Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Aelodau o'r Cyngor

💰 £18,000 📍 Cenedlaethol Ar gau

Mae Cyngor Meddygol Cyffredinol yn edrych am Aelodau o'r Cyngor

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn bwriadu penodi un aelod cofrestredig ac un aelod lleyg i'n Cyngor llywodraethu.

Fel corff sy’n weithredol ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig, ein gweledigaeth yw bod yn rheoleiddiwr effeithiol, perthnasol a thosturiol sy’n cefnogi gweithwyr meddygol proffesiynol i ddarparu gofal i gleifion sy’n ddiogel ac o ansawdd uchel. Wrth i wasanaethau iechyd yn y Deyrnas Unedig barhau i wynebu pwysau difrifol, mae gan reoleiddio rôl ganolog i’w chwarae wrth amddiffyn cleifion a hyrwyddo lles y proffesiwn.

Rydym wedi pennu ymrwymiadau uchelgeisiol i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, cofleidio amrywiaeth, a chefnogi cynhwysiant ym maes gofal iechyd, fel rheoleiddiwr a chyflogwr. Mae hyrwyddo'r gwaith hwn yn brif ffocws i'n Cyngor a byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o siapio gofal iechyd yn y blynyddoedd i ddod. 

Byddwch yn ymuno â ni ar gyfnod nodedig wrth i lywodraeth y Deyrnas Unedig ailwampio’r hen ddeddfwriaeth sy’n sail i’n gwaith; ac wrth i ni ymgymryd â’r gwaith o reoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia, cyn diwygiadau ehangach i feddygon. Bydd y rhaglen hon o ddiwygio rheoleiddio yn effeithio ar bob maes o'n busnes. Bydd ein Cyngor yn ein helpu i ddiffinio'r rhaglen sy'n cyflawni ein huchelgeisiau strategol yn y ffordd orau. 

Mae ein Cyngor yn cynnwys 12 aelod (chwe unigolyn lleyg a chwe unigolyn cofrestredig). Mae'n pennu ein strategaeth, yn diffinio ein polisïau lefel uchel ac yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn cyflawni ein dibenion statudol ac elusennol. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am ddau aelod newydd y mae’n rhaid iddynt allu cyfrannu at y gwaith o bennu strategaeth, cadw goruchwyliaeth a sicrhau llywodraethu corfforaethol effeithiol. Mae swydd wag yr aelod cofrestredig yn agored i unigolion sydd wedi’u cofrestru â’r Cyngor Meddygol Cyffredinol sy'n gallu dangos y sgiliau hyn ac sydd â thrwydded gyfredol i ymarfer, ar unrhyw gam o'u gyrfa. Ar gyfer y penodiad lleyg, rydym yn chwilio am unigolyn a fydd yn dod â chraffter ariannol cryf, ynghyd â gyrfa lwyddiannus fel uwch swyddog, o bosib fel Prif Weithredwr, Prif Swyddog Ariannol neu Gyfarwyddwr Cyllid. Croesewir ceisiadau ar gyfer y ddwy rôl o bob rhan o bedair gwlad y Deyrnas Unedig. 

Bydd yr ymrwymiad amser ar gyfer y penodiadau tua thri diwrnod y mis ar gyfartaledd, a thelir cydnabyddiaeth ariannol o £18,000 y flwyddyn. 

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad amrywiol a chynhwysol; un sy'n adlewyrchu'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw ac ar eu cyfer. Rydym yn awyddus i annog unigolion sydd â chefndiroedd a phrofiadau amrywiol i wneud cais i weithio gyda ni.

Dyddiad cau: Hanner dydd, ddydd Gwener 9 Rhagfyr 2022

Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn rhoi gwerth ar gydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae'n ymroddedig i brosesau a gweithdrefnau sy'n deg, yn wrthrychol, yn dryloyw ac yn rhydd o ragfarn a gwahaniaethu anghyfreithlon.

Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn elusen gofrestredig sydd wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (1089278) a'r Alban (SC037750).

Cyflog

💰 £18,000

Lleoliad

📍 Cenedlaethol

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £543 yr awr o sain 📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £15k - £18k 📍 Caeredin📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £23k 📍 Y Bala Ar gau

💰 £67k - £70k 📍 Caernarfon📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30,966 📍 Llandeilo📍 Hyblyg Ar gau

💰 £24,669 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29k 📍 Caernarfon📍 Hybrid Ar gau

💰 £28k 📍 Llangefni Ar gau

💰 £30k 📍 Bangor📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,459 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £28k - £30k 📍 Hybrid📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

💰 £23k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £31k 📍 Aberystwyth📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £29k - £34k 📍 Corwen Ar gau

💰 £22k - £26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £22k - 26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £25k - £30k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £35k - £45k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £21k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £29.5k 📍 Y Fenni📍 Abertyleri +23 Ar gau

💰 Soulbury 27-30 ynghyd â 3 phwynt SPA 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin📍 Caernarfon +1 Ar gau