Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfieithydd a Phrawf Ddarllenydd (1.5 FTE)

💰 £24,657 - £30,205 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

Mae Menter a Busnes yn edrych am Gyfieithydd a Phrawf Ddarllenydd (1.5 FTE)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Cyfle gwych i ymuno â thîm prosiect Cyswllt Ffermio i ddarparu a chydlynu gwasanaeth cyfieithu a phrawf ddarllen y prosiect.

Disgrifiad:

Nod y Rôl 

I ddarparu a chydlynu gwasanaeth cyfieithu a phrawf ddarllen i brosiect Cyswllt Ffermio.    **Prif Gyfrifoldebau **

·   Cyfieithu trawsgrifiadau fideo, papurau, adroddiadau, taflenni, manylebau, erthyglau, ac unrhyw ddogfennau amrywiol eraill ar gyfer Cyswllt Ffermio yn ôl y galw

·   Prawf ddarllen deunydd ysgrifenedig gan sicrhau cywirdeb ac ansawdd 

·   Defnyddio meddalwedd cof cyfieithu 

·   Gweithio’n agos gyda’r tîm marchnata i sicrhau fod deunyddiau’n cael eu cynhyrchu’n gywir

·   Cynnal gwybodaeth gyfredol ar faterion yn ymwneud â chyfieithu a phrawfddarllen a mynychu unrhyw hyfforddiant perthnasol

·   Diweddaru cronfa ddata o waith cyfieithu mewnol   **Sgiliau a Phrofiad **   **Hanfodol **

•   Addysg hyd at lefel gradd 

•   Profiad gwaith dangosol mewn maes perthnasol 

•   Aelodaeth sylfaenol o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg) neu barodrwydd i weithio tuag at ennill y safon honno o fewn cyfnod penodol

•   Profiad ymarferol o gyfieithu o Gymraeg i Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg 

•   Gwybodaeth arbenigol o Gymraeg a Saesneg er mwyn sicrhau cyfieithu’n fanwl gywir, gydag ymwybyddiaeth o ofynion/geirfa’r maes sydd ynghlwm â’r deunydd 

•   Sgiliau ysgrifennu rhagorol gyda’r gallu i gyfleu’r wybodaeth mewn ffordd glir

•   Sgiliau prawf ddarllen eithriadol 

•   Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r gallu i gydweithio gyda staff a chyfieithwyr eraill

•   Gallu cwblhau cyfieithiadau cywir yn y ddwy iaith, a chynnal ansawdd a safon uchel ym mhob agwedd o’r broses

•   Sgiliau cydlynu a gweinyddol rhagorol 

•   Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol

•   Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)

•   Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod

•   Gallu ysgogi ei hun i reoli rhaglen waith gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethu gwaith yn effeithiol o fewn amserlen dynn, gyda ffocws clir ar ansawdd 

•   Gallu gweithio’n annibynnol yn ogystal â bod yn rhan o dîm 

•   Gallu cadw data mewn cydymffurfiaeth â deddfau diogelu data perthnasol   Dymunol

·   Aelodaeth Gyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (Cymraeg i Saesneg ac o Saesneg i Gymraeg)

·   Dealltwriaeth o hanfodion llunio copi dwyieithog o’r briff cychwynnol hyd at gyflwyno’r deunydd gorffenedig gan gydlynu bob agwedd o’r broses 

·   Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio

·   Gwybodaeth am y rhaglen Cyswllt Ffermio    Gwneud Cais

Gellir gwneud ceisiadau am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan: www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]   Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Sian Tandy ar 01970 631 404 neu [email protected]   Dyddiad Cau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 10.00yb, dydd Llun, 13 Mawrth 2023.    Cyfweliadau

Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar ddydd Iau, 16 Mawrth 2023. Os yw’r dyddiad yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais.   Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae ein Polici Cydraddoldeb ac Amyrwiaeth i’w weld ar ein gwefan.

Cyflog

💰 £24,657 - £30,205

Lleoliad

📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £25,019 - £28,399 📍 Caerdydd📍 Y Drenewydd Ar gau

💰 £21,979 - £23,749 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,020 - £35,411 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £27.26 yr awr 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £20,919 - £22,367 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,960 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Cyflog a bonws yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +2 Ar gau

💰 £30,151 - £32,020 📍 Pwllheli Ar gau

💰 £16,252 - £18,138 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £32,020 - £35,411 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 Cyflog a bonws yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +2 Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £20,758 - £21,318 📍 Nantgarw Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Talybont📍 O gartref +1 Ar gau

💰 £21,225 - £28,624 pro rata 📍 Bae Caerdydd Ar gau

💰 £28,505 - £31,757 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

💰 £36,386 - £42,155 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £25,895 - £29,890 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £37, 519 - £42,404 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £31,031 (+ Pwysiad Lleoliad) 📍 Caerdydd📍 O gartref +1 Ar gau

💰 £27,929 - £34,308 📍 Caernarfon📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £ 25,569 - £27,747 📍 Bangor Ar gau

💰 £21,197 - £23,144 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £36,000 - £40,000 📍 Caerdydd📍 Hybrid +1 Ar gau