Darlithydd - Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych am Ddarlithydd - Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle wedi codi i ymuno â’r Ganolfan Addysg Feddygol fel Athro – Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg, i ehangu ei chyfadran academaidd ddwyieithog Cymraeg/Saesneg. Bydd yr ymgeisydd yn gweithio’n agos gyda thîm, staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid allanol y rhaglen i gyflwyno addysg sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chefnogi’r myfyrwyr drwy eu taith addysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu yn rhan o’r rhaglen MBBCh israddedig, gan gynnwys datblygu, cyflwyno a gwerthuso modiwlau/rhaglenni cyfrwng Cymraeg/dwyieithog.
Bydd deiliad y swydd yn rhan o gymuned ehangach o staff academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd a ledled Cymru sy’n gweithio tuag at gyflawni nod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef rhoi statws llawn i’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu ac ymchwil yn sector y prifysgolion. Mae angen y rôl yn benodol i hwyluso grwpiau Dysgu Seiliedig ar Achosion felly bydd angen iddynt allu ymrwymo i oriau addysgu penodol ar ddyddiau Llun/Gwener yn ystod semester yr Hydref a dyddiau Mawrth/Gwener yn ystod semester y Gwanwyn (mis Medi tan fis Mehefin).
Bydd hefyd yn goruchwylio a chefnogi myfyrwyr israddedig, ac yn ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol academaidd yn y rhaglen yn ôl y gofyn; gan geisio rhagoriaeth mewn addysgu ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.
Dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster ôl-raddedig ar lefel 7 (neu gyfwerth) mewn pwnc sy’n gysylltiedig â’r biofeddygol neu ofal iechyd neu brofiad perthnasol, y gallu diamheuol i addysgu ar lefel israddedig/ôl-raddedig drwy gymhwyster addysgu, sgiliau cyfathrebu (Cymraeg/Saesneg) rhagorol a’r gallu i gyflwyno syniadau cymhleth a chysyniadol yn eglur ac amrywiaeth o gyfryngau.
Mae’r gallu i gynnig cefnogaeth fugeiliol briodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol, a bod yn diwtor personol iddynt yn y Gymraeg a’r Saesneg yn allweddol i’r rôl.
Mae rhuglder yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Os oes gennych ymholiadau anffurfiol ynglŷn â’r rôl hon, cysylltwch a Dr Awen Iorwerth, Darlithydd Clinigol (Arweinydd Academaidd y Gymraeg) drwy ebostio [email protected]
Oriau amrywiol sydd i’r swydd hon (rhagwelir y bydd yn cynnwys 168 o oriau’r flwyddyn, a byddwn yn cytuno ar y patrwm gwaith maes o law), yn benagroed ac mae ar unwaith.
Cyflog: £35,333 - £42,155 y flwyddyn, pro rata (Gradd 6), ond rhagwelir mai £35,333 y flwyddyn, pro-rata fydd uchafswm y cyflog cychwynnol.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 16 Rhagfyr 2022. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio’n hyblyg.
Cyflog
💰 £35,333 - £42,155
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Marchnata
Mae S4C yn edrych am Bennaeth Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Bennaeth Marchnata i ymuno ar adeg hollbwysig i'r gwasanaeth. Mae hon yn rôl gyffrous bydd yn arwain a datblygu tîm talentog a brwdfrydig i ddarparu strategaeth marchnata i drawsnewid ein dull gweithredu mewn ecosystem ddigidol.
Byddwch yn cydweithio â'r tîm cynnwys a chyhoeddi i helpu tyfu ein cynulleidfa drwy strategaeth marchnata fydd yn adeiladu ein delwedd ein cynnwys ân frandiau mwyaf.
Manylion Eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Llun 12 Rhagfyr 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Hwylusydd y Gymraeg (x 2 swydd) - Campws Pont-y-cymer
Mae Coleg Gwent yn edrych am Hwylusydd y Gymraeg (x 2 swydd) - Campws Pont-y-cymer
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am aelodau brwdfrydig i ymuno â'r tîm Dwyieithrwydd sy'n teimlo’n angerddol dros yr iaith Gymraeg.
Byddwch yn darparu cefnogaeth unigol a grŵp bach i ddysgwyr sy'n siarad Cymraeg er mwyn eu galluogi i gwblhau rhai o'u hastudiaethau yn Gymraeg, ar gyrsiau, chwaraeon a gofal anifeliaid.
Bydd disgwyl i chi fynychu diwrnodau agored y Coleg, cyfarfodydd allanol a chynadleddau.
Byddwch hefyd yn datblygu adnoddau dwyieithog; gan gynnwys termau technegol dwyieithog ar gyfer ein dysgwyr astudiaethau galwedigaethol.
Gwahoddir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg rhugl.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Noder y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manylach a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC).
Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol â'n polisi Cyfleoedd Cydraddoldeb. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddi ar gael.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Cyflog
💰 £23,337 - £25,311
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfrifydd Grwp (x 2 swydd) – Gwasanaeth Cyfrifeg ac Ariannol
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gyfrifydd Grwp (x 2 swydd) – Gwasanaeth Cyfrifeg ac Ariannol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Arwain tîm sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth Cyllid a Chyfrifeg i’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn y modd mwyaf effeithlon ac effeithiol a chyfrannu at alluogi’r Adran i gyflawni ei nod a’i amcanion.
•Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Rheoli dau Gyfrifydd Cynorthwyol a Chymorthydd Cyfrifeg o ddydd i ddydd a chyfrifoldeb cyffredinol am yr offer a ddefnyddir o fewn maes y swydd.
Prif ddyletswyddau
Disgwylir i’r deilydd arwain y Tîm sydd yn darparu gwasanaeth cefnogol cyfrifeg ariannol a chyfrifeg rheolaethol i’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant fel a ganlyn :
•Sicrhau y cyflawnir y targedau a osodir gan yr Uwch Reolwr Cyllid a chymryd camau i gywiro unrhyw lithriad neu ostyngiad mewn ansawdd.
•Gweithredu fel rheolwr llinell i’r staff cyllid sy’n gweithredu ynglyn â chyllidebau’r Adran berthnasol ac annog y staff i weithio i’w llawn botensial, gan fesur perfformiad yn erbyn targedau.
•Sicrhau fod gofynion y Pennaeth Adran a’r rheolwyr yn cael eu cyflawni yn unol âg unrhyw ofynion â osodir mewn cytundeb lefel gwasanaeth.
•Cyflawni gwaith ar gyllidebau a chyfrifon yr Adran berthnasol, sy’n cydymffurfio gyda safonau proffesiynol priodol, gyda chyfarwyddiadau’r Uwch Reolwr Cyllid neu’r Pennaeth Cyllid ac yn unol ag unrhyw bolisïau corfforaethol perthnasol.
•Paratoi cyllidebau a chyfrifon terfynol yr Adran dan sylw, yn unol â chanllawiau a osodir gan yr Uwch Reolwr Cyllid neu’r Pennaeth Cyllid.
•Cyflawni swyddogaethau cyllidebol sy’n arbennig i feysydd yr Adran dan sylw, yn unol â’r gofynion statudol perthnasol, a chymryd cyfrifoldeb personol am gyllidebau cymhleth lle mae angen mewnbwn lefel uchel.
•Monitro cyllidebau refeniw a chyfalaf yr Adran dan syw gan baratoi adroddiadau fel bo’n berthnasol ar gyfer y Pennaeth Adran a’r rheolwyr, yr Uwch Reolwr Cyllid a/neu’r Pennaeth Cyllid.
•Sefydlu ac adolygu systemau casglu gwybodaeth ariannol, gan ymgynghori gyda’r Pennaeth Adran a’r rheolwyr lle bo’r angen er mwyn sicrhau y gellir ymarfer rheolaeth gyllidol gadarn.
•Sicrhau fod ceisiadau grant cywir yn cael eu cyflwyno ar amser i gyrff allanol a bod trefniadau monitro grantiau priodol yn bodoli.
•Cynorthwyo’r Uwch Reolwr Cyllid i ystyried unrhyw ddatblygiadau cyfrifyddol ym maes y gwasanaethau dan sylw, a chynorthwyo i ddatblygu trefniadau i gydymffurfio â hwynt drwy gadw’n ymwybodol o ddatblygiadau perthnasol.
•Mynychu cyfarfodydd, pwyllgorau, gweithgorau neu paneli perthnasol yn ôl gofynion yr Uwch Reolwr Cyllid a chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu strategaeth ariannol yr Adran dan sylw.
•Darparu cyngor, gwybodaeth neu adroddiadau ariannol i’r Pennaeth Adran a’r rheolwyr fel bo’r angen.
•Darparu ac adolygu ystadegau y gwasanaethau perthnasol yn unol â gofynion statudol a safonau cyfrifeg cydnabyddiedig.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin. Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Ffion Madog Evans, Uwch Reolwr Cyllid ar 01286 679133
Dyddiad cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 eBost: [email protected]
**DYDDIAD CAU: **10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 01/12/22
Cyflog
💰 £43,516 - £45,495
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd a Swyddog y Gymraeg
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yn edrych am Gyfieithydd a Swyddog y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Gyfieithydd a Swyddog Iaith Gymraeg a all ddod â’i angerdd dros y Gymraeg i’r ASB a’n helpu i gyflwyno ein negeseuon o safon fyd-eang i ddefnyddwyr ledled y DU.
Nod yr ASB yw sicrhau bwyd diogel ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Un o’r ffyrdd gorau y gallwn gefnogi defnyddwyr yng Nghymru yw sicrhau bod gan bawb fynediad at yr wybodaeth rydym yn ei rhannu. Mae’r Uned Iaith Gymraeg yn chwarae rhan hanfodol wrth rannu negeseuon hygyrch â phawb yng Nghymru, gan helpu i gyflawni gwaith pwysig yr ASB yn Gymraeg.
Disgrifiad:
Fel Cyfieithydd a Swyddog y Gymraeg, byddwch yn darparu cyfieithiadau ysgrifenedig, prawfddarllen, golygu, creu ymgyrchoedd a llawer mwy wrth i ni geisio sicrhau darpariaeth gyson o ansawdd uchel sy’n cwmpasu cylch gwaith eang yr ASB yng Nghymru. Yn ogystal â gweithio gyda chydweithwyr yn fewnol, byddwch yn gweithio gyda sefydliadau eraill yn y sector cyfieithu Cymraeg er mwyn helpu i safoni terminoleg newydd a rhannu arferion gorau. Ar ben hynny, byddwch yn uwchlwytho cynnwys Cymraeg i’n gwefannau ac yn rheoli ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cymraeg.
Dyma gyfle cyffrous i ymgymryd â gwaith cyfieithu diddorol, amrywiol ac eang sydd yn cefnogi gwaith pwysig yr ASB er budd iechyd y cyhoedd, yn ogystal â hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg.
Os ydych yn siaradwr Cymraeg rhugl sy’n gallu ysgrifennu a chyfieithu i’r safon uchaf, bydd y rôl hon yn rhoi’r cyfle i chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn maes sy’n cyffwrdd â’n bywydau ni i gyd, bob dydd. Manteisiwch ar y cyfle i wneud cais i weithio gyda ni fel Cyfieithydd a Swyddog y Gymraeg.
Cyflog
💰 £30,957
Lleoliad
📍 Caerdydd, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Llwybrau Cadarnhaol Pobl Ifanc
Mae Shelter Cymru yn edrych am Swyddog Llwybrau Cadarnhaol Pobl Ifanc
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Shelter Cymru yn bodoli i amddiffyn yr hawl i gartref diogel yng Nghymru a brwydro yn erbyn effaith ddinistriol yr argyfwng tai ar bobl.
Rydym yn helpu miloedd o bobl bob blwyddyn trwy gynnig cyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim ac ymgyrchu i oresgyn achosion sylfaenol yr argyfwng tai.
Rydym yn edrych i recriwtio ar gyfer y swydd ganlynol i ymuno â'n tîm.
Os ydych am helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Swyddog Llwybrau Cadarnhaol Pobl Ifanc
(SHELTER CYMRU YN FYW)
Lleoliad Hyblyg
RHIF SWYDD: SC644
33.5 awr yr wythnos
£24,528 y flwyddyn (pro rata) - £23,477 y flwyddyn
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi pobl ifanc ar eu taith i annibyniaeth a llwyddiant economaidd trwy greu llwybrau effeithiol i ddarparwyr lleol. Byddwch yn datblygu ac yn cynnal cysylltiadau â sefydliadau ledled Cymru ac yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y llety a’r cymorth sydd eu hangen i atal digartrefedd lle bynnag y bo modd.
Mae Shelter Cymru yn gweithio gyda staff i gynnig math o waith hybrid, ar hyn o bryd rydym yn gofyn i staff fynychu'r swyddfa o leiaf un diwrnod yr wythnos. Darperir swyddfa i weithwyr ond gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o’n swyddfeydd ledled Cymru.
Mae Shelter Cymru yn cynnig lefel uchel o gefnogaeth, amgylchedd gwaith croesawgar a phecyn gwych o fuddion - am fanylion pellach am y buddion allweddol sydd ar gael ewch i dudalen recriwtio ein gwefan.
I wneud cais, ewch i’n gwefan yn www.sheltercymru.org.uk neu ffoniwch 01792 469400
**DYDDIAD CAU: **10yb – 2 Rhagfyr 2022
Mae Shelter Cymru yn recriwtio ar sail teilyngdod ac mae eisiau gweithlu sy'n adlewyrchu amrywiaeth yr unigolion sydd angen tai. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cael eu tangynrychioli o fewn ein gweithlu ar hyn o bryd.
Rhif Elusen Gofrestredig: 515902
Cyflog
💰 £24,528
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Aelodau o'r Cyngor
Mae Cyngor Meddygol Cyffredinol yn edrych am Aelodau o'r Cyngor
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn bwriadu penodi un aelod cofrestredig ac un aelod lleyg i'n Cyngor llywodraethu.
Fel corff sy’n weithredol ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig, ein gweledigaeth yw bod yn rheoleiddiwr effeithiol, perthnasol a thosturiol sy’n cefnogi gweithwyr meddygol proffesiynol i ddarparu gofal i gleifion sy’n ddiogel ac o ansawdd uchel. Wrth i wasanaethau iechyd yn y Deyrnas Unedig barhau i wynebu pwysau difrifol, mae gan reoleiddio rôl ganolog i’w chwarae wrth amddiffyn cleifion a hyrwyddo lles y proffesiwn.
Rydym wedi pennu ymrwymiadau uchelgeisiol i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, cofleidio amrywiaeth, a chefnogi cynhwysiant ym maes gofal iechyd, fel rheoleiddiwr a chyflogwr. Mae hyrwyddo'r gwaith hwn yn brif ffocws i'n Cyngor a byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o siapio gofal iechyd yn y blynyddoedd i ddod.
Byddwch yn ymuno â ni ar gyfnod nodedig wrth i lywodraeth y Deyrnas Unedig ailwampio’r hen ddeddfwriaeth sy’n sail i’n gwaith; ac wrth i ni ymgymryd â’r gwaith o reoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia, cyn diwygiadau ehangach i feddygon. Bydd y rhaglen hon o ddiwygio rheoleiddio yn effeithio ar bob maes o'n busnes. Bydd ein Cyngor yn ein helpu i ddiffinio'r rhaglen sy'n cyflawni ein huchelgeisiau strategol yn y ffordd orau.
Mae ein Cyngor yn cynnwys 12 aelod (chwe unigolyn lleyg a chwe unigolyn cofrestredig). Mae'n pennu ein strategaeth, yn diffinio ein polisïau lefel uchel ac yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn cyflawni ein dibenion statudol ac elusennol. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am ddau aelod newydd y mae’n rhaid iddynt allu cyfrannu at y gwaith o bennu strategaeth, cadw goruchwyliaeth a sicrhau llywodraethu corfforaethol effeithiol. Mae swydd wag yr aelod cofrestredig yn agored i unigolion sydd wedi’u cofrestru â’r Cyngor Meddygol Cyffredinol sy'n gallu dangos y sgiliau hyn ac sydd â thrwydded gyfredol i ymarfer, ar unrhyw gam o'u gyrfa. Ar gyfer y penodiad lleyg, rydym yn chwilio am unigolyn a fydd yn dod â chraffter ariannol cryf, ynghyd â gyrfa lwyddiannus fel uwch swyddog, o bosib fel Prif Weithredwr, Prif Swyddog Ariannol neu Gyfarwyddwr Cyllid. Croesewir ceisiadau ar gyfer y ddwy rôl o bob rhan o bedair gwlad y Deyrnas Unedig.
Bydd yr ymrwymiad amser ar gyfer y penodiadau tua thri diwrnod y mis ar gyfartaledd, a thelir cydnabyddiaeth ariannol o £18,000 y flwyddyn.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad amrywiol a chynhwysol; un sy'n adlewyrchu'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw ac ar eu cyfer. Rydym yn awyddus i annog unigolion sydd â chefndiroedd a phrofiadau amrywiol i wneud cais i weithio gyda ni.
Dyddiad cau: Hanner dydd, ddydd Gwener 9 Rhagfyr 2022
Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn rhoi gwerth ar gydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae'n ymroddedig i brosesau a gweithdrefnau sy'n deg, yn wrthrychol, yn dryloyw ac yn rhydd o ragfarn a gwahaniaethu anghyfreithlon.
Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn elusen gofrestredig sydd wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (1089278) a'r Alban (SC037750).
Cyflog
💰 £18,000
Lleoliad
📍 Cenedlaethol
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata (Rhentu Doeth Cymru) (Cymraeg Hanfodol)
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Marchnata (Rhentu Doeth Cymru) (Cymraeg Hanfodol)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Rhentu Doeth Cymru yn darparu Cynllun Cofrestru a Thrwyddedu ledled Cymru ar gyfer landlordiaid ac asiantau eiddo sy'n cael ei rentu. Daw hyn yn sgil dynodi Cyngor Caerdydd yn Awdurdod Trwyddedu Sengl i Gymru. Ei nod yw sicrhau eiddo diogel a reolir yn dda ar gyfer tenantiaid drwy sicrhau bod y rhai sy'n gosod ac yn rheoli eiddo yn bobl addas a phriodol i wneud hynny, yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn cydymffurfio â gofynion a roddir arnynt yn ôl y gyfraith ac amodau trwydded. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant.
Am y swydd
Arwain y gwaith o ddatblygu cyfathrebu a marchnata gan gynnwys rheoli cyfathrebu, cynllunio a darpariaeth strategol, datblygu perthynas waith dda gyda rhanddeiliaid ar gyfer ymgyrchoedd a phrosiectau ar gyfer Rhentu Doeth Cymru a’i bwerau dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda thîm Cyfathrebu a Chyfryngau’r Cyngor i ddatblygu a darparu prosiectau a gweithgareddau allweddol (mewnol ac allanol) i gefnogi blaenoriaethau cyfathrebu Rhentu Doeth Cymru a sicrhau bod Cyfathrebiadau Marchnata a’r Cyfryngau’n effeithiol.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd deiliad y swydd:
- Wedi ei addysgu i lefel gradd neu â phrofiad amlwg (2 flynedd+) mewn tîm marchnata / cyfathrebu sy'n gwneud gwaith perthnasol
- Yn siaradwr Cymraeg Rhugl
- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar ynghyd â lefel uchel o sgiliau rhyng-bersonol
- Yn gallu dangos tystiolaeth o gyflwyno ymgyrch gyfathrebu / marchnata gyda chanlyniadau llwyddiannus
- Yn meddu ar sgiliau amlwg mewn ystod o ddisgyblaethau marchnata gan gynnwys, cysylltiadau Cyfryngau, Brandio, Arddangosfeydd, ymchwil Marchnad, Marchnata E-bost, Rheoli Cyfryngau Cymdeithasol, Post Uniongyrchol, Sgiliau Sgwennu a Golygu Copi
- Yn ddefnyddwyr TG cymwys, yn gyfarwydd ag ystod o feddalwedd priodol gan gynnwys MS Office
- Fod â phrofiad o ddefnyddio meddalwedd dylunio o fewn yr Adobe Creative Cloud e.e. InDesign, Photoshop ac Illustrator Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd hwn yn gyfle cyffrous i ddylanwadu ar newidiadau i'r sector rhentu preifat yng Nghymru; gan weithio'n agos gyda phartneriaid o lywodraeth leol mewn 22 o awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, landlordiaid a sefydliadau asiantau a chwmnïau hyfforddi i sicrhau ei lwyddiant.
Dylai’r ymgeiswyr llwyddiannus allu cyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg hyd at Lefel 5 – Hyfedredd.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â [email protected].
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata (Rhentu Doeth Cymru) (Cymraeg Hanfodol)
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Marchnata (Rhentu Doeth Cymru) (Cymraeg Hanfodol)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Rhentu Doeth Cymru yn darparu Cynllun Cofrestru a Thrwyddedu ledled Cymru ar gyfer landlordiaid ac asiantau eiddo sy'n cael ei rentu. Daw hyn yn sgil dynodi Cyngor Caerdydd yn Awdurdod Trwyddedu Sengl i Gymru. Ei nod yw sicrhau eiddo diogel a reolir yn dda ar gyfer tenantiaid drwy sicrhau bod y rhai sy'n gosod ac yn rheoli eiddo yn bobl addas a phriodol i wneud hynny, yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn cydymffurfio â gofynion a roddir arnynt yn ôl y gyfraith ac amodau trwydded. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant.
Am y swydd
Arwain y gwaith o ddatblygu cyfathrebu a marchnata gan gynnwys rheoli cyfathrebu, cynllunio a darpariaeth strategol, datblygu perthynas waith dda gyda rhanddeiliaid ar gyfer ymgyrchoedd a phrosiectau ar gyfer Rhentu Doeth Cymru a’i bwerau dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda thîm Cyfathrebu a Chyfryngau’r Cyngor i ddatblygu a darparu prosiectau a gweithgareddau allweddol (mewnol ac allanol) i gefnogi blaenoriaethau cyfathrebu Rhentu Doeth Cymru a sicrhau bod Cyfathrebiadau Marchnata a’r Cyfryngau’n effeithiol.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd deiliad y swydd:
- Wedi ei addysgu i lefel gradd neu â phrofiad amlwg (2 flynedd+) mewn tîm marchnata / cyfathrebu sy'n gwneud gwaith perthnasol
- Yn siaradwr Cymraeg Rhugl
- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar ynghyd â lefel uchel o sgiliau rhyng-bersonol.
- Yn gallu dangos tystiolaeth o gyflwyno ymgyrch gyfathrebu / marchnata gyda chanlyniadau llwyddiannus
- Yn meddu ar sgiliau amlwg mewn ystod o ddisgyblaethau marchnata gan gynnwys, cysylltiadau Cyfryngau, Brandio, Arddangosfeydd, ymchwil Marchnad, Marchnata E-bost, Rheoli Cyfryngau Cymdeithasol, Post Uniongyrchol, Sgiliau Sgwennu a Golygu Copi
- Yn ddefnyddwyr TG cymwys, yn gyfarwydd ag ystod o feddalwedd priodol gan gynnwys MS Office
- Fod â phrofiad o ddefnyddio meddalwedd dylunio o fewn yr Adobe Creative Cloud e.e. InDesign, Photoshop ac Illustrator
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Tîm Cam-Drin Domestig Llochesi - Gwynedd ac Ynys Môn
Mae Grŵp Cynefin/Gorwel yn edrych am Arweinydd Tîm Cam-Drin Domestig Llochesi - Gwynedd ac Ynys Môn
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Chwilio am swydd ym maes cefnogi? Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chymunedau? Dewch i weithio i Gorwel!
CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL 1. Meddu ar ddealltwriaeth ragorol o gam-drin domestig, gan gynnwys yr effaith ar ddioddefwyr a'u plant, a'r datrysiadau cyfreithiol ac ymarferol sydd ar gael i'r defnyddwyr gwasanaeth hyn. 2. Gweithredu i sicrhau bod anghenion defnyddwyr gwasanaeth, yn eu llety â chymorth, yn cael eu diwallu'n effeithiol, gan arwain y tîm i sicrhau darpariaeth gyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n arwain at annibyniaeth a bywyd di-drais. 3. Goruchwylio'n annibynnol, gan gymryd cyfrifoldeb am drefnu cyfarfodydd tîm ac adolygiadau blynyddol ar gyfer gweithwyr cymorth y gwasanaeth 4. Cyflwyno a darparu cefnogaeth a goruchwyliaeth effeithiol i bob aelod o staff, gan gynnwys cyflwyno a gweithredu adolygiadau achos a llwyth gwaith arferol yn seiliedig ar adolygu risgiau, anghenion a cham-drin. 5. Nodi a chynllunio rhaglen hyfforddi ar gyfer gweithwyr cefnogi, yn ogystal â bod yn rhan o'r prosesau recriwtio, rheoli perfformiad a disgyblu. 6. Gweithredu'n annibynnol o fewn ffiniau'r rôl, gan benderfynu pryd y mae'n briodol cyfeirio materion at y Rheolwr Gwasanaeth i gael arweiniad. 7. Cyfrifoldeb am sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i reoli a monitro risgiau, gan wneud penderfyniadau er mwyn ymateb i risgiau yn hyderus ac yn effeithiol. 8. Cyfrifoldeb i ymateb yn gadarn a gweithredu ar unrhyw bryderon sy'n ymwneud ag Amddiffyn Plant ac Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed, gan gyflwyno adroddiadau a thystiolaeth gywir a ffeithiol ar gyfer cynadleddau achos. 9. Arwain mewn sefyllfaoedd o argyfwng a darparu arweiniad clir i'r tîm a chynnig cyngor a chefnogaeth ymarferol. 10. Arwain ar ddeddfwriaeth budd-daliadau lles / materion diwygio lles er mwyn cynghori'r tîm yn hyderus. 11. Sicrhau gweithdrefnau monitro a rheoli ar gyfer talu budd-dal a rhent, rheoli cyfrifon rhent er mwyn casglu rhent yn effeithiol ac atal ôl-ddyledion. 12. Cyfrifol am weinyddu gweithdrefnau priodol er mwyn monitro’r broses gymorth yn unol â gofynion statudol, deddfwriaeth amddiffyn a chytundebau lefel gwasanaeth cyllidwyr. 13. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth er mwyn llunio a gweithredu cynllun gweithredol blynyddol ar gyfer y cynlluniau, gan ymateb i ganlyniadau, ystadegau a gofynion cyllidwyr. 14. Paratoi adroddiadau o ansawdd uchel bob chwarter ar gyfer adolygiadau monitro cyllidwyr (e.e. Grant Cymorth Tai, Cymorth i Ferched Cymru), gan gynnwys mynychu cyfarfodydd monitro chwarterol. 15. Cynorthwyo Rheolwyr Gwasanaeth gyda datblygu gwasanaeth ac unrhyw gynlluniau newydd. 16. Bod yn rhan o baratoi a darparu adolygiadau gwasanaeth Grant Cymorth Tai a gweithredu'r argymhellion. 17. Cynorthwyo'r Rheolwr Cynorthwyol i baratoi hunanasesiad blynyddol y gwasanaethau. 18. Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt, gan gynnal perthynas â landlordiaid preifat a chymdeithasol i sicrhau eiddo i ddefnyddwyr gwasanaeth. 19. Mynychu cyfarfodydd a chynadleddau ar gais y Rheolwr Gwasanaeth a bod yn ymwybodol bob amser o'r tueddiadau a'r pynciau llosg cyfredol yn y sectorau cymorth a cham-drin domestig. 20. Cymryd rôl arweiniol, ar y cyd â'r Rheolwr Gwasanaeth, wrth adolygu polisïau a gweithdrefnau Gorwel sy'n ymwneud â chefnogaeth. 21. Arwain ar hyrwyddo a datblygu cyfleoedd cyfranogi ar gyfer y cynlluniau, gan gynnwys gweithredu'r Rhaglen Rhyddid. 22. Meddu ar wybodaeth eang am ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i ddigartrefedd, cam-drin domestig a chefnogaeth. 23. Bod â gweledigaeth i ddatblygu gwasanaethau sy'n cynnig “cefnogaeth a mwy”.
Cyflog
💰 £28,235 - £30,854
Lleoliad
📍 Blaenau Ffestiniog, Llangefni, Caernarfon, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Cymeradwyo a Dynodi Cymwysterau
Mae Cymwysterau Cymru yn edrych am Bennaeth Cymeradwyo a Dynodi Cymwysterau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ni yw Cymwysterau Cymru, y sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar gymwysterau a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol.
Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am Bennaeth Cymeradwyo a Dynodi Cymhwyster i ymuno â ni ar sail barhaol, amser llawn, gan weithio 37 awr yr wythnos.
Y Manteision
- Cyflog o £51,380 - £61,440 y flwyddyn
- 30 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau cyhoeddus a hyd at dri diwrnod o gau swyddfa dros y Nadolig)
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Aelodaeth o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Mae hwn yn gyfle gwych i gyflwyno rhaglen waith i roi canlyniadau o ansawdd uchel i’r sector addysg ledled Cymru.
Y Rôl
Fel Pennaeth Cymeradwyo a Dynodi Cymwysterau, byddwch yn rheoli tîm rheoleiddio sy'n sicrhau bod cymwysterau'n bodloni'r meini prawf angenrheidiol i gael eu derbyn i'n fframwaith.
Yn benodol, byddwch yn goruchwylio'r broses o gynhyrchu tystiolaeth i lywio'r broses o wneud penderfyniadau a rhoi cyngor i sicrhau bod cymwysterau sy'n cael eu diwygio yn bodloni'r safonau angenrheidiol.
Byddwch yn goruchwylio’r gwaith o reoli’r tîm o ddydd i ddydd drwy nodi anghenion staffio, sicrhau bod cyllidebau’n cael eu bodloni a bod gwasanaeth rhagorol yn cael ei ddarparu’n gyson.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Goruchwylio datblygiad cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru
- Sicrhau bod y prosesau cymeradwyo yn bodloni gofynion cyfreithiol
- Lleihau effaith andwyol cymwysterau a dynnir yn ôl ar ddysgwyr
Amdanoch Chi
I gael eich ystyried yn Bennaeth Cymeradwyo a Dynodi Cymhwyster, bydd angen y canlynol arnoch:
- Hanes o reoli, adeiladu ac ysgogi timau hyblyg
- Profiad mewn cyd-destun addysg neu gymwysterau
- Profiad o reoli rhaglenni a phrosiectau
- Gwybodaeth am egwyddorion rheoleiddio
- Gwybodaeth am y system addysg a chymwysterau yng Nghymru
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion asesu
- Sgiliau rheoli rhaglen a phrosiect ardderchog
- Gradd (neu gyfwerth) mewn disgyblaeth berthnasol
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 27 Tachwedd 2022.
Gallai sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Arweinydd Cymeradwyo a Dynodi Cymhwyster, Arweinydd Rhaglen Cymeradwyo a Dynodi Cymhwyster, neu Bennaeth Cymeradwyo a Rheoleiddio Cymwysterau.
Felly, os gallwch sicrhau bod ein cymwysterau yn bodloni safonau rheoleiddio fel Pennaeth Cymeradwyo a Dynodi Cymwysterau, gwnewch gais drwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £51,380 - £61,440
Lleoliad
📍 Casnewydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Catalogydd Clyweledol
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Gatalogydd Clyweledol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifio cynnwys a chreu metadata ar gyfer eitemau ffilm a delweddau symudol casgliad Archif Sgrin a Sain LlGC, i greu cofnodion catalog a fydd yn rhoi arweiniad clir i ddefnyddwyr ar natur yr eitemau, a chymorth i'w deall a'u dehongli.
Y GYFARWYDDIAETH
Y Gyfarwyddiaeth Casgliadau ac Ymgysylltu sy’n bennaf gyfrifol am gasglu, diogelu a rhoi mynediad i’r casgliadau sydd yng ngofal y Llyfrgell yn unol a’i swyddogaethau craidd. Yn y cyd-destun hwn mae mynediad yn golygu amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys gwasanaethau a gweithgareddau ar y safle, arlein ac mewn cymunedau ledled Cymru. Mae gwaith y Gyfarwyddiaeth yn rhan greiddiol o wireddu gweledigaeth y Llyfrgell i fod yn sefydliad sy’n:
“... gwneud gwahaniaeth er gwell i bawb yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol ac i fod yn lyfrgell genedlaethol, agored, blaengar ac arloesol.”
Trwy ei gwaith mae angen i’r Gyfarwyddiaeth alluogi’r Llyfrgell i gyflawni ei hamcanion strategol a llesiant sef:
1. Meithrin a gofalu am gof y genedl
2. Gosod sylfaen economi gwybodaeth
3. Bod yn ganolog i fywyd y genedl
4. Grymuso Ymchwil a Dysg
Mae casgliadau’r Llyfrgell yn cynnwys llyfrau, papurau newydd, mapiau, archifau a llawysgrifau, ynghyd â lluniau, ffotograffau, deunydd clywedol, gwefannau a chynnwys digidol o bob math. Ynghyd â’r casgliadau, mae sgiliau ac arbenigedd staff y Gyfarwyddiaeth hon yn gwbl angenrheidiol er mwyn sicrhau fod y Llyfrgell yn gallu datgloi potensial y casgliadau hyn i gyfoethogi a gwella bywydau pobl Cymru a thu hwnt.
Cyflog
💰 £24,899 - £28,740
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Llyfrgellydd Cynorthwyol (3 diwrnod yr wythnos)
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Lyfrgellydd Cynorthwyol (3 diwrnod yr wythnos)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Datblygu ymwybyddiaeth o Adnau Cyfreithiol Electronig a chyhoeddiadau electronig a chynorthwyo rhoi mynediad iddynt.
Y GYFARWYDDIAETH
Y Gyfarwyddiaeth Casgliadau ac Ymgysylltu sy’n bennaf gyfrifol am gasglu, diogelu a rhoi mynediad i’r casgliadau sydd yng ngofal y Llyfrgell yn unol â’i swyddogaethau craidd. Yn y cyd-destun hwn mae mynediad yn golygu amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys gwasanaethau a gweithgareddau ar y safle, ar-lein ac mewn cymunedau ledled Cymru. Mae gwaith y Gyfarwyddiaeth yn rhan greiddiol o wireddu gweledigaeth y Llyfrgell i fod yn sefydliad sy’n:
“... gwneud gwahaniaeth er gwell i bawb yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol ac i fod yn lyfrgell genedlaethol, agored, blaengar ac arloesol.”
Trwy ei gwaith mae angen i’r Gyfarwyddiaeth alluogi’r Llyfrgell i gyflawni ei hamcanion strategol a llesiant sef:
1. Meithrin a gofalu am gof y genedl
2. Gosod sylfaen economi gwybodaeth
3. Bod yn ganolog i fywyd y genedl
4. Grymuso Ymchwil a Dysg
Cyflog
💰 £24,899 - £28,740
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Prosiect Cymunedau Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Prosiect Cymunedau Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas cyffredinol y rôl:
Bydd Rheolwr Prosiect Cymunedau Cymru yn sefydlu, datblygu, a gweithredu prosiect newydd i helpu plant mewn ysgolion ledled Cymru i groesawu a dathlu eu treftadaeth ddiwylliannol amrywiol. Nod y prosiect yw gweithio gydag ysgolion mewn cymunedau ledled Cymru i adrodd straeon trwy lens y bobl amrywiol sydd wedi symud i Gymru ac wedi helpu i lunio’r cymunedau hynny. Bydd y prosiect yn gweithio gyda nhw i gydddatblygu a chyflwyno deunyddiau addysg a dysgu sydd yn dathlu amrywiaeth ac yn annog ymgysylltiad gwrth-hiliaeth.
Y GYFARWYDDIAETH
Mae’r Gyfarwyddiaeth yn gyfrifol am gyflawni nifer o ffwythiannau strategol pwysig, megis cyfathrebu a phartneriaethau, ymgysylltu, adnabod a datblygu cynulleidfaoedd, gwirfoddoli, cyfranogi a dysgu, hyrwyddo a marchnata, arddangosfeydd, profiad yr ymwelydd, codi incwm, Casgliad y Werin ac mewn cydweithrediad â’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd codi arian. Mae pob un o’r ffwythiannau hyn yn elfennau allweddol a hanfodol o Gynllun Strategol y Llyfrgell ac yn ymwneud â meysydd sydd ymhlith blaenoriaethau pennaf y Llyfrgell. Bydd y Gyfarwyddiaeth yn cael ei harwain gan y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau a bydd gan y Cyfarwyddwr dri / tair Pennaeth Adran yn atebol.
Cyflog
💰 £26,209 - £33,813
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dirprwy Glerc y Dref
Mae Cyngor Tref Ffestiniog yn edrych am Ddirprwy Glerc y Dref
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Hoffech chi wneud gwahaniaeth i Fro Ffestiniog? Beth am ymgeisio am y swydd fel Dirprwy Glerc y Dref?
Rôl llawn amrywiaeth, a’r cyfle am hyfforddiant perthnasol i’r swydd.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Disgrifiad:
Teitl y Swydd: Dirprwy Glerc y Dref
Cyflog pro rata £27,344 (yn amodol ar gymwysterau a phrofiad)
Oriau: 27.5 awr yr wythnos
Cyflog
💰 £27,344 pro rata
Lleoliad
📍 Blaenau Ffestiniog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Weithredwr
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn edrych am Brif Weithredwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn chwilio am arweinydd talentog i weithredu fel ei Brif Weithredwr nesaf.
Disgrifiad:
Rhaid i’r sawl a benodir medru rheoli'r hyn sydd yn ein hanfod yn fusnes bach sy’n cynnwys 16 aelod o staff, 75 aelod tribiwnlys a chyllideb flynyddol o £1.1m. Rhaid iddynt fedru gwneud hyn yng nghyd-destun y sector cyhoeddus, gyda’r holl graffu ac atebolrwydd sy’n gysylltiedig â hynny.
Mae tact a diplomyddiaeth, doethineb a dawn, treiddgarwch a gweledigaeth oll yn rhinweddau hanfodol. Mae gwybodaeth drwyadl am ardrethu annomestig a’r dreth gyngor yn ddymunol iawn hefyd gan mai’r Prif Weithredwr, yn ôl y gyfraith, yw Clerc y Tribiwnlys - er nad yw ymdrin â’r materion hynny yn weithgaredd o ddydd i ddydd. Byddai sgiliau cyfreithiol trosglwyddadwy o feysydd eraill y gyfraith yn dderbyniol. Yn ddelfrydol bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn siaradwr Cymraeg rhugl; ond os nad yw bydd rhaid dangos ymrwymiad brwdfrydig i ddysgu’r Gymraeg a’i defnyddio ym mywyd a busnes dyddiol Tribiwnlys Prisio Cymru.
Bydd y broses benodi yn cynnwys o leiaf un diwrnod asesu, a ddilynir gan gyfweliad ffurfiol ar ddiwrnod arall gerbron Cyngor Llywodraethu Tribiwnlys Prisio Cymru Bydd y swydd yn dechrau yng ngwanwyn 2023, yn dilyn ymddeoliad ein Prif Weithredwr presennol, Andrew Shipsides.
Cewch ragor o fanylion a ffurflen gais ar wefan Tribiwnlys Prisio Cymru: www.tribiwnlysprisio.cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 6 Ionawr 2023.
Cyflog
💰 hyd at £69,496
Lleoliad
📍 Casnewydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Clercod Tribiwnlys
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn edrych am Glercod Tribiwnlys
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru am benodi hyd at ddau Glerc Tribiwnlys. Mae Clercod Tribiwnlys yn darparu gwasanaethau cymorth i aelodau'r tribiwnlys. Un o'r prif swyddogaethau yw darparu cyngor yng ngwrandawiad y Tribiwnlys ar gyfraith trethiant lleol yng Nghymru (y Dreth Gyngor ac Ardrethi Busnes). Rhoddir hyfforddiant ar hyn.
Disgrifiad:
Rydym yn agored i geisiadau gan raddedigion prifysgol neu bobl sydd â phrofiad a/neu gymwysterau refeniw lleol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu penodi i bwynt ar y raddfa gyflog sy'n briodol i'w cymwysterau a'u gwybodaeth gyfredol.
Os ydych yn byw yng Nghasnewydd neu’n agos ato, eich gweithle fydd ein swyddfa yng Nghasnewydd. Os ydych yn byw yn rhywle arall, byddwch yn gweithio gartref. Bydd angen teithio’n rheolaidd ledled Cymru, ac o bryd i’w gilydd bydd hyn yn golygu bod angen aros oddi cartref dros nos. Bydd y Tribiwnlys yn talu eich costau teithio. Mae lwfans defnyddiwr car blynyddol (£1,239) hefyd yn daladwy.
Ewch i www.tribiwnlysprisio.cymru am ragor o fanylion. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 16 Rhagfyr 2022.
Cyflog
💰 £25,878 - £40,478
Lleoliad
📍 Casnewydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Clercyddol
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Clercyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Gwasanaeth Cyllid yn gwahodd ymgeiswyr am swydd Swyddog Clercyddol parhaol i ymuno â thîm prysur sy’n cefnogi gweithrediadau’r Gwasanaeth Ystadau a Champws. Byddwch yn gweithio'n agos â rheolwyr y tîm ac aelodau eraill y tîm i wneud amrywiaeth o dasgau prosesu, monitro ac adrodd cyllidol, gan rannu cyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaeth hyblyg ac ymatebol ar draws amrywiaeth o leoliadau yn ôl gofynion gweithredol.
Byddwch wedi cael addysg hyd lefel TGAU (lleiafswm o 5 gyda graddau A* - C, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg) neu NVQ lefel 2 (neu gymhwyster cyfwerth) mewn maes pwnc perthnasol. Bydd gennych hefyd sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol.
Byddwch yn gallu gweithio ar eich menter eich hun ac fel rhan o dîm mawr prysur. Mae sgiliau TG da a gwybodaeth o Excel a Word yn hanfodol. Byddwch yn aelod tîm blaengar, ymroddedig, effeithiol a chefnogol sy'n gallu gweithio'n hyblyg, yn gyflym ac yn gywir i derfynau amser tynn.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd hon ar sail ran amser neu rannu swydd.
Mae gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn un o ofynion dymunol y swydd hon. Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau cyn gynted â phosib.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 27 Tachwedd, 2022.
Cewch wneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu ag: Alison Armstrong, Uwch Gyfrifydd, e-bost; [email protected], ffôn: (01248) 38382169
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £21,630 - £22,662
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri (Cyfnod Mamolaeth)
Mae Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri yn edrych am Swyddog Cefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri (Cyfnod Mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri, y mudiad ieuenctid, am benodi Swyddog Cefnogi. Mae hon yn swydd lawn amser neu ran amser, yn ôl dymuniad yr ymgeisydd, gyda chytundeb blwyddyn o hyd i gychwyn.
Disgrifiad:
PECYN RECRIWTIO
Swyddog Cefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri (Cyfnod Mamolaeth)
Swydd lawn amser (37 awr yr wythnos) neu ran amser (yn ddibynnol ar ddymuniad yr ymgeisydd llwyddianus), cytundeb yn ystod cyfnod mamolaeth y deilydd.
Dyddiad cau: 12.00 pm, dydd Gwener 2 Rhagfyr
Cyfweliadau: wythnos yn cychwyn 5 Rhagfyr
Cyflog: £23,000 - £25,000 pro rata* (yn ddibynnol ar brofiad)
Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosib
CFfI Eryri – Amdanon ni
Mae Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri, y mudiad ieuenctid, am benodi Swyddog Cefnogi i’r mudiad. Mae hon yn swydd lawn amser neu ran amser, yn ôl dymuniad yr ymgeisydd.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn deinamig, ymroddedig sydd â gweledigaeth, a all gyflawni gwaith dydd i ddydd y mudiad wrth i ni barhau i ail-ddychmygu a siapio dyfodol Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri, gan gadw'n driw at ein gwerthoedd sylfaenol.
Ers ei sefydlu yn 1943, mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri wedi bod yn ganolbwynt amhrisiadwy i filoedd o aelodau ar draws y Sir, sydd yn cynrychioli rhannau o Wynedd a Chonwy. Mae oedran aelodaeth y mudiad yn amrywio o 13 – 30 mlwydd oed, ac mae yna unarddeg clwb lleol yn Eryri: Caernarfon, Dyffryn Madog, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Godre’r Eifl, Llangybi, Llanrwst, Porthdinllaen, Rowen, Y Rhiw ac Ysbyty Ifan.
Mae CFfI Eryri, ynghyd â CFfI Ynys Môn, wedi ein tadoli i CFfI Cymru ac yn cyfrannu tuag at waith a gweithgareddau’r mudiad ar lefel Cymru hefyd.
Mae’r mudiad yn cael ei redeg yn ddemocrataidd er budd y bobl ifanc, dan ofal Pwyllgor Gwaith sy’n cynrychioli’r aelodau.
Ynglŷn â’r swydd
Swyddog Cefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri fydd y prif gyswllt ar gyfer aelodau, swyddogion a ffrindiau’r Mudiad o ddydd i ddydd.
Y Swyddog Cefnogi sydd yn paratoi rhaglen ddatblygu ar gyfer y Ffederasiwn, dan arweiniad y Pwyllgor Gwaith a’r swyddogion sirol, gan gefnogi swyddogion y Sir i drefnu gweithgareddau a gweithrediadau’r Mudiad o flwyddyn i flwyddyn. Gyda chymorth y swyddogion sirol, bydd y Swyddog Cefnogi yn asesu anghenion clybiau ac yn darparu gwasanaethau yn unol a’r anghenion hynny. Maent hefyd yn gyfrifol am gynnal trefn ddemocrataidd y Mudiad, a meithrin a chynnal partneriaethau gyda mudiadau a chyrff perthnasol eraill sydd yn gweithredu yn yr un maes.
Mae’n swydd fywiog a chymdiethasol tu hwnt, a chyfle amrhisiadwy i weithio gyda phobl ifanc yng nghefn gwlad Gwynedd (Arfon/Dwyfor) a Dyffryn Conwy er mwyn magu sgiliau oes.
Rydym yn hysbysebu’r swydd hon fel swydd lawn amser neu ran amser, yn ddibynnol ar ddymuniad yr ymgeisydd llwyddianus. Bydd y cyfrifoldebau yn cael eu lleihau fel sydd angen yn ddibynnol ar gyfanswm oriau’r ymgeisydd llwyddianus.
Cyflog a breintiau
Y cyflog ar gyfer y rôl hon yw £23,000 - £25,000 y flwyddyn (pro rata).
Caniateir 25 diwrnod o wyliau (pro rata), yn cynnwys Gwyliau Banc; yn ogystal a system oriau mewn llaw (TOIL), ble mae modd cario hyd at 2 ddiwrnod o TOIL o un mis i’r llall.
Bydd y Ffederasiwn yn cynnig Cynllun Pensiwn NEST i’r swyddog, a delir yn unol â’r cyfraddau cenedlaethol.
Er bod Swyddfa ar gael, mae modd i ddeilydd y swydd weithio o adref rai diwrnodau neu rai cyfnodau, yn dilyn caniatad y rheolwr llinell. Ar gyfer y diben hwn, mae’r Mudiad yn darparu gliniadur, ffôn. iPad ac argraffydd. Sut i wneud cais
Darllenwch y wybodaeth yn y pecyn recriwtio hwn a’r swydd ddisgrifiad yn fanwl.
Llenwch y ffurflen gais er mwyn rhoi gwybod i ni:
- Pam fod gennych ddiddordeb yn y swydd
- Manylion eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch profiad a sut y byddent yn berthnasol i waith Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri
- Unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i'r swydd rydych chi'n ymgeisio amdani
Anfonwch eich ffurflen gais at [email protected] erbyn 12.00 pm, 2 Rhagfyr 2022:
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Byddwn yn asesu'r ceisiadau ac yn gwahodd ymgeiswyr llwyddiannus i gyfweliad yn ystod yr wythnos yn cychwyn 5 Rhagfyr 2022. Bydd y panel cyfweld yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Staffio; Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a chynrychiolydd o’r Pwyllgor Cyllid a Staffio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl neu os hoffech gael sgwrs gychwynnol, cysylltwch â ni drwy [email protected]
Mae Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri yn elusen gofrestredig ac yn gweithio dan arweiniad, ac er budd, yr aelodau.
Cyflog
💰 £23,000 - £25,000 pro rata
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu Cymraeg Caerdydd
Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych am Gynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu Cymraeg Caerdydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am gynorthwyydd gweinyddol i roi cymorth clerigol llawn i ddarpariaeth Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Disgrifiad:
Rhif y swydd: 15553BR
Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu Cymraeg Caerdydd
Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am gynorthwyydd gweinyddol i roi cymorth clerigol llawn i ddarpariaeth Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Mae'r swydd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau gweinyddol i gynorthwyo'r darpariaeth o fewn Ysgol y Gymraeg, gan gynnwys materion logisteg, megis cyflenwi a lleoliadau, gweinyddu prosesau ariannol, anfonebau, derbyn nwyddau ac yn y blaen, a chynorthwyo'r Swyddog Cefnogi Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Mae’r swydd hon yn un llawn amser (35 awr yr wythnos) a thymor penodol hyd at 31 Gorffennaf 2027.
Cyflog: £21,197 – £23,144 y flwyddyn (Gradd 3)
Dyddiad Cau: Dydd Mercher, 9 Tachwedd 2022
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 10 Tachwedd 2022
Dyddiad Cau: Dydd Sul, 27 Tachwedd 2022
Hysbysebwyd y swydd hon i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig yn flaenorol. Rydym nawr yn gwahodd ceisiadau allanol.
Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Cyflog
💰 £21,197 - £23,144
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Gynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau) i ymuno â’n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos.
Disgrifiad:
Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)
Campws Caerfyrddin (gyda theithio i gampysau eraill yn ôl yr angen)
£21,197 i £23,144 y flwyddyn
- AMDANOM NI -
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau) i ymuno â’n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL –
Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio’n effeithiol heb oruchwyliaeth barhaus a chyfrannu tuag at amgylchedd gyfeillgar a chreadigol y Ganolfan. Bydd yn cydweithio’n agos ac yn effeithiol gyda’r Cydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau er mwyn cefnogi gweithgareddau amrywiol yn y ganolfan ac ar-lein gan sicrhau trefniadaeth llyfn ac effeithiol. Elfen bwysig arall o’r rôl yw cefnogi rhaglen greadigol Yr Egin gan gynorthwyo’r Swyddog Cyfathrebu i hyrwyddo digwyddiadau byw, cynadleddau, sinema a gweithdai, ynghyd â sicrhau defnydd effeithiol o feddalwedd swyddfa docynnau a phlatfformau digidol a chyfryngau cymdeithasol.
Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'.
- AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau), bydd arnoch angen y canlynol:
- Addysg gyffredinol dda
- Tystiolaeth o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel
- Profiad o weinyddu trefniadau cyfarfodydd, cynadleddau neu ddigwyddiadau
- Profiad blaenorol o ddarparu cefnogaeth weinyddol o safon
- Hyddysg mewn TG ac yn meddu ar wybodaeth am becynnau Microsoft Office, a phlatfformau'r cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein
- Y gallu i gydlynu gweithgareddau’n effeithiol
- Medrusrwydd gyda phlatfformau arlein
- Yn barod i weithio’n hyblyg, gan gynnwys teithio rhwng campysau a lleoliadau pan fo angen
- Cydnabod yr angen am gyfrinachedd priodol a gallu gweithredu ar hynny
- Dangos parch tuag at ystod amrywiol o bobl
- Siaradwr/aig Cymraeg gyda’r gallu i sgwrsio’n hyderus yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gyda’r gallu i ysgrifennu am faterion annhechnegol *
Byddai’n fuddiol hefyd pe bai gennych y canlynol:
- Profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad digwyddiadau byw, theatr neu sinema
- Diddordeb brwd yn y diwydiannau creadigol
- BUDDION -
- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith
Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl y Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau), gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Dyddiad cau: 30 Tachwedd 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £21,197 - £23,144
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein Cymraeg
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn edrych am Gydlynydd Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Tîm Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein fel Cydlynydd CBT Cymraeg. Bydd deiliad y swydd yn gweithio o bell yn bennaf (bydd offer TG yn cael ei ddarparu) ond yn gallu teithio i safleoedd ar adegau.
Disgrifiad:
Mae Silver Cloud yn wasanaeth Cymru gyfan unigryw sy’n darparu gwasanaeth therapi ar-lein wedi'i gynllunio i helpu plant, pobl ifanc ac oedolion reoli eu hiechyd meddwl a'u lles. Bwrdd Iechyd Addysgu Powys sy'n darparu'r gwasanaeth, felly bydd croeso cynnes i chi i dîm cyfeillgar sy’n cynnig y cyfle i weithio gyda chleifion ar draws y wlad.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant sydd â phrofiad o CBT i gynnig cymorth clinigol tra'n canolbwyntio ar adferiad a chanlyniadau.
Mae’r gallu i gynnal sgwrs naturiol yn Gymraeg i gefnogi cleifion yn hanfodol, ynghyd â gradd anrhydedd mewn Seicoleg (neu gyfwerth).
Rhoddir hyfforddiant gan dîm SilverCloud ar bob agwedd o'r rôl ac mae hyfforddiant a chefnogaeth ar gael i wella sgiliau ysgrifenedig Cymraeg os oes angen. Mae cyfleoedd hyfforddiant DPP hefyd ar gael trwy’r bwrdd iechyd. Mae cymorth clinigol ar gael i chi 9-5 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae gofynion y swydd yn cynnwys cynnal safon uchel ym mhob math o gyfathrebu, sgiliau TG sylfaenol, gweithio'n dda dan bwysau, a meddu ar ddull hyblyg o weithio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Fel rhan o’r swydd byddwch yn gwneud y canlynol:
Gweithio o fewn tîm cyfeillgar mawr, ochr yn ochr â Chydlynwyr CBT eraill i hybu a gweinyddu'r Gwasanaeth CBT Ar-lein.
Cynnal cofnodion cleifion, cofrestru defnyddwyr newydd i’r gwasanaeth, rhannu manylion actifadu a monitro cynnydd.
Arwain gwaith cyfathrebu gyda chleifion sy'n siarad Cymraeg ledled Cymru.
Ysgogi, annog a chynnig cymorth clinigol dros y ffôn/e-bost.
Gwneud penderfyniadau ar addasrwydd atgyfeiriadau newydd, gan gadw at brotocolau cyfeirio'r adran a chyfeirio cleientiaid anaddas ymlaen at y gwasanaeth perthnasol.
Cynnig cymorth a chyngor i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n cwblhau’r atgyfeiriad, gan ateb ymholiadau sydd ganddyn nhw neu ddefnyddwyr y gwasanaeth.
Chwarae rhan weithredol wrth gynnig a chefnogi newidiadau i weithdrefnau.
Bod yn gyfrifol am reoli'r broses protocol ar gyfer monitro ac adrodd unrhyw rybuddion risg, bwriad troseddol neu ddirywiad cleifion fel yr adroddwyd gan y defnyddwyr naill ai o fewn y system CBT ar-lein neu'n uniongyrchol.
Rheoli cyfrifoldeb clinigol am unrhyw hunan-atgyfeiriadau.
Darparu hyfforddiant a chefnogaeth barhaus i gydweithwyr ac i’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a wnaeth yr atgyfeiriad yn ymwneud â'r gwasanaeth CBT ar-lein.
Mae hon yn swydd lawn amser am gyfnod o ddwy flynedd gyda lleoliad hyblyg. Am fanylion pellach am y swydd a sut i ymgeisio ewch i: Swyddi Cyfredol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)
Cyflog
💰 £27,055 - £32,934
Lleoliad
📍 Aberhonddu
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata (Rhentu Doeth Cymru) (Cymraeg Hanfodol)
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Marchnata (Rhentu Doeth Cymru) (Cymraeg Hanfodol)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Arwain y gwaith o ddatblygu cyfathrebu a marchnata gan gynnwys rheoli cyfathrebu, cynllunio a darpariaeth strategol, datblygu perthynas waith dda gyda rhanddeiliaid ar gyfer ymgyrchoedd a phrosiectau ar gyfer Rhentu Doeth Cymru a’i bwerau dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Disgrifiad:
Cyfeirnod: RES00892
Am Y Gwasanaeth
Mae Rhentu Doeth Cymru yn darparu Cynllun Cofrestru a Thrwyddedu ledled Cymru ar gyfer landlordiaid ac asiantau eiddo sy'n cael ei rentu. Daw hyn yn sgil dynodi Cyngor Caerdydd yn Awdurdod Trwyddedu Sengl i Gymru. Ei nod yw sicrhau eiddo diogel a reolir yn dda ar gyfer tenantiaid drwy sicrhau bod y rhai sy'n gosod ac yn rheoli eiddo yn bobl addas a phriodol i wneud hynny, yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn cydymffurfio â gofynion a roddir arnynt yn ôl y gyfraith ac amodau trwydded. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant.
Am y swydd
Arwain y gwaith o ddatblygu cyfathrebu a marchnata gan gynnwys rheoli cyfathrebu, cynllunio a darpariaeth strategol, datblygu perthynas waith dda gyda rhanddeiliaid ar gyfer ymgyrchoedd a phrosiectau ar gyfer Rhentu Doeth Cymru a’i bwerau dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda thîm Cyfathrebu a Chyfryngau’r Cyngor i ddatblygu a darparu prosiectau a gweithgareddau allweddol (mewnol ac allanol) i gefnogi blaenoriaethau cyfathrebu Rhentu Doeth Cymru a sicrhau bod Cyfathrebiadau Marchnata a’r Cyfryngau’n effeithiol.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd deiliad y swydd:
- Wedi ei addysgu i lefel gradd neu â phrofiad amlwg (2 flynedd+) mewn tîm marchnata / cyfathrebu sy'n gwneud gwaith perthnasol
- Yn siaradwr Cymraeg Rhugl
- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar ynghyd â lefel uchel o sgiliau rhyng-bersonol
- Yn gallu dangos tystiolaeth o gyflwyno ymgyrch gyfathrebu / marchnata gyda chanlyniadau llwyddiannus
- Yn meddu ar sgiliau amlwg mewn ystod o ddisgyblaethau marchnata gan gynnwys, cysylltiadau Cyfryngau, Brandio, Arddangosfeydd, ymchwil Marchnad, Marchnata E-bost, Rheoli Cyfryngau Cymdeithasol, Post Uniongyrchol, Sgiliau Sgwennu a Golygu Copi
- Yn ddefnyddwyr TG cymwys, yn gyfarwydd ag ystod o feddalwedd priodol gan gynnwys MS Office
- Fod â phrofiad o ddefnyddio meddalwedd dylunio o fewn yr Adobe Creative Cloud e.e. InDesign, Photoshop ac Illustrator
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Hyfforddiant a Chyfathrebu
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn edrych am Swyddog Hyfforddiant a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gan Gronfa Bensiwn Dyfed, sy'n gweinyddu'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer nifer o gyflogwyr, ac hefyd Gynllun Pensiwn yr Heddlu â’r Gwasanaeth Tân, gyfle i chi ymuno â'n tîm fel Swyddog Pensiynau.
Disgrifiad:
Byddwch yn gyfrifol am rhoi cymorth gweinyddol wrth ddarparu strategaeth gyfathrebu effeithiol sy'n cynnwys aelodau'r cynllun, darpar aelodau'r cynllun, pensiynwyr a chyflogwyr sy'n cymryd rhan yng Nghynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol, yr Heddlu a'r Gwasanaeth Tân a byddwch yn gallu cyfrannu at ddatblygiad ein gwaith yn y dyfodol ar adeg gyffrous ym myd pensiynau.
Rydym yn adran brysur ac yn ymfalchïo mewn darparu'r gwasanaeth gorau y gallwn i aelodau’r cynllun pensiwn a’n pensiynwyr.
Os oes gennych sgiliau cyfathrebu gwych, profiad o weithio mewn amgylchedd pensiynau ac os oes gennych ddealltwriaeth am gynlluniau pensiwn cyflog terfynol a cyfartaledd gyrfa a deddfwriaeth, yna gwnewch gais erbyn y dyddiad cau.
Rydym yn gyflogwr sy'n cefnogi cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith ac felly'n darparu atebion hyblyg i sicrhau y gall gweithwyr gyflawni hyn. Felly, byddai deiliad y swydd, yn unol ag angen busnes, yn gallu gweithio'n hyblyg o wahanol leoliadau dynodedig gan gynnwys gweithio gartref.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Martin Morgan ar 01267 224452.
Cyflog
💰 £29,174 - £33,486
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!