Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynorthwyydd y Ganolfan Wasanaeth (2 FTE)

Menter a Busnes

💰 £21k - £22k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

Mae Menter a Busnes yn edrych am Gynorthwyydd y Ganolfan Wasanaeth (2 FTE)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Cyfle gwych i ymuno â thîm Cyswllt Ffermio gan gefnogi Arweinydd y Ganolfan Wasanaeth i ddarparu gwasanaeth cwsmer ardderchog.

Disgrifiad:

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i’r sector amaeth trwy Gymru gyfan. Ei brif ffocws yw i gynorthwyo ffermwyr i baratoi tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan annog y sector i addasu ac i barhau i fod yn gystadleuol tra’n symud tuag at economi carbon isel.     Nod

Cefnogi Arweinydd y Ganolfan Wasanaeth er mwyn darparu gwasanaeth cwsmer ardderchog gan sicrhau bod yr holl ymholiadau’n cael eu hymateb neu gyfeirio at yr aelod tîm priodol yn brydlon a bod y data’n cael ei fewnbynnu’n gywir i system gyfrifiadurol y prosiect.   Prif Gyfrifoldebau

·   Darparu gwasanaeth cwsmer ardderchog i gwsmeriaid allanol a thîm mewnol Cyswllt Ffermio, gan ymateb i ymholiadau yn llawn gwybodaeth, yn gywir ac yn amserol (dros y ffôn, e-byst a dulliau eraill i gysylltu â’r tîm)

·   Dilyn prosesau a chanllawiau’r Ganolfan Wasanaeth yn ddiwyd wrth dderbyn ymholiadau

·   Sicrhau fod aelodau tîm perthnasol yn derbyn ymholiadau lle’n briodol, gan gadw cofnod llawn a chyfredol o bob gweithred

·   Mewnbynnu data i’r system gyfrifiadurol y prosiect yn gywir

·   Cyflawni gwaith gweinyddol cyffredinol i safon uchel, gan gynnwys cefnogi timau perthnasol eraill Cyswllt Ffermio

·   Cynorthwyo i drefnu digwyddiadau CFf (e.e. cadarnhau lleoliadau ac ati)

·   Mynychu cyfarfodydd gan gynrychioli’r Canolfan Wasanaeth

·   Gofalu am a diweddaru proffiliau cwsmer, gan ofalu eu bod yn gynhwysfawr, cyfredol a chywir ac yn cydymffurfio â rheoliadau Llywodraeth Cymru a Diogelu Data

·   Delio gyda cheisiadau’r Gwasanaeth Sgiliau a’r Gwasanaeth Cynghori a chwblhau’r gwiriadau angenrheidiol, yn unol â chanllawiau’r Ganolfan Wasanaeth

·   Sicrhau fod y cwsmeriaid, Cynghorwyr a Swyddogion Datblygu yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chymeradwyaeth gwasanaethau i’r cwsmeriaid yn amserol

·   Cefnogi i goladu’r holl dystiolaeth ar gyfer gweithgareddau’r Gwasanaethau Cynghori a’r Gwasanaeth Sgiliau i bob cwsmer

·   Tynnu sylw Arweinydd y Ganolfan Wasanaeth at unrhyw broblemau posib fel y bo'n briodol, a chyn gynted ag y bo modd

·   Cynrychioli Cyswllt Ffermio mewn digwyddiadau o bryd i’w gilydd 

·   Galluogi integreiddiad ar draws holl agweddau’r Rhaglen Cyswllt Ffermio drwy hybu’r holl weithgareddau a digwyddiadau Cyswllt Ffermio lle bynnag y bo’n bosibl

·   Mynychu cyfarfodydd tîm, timoedd eraill CFf ac adrodd yn ôl i dîm y Ganolfan Wasanaeth gydag unrhyw ddatblygiadau / newidiadau

·   Cynorthwyo gyda chwblhau amryw o holiaduron gyda’n cwsmeriaid fel yr angen

·   Sicrhau fod data am bresenoldeb mewn digwyddiadau’n cael eu llwytho a’u cofnodi’n gywir ac yn brydlon ar BAS   **Arall **

·   Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch

·   Cynorthwyo’r Ganolfan Wasanaeth i ddelio ag unrhyw ymholiadau a phrosesu data

·   Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill yn ôl y galw

·   Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw   Sgiliau a Phrofiad   Hanfodol

·   Sgiliau rhyngbersonol a gweinyddol cyffredinol gwych

·   Sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol yn llafar ac yn ysgrifenedig

·   Gallu mewnbynnu data’n gywir a chadw data i gydymffurfio â deddfau diogelu data perthnasol

·   Sgiliau trefnu, cydgysylltu a rheoli amser da

·   Sgiliau gwasanaeth cwsmer rhagorol

·   Bod yn flaengar a brwdfrydig am waith yr Adran Wledig

·   Gallu bod yn rhagweithiol a gyrru pethau yn eu blaen yn effeithiol

·   Gallu gweithio’n annibynnol yn ogystal ag o fewn tîm

·   Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)

·   Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod   Gwneud Cais

Gellir gwneud ceisiadau am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan: www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]   Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Bethan Arch ar 01970 636 289 neu [email protected]   Dyddiad Cau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 10.00yb, dydd Llun, 13 Mawrth 2023.    Cyfweliadau

Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar ddydd Iau, 16 Mawrth 2023. Os yw’r dyddiad yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais.   Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae ein Polisi Cydraddoldeb ac Amyrwiaeth i’w weld ar ein gwefan.

Cyflog

💰 £20,919 - £22,367

Lleoliad

📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

GwE

💰 £17k 📍 Bae Colwyn Ar gau

Prifysgol Caerdydd

💰 £20k - £22k 📍 Caerdydd Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, Mudiad Meithrin

💰 £21k - £25k 📍 Aberystwyth Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 Costau yn unig 📍 Hyblyg Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 Costau yn unig 📍 Hyblyg Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ôl profiad 📍 Llanelli Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £29k - £32k 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £32k - £36k 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £29k - £32k 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £38k - £42k 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Coleg y Cymoedd

💰 £22k - £42k 📍 Nantgarw Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £35k 📍 Llandudno Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £21k pro rata 📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin Ar gau

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £31k - £35k 📍 Hyblyg Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £22k pro rata 📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin📍 O gartref Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £26k pro rata 📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin📍 O gartref Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 £12k - £15k 📍 Llanberis Ar gau

Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

💰 £22k - £23k 📍 Torfaen Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Hyblyg Ar gau

Adra

💰 £55k - £58k 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Adra

💰 Isafswm cyflog 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £21k pro rata 📍 Gogledd Powys📍 Wrecsam Ar gau