adran.
- Sicrhau cydymffurfiad llawn â holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol y Cyngor Sir (e.e. Caffael yr UE a Rheoliadau Ariannol y Cyngor; Deddf Diogelu Data; Rhyddid Gwybodaeth; Deddf Cydraddoldeb 2010; Safonau’r Iaith Gymraeg).
- Cydymffurfio â Pholisi Diogelu Corfforaethol yr awdurdod lleol a'r dyletswyddau a chyfrifoldebau diogelu y mae'r polisi hwnnw'n eu gosod ar bob gweithiwr, yn cyd-fynd â gwerthoedd craidd yr Awdurdod sy'n cynnwys cefnogi plant, oedolion sydd mewn perygl a'u teuluoedd i'w cadw'n ddiogel ac iach.
- Gall bod gofyn i ddeiliad y swydd gyflawni unrhyw gyfrifoldebau eraill hefyd fel sy'n briodol o ran natur y swydd a'i gradd.
Cyflog
💰 £32,020 - £35,411
Lleoliad
📍 Ynys Môn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyhoeddwr (rhan amser)
Mae S4C yn edrych am Gyhoeddwr (rhan amser)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Gyhoeddwr rhan amser i ymuno a’r adran Gyhoeddi. Byddwch yn gyfrifol am gyflwyno a chyfansoddi 'lincs' rhwng rhaglenni S4C ac yn ystod toriadau hysbysebion gan gynnwys unrhyw waith llenwi sy'n angenrheidiol er mwyn cywiro’r amserlen darlledu neu er mwyn cyfleu gwybodaeth i'r cyhoedd, a pha bynnag waith cyflwyno arall y bo ei angen ar S4C yn ystod eich oriau gwaith.
Bydd y gwaith yma yn cynnwys yr holl waith gweinyddol sy'n deillio o'ch dyletswyddau fel Cyhoeddwr, gwaith hyrwyddo a chyhoeddusrwydd ar ran S4C gan gynnwys ond heb gyfyngiad ymddangosiadau cyhoeddus, dybio a throsleisio ar gyfer unrhyw waith hyrwyddo neu gynnyrch eraill a gynhyrchir neu a gomisiynir gan S4C.
Mae’r gallu i gyfathrebu ar lafar yn gywir ac yn raenus yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Yn ogystal, mae’r gallu i ysgrifennu yn gywir yn y Gymraeg a’r Saesneg i safon uchel yn hanfodol.
Fel rhan o’r cais, bydd angen recordiad o’ch llais yn cyhoeddi’r sgriptiau y byddwn yn ei ddarparu ar eich cyfer. Pob recordiad i fod dim llai na 10 eiliad o hyd a dim mwy na 25 eiliad.
Manylion eraill
**Lleoliad: **Lleoliad arferol eich gwaith fydd Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1FT ond disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.
Cyflog: £27.26 yr awr
**Oriau gwaith: **Mi fyddwn yn gweithio 23.33 awr pob tair wythnos. Ar y diwrnodau yma byddwch yn gweithio patrwm shift dydd Sadwrn 12.00 - 24.00 a dydd Sul 12.00 - 24.00.
**Cytundeb: **26 wythnos
Cyfnod prawf: 12 wythnos
Gwyliau: 3.5 diwrnod, sef swm pro rata am y cyfnod.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
**Ceisiadau **
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mercher 8 Mawrth 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.
Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.
Cyflog
💰 £27.26 yr awr
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd y Ganolfan Wasanaeth (2 FTE)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gynorthwyydd y Ganolfan Wasanaeth (2 FTE)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle gwych i ymuno â thîm Cyswllt Ffermio gan gefnogi Arweinydd y Ganolfan Wasanaeth i ddarparu gwasanaeth cwsmer ardderchog.
Disgrifiad:
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i’r sector amaeth trwy Gymru gyfan. Ei brif ffocws yw i gynorthwyo ffermwyr i baratoi tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan annog y sector i addasu ac i barhau i fod yn gystadleuol tra’n symud tuag at economi carbon isel. Nod
Cefnogi Arweinydd y Ganolfan Wasanaeth er mwyn darparu gwasanaeth cwsmer ardderchog gan sicrhau bod yr holl ymholiadau’n cael eu hymateb neu gyfeirio at yr aelod tîm priodol yn brydlon a bod y data’n cael ei fewnbynnu’n gywir i system gyfrifiadurol y prosiect. Prif Gyfrifoldebau
· Darparu gwasanaeth cwsmer ardderchog i gwsmeriaid allanol a thîm mewnol Cyswllt Ffermio, gan ymateb i ymholiadau yn llawn gwybodaeth, yn gywir ac yn amserol (dros y ffôn, e-byst a dulliau eraill i gysylltu â’r tîm)
· Dilyn prosesau a chanllawiau’r Ganolfan Wasanaeth yn ddiwyd wrth dderbyn ymholiadau
· Sicrhau fod aelodau tîm perthnasol yn derbyn ymholiadau lle’n briodol, gan gadw cofnod llawn a chyfredol o bob gweithred
· Mewnbynnu data i’r system gyfrifiadurol y prosiect yn gywir
· Cyflawni gwaith gweinyddol cyffredinol i safon uchel, gan gynnwys cefnogi timau perthnasol eraill Cyswllt Ffermio
· Cynorthwyo i drefnu digwyddiadau CFf (e.e. cadarnhau lleoliadau ac ati)
· Mynychu cyfarfodydd gan gynrychioli’r Canolfan Wasanaeth
· Gofalu am a diweddaru proffiliau cwsmer, gan ofalu eu bod yn gynhwysfawr, cyfredol a chywir ac yn cydymffurfio â rheoliadau Llywodraeth Cymru a Diogelu Data
· Delio gyda cheisiadau’r Gwasanaeth Sgiliau a’r Gwasanaeth Cynghori a chwblhau’r gwiriadau angenrheidiol, yn unol â chanllawiau’r Ganolfan Wasanaeth
· Sicrhau fod y cwsmeriaid, Cynghorwyr a Swyddogion Datblygu yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chymeradwyaeth gwasanaethau i’r cwsmeriaid yn amserol
· Cefnogi i goladu’r holl dystiolaeth ar gyfer gweithgareddau’r Gwasanaethau Cynghori a’r Gwasanaeth Sgiliau i bob cwsmer
· Tynnu sylw Arweinydd y Ganolfan Wasanaeth at unrhyw broblemau posib fel y bo'n briodol, a chyn gynted ag y bo modd
· Cynrychioli Cyswllt Ffermio mewn digwyddiadau o bryd i’w gilydd
· Galluogi integreiddiad ar draws holl agweddau’r Rhaglen Cyswllt Ffermio drwy hybu’r holl weithgareddau a digwyddiadau Cyswllt Ffermio lle bynnag y bo’n bosibl
· Mynychu cyfarfodydd tîm, timoedd eraill CFf ac adrodd yn ôl i dîm y Ganolfan Wasanaeth gydag unrhyw ddatblygiadau / newidiadau
· Cynorthwyo gyda chwblhau amryw o holiaduron gyda’n cwsmeriaid fel yr angen
· Sicrhau fod data am bresenoldeb mewn digwyddiadau’n cael eu llwytho a’u cofnodi’n gywir ac yn brydlon ar BAS **Arall **
· Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
· Cynorthwyo’r Ganolfan Wasanaeth i ddelio ag unrhyw ymholiadau a phrosesu data
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill yn ôl y galw
· Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
· Sgiliau rhyngbersonol a gweinyddol cyffredinol gwych
· Sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol yn llafar ac yn ysgrifenedig
· Gallu mewnbynnu data’n gywir a chadw data i gydymffurfio â deddfau diogelu data perthnasol
· Sgiliau trefnu, cydgysylltu a rheoli amser da
· Sgiliau gwasanaeth cwsmer rhagorol
· Bod yn flaengar a brwdfrydig am waith yr Adran Wledig
· Gallu bod yn rhagweithiol a gyrru pethau yn eu blaen yn effeithiol
· Gallu gweithio’n annibynnol yn ogystal ag o fewn tîm
· Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)
· Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod Gwneud Cais
Gellir gwneud ceisiadau am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan: www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected] Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Bethan Arch ar 01970 636 289 neu [email protected] Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 10.00yb, dydd Llun, 13 Mawrth 2023. Cyfweliadau
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar ddydd Iau, 16 Mawrth 2023. Os yw’r dyddiad yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae ein Polisi Cydraddoldeb ac Amyrwiaeth i’w weld ar ein gwefan.
Cyflog
💰 £20,919 - £22,367
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd a Phrawf Ddarllenydd (1.5 FTE)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gyfieithydd a Phrawf Ddarllenydd (1.5 FTE)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle gwych i ymuno â thîm prosiect Cyswllt Ffermio i ddarparu a chydlynu gwasanaeth cyfieithu a phrawf ddarllen y prosiect.
Disgrifiad:
Nod y Rôl
I ddarparu a chydlynu gwasanaeth cyfieithu a phrawf ddarllen i brosiect Cyswllt Ffermio. **Prif Gyfrifoldebau **
· Cyfieithu trawsgrifiadau fideo, papurau, adroddiadau, taflenni, manylebau, erthyglau, ac unrhyw ddogfennau amrywiol eraill ar gyfer Cyswllt Ffermio yn ôl y galw
· Prawf ddarllen deunydd ysgrifenedig gan sicrhau cywirdeb ac ansawdd
· Defnyddio meddalwedd cof cyfieithu
· Gweithio’n agos gyda’r tîm marchnata i sicrhau fod deunyddiau’n cael eu cynhyrchu’n gywir
· Cynnal gwybodaeth gyfredol ar faterion yn ymwneud â chyfieithu a phrawfddarllen a mynychu unrhyw hyfforddiant perthnasol
· Diweddaru cronfa ddata o waith cyfieithu mewnol **Sgiliau a Phrofiad ** **Hanfodol **
• Addysg hyd at lefel gradd
• Profiad gwaith dangosol mewn maes perthnasol
• Aelodaeth sylfaenol o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg) neu barodrwydd i weithio tuag at ennill y safon honno o fewn cyfnod penodol
• Profiad ymarferol o gyfieithu o Gymraeg i Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg
• Gwybodaeth arbenigol o Gymraeg a Saesneg er mwyn sicrhau cyfieithu’n fanwl gywir, gydag ymwybyddiaeth o ofynion/geirfa’r maes sydd ynghlwm â’r deunydd
• Sgiliau ysgrifennu rhagorol gyda’r gallu i gyfleu’r wybodaeth mewn ffordd glir
• Sgiliau prawf ddarllen eithriadol
• Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r gallu i gydweithio gyda staff a chyfieithwyr eraill
• Gallu cwblhau cyfieithiadau cywir yn y ddwy iaith, a chynnal ansawdd a safon uchel ym mhob agwedd o’r broses
• Sgiliau cydlynu a gweinyddol rhagorol
• Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
• Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)
• Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod
• Gallu ysgogi ei hun i reoli rhaglen waith gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethu gwaith yn effeithiol o fewn amserlen dynn, gyda ffocws clir ar ansawdd
• Gallu gweithio’n annibynnol yn ogystal â bod yn rhan o dîm
• Gallu cadw data mewn cydymffurfiaeth â deddfau diogelu data perthnasol Dymunol
· Aelodaeth Gyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (Cymraeg i Saesneg ac o Saesneg i Gymraeg)
· Dealltwriaeth o hanfodion llunio copi dwyieithog o’r briff cychwynnol hyd at gyflwyno’r deunydd gorffenedig gan gydlynu bob agwedd o’r broses
· Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio
· Gwybodaeth am y rhaglen Cyswllt Ffermio Gwneud Cais
Gellir gwneud ceisiadau am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan: www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected] Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Sian Tandy ar 01970 631 404 neu [email protected] Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 10.00yb, dydd Llun, 13 Mawrth 2023. Cyfweliadau
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar ddydd Iau, 16 Mawrth 2023. Os yw’r dyddiad yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae ein Polici Cydraddoldeb ac Amyrwiaeth i’w weld ar ein gwefan.
Cyflog
💰 £24,657 - £30,205
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Catalydd Micro-fenter Cymunedol
Mae Catalyddion Cymunedol yn edrych am Gatalydd Micro-fenter Cymunedol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae'r Cwmni Buddiannau Cymunedol Community Catalysts yn fenter gymdeithasol brysur sy'n ymdrechu'n galed i adlewyrchu ei enw. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd ac rydym angen person egnïol a llawn dychymyg i gydlynu pethau i ni.
Disgrifiad:
Byddwch yn arwain Prosiect Micro-fenter Cymunedol Caerdydd fydd yn cefnogi pobl entrepreneuraidd lleol a sefydliadau lleol i gynnig dewisiadau gofal a chymorth newydd a chreadigol i bobl sydd angen cymorth yn y cartref neu yn eu cymunedau. Fel hyn byddwn yn helpu pobl i gael y gefnogaeth maent ei hangen i fyw'r bywyd maent ei eisiau.
I wneud hyn rhaid i chi:
· Ddeall y byd gofal - ond efallai eich bod yn teimlo ei fod angen ychydig o weddnewidiad!
· Gallu ymwneud yn rhwydd â phobl - gallu gweithio'n dda gyda phob math o bobl yn hyderus.
· Gwneud cysylltiadau'n reddfol - ac ymuno'r dotiau sydd weithiau'n llai amlwg.
· Gallu gweld cryfderau pobl a'u meithrin.
Edrychwch ar ein gwefan a'r swydd-ddisgrifiad a manylion y person i gael mwy o wybodaeth amdanom ni a'r swydd. Byddwch yn cael eich cyflogi gan Community Catalysts ac yn gweithio yn ardal Caerdydd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol, cysylltwch â: Jill Wighton, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Busnes, [email protected].
Dilynwch y ddolen i lawrlwytho pecyn cais sy'n cynnwys y swydd ddisgrifiad a manylion y person.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1.00pm ar 13eg o Fawrth 2023 a bydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar 21ain o Fawrth 2023.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £32,960
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth y Gronfa Cynnwys Masnachol
Mae S4C yn edrych am Bennaeth y Gronfa Cynnwys Masnachol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Bennaeth y Gronfa Cynnwys Masnachol fydd yn gweithio o fewn S4C i wneud y mwyaf o’r cyfle masnachol ar gyfer comisiynau S4C a’r enillion ohonyn nhw, gan weithio’n agos gyda thimau comisiynu S4C a chwmnïau cynhyrchu annibynnol. Mae'r rôl yn gyfrifol am weithrediad a llwyddiant Cronfa Cynnwys Masnachol S4C.
Bydd eich prif ddyletswyddau yn cynnwys gweithredu fel ffynhonnell awdurdodol o arbenigedd ar gynnwys masnachol i Grŵp S4C, goruchwylio Cronfa Cynnwys Masnachol S4C gydag atebolrwydd am ei pherfformiad a datblygu presenoldeb gweladwy yn y diwydiant wrth greu rhwydwaith o bartneriaid cynhyrchu ac ariannu, a hyrwyddo Grŵp S4C.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl yma.
Gallwn rannu manylion o’r gronfa gyda darpar ymgeiswyr, ond mi fydd disgwyl i chi lofnodi cytundeb cyfrinachedd i allu derbyn rhain. Plîs cysylltwch ag [email protected].
Disgrifiad:
Manylion Eraill
**Lleoliad: **Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.
**Cyflog: **Cyflog a bonws yn unol â phrofiad.
**Oriau gwaith: **35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 13.00 ar ddydd Gwener 24 Mawrth 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Cyflog a bonws yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd, Caernarfon, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Swyddog Traethau
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Uwch Swyddog Traethau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol i gyflawni dyletswyddau dydd i ddydd yn unol â gofynion rheolaethol y Gwasanaeth Morwrol gan sicrhau gwelliant sylweddol yn ansawdd a rheolaeth yr arfordir.
Disgrifiad:
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y [Pecyn Gwybodaeth] (https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/cyngor/swyddi/gweithio-i-ni.aspx)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Bryn Pritchard-Jones ar 01758 704066 neu 07917 554624
Cynnal cyfweliadau: Dydd Iau, 23/03/2023.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
eBost: [email protected]
**DYDDIAD CAU: **10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 16/03/2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
SWYDD DDISGRIFIAD
Pwrpas Y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol i gyflawni dyletswyddau dydd i ddydd yn unol â gofynion rheolaethol y Gwasanaeth Morwrol gan sicrhau gwelliant sylweddol yn ansawdd a rheolaeth yr arfordir.
Cyfrifoldebau am Adnoddau
• Cyfrifoldeb dirprwyedig am holl staff, cyllid ac adnoddau'r Gwasanaeth Morwrol yn unol â’r gofyn.
• Rheoli’r Gwasanaeth ar y cyd gyda’r Uwch Swyddog Harbyrau yn absenoldeb y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol.
• Cyfrifoldeb rheolaethol am Swyddogion Traeth parhaol y Gwasanaeth.
• Penodi, hyfforddi a rheoli holl staff tymhorol y Gwasanaeth Morwrol ynghyd a phwrcasu a dosbarthu offer ag iwnifform ar eu cyfer.
• Cydgordio, a sicrhau bod holl offer a chyfarpar diogelwch arfordirol yn cael eu harchwilio yn unol â’r gofynion a bod y ffurflenni monitro yn cael eu cwblhau yn unol â’r drefn.
• Cyfrifoldeb am fflôt y traethau a throsglwyddiad arian cofrestru a ffioedd lansio i’r Swyddfa Forwrol, Swyddfa Bost neu Fanc.
Prif Ddyletswyddau
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
• Paratoi rhaglenni gwaith gan adnabod amcanion mesuradwy a chlir ar gyfer y Gwasanaeth yn flynyddol.
• Cynorthwyo ag annog y Swyddogion Traeth i gynllunio rhaglenni gwaith a chytuno ar gynllun gwella ar gyfer traethau’r sir, gyda’r nod o gynnig gwasanaeth o ansawdd i’r cyhoedd. Sicrhau fod gwaith yn cael ei gwblhau o fewn amserlen benodol.
• Penodi, hyfforddi a rheoli holl staff tymhorol y Gwasanaeth Morwrol a llunio rhaglenni gwaith ar eu cyfer.
• Rheoli ag annog staff y traethau i gyflawni eu dyletswyddau yn effeithiol a diogel.
• Cyflwyno ceisiadau Gwobrau Traeth yn flynyddol gan sicrhau fod y traethau gwobrwyiedig yn cydffurfio ar meini prawf perthnasol.
• Sicrhau bod yna welliant sylweddol yng nghynllun bwiau / parthau'r traethau a chadw cofnod o'r holl offer a ddarperir.
• Goruchwylio a gorfodi rheoliadau ac is-ddeddfau arfordirol.
• Paratoi adroddiadau rheolaidd i’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol yn unol â’r gofyn a mynychu a chyfranogi mewn cyfarfodydd gyda Cynghorau Cymuned a grwpiau / mudiadau perthnasol ac adrodd ar yr hun a drafodwyd (cymryd cofnodion fel y bydd angen).
• Cynnal cyflwyniadau i grwpiau, ysgolion a mudiadau fel y bydd angen a threfnu a chynorthwyo mewn ymgyrchoedd hybu diogelwch arfordirol neu ymgyrchoedd gwirfoddol i wella ansawdd yr arfordir.
• Diweddaru ac ychwanegu at Gynllun Argyfwng y Gwasanaeth Morwrol a chyflawni a diweddaru holl Asesiadau Risg y gwasanaeth. Sefydlu gweithdrefnau i sicrhau cydymffurfiaeth y traethau â gofynion statudol Iechyd a Diogelwch. Cynorthwyo gyda datblygiad polisïau mewnol y gwasanaeth.
• Cynorthwyo gyda datblygiad a rheolaeth cynllun cofrestru badau pwer y gwasanaeth ac archebu’r holl drwyddedau cofrestru’n flynyddol.
• Ymdrin ag ymateb i achosion o lygredd arfordirol yn unol â'r gofyn.
• Datblygu safleoedd gwybodaeth a fydd yn cynnwys hysbysfyrddau, paneli dehongli, posteri, taflenni arweiniol a gwybodaeth er mwyn hysbysu’r cyhoedd o bwysigrwydd diogelwch, yr amgylchedd a bywyd gwyllt yr arfordir.
• Cynorthwyo adran T.G. y Cyngor i ddatblygu, diweddaru a gwella safle we y Gwasanaeth.
• Dylunio, pwrcasu a safoni holl arwyddion arfordirol y gwasanaeth.
• Cynorthwyo gyda gweinyddiaeth y Swyddfa Forwrol ag ymdrin ag ymateb i ymholiadau a dderbynnir yn y swyddfa - wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy e-bost neu lythyr.
Amgylchiadau Arbennig
• Bydd gofyn i’r Uwch Swyddog Traethau weithredu o unrhyw un o’r harbyrau neu draeth penodol pe bydd salwch neu ddiffyg staff. Bydd gofyn i’r Swyddog weithio ar nifer o benwythnosau yn ystod y cyfnod a fu yn arwain at Ŵyl Y Pasg hyd at ddiwedd mis Medi, gweithio pob Gwŷl Banc a rhai nosweithiau. Fe fydd gofyn i’r swyddog fod ar alwad ac yn barod i ymateb mewn achosion brys ac mewn argyfwng.
Cyflog
💰 £30,151 - £32,020
Lleoliad
📍 Pwllheli
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ymgysylltu - Dysgu Gydol Oes
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Swyddog Ymgysylltu - Dysgu Gydol Oes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas Cyffredinol y Swydd
Cynorthwyo yn y gwaith o ddatblygu a chyflenwi cyfleoedd Dysgu Oedolion yn y Gymuned a ddarperir mewn lleoliadau ar draws Ynys Môn.
Cynllunio, trefnu a chyflenwi hyfforddiant Llythrennedd Digidol a Gwybodaeth i aelodau o’r cyhoedd a staff, ynghyd â hyrwyddo’r defnydd o blatfformau Digidol y Gwasanaeth.
Cynnal cysylltiadau da gyda phartneriaid o fewn y sector ar draws yr ardal ddaearyddol a chynrychioli’r Awdurdod mewn cyfarfodydd perthnasol ar lefel weithredol.
Bod yn gyfrifol am waith trefnu dydd i ddydd cyrsiau mewn amryw leoliadau, yn unol ag anghenion y Gwasanaeth ac mewn ymateb i anghenion dysgwyr.
Cadw cyswllt gyda grwpiau cymunedol a chyrff trydydd sector er mwyn deall am angen/awydd posibl am gyrsiau a dysgu anffurfiol mewn cymunedau ar draws Môn
Cy**ffredinol: **C_ydymffurfio â Pholisi Diogelu Corfforaethol yr awdurdod lleol a’r dyletswyddau a chyfrifoldebau diogelu y mae’r polisi hwnnw’n ei roi ar bob gweithiwr, gan gydweddu â gwerthoedd craidd yr Awdurdod sy’n cynnwys cefnogi plant, oedolion a all fod mewn perygl a’u teuluoedd er mwyn eu cadw’n ddiogel ac iach._
Prif Ddyletswyddau / Cyfrifoldebau
Cynorthwyo yn y gwaith o gyflenwi ystod o raglenni i aelodau o’r cyhoedd a staff, sy’n cynnwys cyfeirio ymlaen i lwybrau datblygu gyda darparwyr addysg, yn ogystal â gweithio i sefydlu perthynas gyda lleoliadau newydd ar mwyn ehangu’r cynnig Dysgu Oedolion yn y Gymuned o fewn ardal yr Awdurdod Lleol.
Cynorthwyo yn y gwaith o ddatblygu a chydlynu’r systemau a phrosesau a ddefnyddir ar gyfer ymgysylltu â chyfranogwyr, yn ogystal â’r rheiny a ddefnyddir i ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad.
Cynllunio, trefnu a chyflwyno gweithgareddau digidol a chreadigol i blant o bob oed gan ddefnyddio’r offer sydd ar gael o fewn y Gwasanaeth (Raspberry-Pi, Lego Education, I-Pad, Sgrîn werdd ac offer ffotograffiaeth)
Cynnal cysylltiadau effeithiol â darparwyr gwasanaeth a phartneriaid eraill, gan gynnwys (heb eithrio eraill) Grŵp Llandrillo Menai, Addysg Oedolion Cymru, CyG Môn, Teulu Môn a Dechrau’n Deg.
Gweithio gyda’r Tîm Llyfrgell a’r Tîm Cyfathrebu Corfforaethol i sicrhau marchnata a hyrwyddo’rgwasanaeth yn effeithiol.
Cyfrannu tuag at y Cynllun Cyflenwi Gwasanaeth ar gyfer gweithgareddau Dysgu i Oedolion yn y Gymuned.
Mynychu cyfarfodydd lleol a rhanbarthol perthnasol ar ran y gwasanaeth.
Cynorthwyo i gadw tudalennau gwe'r gwasanaeth llyfrgell yn gyfredol a pherthnasol sy’n gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau llyfrgell.
Cynorthwyo i ddatblygu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Gwasanaethau Llyfrgell a Dysgu Oedolion yn y Gymuned o ran cynnwys, effaith a chyrhaeddiad gan ddefnyddio ystod o ddulliau gwahanol i greu cynnwys digidol ar gyfer uchafu potensial hyrwyddo a marchnata.
Cyfranogi mewn unrhyw weithgareddau hyfforddiant a datblygu er mwyn cynnal datblygiad proffesiynol a hybu cymhwysedd o fewn rôl y swydd.
Cyflog
💰 £16,252 - £18,138
Lleoliad
📍 Ynys Môn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Llyfrgellydd: Ymgysylltu Oedolion
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Lyfrgellydd: Ymgysylltu Oedolion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas Cyffredinol y Swydd
Rheoli, datblygu a hyrwyddo’r ystod lawn o Wasanaethau Llyfrgell i Oedolion. Annog yr ystod ehangaf bosib o ddefnyddwyr i ddefnyddio llyfrgelloedd, i sicrhau bod gan holl feysydd gwasanaeth yr awdurdod ystod gynhwysfawr o stoc ac i hyrwyddo gwasanaethau llyfrgell i gynulleidfa eang. Darparu mewnbwn proffesiynol ar gyfer gweithgareddau Datblygu Darllenwyr o fewn y gwasanaeth.
Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell i sicrhau bod y gwasanaeth yn cyflawni ac yn cynnal lefel y gofynion o ran gwasanaeth a amlinellir yn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, er mwyn cydymffurfio â Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964.
Cymryd cyfrifoldeb fel rheolwr llinell dros grŵp o bwyntiau gwasanaeth, cynorthwyo'r Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgell gyda'r recriwtio, hyfforddi, datblygu ac ysgogi staff, gan eu hyfforddi a’u mentora i berfformio hyd eithaf eu gallu. Yn unol â hynny, gweithredu’r holl bolisïau a gweithdrefnau AD.
Cynorthwyo’r Rheolwr y Gwasanaeth Llyfrgell trwy gyfrannu tuag at gynllunio strategol, datblygu polisïau, cydlynu a rheoli’r gwasanaeth fel aelod o’r tîm rheoli llyfrgell proffesiynol.
Cyfrannu mewn modd cadarnhaol tuag at brosesau Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth, gan gynnwys asesu effeithiolrwydd ac effaith y gwasanaeth, ynghyd â dadansoddi anghenion cwsmeriaid. Cyfrannu tuag at gynllunio’r gyllideb, cynorthwyo i ddrafftio Cynlluniau Gweithredol Blynyddol sy’n adlewyrchu blaenoriaethau corfforaethol ac yn ymgorffori dangosyddion a thargedau perfformiad a gytunwyd.
Gweithio mewn modd cydweithredol ar draws yr Awdurdod a’r Rhanbarth, datblygu a chynnalpartneriaethau i hybu effeithlonrwydd, effeithiolrwydd ac arloesi wrth ddiogelu buddiannau ac uniondeb y gwasanaeth llyfrgell.
Dirprwyo ar ran y Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell lle bo angen ac yn berthnasol.
**Cyffredinol: **Cydym_ffurfio â Pholisi Diogelu Corfforaethol yr awdurdod lleol a’r dyletswyddau a chyfrifoldebau diogelu y mae’r polisi hwnnw’n ei roi ar bob gweithiwr, gan gydweddu â gwerthoeddcraidd yr Awdurdod sy’n cynnwys cefnogi plant, oedolion a all fod mewn perygl a’u teuluoedd er mwyn eu cadw’n ddiogel ac iach._
Prif Ddyletswyddau / Cyfrifoldebau
Arwain ar ddatblygu’r gynulleidfa drwy drefnu, hyrwyddo a marchnata digwyddiadau, gwasanaethau dysgu a gweithgareddau ar gyfer oedolion, ledled y Sir. Sicrhau bod digwyddiadau a gweithgareddau’n cael digon o gyhoeddusrwydd i annog cyfranogiad. Cysylltu â grwpiau targed ar gyfer hyrwyddo’r gwasanaethau’n gyffredinol a datblygu mentrau a phrosiectau penodol.
Hyrwyddo a datblygu’r hyn a gynigir o ran hyrwyddo Iechyd a Llesiant o fewn y Gwasanaeth Llyfrgell.
Arwain ar bob agwedd ar y gwasanaeth mewn perthynas â rheoli, dethol a hyrwyddo’r stoc ar gyfer Oedolion, gan gynnwys hyfforddi staff. Bod yn gyfrifol am ddethol stoc (categorïau penodol), a chyfrannu mewn modd cadarnhaol tuag at ddatblygu a rheoli stoc y llyfrgelloedd cangen ynghyd â’r casgliadau wrth gefn.
Arwain ar y gwaith o ddatblygu a chyflenwi gwasanaethau rhithwir gan gynnwys e-lyfrau, adnoddau ar-lein, offerynnau canfod adnoddau, cynorthwyo gyda’r gwaith o ddiweddaru a datblygu’r catalog llyfrgell ar-lein.
Bod yn gyfrifol am reolaeth gyllidebol o feysydd penodol, e.e. categorïau o fewn y gronfa lyfrau, eiddo, prosiectau. Rheoli a monitro’r cyllidebau, er mwyn cyflawni Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â stoc.
Hyrwyddo darllen fel cyfrwng i hybu twf personol ac iechyd a llesiant o fewn y gwasanaeth llyfrgell a’r gymuned.
Gweithio mewn modd cydweithredol ar draws yr Awdurdod a’r Rhanbarth, datblygu a chynnalpartneriaethau i hybu effeithlonrwydd, effeithiolrwydd ac arloesi wrth ddiogelu buddiannau ac uniondeb y gwasanaeth llyfrgell.
Ymgymryd â gwaith ar draws awdurdodau neu ar lefel genedlaethol i gefnogi cydweithrediad, ef enghraifft, yng nghyswllt System Rheoli Llyfrgell ar y Cyd i Gymru.
Arwain ar gyflwyno a datblygiad parhaus agweddau / prosiectau penodol o fewn portffolio’rGwasanaeth o wasanaethau cyhoeddus.
Arwain ar ddatblygu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, gan sicrhau lefelau uchel o fodlonrwydd ymhlith cwsmeriaid drwy gyflenwi gwasanaethau sy’n ymateb i anghenion y cwsmer.
Bod yn Gydlynydd Gwirfoddolwyr ar gyfer y gwasanaeth llyfrgell i recriwtio gwirfoddolwyr a chyflenwi rhaglen hyfforddi gwirfoddolwyr pan fo’n briodol.
Darparu, ar adegau, gwasanaeth uniongyrchol mewn mannau gwasanaeth, pan fo lefelau staffio yn isel ac nid yw staff wrth law ar gael. (anaml).
Cyflog
💰 £32,020 - £35,411
Lleoliad
📍 Ynys Môn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu
Mae S4C yn edrych am Swyddog Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu i ymuno â thîm cyfathrebu prysur sy’n hyrwyddo gwaith S4C, yr unig Ddarlledwr Cyhoeddus Cymraeg yng Nghymru. Byddwch yn chwarae rhan flaenllaw mewn rhoi cyhoeddusrwydd i raglenni a gwasanaethau cyhoeddusrwydd i'r cyfryngau a rhanddeiliaid.
Disgrifiad:
Bydd sgôp eich gwaith yn cwmpasu ehangder arlwy'r sianel gan gynnwys newyddion, drama, chwaraeon, rhaglenni plant a phobl ifanc, adloniant, cerddoriaeth, rhaglenni dogfen a materion cyfoes.
Bydd eich prif ddyletswyddau yn cynnwys chwilio am gyfleoedd newydd i sicrhau cyhoeddusrwydd fel bod ein cynnwys yn cyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl, arwain a pherchnogi ein hymgyrchoedd a'n prosiectau cyfathrebu a'u goruchwylio ac ysgrifennu a golygu cyfathrebu wrth wneud yn siŵr bod y dôn ar neges yn cyd-fynd â'n strategaeth.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl i lefel uchel yn y Gymraeg a Saesneg gyda staff ac eraill ar bob lefel, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol i’r rôl yma.
Manylion eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.
Cyflog: O gwmpas £29,500 y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r cyflog.
**Oriau gwaith: **35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
**Cytundeb: **Parhaol
Cyfnod prawf: 6 mis
**Gwyliau: **35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
**Pensiwn: **Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
**Ceisiadau **
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Sul 05 Mawrth 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prentis Cyfieithu Cymraeg
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn edrych am Brentis Cyfieithu Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae rôl gyffrous wedi codi (yn sgil dyrchafiad mewnol) yn AaGIC i ddatblygu fel cyfieithydd ac i ennill cymhwyster Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn dehongli a chyfieithu Cymraeg.
Disgrifiad:
Sefydlwyd ar 1 Hydref 2018, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r unig Awdurdod Iechyd Arbennig o fewn GIG Cymru. Rydym yn eistedd wrth ochr Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, ac yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o addysgu, hyfforddi, datblygu a llunio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, er mwyn sicrhau gofal o safon uchel i bobl Cymru.
Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
• Gweithio'n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, a chynllunio ymlaen llaw i sicrhau bod y gweithlu iechyd a gofal yn diwallu anghenion y GIG a phobl Cymru, nawr ac yn y dyfodol;
• Bod yn ffynhonnell wybodaeth ddibynadwy am weithlu iechyd a Gofal Cymru;
• Comisiynu, dylunio a darparu addysg a hyfforddiant gwerth am arian o ansawdd uchel, yn unol â'r safonau;
• Defnyddio addysg, hyfforddiant a datblygiad i annog a hwyluso datblygiad gyrfaol;
• Cefnogi addysg, hyfforddiant a rheoleiddio gwasanaethau drwy chwarae rôl allweddol wrth gynrychioli Cymru, a gweithio'n agos gyda rheoleiddwyr;
• Datblygu arweinwyr gofal iechyd heddiw a'r dyfodol;
• Darparu cyfleoedd i'r gweithlu iechyd a gofal ddatblygu sgiliau newydd;
• Hyrwyddo gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal yng Nghymru, a Chymru fel lle i fyw ynddo;
• Cefnogi proffesiwn datblygu'r gweithlu a'r sefydliad proffesiynol gyda Chymru;
• Gwella'n barhaus yr hyn a wnawn a sut rydym yn ei wneud.
Am ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o drafod ei cyfle am gyflogaeth gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost a gofrestrir ar y ffurflen gais.
Mae'r sefydliad hefyd yn cadw'r hawl i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw adeg o'r broses, er mwyn adleoli staff mewnol i rolau addas.
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
MAE'R SWYDD HON DAN GONTRACT CYFNOD PENODOL AM 2 FLYNEDD YN SGIL NATUR YR HYFFORDDIANT.
Mae rôl gyffrous wedi codi (yn sgil dyrchafiad mewnol) yn AaGIC i ddatblygu fel cyfieithydd ac i ennill cymhwyster Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn dehongli a chyfieithu Cymraeg.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae galw cynyddol am gyfieithu gwahanol ddeunyddiau i'r Gymraeg. Fel aelod o'r tîm, byddwch yn delio â'r galw hwn yn ogystal â derbyn arweiniad, cymorth a mentoriaeth gan Dîm Gwasanaethau Cymraeg AaGIC. Bydd hyn er budd darparu gwasanaeth cyfieithu arbenigol o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o’r Gymraeg i'r Saesneg. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo gyda gwaith gweithredol y tîm o ddydd i ddydd a fydd yn cynnwys cysylltu â staff ar draws AaGIC. Bydd hefyd gyfle i ddatblygu sgiliau arbenigol fel Cyfieithydd ar y Pryd, os dymunwch. Y nod yw y byddwch yn datblygu eich sgiliau dros y cyfnod i allu ceisio am Swydd Cyfieithydd Band 5 oddi mewn i’r gyfundrefn. Does dim angen profiad blaenorol o gyfieithu arnoch, dim ond sgiliau safonol yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ogystal â brwdfrydedd dros gyfieithu, angerdd am eiriau a chymhelliant cadarn.
Mae AaGIC wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gydradd yn unol â Safonau'r Gymraeg.
Cynhelir un diwrnod yr wythnos gan Goleg Gŵyr Abertawe (ar-lein neu wyneb yn wyneb) a fydd yn gyfrifol am y cymhwyster. Cewch gymorth gan gydweithwyr eraill sydd eisoes yn dilyn y cwrs, yn ogystal â chael hyfforddiant gan y Coleg a chan y tîm yn AaGIC. Mae nifer o’n Prentisiaid eisoes wedi cael eu dyrchafu, a byddant yn hapus i rannu eu profiadau gyda chi.
Gweithio i'n sefydliad
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff strategol ar gyfer gweithlu GIG Cymru. Ymhlith ei swyddogaethau statudol mae addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, cynllunio arweinyddiaeth ac olyniaeth, a gyrfaoedd. Ein pwrpas yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion / defnyddwyr gwasanaethau a hybu iechyd poblogaethau. Awdurdod Iechyd Arbennig ydym ni sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.
Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchiad o’n meddyliaeth, ein teimladau a'n credoau o ran ein hymarweddiad a’n triniaeth o eraill:
– Parch at Bawb – ym mhob cyswllt a gawn ag eraill,
– Syniadau sy’n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, arfarnu a gwella'n barhaus,
– Gyda’n Gilydd fel Tîm: Gweithio gyda chydweithwyr ar draws GIG Cymru a chyda sefydliadau partner.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:
- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,
- arweinyddiaeth dosturiol,
- proses arfarnu cyflawniad ystyrlon, sy'n seiliedig ar werthoedd,
- y cyfle i ddylanwadu ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac ar fywydau a lles pobl Cymru.
Cyflog
💰 £20,758 - £21,318
Lleoliad
📍 Nantgarw
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Golygydd Llyfrau Plant a Phobl Ifanc
Mae Y Lolfa Cyf yn edrych am Olygydd Llyfrau Plant a Phobl Ifanc
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Y prif orchwyl fydd llywio rhaglen blant a phobl ifanc Y Lolfa drwy’r wasg gan olygu’r llyfrau yn greadigol ac ymgymryd â phob gwaith cysylltiol. Yn ogystal â chydweithio â golygyddion eraill Y Lolfa bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio gydag adran olygyddol y Cyngor Llyfrau ar rai teitlau. Bydd y Golygydd yn un o’n tîm golygyddol o chwech. Bydd yn atebol i Lefi Gruffudd, Pennaeth Cyhoeddi Y Lolfa. Rydym yn ystyried ymgeiswyr sydd am weithio isafswm o dri diwrnod ac uchafswm o bum diwrnod yr wythnos. Mae’r Lolfa yn hapus i ystyried ymgeiswyr sydd am weithio yn Y Lolfa neu o gartref neu gyfuniad o’r ddau, yn gyflogedig i’r Lolfa.
Disgrifiad:
Dyletswyddau
Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys gwneud y gwaith canlynol ar nifer o deitlau Cymraeg Y Lolfa i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd y posibilrwydd gweithio ar rai llyfrau i oedolion.
· Rheoli a llywio nifer penodol o lyfrau trwy’r wasg.
· Sicrhau bod y testun yn gyflawn, yn glir, yn gywir ac yn gyson; ei fod yn cyfateb i ofynion y cytundeb, a’i fod yn cydymffurfio ag arddull y tŷ.
· Cydweithio gyda’r awdur er mwyn mireinio’r arddull, cywiro camgymeriadau ffeithiol a chyfeiriadau gwallus/absennol, cwtogi lle bo angen.
· Trefnu’r dalennau rhagarweiniol (teitl, awdur, nodyn hawlfraint, ISBN, tudalen gynnwys, cydnabyddiaethau, rhagair, etc.) a’r dalennau terfynol (atodiadau, llyfryddiaeth, mynegai, etc.)
· Cyd-gysylltu gyda’r awdur, adrannau’r Lolfa a’r Cyngor Llyfrau.
· Trefnu testun y clawr (yn cynnwys y broliant).
· Paratoi datganiadau i’r wasg a gwybodaeth hyrwyddo i’r adran farchnata.
· Chwilio am luniau a sicrhau caniatâd.
· Darllen a deall cywiriadau golygyddion copi a’u gosod i mewn ar y sgrin gan ddefnyddio Word a rhaglenni tudalennu fel InDesign. (Rhoddir hyfforddiant).
· Trefnu golygu testunol a phrawfddarllen allanol pan fo’r angen yn codi.
· Comisiynu gwaith celf a chynllun y clawr; comisiynu neu ddewis dylunwaith ar gyfer corff y llyfr.
· Cynnig syniadau ar gyfer cyfrolau a thrafod syniadau mewn cyfarfodydd golygyddol.
· Darllen a mynegi barn ar lawysgrifau sydd wedi dod i law.
· Paratoi deunydd gwybodaeth a marchnata am lyfrau ar wefannau mewnol ac allanol.
· Gwneud gwaith gweinyddol amrywiol cysylltiedig.
· Cyflawni tasgau eraill rhesymol yn ôl y galw.
Cyflog
💰 Cystadleuol
Lleoliad
📍 Talybont, O gartref, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Seneddol
Mae Adam Price AS, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn edrych am Gynorthwyydd Seneddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas y Swydd
Darparu cynnwys, nodiadau briffio a dadansoddiadau o ansawdd uchel i Aelodau Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd i gyflawni eu hanghenion ymchwil gwleidyddol yn y Senedd a’r tu allan iddi, yn ôl cyfarwyddyd yr Uwch Ymchwilydd.
Prif ddyletswyddau
1. Trefnu cyfarfodydd, drafftio agendâu, cymryd cofnodion a threfnu cyfieithiadau. Dosbarthu cofnodion a chydlynu pwyntiau gweithredu ymhlith y staff yn ôl yr angen.
2. Cefnogi’r gwaith o gydgysylltu swyddfeydd drwy gynnal systemau gwybodaeth canolog, er enghraifft ymatebion stoc, cronfeydd data.
3. Arwain y cydlyniant o fforymau Gweithwyr Achos a Rheolwyr Swyddfeydd Staff Cymorth Aelodau.
4. Cynnal rhestrau o gyfrifoldebau portffolio (llefarwyr Grŵp, aelodaeth Pwyllgorau a chyfrifoldebau ychwanegol eraill) a sicrhau bod manylion cyswllt staff yn gyfredol.
Cyflog
💰 £21,225 - £28,624 pro rata
Lleoliad
📍 Bae Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dadansoddydd Cymorth TG
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Ddadansoddydd Cymorth TG
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Rydym yn chwilio am Ddadansoddwr Cymorth TG medrus a llawn brwdfrydedd i ymuno â'n tîm! Os oes gennych chi brofiad sylweddol yn darparu cymorth TG, angerdd am ddatrys problemau, a chefndir mewn cefnogi rhwydweithiau a systemau data, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!
Fel ein Dadansoddwr Cymorth TG, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cymorth technegol i staff yr Urdd yn ogystal a rhanddeiliaid allanol megis athrawon, aelodau a rhieni / gwarcheidwaid.
Disgwylir i chi ddatrys problemau caledwedd a meddalwedd, a sicrhau gweithrediad llyfn ein systemau TG. Byddwch yn gallu gwneud diagnosis cyflym, datrys problemau, a chyfathrebu'n effeithiol gyda rhanddeiliaid a chydweithwyr.
O bryd i’w gilydd, byddwn angen i chi weithio oriau hir yn ein digwyddiadau cyffrous, gan gynnwys Eisteddfod Yr Urdd a Twrnament Rygbi 7 pob ochr yr Urdd. Bydd yr amser dros ben oriau cyffredin yn cael eu had dalu ar adegau eraill. Am fwy o fanylion cysylltwch â Dafydd Lewis (Pennaeth Technoleg Gwybodaeth) ar 07976003341 neu [email protected] Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau – 13eg o Fawrth Dyddiad Cyfweld – I’w drefnu efo’r ymgeiswyr. Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £28,505 - £31,757
Lleoliad
📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd (gydag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd)
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Gyfieithydd (gydag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad o gyfieithu gefnogi’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog a chyflawni amcanion Safonau’r Gymraeg. Disgwylir i’r cyfieithydd ddarparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg.
**Y rôl **
Mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn dymuno penodi cyfieithydd sydd ag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd i ddarparu gwasanaeth cyfieithu testun i’r Brifysgol, ynghyd â chyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd o brif bwyllgorau’r Brifysgol a chyfarfodydd amrywiol eraill. Dyma gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad o gyfieithu gefnogi’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog a chyflawni amcanion Safonau’r Gymraeg. Disgwylir i’r cyfieithydd ddarparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg. Bydd y cydbwysedd rhwng gwaith cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd yn amrywio o wythnos i wythnos yn ddibynnol ar y galw. Yn fras disgwylir y bydd y cyfieithydd yn treulio tua 20% o’r oriau gwaith yn cyfieithu ar y pryd.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Dylan Hughes ar [email protected]
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.
- Darparu gwasanaeth cyfieithu testun sy’n broffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg, ac o’r Saesneg i’r Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg i adrannau a chyfadrannau academaidd a gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol.
- Darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd sy’n broffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg i adrannau a chyfadrannau academaidd, gwasanaethau proffesiynol a phrif bwyllgorau’r Brifysgol. Bydd gofyn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol gan gynnwys cyfarfodydd a chyfweliadau a drefnir gan Adnoddau Dynol, cyfarfodydd un i un rhwng staff a myfyrwyr, seminarau a darlithoedd cyhoeddus.
- Ymgyfarwyddo â systemau ac offer cyfieithu ar y pryd.
- Bod yn barod i weithio’n hyblyg yn ôl yr angen (e.e. mewn lleoliadau eraill ac eithrio campws Prifysgol Aberystwyth).
- Defnyddio system Cof Cyfieithu a system Llif Gwaith yr Uned Gyfieithu yn effeithiol.
- Cydweithio â thîm o gyfieithwyr i sicrhau bod y gwaith cyfieithu testun yn cael ei flaenoriaethu’n effeithiol a bod y gwasanaeth yn un prydlon.
- Cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd o natur sensitif a deall pwysigrwydd cyfrinachedd mewn sefyllfaoedd o’r fath.
- Cyfieithu dogfennau sensitif a chyfrinachol eu cynnwys a deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymdrin â’r dogfennau hyn.
- Sicrhau ansawdd y gwasanaeth a gynigir a defnyddio terminoleg gywir a chyson yn unol ag arfer y Brifysgol.
- Ymgynghori â chwsmeriaid am eu hanghenion cyfieithu ar y pryd, e.e. nifer o bobl a fydd yn bresennol, faint o offer fydd ei angen, natur ac amseru’r digwyddiad.
- Ymgynghori â chwsmeriaid am gynnwys dogfennau a anfonir i’w cyfieithu ac am ddyddiadau dychwelyd gwaith.
- Cydweithio’n effeithiol â chydweithwyr yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg ac â staff a myfyrwyr ar draws holl adrannau’r Brifysgol gan ddarparu cyngor a chefnogaeth ieithyddol briodol o ansawdd uchel.
- Ymrwymo i ofynion Safonau’r Gymraeg.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses ‘Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
- Unrhyw ddyletswydd resymol a gofynnir sy'n gymesur â gradd y rôl.
Cyflog
💰 £36,386 - £42,155
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweinyddol
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Swyddog Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Swydd barhaol hyd at 37 awr yr wythnos. Pwrpas cyffredinol y rôl: Darparu lefel uchel o gefnogaeth gweinyddol i Swyddfa’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd.
Pwrpas cyffredinol y rôl: Darparu lefel uchel o gefnogaeth gweinyddol i Swyddfa’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd.
Mae Swyddfa’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd yn darparu gwasanaeth cefnogol a gweithredol i’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, tair Cyfarwyddiaeth ac i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.
Dyma’n fras prif feysydd cyfrifoldebau’r swyddfa: Cymorth gweinyddol: darparu cymorth i’r Prif Weithredwr/Llyfrgellydd, y Cyfarwyddiaethau a’r Swyddogion, gwasanaeth cefnogol i brif bwyllgorau’r Llyfrgell a chydlynu cynlluniau busnes, polisïau, cynlluniau gweithredu a chynllun strategol y Llyfrgell.
Llywodraethiant: cyfrannu at lywodraethiant effeithiol a darparu gwasanaeth cefnogol i brif bwyllgorau’r Llyfrgell: Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd, Pwyllgor Perfformiad ac Ansawdd, Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, a darparu gwasanaeth cefnogol a gweinyddol i’r Ymddiriedolwyr.
Yno hefyd mae cyfrifoldeb am agweddau o gyfathrebu corfforaethol a rheoli cofnodion Adnoddau Dynol: cyfrifoldeb am Adnoddau Dynol, Hyfforddiant a Datblygu, Cydraddoldeb ac Amrywedd, iechyd a lles staff, a chydymffurfiaeth â pholisïau a deddfwriaeth cyflogaeth. Cydymffurfiaeth: yn gyfrifol am sicrhau fod y Llyfrgell yn cyflawni ei rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y Rheoliad Cyffredinol Gwarchod Data, y cofnod yng nghofrestr y Comisiynydd Gwybodaeth a Rhyddid Gwybodaeth. Cyfrifoldeb dros fonitro cyraeddiadau a chydymffurfiaeth gyda Safonau’r Gymraeg.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 11.00 o’r gloch 3 Mawrth 2023
Mae’r pecyn cyflogaeth yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyflog terfynol, polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd, oriau gweithio hyblyg a phrisiau gostyngol yn y bwyty. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Am becyn gwybodaeth a manylion am sut i wneud cais cysylltwch ag Uned Adnoddau Dynol y Llyfrgell ar 01970 632530/1; neu Ebost: [email protected]
Cyflog
💰 £25,895 - £29,890
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Datblygu Busnes
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Reolwr Datblygu Busnes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Mae cyfle unigryw wedi codi i ymuno gydag Adran Brentisiaethau’r Urdd fel Rheolwr Datblygu Busnes. Bydd y rôl hanfodol hon yn creu a chynnal perthnasau gyda chyflogwr led led Cymru, er mwyn sicrhau mynediad at raglennu prentisiaeth Chwaraeon, Gofal Plant, Awyr Agored a Gwaith Ieuenctid.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Catrin Davis (Pennaeth Prentisiaethau) ar 07930 964625 neu [email protected]
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau – 13.03.23
Dyddiad Cyfweld – w/c 20.03.23 Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £37, 519 - £42,404
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd
Mae Mind Cymru yn edrych am Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ni yw Mind Cymru, yr elusen iechyd meddwl. Rydyn ni eisiau sicrhau nad oes neb yn wynebu problem iechyd meddwl ar ei ben ei hun. Rydyn ni'n rhoi cyngor a chymorth i rymuso unrhyw un sy'n profi problem iechyd meddwl. Rydyn ni’n ymgyrchu i wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth.
Ni fyddwn yn rhoi'r gorau iddi nes bod pawb sy'n cael problem iechyd meddwl yn cael cymorth a pharch.
Gwybodaeth am y swydd
Yn y swydd hon, byddwch yn gweithio gyda’r tîm yng Nghaerdydd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ein sylfaen dystiolaeth a’n safbwyntiau polisi gyda’r canlyniad o wella bywydau a phrofiadau pobl â phroblemau iechyd meddwl. Ar adeg pan fydd strategaeth iechyd meddwl deng mlynedd Llywodraeth Cymru yn cael ei lansio, bydd y swydd hon yn cefnogi’r tîm i ddylanwadu ar y strategaeth nesaf, gan sicrhau bod anghydraddoldebau iechyd meddwl yn cael sylw a bod pawb yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt.
Byddwch yn cefnogi gwaith polisi ac ymgyrchoedd o ddydd i ddydd drwy gynnal gwaith ymchwil, ysgrifennu briffiau, cyfrannu at ymgysylltiad y tîm â phobl sydd â phrofiad uniongyrchol o broblemau iechyd meddwl a chefnogi’r gwaith o ddatblygu teithiau ymgyrchwyr Cymraeg. Byddwch hefyd yn gweithio’n agos gydag aelodau eraill o’r adran Cysylltiadau Allanol i ddarparu digwyddiadau a chanlyniadau ymgyrchoedd.
Hoffem glywed gennych chi os oes gennych y pethau canlynol:
Profiad o weithio mewn swydd gyhoeddus sy’n gofyn am sgiliau cyfathrebu da a meddwl yn ddadansoddol.
Gallu deall a dadansoddi gwybodaeth gymhleth, ee adroddiadau ymchwil, dogfennau polisi, deddfwriaeth a data.
Profiad o ddatblygu a chynnal perthynas waith effeithiol yn fewnol ac yn allanol.
Gallu gweithio mewn tîm a gydag agwedd gadarnhaol at ddatrys problemau.
Ein hymrwymiad
Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn wrth-hiliol ym mhopeth rydyn ni'n ei wneud. Mae hyn yn flaenoriaeth hollbwysig i Mind. Rydyn ni’n croesawu amrywiaeth ac yn deall y byddwn, drwy fod yn sefydliad cynhwysol sy’n cydnabod gwahanol safbwyntiau, yn gallu darparu gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl weithwyr yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal yn y gwaith ac i hyrwyddo tegwch i bawb o ran iechyd corfforol a meddyliol.
Mae Mind yn croesawu pob ymgeisydd ac yn awyddus i sicrhau bod eu tîm yn adlewyrchu amrywiaeth y DU a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Hoffent annog ceisiadau gan bobl anabl, LGBT ac o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Manylion y cais
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw Dydd Mawrth 7fed Mawrth - 12.00 canol dydd
Cyflog
💰 £31,031 (+ Pwysiad Lleoliad)
Lleoliad
📍 Caerdydd, O gartref, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata: Llysgenhadon
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Marchnata: Llysgenhadon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg yn dymuno penodi unigolyn trefnus, gweithgar ac arloesol i weithredu fel aelod o’r tîm marchnata sydd yn gweithredu strategaeth farchnata’r Coleg gan ganolbwyntio ar arwain a datblygu cynlluniau llysgenhadon dysgwyr a myfyrwyr y Coleg Cymraeg.
Mae’r cynlluniau llysgenhadon yn allweddol i waith marchnata’r Coleg ac mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn rhagweithiol i gymryd perchnogaeth tra’n cyd weithio gydag eraill i ddatblygu’r cynlluniau hyn. Byddwch hefyd yn gweithredu fel aelod o’r tîm marchnata er mwyn cyflawni’r gwaith marchnata a hyrwyddo gwahanol elfennau o strategaeth farchnata’r Coleg gan gynnwys cynnal ymweliadau ysgolion a cholegau addysg bellach yn gyson yn ardal y Gogledd a’r Canolbarth.
Cyflog
💰 £27,929 - £34,308
Lleoliad
📍 Caernarfon, Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Hwylusydd y Gymraeg - Addysg Bellach a Phrentisiaethau
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn edrych am Hwylusydd y Gymraeg - Addysg Bellach a Phrentisiaethau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae'r Grŵp yn awyddus i benodi Hwylusydd Cymraeg - Addysg Bellach a Phrentisiaethau dros dro hyd at Gorffennaf 2023 yn y lle cyntaf (gyda phosibilrwydd am estyniad).
Disgrifiad:
Fel aelod o dîm dwyieithrwydd Grŵp Llandrillo Menai, bydd deiliad y swydd yn ymrwymo i genhadaeth y Grŵp sef ysbrydoli llwyddiant drwy gynnig addysg a hyfforddiant rhagorol ac i werthoedd y Grŵp sef:
- Tegwch
- Ansawdd
- Arloesedd
- Proffesiynoldeb
Pwrpas y Swydd:
Bydd deilydd y swydd yn chwarae rhan allweddol mewn cynyddu’r nifer o ddysgwyr sy’n astudio iechyd a gofal a/neu gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Fel Hwylusydd y Gymraeg - Addysg Bellach a Phrentisiaethau, byddwch yn gweithio gyda staff y colegau a’r tîm dysgu yn y gweithle wrth ddarparu cymorth i diwtoriaid a chefnogi dysgwyr unigol i'w galluogi i gwblhau rhywfaint o'u hastudiaethau yn Gymraeg.
Cyfrifoldebau Cyffredinol yn y Grŵp
- Cyfrannu'n effeithiol at y gwaith o gynnig profiadau dysgu a hyfforddi o ansawdd uchel i bob dysgwr, gan ddarparu gwasanaethau mewn modd priodol ac ymatebol sy'n cyrraedd y safon uchaf bosibl o ran gofalu am gwsmeriaid.
- Bod yn ymwybodol o holl bolisïau, gweithdrefnau, arferion gwaith a rheoliadau'r coleg, a gweithio'n unol â hwy fel y bo'n berthnasol. Yn benodol, cydymffurfio â Chynllun Cydraddoldeb, Polisi Diogelu, Rheoliadau Ariannol, Polisi Iechyd a Diogelwch a Chod Ymddygiad Grŵp Llandrillo Menai.
- Ymgymryd â dyletswyddau rhesymol eraill ar adegau prysur yn ystod y broses dderbyn.
- Ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad staff priodol i'ch cynorthwyo i gyflawni'ch dyletswyddau a darparu gwasanaethau'n effeithiol. Dyletswyddau Penodol:
- Cynorthwyo Grŵp Llandrillo Menai i sicrhau ansawdd uchel mewn darpariaeth dwyieithog ar draws y cwricwlwm.
- Cydweithio â’r tîm Datblygu Dwyieithrwydd, Rheolwyr Maes Rhaglen a thiwtoriaid i adnabod dysgwyr Cymraeg eu hiaith a fyddai'n elwa o hyfforddiant/cymorth ychwanegol i gwblhau elfennau o'u hastudiaethau yn Gymraeg.
- Gweithio gyda’r tîm Datblygu Dwyieithrwydd, Rheolwyr Maes Rhaglen a thiwtoriaid a i gynllunio cymorth un i un a sesiynau grwpiau bach a fydd yn helpu dysgwyr i gwblhau elfennau o’u cyrsiau yn Gymraeg.
- Cynllunio a chyflwyno sesiynau adolygu ar gyfer grwpiau bach o ddysgwyr i'w helpu i baratoi ar gyfer asesiadau cyfrwng Cymraeg a sefyll arholiadau yn hyderus.
- Cydgysylltu â dysgwyr sy’n siarad Cymraeg a darparu sesiynau mentora / cymorth i’w helpu i ailgysylltu a deall pam mae’r Gymraeg yn bwysig ar gyfer dilyniant, addysg uwch a chyflogaeth.
- Cadw cofnodion cywir o bresenoldeb mewn sesiynau mentora / cymorth.
- Monitro a gwerthuso cynnydd dysgwyr drwy gofnodi cyflawniadau yn erbyn amcanion dysgu a bennwyd ymlaen llaw.
- Cefnogi dysgwyr i weithio’n annibynnol trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Cyfeirio dysgwyr at, ac annog nhw i ddefnyddio, adnoddau sy’n eu galluogi i wella neu datblygu eu sgiliau Cymraeg, a’u helpu i gyflawni gwaith yn y Gymraeg.
- Cefnogi tiwtoriaid i ymgorffori'r Gymraeg yn eu harfer.
- Mynychu cyfarfodydd cyson gyda phartneriaid a chyfarfodydd tîm.
- Hyrwyddo gwaith Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chydweithio â’r swyddogion cangen a llysgenhadon.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy’n gydnaws â’r swydd ar gais Pennaeth Sgiliaith.
Cyflog
💰 £ 25,569 - £27,747
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Gweinyddol Ymholiadau
Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych am Gynorthwy-ydd Gweinyddol Ymholiadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn cefnogi'r Brifysgol i recriwtio myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o safon uchel o'r DU yn Gymraeg a Saesneg yn ôl y gofyn.
Prif ffocws eich rôl fydd rhoi gwasanaeth rheoli ymholiadau canolog o'r radd flaenaf i ddarpar fyfyrwyr a'u cynghorwyr – rhieni/gwarcheidwaid ac athrawon. Byddwch yn ymateb i ymholiadau ebost a ffôn allanol drwy roi gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol o safon uchel sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid. Byddwch yn rhoi atebion cynhwysfawr ac amserol.
Byddwch yn datblygu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth gref o’r portffolio o gyrsiau a gwasanaethau a chyfleusterau cysylltiedig sydd yn y Brifysgol. Byddwch yn datblygu gwybodaeth sylfaenol a chadarn am brosesau ymgeisio’r brifysgol. Ar ben hyn, byddwch yn datblygu "ystorfa" o wybodaeth, atebion parod a Chwestiynau Cyffredin i'ch cynorthwyo chi a'ch cydweithwyr i ymateb yn brydlon i ymholwyr. Byddwch yn defnyddio system Rheoli Cysylltiadau â Chwsmeriaid (CRM) y Brifysgol i reoli a phrosesu ymholiadau allanol.
Byddwch yn gweithio o dan gyfarwyddyd y Swyddog Tîm Ymholiadau a byddwch yn rhan o dîm Recriwtio Myfyrwyr y DU ond byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y timau recriwtio myfyrwyr a marchnata ehangach yn ogystal â chydweithwyr yng ngholegau ac ysgolion academaidd y Brifysgol.
Bydd y rôl yn gofyn ichi fod yn hyblyg o ran yr oriau gwaith a bydd hyn yn cynnwys rhywfaint o waith y tu allan i’r oriau arferol yn ogystal â gweithio ar y penwythnos weithiau.
Mae'r swydd hon yn llawn amser ac yn ben a gored (35 awr yr wythnos).
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 16 Chwefror 2023.
Dyddiad cau: Dydd Iau, 16 Mawrth 2023.
Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Cyflog
💰 £21,197 - £23,144
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Rhaglen Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl, Cymru
Mae Y Rhwydwaith Maethu yn edrych am Reolwr Rhaglen Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl, Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl yn ymagwedd arloesol tuag at gynorthwyo teuluoedd ar ffiniau gofal, sy’n dangos gostyngiad yn niferoedd y plant a ddaw i ofal, a gwell deilliannau i blant a theuluoedd. Wrth ei chraidd y mae gofalwyr maeth arbenigol, sydd wedi’u hyfforddi’n dda i roi cymorth i deuluoedd, sy’n darparu cymorth ataliol, â therfyn amser arno i hyd at bedwar o deuluoedd ar unrhyw adeg benodol.
Bydd y Rheolwr Rhaglen yn rheoli’r gorchwyl o weithredu a datblygu’n barhaus y rhaglen Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl yng Nghymru. Yn gychwynnol, fe’i lleolir mewn dau awdurdod lleol, gan weithio’n gydweithredol â’r gwasanaethau i wreiddio’r model Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl. Bydd y Rheolwr Rhaglen yn cynnal cysylltiadau â rhanddeiliaid allweddol ar gyfer y rhaglen ac yn darparu rheolaeth linell i’r ddau swyddog arweiniol sy’n cyflenwi Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl.
**Amdanoch Chi **
Rydym yn chwilio am rywun sy’n angerddol dros wella bywydau, profiadau a deilliannau i blant a phobl ifanc. Mae arnom angen ichi fod wedi cael profiad o reoli rhaglenni, o arwain timau, ac o weithio’n gydweithredol â sefydliadau sy’n bartneriaid. Bydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos y gallu i weithio o fewn sefyllfa a hysbysir gan drawma, gydag ymagwedd sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau. Mae’r rôl hon drwy Gymru gyfan, rydym yn cynnig gweithio cymysg neu hybrid ac mae gennym swyddfa yng Nghaerdydd. Bydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio i’r swyddfa yng Nghaerdydd pan fo angen, yn ogystal â mynychu digwyddiadau a gweithgareddau ledled Cymru. Fel sefydliad, rydym wedi’n hymrwymo i gefnogi gweithio hyblyg. Hysbysebir y swydd hon fel swydd amser llawn ond rydym yn agored i geisiadau gan unigolion fyddai’n hoffi gweithio fel rhan o drefniant rhannu swydd. Dynodwch yn eich cais, os gwelwch yn dda, a hoffech gael eich ystyried fel rhan o drefniant rhannu swydd. Dyddiad cau: Dydd Llun, y 6ed o Fawrth am 9.00yb
Dyddiad y Cyfweliad: Dydd Mawrth, y 14eg neu ddydd Mercher, y 15fed o Fawrth
Lleoliad y Cyfweliad: Yn bersonol yn ein swyddfa yng Nghaerdydd
Cyflog
💰 £36,000 - £40,000
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hybrid, Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!