Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Mae Mind Cymru yn edrych am Swyddog Ymgysylltu Digidol Amser i Newid Cymru

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Caerdydd, Cymru

£17,538 y flwyddyn (yn cynnwys lwfans pwysoliad Caerdydd)

Rhan amser 21 awr

Cyfnod penodol hyd at 31ain Mawrth 2025

Mae gennym nodau pwysig dros y blynyddoedd nesaf. Rydyn ni'n mynd i frwydro dros iechyd meddwl mewn ffordd na wnaethom erioed o’r blaen. Gyda’n gilydd, byddwn yn gweithio i wneud yn siŵr bod pawb sydd â phroblem iechyd meddwl yn cael y gefnogaeth a’r parch maen nhw’n eu haeddu. Wnewch chi ymuno â ni? Rydyn ni'n chwilio am Swyddog Ymgysylltu Digidol profiadol a medrus i helpu i gyflawni pedwerydd cam y Rhaglen Amser i Newid Cymru. Gan weithio dan gyfarwyddyd Arweinydd Ymgyrchoedd a Strategaeth Amser i Newid Cymru a Rheolwr y Rhaglen, byddwch yn:

  • Cyflawni gweithgareddau ymgysylltu o ddydd i ddydd ar gyfer y rhaglen, gan ganolbwyntio’n benodol ar gynulleidfaoedd targed newydd yn unol ag amcanion cyffredinol strategaeth a rhaglen Marchnata Amser i Newid Cymru.
  • Cyfrannu at ymgyrch uchel ei phroffil o ansawdd uchel yng Nghymru o ran lleoli a negeseua, gan gynnwys ym maes cyfathrebu rhaglenni, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a chyfathrebu.
  • Gweithio’n agos gyda’r Arweinydd Ymgyrchoedd a Strategaeth a’r Swyddog Cyfathrebu Marchnata i sicrhau dull gweithredu cwbl integredig ar gyfer cyfathrebu ar draws nifer o sianeli ar-lein ac all-lein.
  • Gwella profiad defnyddwyr ac ymgysylltiad digidol â’r ymgyrch drwy’r wefan, asedau digidol creadigol, a chreu calendr cynnwys rheolaidd ar gyfer sianeli cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau digidol.

Byddwch yn gweithio’n agos gydag aelodau’r tîm ym Mind Cymru ac Adferiad, felly mae’r gallu i feithrin perthnasoedd gwaith da yn hanfodol. Bydd angen i chi hefyd fod yn fodlon teithio o bryd i’w gilydd fel rhan o’ch swydd i fynychu cyfarfodydd oddi ar y safle.

Dyddiad Cau: 18eg Mai 2022

Mae Mind wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac mae ceisiadau yn cael eu hannog gan unigolion waeth beth yw eu hoed, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Edrychwch ar y Disgrifiad o’r Swydd pan fyddwch chi’n cwblhau eich cais oherwydd bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis i’r rhestr fer yn seiliedig ar i ba raddau maen nhw’n bodloni’r meini prawf.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Cyflog

💰 £17,538

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £25,019 - £28,399 📍 Caerdydd📍 Y Drenewydd Ar gau

💰 £21,979 - £23,749 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,020 - £35,411 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £27.26 yr awr 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £20,919 - £22,367 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £24,657 - £30,205 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,960 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Cyflog a bonws yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +2 Ar gau

💰 £30,151 - £32,020 📍 Pwllheli Ar gau

💰 £16,252 - £18,138 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £32,020 - £35,411 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 Cyflog a bonws yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +2 Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £20,758 - £21,318 📍 Nantgarw Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Talybont📍 O gartref +1 Ar gau

💰 £21,225 - £28,624 pro rata 📍 Bae Caerdydd Ar gau

💰 £28,505 - £31,757 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

💰 £36,386 - £42,155 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £25,895 - £29,890 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £37, 519 - £42,404 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £31,031 (+ Pwysiad Lleoliad) 📍 Caerdydd📍 O gartref +1 Ar gau

💰 £27,929 - £34,308 📍 Caernarfon📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £ 25,569 - £27,747 📍 Bangor Ar gau

💰 £21,197 - £23,144 📍 Caerdydd Ar gau